Skip to content

Ysgolion pob oed

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu

Lle mae’r addysgu yn effeithiol, gwna disgyblion gynnydd da wrth ddatblygu eu dysgu o oedran cynnar.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae gan y rhan fwyaf o athrawon berthnasoedd gwaith cadarnhaol â disgyblion sy’n helpu i greu amgylchedd dysgu hapus.
  • Yn yr achosion gorau, mae athrawon yn cynllunio ac yn addasu gwaith sy’n bodloni anghenion bron pob un o’r disgyblion. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion oed cynradd a mwyafrif y disgyblion oed uwchradd, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’r rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn gwneud cynnydd addas o leiaf dros amser.
  • Mae llawer o ddisgyblion yn cymhwyso eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn llwyddiannus yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm, yn enwedig yn y cyfnod cynradd. Yn gyffredinol, mae datblygiad medrau llefaredd a rhifedd disgyblion yn gryfach na datblygu eu medrau darllen, ysgrifennu a digidol.
  • Mae mwyafrif yr ysgolion yn creu ethos Cymreig yn llwyddiannus ac yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd cadarn i ddatblygu eu medrau Cymraeg.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn y chweched dosbarth yn gwneud cynnydd cadarn ac yn dangos agweddau cadarnhaol dros ben tuag at eu dysgu.
  • Mae llawer o ysgolion yn cynnig cwricwlwm eang a chytbwys ac yn darparu’n dda ar gyfer anghenion unigol.
  • Mae llawer o ysgolion wedi datblygu gweledigaeth briodol ar gyfer Cwricwlwm i Gymru y mae’r mwyafrif o staff yn ei deall yn dda. Caiff hon ei chyflwyno’n addas trwy gydol y cyfnod cynradd.

Beth sydd angen ei wella

  • Un fantais bosibl ysgolion pob oed sydd â chyfran uchel o’u disgyblion yn trosglwyddo o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 yw’r gallu i gynllunio ar gyfer dilyniant. Fodd bynnag, ym mron pob achos, hyd yn hyn, nid yw arweinwyr yn cynllunio i ddatblygu medrau disgyblion yn gynyddol yn ddigon da. Yn benodol, nid ydynt yn darparu digon o gyfleoedd dilys i ddisgyblion ddatblygu eu medrau darllen ac ysgrifennu, yn ogystal â’u medrau siarad a gwrando Cymraeg.
  • Er bod cyfleoedd cadarn i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llefaredd a darllen, nid ydynt yn cymhwyso eu huwch fedrau darllen nac yn ysgrifennu’n estynedig yn ddigon aml a phwrpasol.
  • Mewn ychydig o achosion, lle nad yw’r addysgu’n ddigon effeithiol, nid yw athrawon yn ystyried anghenion pob disgybl yn addas wrth gynllunio, gan gynnwys ar gyfer disgyblion ag ADY.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw cyflwyno Cwricwlwm i Gymru wedi’i ddatblygu cystal yn y cyfnodau uwchradd ag yn y cyfnodau cynradd. O ganlyniad, nid yw disgyblion o Flwyddyn 7 ac uwch, sy’n aml o ysgolion cynradd partner, yn elwa ar barhad yn eu profiadau dysgu cymaint ag y dylent.

Lles, gofal cymorth ac arweiniad

Mae ysgolion pob oed yn parhau i gynnig Gofal, cymorth ac arweiniad sy’n cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae cryfderau yn ymwneud â lles disgyblion ac effeithiolrwydd gofal, cymorth ac arweiniad ym mhob ysgol.
  • Mae hyrwyddo lles disgyblion yn ganolog i ethos y rhan fwyaf o ysgolion ac mae ganddynt ystod briodol o ddarpariaeth i gefnogi disgyblion mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol.
  • Mae lleiafrif o ysgolion yn darparu ystod o gyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ymgymryd â rolau arwain.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae cyfraddau presenoldeb wedi gwella’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, er eu bod yn is na chyn y pandemig o hyd.
  • At ei gilydd, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda iawn ac yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu.
  • Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu rhinweddau personol gwerthfawr dros amser ac yn datblygu’n unigolion cydwybodol, cwrtais a chymdeithasol.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae gofal a chymorth i bob disgybl, yn enwedig y rhai bregus a’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gryfder penodol. Mae staff yn deall anghenion lles disgyblion ac, o ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo eu bod yn cael cymorth da a’u bod yn ddiogel.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw prosesau i fonitro a hyrwyddo presenoldeb wedi cael digon o effaith ar godi lefelau presenoldeb.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae angen mynd i’r afael ag ychydig o agweddau er mwyn cryfhau’r diwylliant diogelu. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli mynediad at dir ac adeiladau’r ysgol a thynhau gweithdrefnau i hyfforddi staff a monitro eu dealltwriaeth.

Arweinyddiaeth a gwella

Mae arweinwyr wedi parhau i sefydlu a datblygu eu hysgolion fel ysgolion pob oed ac yn ymateb yn briodol i flaenoriaethau cenedlaethol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mewn llawer o ysgolion, mae arweinwyr yn parhau i ddatblygu diwylliant sydd wedi’i ategu gan nodau bod yn ysgol pob oed ac mae disgyblion wedi dechrau elwa ar fod yn rhan o un ysgol. Mae’r arweinwyr hyn wedi sefydlu cymuned glòs yn llwyddiannus.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae arweinwyr yn gweithio’n dda yn strategol i liniaru effaith tlodi ar les a chyrhaeddiad disgyblion.
  • Mewn llawer o achosion, mae arweinwyr wedi llwyddo i greu diwylliant diogelu cryf ar draws yr ysgol ac wedi sicrhau bod disgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi, yn gyffredinol.
  • Mae llawer o arweinwyr wedi sefydlu diwylliant o ddysgu proffesiynol sy’n sbarduno gwelliannau mewn addysgu a dysgu. Mewn llawer o achosion, cafodd hyn effaith gadarnhaol ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Ym mron pob ysgol, nid yw prosesau hunanwerthuso yn canolbwyntio’n ddigon craff ar effaith yr addysgu a’r dysgu.
  • Nid yw prosesau cynllunio gwelliant yn ddigon clir neu benodol bob tro i sicrhau gwelliannau amserol.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw disgwyliadau arweinwyr yn ddigon uchel ac nid yw llinellau atebolrwydd yn ddigon clir.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw arweinwyr wedi sefydlu gweledigaeth strategol glir nac wedi ystyried anghenion yr ysgol yn y dyfodol.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn 5 o ysgolion pob oed.

4

Rhoddwyd argymhelliad i bedwar o ddarparwyr i wella datblygu medrau ac un i ddarparu mwy o gyfleoedd i ddatblygu medrau ysgrifennu.

4

Rhoddwyd argymhelliad i bedwar o ddarparwyr i gryfhau neu fireinio eu safonau hunanwerthuso.

3

Roedd gan dri darparwr argymhellion yn ymwneud ag arweinyddiaeth.

1

Roedd gan un darparwr argymhelliad i gryfhau monitro lefelau presenoldeb a’u cynyddu.

1

Roedd gan un darparwr argymhelliad i staff roi strategaethau ymddygiad ar waith yn gyson.

1

Rhoddwyd argymhelliad i un darparwr i fynd i’r afael â diffygion mewn addysgu i wella dysgu a chynnydd disgyblion.

1

Rhoddwyd argymhelliad i un darparwr i gryfhau effeithiolrwydd cynllunio ar gyfer gwella.

1

Argymhellwyd bod un darparwr yn mynd i’r afael â materion diogelu a godwyd yn ystod yr arolygiad.


Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Gofal, cymorth, arweiniad a lles

Ysgol Santes Ffraid

Inspection report

Datblygu disgyblion fel unigolion cwrtais a chydwybodol yn Ysgol Santes Ffraid

Nodwedd ragorol o Ysgol Santes Ffraid oedd yr ymdeimlad cryf o foesoldeb a charedigrwydd, a oedd yn treiddio trwy ei gwaith. Roedd yr ysgol yn annog disgyblion i ystyried eu cymuned trwy ei gwaith elusennol, fel rhoi yn ystod ‘Adfent am yn ôl’ a rhannu gwisg ysgol ail-law. Yn ogystal, cymerodd yr ysgol ran yn nigwyddiadau’r eglwys leol, er enghraifft trwy wneud 40 o weithredoedd caredig yn ystod y Grawys. Roedd gwerthoedd cryf yr ysgol yn ennyn ymdeimlad o berthyn ymhlith disgyblion.

Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr

Inspection report

Cyfleoedd arweinyddiaeth i ddisgyblion yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr

Mae cyfleoedd helaeth i ddisgyblion ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth ar draws yr ysgol. Yn gyfan gwbl, mae gan ryw 400 o ddisgyblion rolau arweinyddiaeth neu lysgennad. Mae’r grwpiau’n gynhwysol ac yn amrywiol. Mae disgyblion yn ymfalchïo mewn bod yn llysgennad ac maent yn weladwy ac yn weithgar yn ystod amser egwyl ac amser cinio. Maent wedi datblygu medrau arweinyddiaeth gwerthfawr wrth gynrychioli a chynghori eu cymheiriaid. Er enghraifft, mae’r llysgenhadon hawliau plant a Ffordd Ebwy Fawr wedi cysylltu gwerthoedd craidd yr ysgol â hawliau disgyblion ac wedi sicrhau bod ystyriaeth yr wythnos yn canolbwyntio ar un o hawliau plentyn y Cenhedloedd Unedig.

Arwain a gwella