Skip to content

Ysgolion arbennig a gynhelir

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu

At ei gilydd, mae gan athrawon ddisgwyliadau uchel ar gyfer disgyblion ac maent yn cynllunio profiadau dysgu sy’n galluogi llawer o ddisgyblion i wneud cynnydd priodol yn eu dysgu.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion arbennig ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob disgybl. Mae staff yn adnabod anghenion eu dysgwyr yn arbennig o dda ac yn meithrin perthnasoedd cryf wedi’u seilio ar barch ac ymddiriedaeth rhwng y naill a’r llall.
  • Yn yr ysgolion arbennig mwyaf effeithiol, mae sail resymegol glir i arlwy’r cwricwlwm sy’n cynnwys, er enghraifft, mewnbwn gan rieni a disgyblion. Mae’r ysgolion hyn yn cynnig cwricwlwm eang y mae disgyblion yn ei fwynhau. Mae staff yn creu cyfleoedd perthnasol i ddisgyblion ddylanwadu ar eu profiadau o ddydd i ddydd.
  • At ei gilydd, gwna llawer o ddisgyblion gynnydd priodol yn berthynol i’w mannau cychwyn. Lle bo’n briodol, mae llawer o ysgolion arbennig yn sicrhau bod eu systemau cyfathrebu yn cyfateb yn dda i anghenion cyfathrebu disgyblion.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae cynllunio’r cwricwlwm ac ansawdd uchel yr addysgu yn arwain at ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf dros ben wrth ddatblygu eu medrau. Mewn ychydig iawn o ysgolion arbennig, mae medrau creadigol, corfforol a digidol disgyblion yn gryf.

Beth sydd angen ei wella

  • Ym mwyafrif yr ysgol arbennig, mae gormod o amrywioldeb yn ansawdd yr addysgu ac, o ganlyniad, nid yw’r addysgu yn bodloni anghenion pob disgybl yn ddigon da.
  • Mae gan ychydig o ysgolion arbennig gynllunio annigonol a chyfleoedd cyfyngedig i ddisgyblion ddatblygu eu medrau ysgrifennu.
  • Yn rhannol oherwydd cynnydd yn nifer y disgyblion, amlygwyd addasrwydd a chyflwr adeiladau mewn lleiafrif o ysgolion. Mae ystafelloedd addysgu a chymorth arbenigol, gan gynnwys ardaloedd dysgu annibynnol, wedi’u trosi’n ystafelloedd dosbarth ychwanegol ac mae ardaloedd anaddas mewn ysgol yn cael eu defnyddio gan ddisgyblion i reoli eu hemosiynau.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae gofal, cymorth ac arweiniad yn parhau i fod yn nodwedd gref mewn ysgolion arbennig ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion a’u teuluoedd.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion arbennig drefniadau hynod gadarn ar waith sy’n darparu gofal, cymorth ac arweiniad effeithiol i ddisgyblion. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn hapus ac yn ddiogel.
  • Mae gan lawer o ysgolion arbennig berthnasoedd cryf a sefydledig ag ystod o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae disgyblion yn elwa ar beidio â gorfod gadael yr ysgol i fynd i apwyntiadau. Yn ogystal, mae staff ysgolion yn elwa ar yr arbenigedd a’r cyngor ar gefnogi anghenion iechyd a meddygol disgyblion.
  • Mae gan fwyafrif yr ysgolion arbennig gymorth datblygedig i ddisgyblion a theuluoedd trwy dimau lles.
  • Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion arbennig ddiwylliant diogelu cryf sy’n sail i bob agwedd ar waith yr ysgol.
  • Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion agweddau cryf iawn at eu dysgu ac mae ymddygiad llawer o ddisgyblion yn ganmoladwy. Mae’r ysgolion arbennig mwyaf effeithiol yn datblygu hyder eu disgyblion trwy rolau arweinyddiaeth ystyrlon.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw ychydig o ysgolion yn darparu mynediad digonol at ddarpariaeth hydrotherapi ac nid oes ganddynt ddealltwriaeth glir o rôl y gwasanaeth nyrsio ysgolion, sy’n cyfyngu ar y buddion i ddisgyblion a’u teuluoedd.
  • Mewn un ysgol, adroddon nad oes gan staff ddealltwriaeth ddigonol o’r rhesymau dros ymddygiad heriol a bod yr ysgol yn wynebu heriau â phresenoldeb gwael.

Arwain a gwella

At ei gilydd, mae arweinwyr yn ymrwymo i fodloni anghenion dysgwyr o hyd. Fodd bynnag, nid ydynt yn cynllunio’n ddigon da ar gyfer gwella bob tro.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr yn yr ysgolion a arolygwyd yn darparu arweinyddiaeth ofalgar, ystyriol ac effeithiol.
  • Lle mae arweinyddiaeth yn arbennig o gryf, mae arweinwyr wedi sicrhau gweledigaeth ar gyfer yr ysgol sy’n glir, gytûn ac sy’n cael ei deall, sy’n canolbwyntio ar wella deilliannau ar gyfer pob disgybl. Mae arweinwyr, gan gynnwys llywodraethwyr, yn adnabod eu hysgolion yn dda iawn ac yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn gywir ac yn gweithredu ar y rhain. At ei gilydd, mae llywodraethwyr yn effeithiol yn eu rôl fel cyfeillion beirniadol i’r pennaeth.
  • Mae ysgolion arbennig mwyaf effeithiol wedi datblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth yn eu cymunedau. Maent yn sefydliadau lle mae gan ddisgyblion a staff ymdeimlad cryf o berthyn, wedi’u cefnogi gan ddiwylliant ac arferion sy’n galluogi pawb i ffynnu.
  • Mae arweinwyr yn creu cyfleoedd i arloesi ac yn ymddiried mewn staff i arloesi. Mae cyfleoedd dysgu proffesiynol gwerthfawr a pherthnasol yn nodwedd allweddol o ran datblygu staff galluog ac uchel eu cymhelliant.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw mwyafrif yr ysgolion arbennig yn defnyddio ystod o dystiolaeth uniongyrchol i nodi a chynllunio ar gyfer gwella yn gywir.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw cyrff llywodraethol yn cefnogi nac yn dwyn penaethiaid i gyfrif yn effeithiol.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn 10 o ysgolion arbennig a gynhelir.

5

Rhoddwyd argymhelliad i bum ysgol yn ymwneud â gwella neu gryfhau ei hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.

 

3

Rhoddwyd argymhelliad i dair ysgol yn ymwneud â chynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu medrau fel ysgrifennu, byw’n annibynnol a medrau llythrennedd.

2

Rhoddwyd argymhelliad i ddwy ysgol wella presenoldeb.

2

Argymhellwyd bod dwy o’r ysgolion gwannach yn cryfhau neu’n gwella’r addysgu.

 

2

Rhoddwyd argymhelliad i ddwy ysgol yn ymwneud ag arweinyddiaeth.

 

Roedd yr argymhellion eraill yn cynnwys cydweithio â phartneriaid, mynd i’r afael â phryderon diogelu, cryfhau rôl y corff llywodraethol a chryfhau prosesau asesu.