Skip to content

Cymraeg i Oedolion

Negeseuon Cynnar


Arolygom dau ddarparwr Dysgu Cymraeg a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol eleni.

Addysgu a dysgu

Mae addysgu yn y sector yn canolbwyntio ar sicrhau bod profiadau dysgu yn gynhwysol, yn gadarnhaol ac yn effeithiol o ran creu siaradwyr Cymraeg gweithredol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Cafodd bron pob un o’r dysgwyr a fynychodd ddarpariaeth breswyl eu trochi’n fedrus yn y Gymraeg a diwylliant Cymru gan eu tiwtoriaid. O ganlyniad i gynllunio gofalus tiwtoriaid i fodloni anghenion a diddordebau penodol, gwnaeth dysgwyr gynnydd cyflym ac arwyddocaol wrth siarad Cymraeg mewn cyfnod byr.
  • Roedd y ddau ddarparwr Dysgu Cymraeg a arolygwyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau ar lefelau gwahanol, wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Roeddent yn cyflwyno darpariaeth werthfawr i ddysgwyr sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Roedd tiwtoriaid yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac yn eu hannog yn fedrus i ddefnyddio eu medrau iaith yn eu cymunedau a’u gweithleoedd. O ganlyniad, parhaodd llawer o ddysgwyr i ddysgu ar gyrsiau lefel uwch.
  • Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn chwarae rôl ragweithiol a gwerthfawr o ran sicrhau ansawdd addysgu a dysgu ar draws y sector. Mae’n darparu cyfleoedd hyfforddiant buddiol i staff ar draws y sector.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid oedd ychydig iawn o diwtoriaid yn defnyddio cwestiynau’n dda nac yn rhoi digon o amser i ddysgwyr feddwl, i greu iaith yn annibynnol.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Roedd gofal, cymorth ac arweiniad yn rhagorol yn y ddau ddarparwr Dysgu Cymraeg a arolygwyd eleni. Mae’r cymorth a’r arweiniad a ddarperir yn cyfrannu’n gadarnhaol at les dysgwyr a’u mwynhad o’u cyrsiau. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n ariannu ac yn sicrhau ansawdd gwaith darparwyr Dysgu Cymraeg, yn cefnogi’r gwaith hwn yn ddefnyddiol trwy graffu priodol a chyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae bron pob un o’r dysgwyr yn mwynhau dysgu Cymraeg ac yn llawn cymhelliant i ddefnyddio eu medrau ieithyddol newydd.
  • Gyda’i gilydd, creodd tiwtoriaid a dysgwyr gymuned ddysgu groesawgar a oedd yn galluogi dysgwyr i estyn allan os oedd angen cymorth a chyngor arnynt.
  • Ymatebodd tiwtoriaid yn effeithiol i anghenion dysgwyr unigol i’w cynorthwyo i gyflawni eu nodau dysgu.
  • Anogwyd dysgwyr i chwarae rhan lawn yn eu cymuned ddysgu ac, o ganlyniad, gwrandewir ar eu barn a gweithredu arni’n briodol.
  • Cafodd dysgwyr ar gyrsiau preswyl lefelau uchel iawn o gymorth cyn ac yn ystod eu cyrsiau. O ganlyniad, dywedodd y rhan fwyaf o ddysgwyr yr hoffent ddychwelyd a dilyn rhagor o gyrsiau yn y dyfodol.

Beth sydd angen ei wella

  • Dim i’w adrodd.

Arwain a gwella

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darparu arweinyddiaeth hynod effeithiol i’r sector, sy’n cael ei hadlewyrchu yng ngweledigaeth gytûn a ffocws clir darparwyr Dysgu Cymraeg. Gyda’i gilydd, maent yn cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar greu siaradwyr Cymraeg gweithredol, yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi ymwreiddio diwylliant effeithiol o welliant parhaus ar draws y sector Dysgu Cymraeg. Caiff hyn ei adlewyrchu yn nifer gynyddol y dysgwyr a’r safonau uchel y mae llawer ohonynt yn eu cyrraedd.
  • Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn ymdrechu’n rhagweithiol i gynyddu cyfranogiad gan bob grŵp mewn cymdeithasol a sicrhau bod cyrsiau’n hygyrch. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr naill ai’n cael gostyngiadau yn eu ffioedd neu nid ydynt yn talu am eu cwrs.
  • At ei gilydd, roedd gan arweinwyr a rheolwyr mewn darparwyr Dysgu Cymraeg ddisgwyliadau uchel ohonyn nhw’u hunain a dysgwyr. Roeddent yn effeithiol o ran creu darpariaeth sy’n bodloni anghenion eu dysgwyr, a oedd yn eu galluogi i ddod yn siaradwyr Cymraeg gweithredol, beth bynnag fo’u lefel.
  • Dan arweinwyr y Ganolfan Genedlaethol, mae’r sector wedi esblygu i fod yn hwylusydd ac yn ddylanwadwr mewn mentrau a phartneriaethau gwerthfawr i gynyddu defnydd o’r Gymraeg a nifer y siaradwyr rhugl.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn un darparwr Dysgu Cymraeg, nid oedd rheolwyr yn monitro ac yn olrhain cynnydd grwpiau a charfanau o ddysgwyr dros gyfnod yn ddigon manwl i’w cynorthwyo i fireinio darpariaeth. Yn ogystal, nid oeddent bob tro’n nodi ac yn datblygu meysydd i’w gwella yn ddigon manwl, er enghraifft agweddau penodol ar addysgu a dysgu.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Arolygwyd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a gwnaed dau argymhelliad:

  • Parhau i ymestyn a rhannu arbenigedd y sector Dysgu Cymraeg o ran addysgeg a chaffael ail iaith i sectorau perthnasol eraill i gefnogi nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
  • Parhau i arloesi trwy hwyluso gweithgareddau cynllunio ieithyddol sy’n integreiddio siaradwyr newydd ac anfoddog mewn mentrau i normaleiddio defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau ac yn eu gwaith

Arolygwyd dau ddarparwr arall, gyda’r argymhellion canlynol:

  • Cryfhau prosesau cynllunio strategol i flaengynllunio’r ddarpariaeth yn fwy bwriadus
  • Miniogi prosesau gwerthuso’r addysgu a dysgu i flaenoriaethu cryfderau a meysydd i’w gwella
  • Cryfhau prosesau monitro ac olrhain cynnydd grwpiau a charfanau o ddysgwyr dros gyfnod er mwyn diwallu anghenion dysgwyr yn gynyddol effeithiol
  • Sefydlu gweithdrefnau i ganiatáu tiwtoriaid y Nant i rannu gwybodaeth yn genedlaethol am gynnydd a chyflawniad dysgwyr sydd wedi dilyn cyrsiau dwys y darparwr, er mwyn eu cefnogi i ddysgu Cymraeg yn barhaus
  • Ymestyn yr arlwy dysgu proffesiynol i gynnwys cyfleoedd cyson i diwtoriaid arsylwi arferion effeithiol iawn