Skip to content

UCD

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu 

Lle mae’r addysgu yn effeithiol, gwna disgyblion gynnydd da yn eu dysgu o’u mannau cychwyn mewn UCDau.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn yr UCDau mwyaf effeithiol, mae cynlluniau a chyflwyno Cwricwlwm i Gymru wedi’u sefydlu’n dda. Yn yr UCDau hyn, mae lles disgyblion wrth wraidd arlwy’r cwricwlwm ac mae’r cynllunio a’r addysgu yn darparu ystod brofiadau cyfoethog i ddisgyblion.
  • Lle mae arfer yn effeithiol, mae cynllunio staff yn drefnus dros ben ac yn ystyried ystod o wybodaeth asesu bwrpasol. Mae olrhain cynnydd disgyblion wedi’i sefydlu’n dda, gan gynnig dealltwriaeth gywir i staff a disgyblion o ble mae angen cymorth ychwanegol. Mae’r ymagwedd hon yn cefnogi disgyblion i wneud cynnydd o’u mannau cychwyn.
  • Mewn arferion effeithiol, mae datblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm wedi’i ymwreiddio’n dda ac mae llwybr dilyniant clir ar waith. Mae staff yn cynllunio ac yn cyflwyno profiadau dysgu yn gywir sy’n cefnogi cynnydd disgyblion.
  • Mae llawer o UCDau yn nodi a darparu ymyriadau a chymorth addas yn effeithiol i dargedu anghenion dysgu ychwanegol disgyblion. O ganlyniad, mae disgyblion yn manteisio’n effeithiol ar arlwy’r cwricwlwm.
  • Yn y rhan fwyaf o UCDau, mae’r cwricwlwm iechyd a lles wedi’i ddatblygu’n dda, gan hybu datblygiad personol a chymdeithasol disgyblion yn dda. Mae arlwy’r cwricwlwm yn berthnasol i anghenion, oedrannau a galluoedd disgyblion, gan gynnwy datblygu dealltwriaeth disgyblion o gymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl LHDTC+ yn dda.
  • Yn yr UCDau mwyaf effeithiol, mae disgyblion yn datblygu eu hyder, yn dod yn ddysgwyr llwyddiannus ac yn ailymgysylltu’n dda ag addysg. Maent yn ymateb yn gadarnhaol i’r disgwyliadau uchel sy’n cael eu gosod gan staff, sy’n eu helpu i ddatblygu disgwyliadau uchel a hunanddelwedd gadarnhaol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae amrywiaeth o hyd o ran ansawdd y trefniadau asesu sydd ar waith ar draws UCDau. Mae hyn yn cyfyngu ar allu staff i nodi cynnydd disgyblion yn gywir a thargedu ymyriadau’n effeithiol i gefnogi dysgu a chynnydd disgyblion.
  • At ei gilydd, mae datblygu medrau craidd disgyblion ar draws y cwricwlwm yn rhy anghyson. Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn datblygu medrau TGCh disgyblion yn gynyddol.
  • Mae datblygu medrau cyfathrebu disgyblion yn y Gymraeg yn rhy amrywiol.
  • Mae ansawdd ac effaith datblygu Cwricwlwm i Gymru yn amrywiol dros ben.

Gofal, cymorth ac arweiniad a’u heffaith ar les disgyblion

Mae ansawdd uchel y gofal, cymorth ac arweiniad sydd ar gael i ddisgyblion mewn UCDau yn cael effaith gadarnhaol ar eu hanghenion cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl.

Beth sy’n mynd yn dda

Mewn UCDau lle mae presenoldeb yn uchel a gwaharddiadau a chyfraddau ymyriadau corfforol yn isel, mae disgyblion wedi’u cymell i ddysgu ac yn manteisio ar gyfleoedd cwricwlaidd sy’n bodloni eu hanghenion yn dda.

  • Lle caiff cynlluniau cymorth bugeiliol eu defnyddio’n effeithiol, mae prosesau trylwyr ar waith i fonitro’r defnydd ohonynt. Mae disgyblion yn dychwelyd i addysg amser llawn yn fwyaf effeithiol pan maent yn cymryd rhan weithredol yn y prosesau ac yn gallu nodi’r rhwystrau posibl y maent yn eu hwynebu.
  • Mae gan yr UCDau mwyaf effeithiol CADYau tra hyfforddedig sy’n cefnogi staff yn dda i nodi anghenion dysgu ychwanegol sylfaenol ac yn darparu ymyriadau effeithiol i fynd i’r afael â’r anghenion hyn. O ganlyniad, mae disgyblion yn manteisio ar ddysgu ac yn gwneud cynnydd yn ystod eu cyfnod yn yr UCD.
  • Bron ym mhob un o’r UCDau, mae staff yn dra hyfforddedig a medrus o ran mynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl disgyblion. Mae llawer o UCDau wedi buddsoddi mewn dysgu proffesiynol yn y meysydd hyn gan eu bod yn cydnabod bod hyn yn angen cynyddol ymhlith disgyblion sy’n defnyddio eu darpariaeth.
  • Mae gan bron pob un o’r UCDau drefniadau diogelu cadarn a sicr ar waith. Maent yn datblygu diwylliant diogelu cryf ar gyfer staff a disgyblion. Mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn meithrin perthynas waith ymddiriedus a chadarnhaol â’r staff, sy’n eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu hymddygiad a’u hagweddau tuag atyn nhw’u hunain a phobl eraill yn ystod eu cyfnod yn yr UCD.
  • Mae’r rhan fwyaf o UCDau yn cynnig cymorth a gwybodaeth ddefnyddiol i ddisgyblion sy’n pontio i hyfforddiant, addysgu neu gyflogaeth bellach. Mae ganddynt gysylltiadau cadarn â Gyrfa Cymru sy’n cynorthwyo disgyblion i fod â dealltwriaeth glir o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt pan fyddant yn gadael yr UCD ar ddiwedd addysg uwchradd.
  • Yn yr UCDau mwyaf effeithiol, mae disgyblion yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn i’w cymuned. Cânt gyfleoedd i wneud cyfraniadau gwerthfawr i’w cymuned leol a dysgu sut i ymgysylltu a chyfrannu’n gadarnhaol.
  • Mae llawer o UCDau yn datblygu medrau ac agweddau disgyblion trwy roi rolau a chyfrifoldebau pwrpasol iddynt. Mae hyn yn datblygu hyder disgyblion yn sylweddol ac yn cyfrannu atynt yn deall sut i wneud dewisiadau bywyd cadarnhaol.
  • Yn yr UCDau mwyaf effeithiol, mae disgyblion yn cael cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu dealltwriaeth well o faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Yn yr UCDau hyn, caiff disgyblion drafodaethau ystyrlon â staff a’i gilydd ac maent yn teimlo bod eu safbwyntiau’n cael eu clywed a bod staff yn eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau.
  • Bron ym mhob un o’r UCDau, mae gan staff ddealltwriaeth fanwl o anghenion eu disgyblion a’u teuluoedd. Mae’r wybodaeth hon yn galluogi staff i feithrin perthynas waith gref ac ymddiriedus â disgyblion yn ystod eu cyfnod yn yr UCD. O ganlyniad, caiff rhwystrau fel tlodi a difreintedd eu lleihau, gan sicrhau profiad teg i bob un o’r disgyblion.
  • Mae gweithio mewn partneriaeth ag ystod o asiantaethau allanol yn effeithiol. Mae hyn yn cryfhau darpariaeth gwasanaeth cydgysylltiedig ar gyfer llawer o ddisgyblion a theuluoedd.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae cyfraddau presenoldeb isel yn parhau i beri pryder.
  • Mae UCDau yn rhy anghyson yn eu defnydd o raglenni cymorth bugeiliol (RhCBau) ac mae gormod o ddisgyblion yn manteisio ar addysg ran-amser am gyfnod rhy hir.
  • Mae gormod o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol na chawsant eu nodi yn flaenorol yn cael eu rhoi mewn darpariaeth UCD.
  • Nid oes digon o ddisgyblion yn mynd i ysgolion prif ffrwd fel rhan o broses ailintegreiddio gynlluniedig neu’n dychwelyd i addysg brif ffrwd amser llawn yn llwyddiannus. Mae hyn yn cyfyngu ar allu UCDau i ddarparu lleoliadau i gefnogi disgyblion eraill.
  • Mae gormod o amrywioldeb o ran cyfleoedd i ddisgyblion fynegi eu barn a dylanwadu ar y ffordd maent yn dysgu.

Arwain a gwella

Lle mae arweinyddiaeth yn effeithiol, mae gan arweinwyr, y pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol weledigaeth glir ar gyfer rôl yr UCD yn yr awdurdod lleol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r arweinwyr mwyaf effeithiol yn cyfathrebu’n gryf â staff ac yn meithrin perthnasoedd gwaith cryf. O ganlyniad, mae gan staff ddisgwyliadau uchel ac maent yn cyfrannu at gynllunio gwelliant yn yr UCD yn effeithiol.
  • Lle mae arfer yn fwyaf effeithiol, mae’r pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau’n gadarn. O ganlyniad, mae her a chefnogaeth gadarn a chaiff arweinwyr eu dwyn i gyfrif yn dda.
  • Yn yr UCDau mwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn gwerthuso ansawdd darpariaeth (gan gynnwys cyllid grant) i sicrhau cynllunio gwelliant yn gadarn.
  • Mae arweinwyr yn meithrin perthnasoedd cynhyrchiol â theuluoedd ac ystod o asiantaethau allanol fel gofal cymdeithasol a’r gymuned leol.
  • Mae dysgu proffesiynol yn ysgogi gwelliannau.
  • Lle mae arweinyddiaeth yn gryf, maent yn sicrhau bod pob un o’r disgyblion, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a disgyblion y mae tlodi a difreintedd yn cael effaith andwyol arnynt, yn dysgu ac yn gwneud cynnydd o’u mannau cychwyn yn yr UCD. Yn yr arfer fwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn cynllunio’n strategol ar gyfer gwella. Mae prosesau hunanwerthuso wedi’u sefydlu’n dda ac yn cynnwys staff a disgyblion.
  • Yn yr arfer fwyaf effeithiol, mae gan arweinwyr ddealltwriaeth fanwl o gryfderau staff ac maent yn darparu cyfleoedd perthnasol a rheolaidd iddynt ddatblygu eu medrau. Mae arweinwyr yn cefnogi staff i ddatblygu’n dda fel ymarferwyr myfyriol.

Beth sydd angen ei wella

  • Lle nad yw prosesau hunanwerthuso wedi’u datblygu’n ddigonol, nid yw arweinwyr yn cynllunio ar gyfer gwella yn ddigon cadarn.
  • Mae ystod ac ansawdd y cyfleoedd dysgu proffesiynol yn rhy amrywiol.
  • Lle mae angen cryfhau’r pwyllgor rheoli, nid ydynt yn sicrhau ansawdd gwaith yr UCD yn ddigon da.
  • Lle mae trefniant awdurdod lleol ar gyfer llywodraethu eu UCDau yn wan, nid oes gan arweinwyr UCDau weledigaeth graff a chaiff cynllunio ar gyfer gwella ei rwystro’n sylweddol.
  • Mae rôl y partner gwella o ran cynorthwyo i ddatblygu’r cwricwlwm yn rhy anghyson.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn dair UCD.

2

Rhoddwyd argymhelliad i ddwy ohonynt wella presenoldeb.

2

Rhoddwyd argymhelliad i ddwy ohonynt gadarnhau rolau a chyfrifoldebau arweinwyr.

2

Rhoddwyd argymhelliad i ddwy ohonynt gydweithio â’r awdurdod lleol, un ohonynt i sefydlu gweledigaeth strategol ac un ohonynt i wella ansawdd yr amgylchedd dysgu.