Addysgu a’r Cwricwlwm – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Skip to content

Addysgu a’r Cwricwlwm

Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024



Mae mwyafrif yr ysgolion a’r lleoliadau nas cynhelir wedi parhau i ddatblygu a mireinio eu gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm ac addysgu. Mewn tua hanner yr achosion, maent wedi rhoi ystyriaeth dda i sut olwg ddylai fod ar y weledigaeth hon yn ymarferol a sut y gall gefnogi disgyblion i wella eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau.

Podlediad Sgwrs: Archwilio’r Cwricwlwm i Gymru

Gwrandewch ar ein podlediad, Sgwrs, ble rydym yn archwilio esblygiad y Cwricwlwm i Gymru a sut mae ysgolion yn siapio profiadau dysgu arloesol ac effeithiol. Mae’r bennod hon yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o ysgolion sy’n gweithredu cwricwlwm deinamig a deniadol a chyngor i addysgwyr ar gynllunio cwricwlwm llwyddiannus.

Mae’r panel yn cynnwys Cath Evans (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Estyn) Tony Bate (AEF, Estyn) Hannah Rowley (Cylch Meithrin Nant Dyrys) Elin Wakeham (Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr) a Gwenno Davies (Pennaeth, Ysgol y Creuddyn).

Gwrando ar Spotify


Addysgu o ansawdd uchel

Lle cafodd y cwricwlwm ei roi ar waith yn fwyaf llwyddiannus, mae arweinwyr wedi cadw ffocws diwyro ar wella ansawdd yr addysgu fel elfen sylfaenol i helpu athrawon i ddeall sut i ddatblygu a chyflwyno eu cwricwlwm yn effeithiol. Yn yr achosion hyn, mae arweinwyr wedi sicrhau bod dysgu proffesiynol yn ymateb yn dda i ganfyddiadau o brosesau gwerthuso ysgolion, yn enwedig yr agweddau ar addysgu y mae angen eu gwella fwyaf.

Yn yr ysgolion mwy effeithiol, cydweithiodd arweinwyr â staff i osod disgwyliadau uchel ar gyfer ansawdd yr addysgu. Rhoddodd yr ysgolion hyn bwyslais clir ar ennyn diddordeb disgyblion mewn profiadau dysgu sy’n fwyaf tebygol o gyflymu eu cynnydd. Roedd ychydig o ysgolion yn dechrau datblygu strategaethau clir i gefnogi disgyblion i ddatrys problemau’n fwy annibynnol trwy eu hannog i ystyried eu meddylfryd a myfyrio ar eu gwaith yn feirniadol. Er enghraifft, maent yn hybu trafodaethau o ansawdd uchel yn yr ystafell ddosbarth sy’n helpu disgyblion i fynegi eu meddyliau ar lafar a gweithio trwy dasgau ar y cyd â’u cyfoedion.

Cyfarthfa Park Primary

Spotlight – Effective Approaches to Oracy and Its Impact on Developing Critical Thinkers

Leaders and staff ensure that there is a shared approach to developing pupils’ speaking and listening skills. This approach is well integrated into teaching in nearly all classes. Staff equip pupils with the language and vocabulary they need to become reflective learners, fostering their confidence to respectfully challenge each other’s thinking. This approach is deeply rooted across many areas of the curriculum; for instance, pupils use their language skills to evaluate their own learning, engage in purposeful discussions about their reading, and articulate their ideas for solving mathematical problems.

Mewn ysgolion lle bu arweinwyr yn fwyaf llwyddiannus o ran sicrhau gwelliannau i ansawdd yr addysgu, maent wedi:  

  • Sicrhau bod yr holl staff yn deall pwysigrwydd cynllunio ar gyfer dysgu mewn gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth disgyblion 
  • Datblygu diwylliant o ddisgwyliadau uchel lle mae’r holl staff yn mwynhau trafod addysgu a datblygu’r cwricwlwm 
  • Cefnogi staff i ddatblygu dealltwriaeth glir o gynnydd ym mhob agwedd ar ddysgu disgyblion 
  • Annog staff ac yn eu caniatáu i wneud dewisiadau proffesiynol gwybodus 
  • Creu diwylliant lle mae athrawon yn cael adborth yn gyson am gryfderau a meysydd i’w gwella mewn addysgu 
  • Rhoi addysgu ac addysgeg fel eitemau ar agendâu pob cyfarfod staff yn rheolaidd 
  • Sicrhau y caiff datblygiad proffesiynol ei gynllunio’n strategol 
  • Defnyddio ymchwil yn synhwyrol i lywio’r penderfyniadau a’r strategaeth ar gyfer eu hysgol 

Mewn ysgolion lle mae athrawon yn cynllunio’n ofalus ar gyfer dysgu, maent yn cynllunio gweithgareddau dysgu difyr sy’n cyd-fynd â’r deilliannau dysgu arfaethedig. Mae mwyafrif o ysgolion cynradd a’r lleiafrif o ysgolion uwchradd wedi cydbwyso datblygiad systematig gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion, ynghyd â’u cymhwyso. Mae hyn wedi eu helpu i greu cysylltiadau ystyrlon, lle bo hynny’n briodol, mewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDaPhau). 

Mae arweinwyr ac ymarferwyr mewn llawer o leoliadau meithrin nas cynhelir wedi gwneud cynnydd cryf wrth roi Cwricwlwm i Gymru ar waith. Yn y lleoliadau hyn, mae staff yn ymgysylltu’n dda â dysgu proffesiynol ac yn datblygu dealltwriaeth dda o ddatblygiad plant ac addysgu effeithiol yn y blynyddoedd cynnar.  

Little Lambs Emmanuel

Spotlight – Responsive Planning in Action

Staff plan effectively and carefully to ensure that children’s learning experiences align with the principles of the Curriculum for Wales. Practitioners have developed a strong understanding of child development and use this to respond adeptly to each child’s individual needs.

For example, practitioners use the developmental pathways in the Welsh curriculum to plan carefully for learning opportunities that develop children’s skills, while maintaining the flexibility to adapt to children’s evolving interests. This approach ensures an effective balance between focused skill-building and ample opportunities for free play for children to develop their perseverance and confidence.

A notable strength of the setting is the way practitioners continuously adjust their curriculum to keep it engaging and accessible for all children, fostering an inclusive and stimulating learning environment.

Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, dim ond megis dechrau datblygu oedd dylunio’r cwricwlwm o hyd. Yn yr achosion hyn, yn aml roedd dealltwriaeth wannach o ddilyniant neu roedd disgwyliadau athrawon yn rhy isel. Ar ben hynny, roedd yr ysgolion hyn yn aml wedi creu cysylltiadau arwynebol rhwng pynciau neu MDaPhau. Mewn lleiafrif o achosion, nid oedd arweinwyr wedi sicrhau bod ffocws digonol ar wella ansawdd yr addysgu ac nid oeddent wedi defnyddio prosesau gwerthuso a gwella yn ddigon trylwyr i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu. Yn yr ysgolion hyn, nid oedd cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol, yn enwedig i wella dealltwriaeth athrawon o addysgu effeithiol, wedi’u datblygu’n ddigonol. O ganlyniad, roedd athrawon yn dueddol o ganolbwyntio ar gynllunio gweithgareddau heb sicrhau bod ganddynt ddarlun clir o sut bydd dysgu disgyblion yn symud yn ei flaen. At hynny, roedd disgwyliadau o’r hyn y gall disgyblion ei gyflawni yn aml yn rhy isel. 

Mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd athrawon yn cefnogi disgyblion i ddatblygu eu gallu i feddwl yn annibynnol yn ddigon da. Yn yr achosion hyn, roedd ymgysylltiad disgyblion yn aml wedi’i gyfyngu gan oedolion sy’n gorgyfarwyddo’r broses ddysgu. Mae hyn yn lleihau cyfleoedd i ddisgyblion ymarfer a chymhwyso eu gwybodaeth mewn cyddestunau mwy heriol. Fodd bynnag, lle cafodd hyn ei wneud yn dda, roedd staff yn arwain disgyblion yn fedrus i gymhwyso eu gwybodaeth i ddatrys problemau ag annibyniaeth gynyddol pan fyddant yn wynebu anawsterau. 

St Andrew’s Primary School and Nursery

Spotlight – The role of the enabling adult to support effective environments and engaging experiences

Practitioners adopt the notice, analyse and respond approach to observing younger pupils’ engagement with learning experiences. During the ‘notice’ stage they seek to find out what drives pupils’ curiosity and how pupils choose resources available to them. During the ‘analyse’ stage, practitioners interpret pupils’ skills and knowledge development, assess their progress and analyse a pupil’s preferred schema1repeated actions or certain behaviours children use to make sense of the world around them. Finally, observations are used as a catalyst for planning future learning experiences. This may include staff making adaptations to the environment, planning opportunities for pupils to refine or consolidate a skill and enrich experiences further. As a result, staff act as enablers, modelling and enhancing pupils’ independence, confidence and ownership of their learning environment.

Mewn ysgolion lle nad oedd ansawdd yr addysgu yn ddigon effeithiol, yn gyffredinol, nid oedd arweinwyr:  

  • Wedi sicrhau bod gan yr holl staff ddisgwyliadau digon uchel o ddisgyblion 
  • Wedi sicrhau bod dylunio’r cwricwlwm a’r addysgu yn canolbwyntio ar gynllunio ar gyfer dysgu disgyblion 
  • Wedi rhoi blaenoriaeth i ddatblygu addysgu ochr yn ochr â dylunio’r cwricwlwm 
  • Wedi sicrhau bod disgyblion yn gallu manteisio ar ystod eang o brofiadau’r cwricwlwm 

Cwricwlwm wedi’i arwain gan ddibenion 

Mae gormod o amrywiant o hyd yn nealltwriaeth ysgolion o’r cwricwlwm wedi’i arwain gan ddibenion. Yn yr achosion gorau, roedd staff yn deall bod cwricwlwm wedi’i arwain gan ddibenion yn ymwneud â sicrhau bod diben clir i bob profiad dysgu o ran cefnogi disgyblion i ddatblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau sydd, yn ei dro, yn cefnogi eu datblygiad tuag at y pedwar diben. Yn yr ysgolion hyn, roedd staff wedi gweithio ar y cyd i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o ddylunio’r cwricwlwm a’r dulliau addysgu mwyaf effeithiol i gefnogi cynnydd cynaledig disgyblion dros gyfnod. Lle cafodd hyn ei ddeall yn dda, roedd arweinwyr a staff yn meddwl yn ofalus am ddyluniad eu cwricwlwm ac yn herio ei gilydd yn gyson i ystyried sut mae pob profiad dysgu o fudd i’w disgyblion ac yn eu cefnogi i wneud cynnydd ystyrlon.

Swansea University Schools’ Partnership

Spotlight – Developing an understanding of Curriculum for Wales in initial teacher education

Tutors design course modules thoughtfully to ensure that students have rich opportunities to develop a clear understanding of the Curriculum for Wales, challenge misconceptions and develop the necessary skills and knowledge to teach across the range of age groups and AOLEs. Ongoing, carefully designed provision and effective teaching ensure that students develop a critical and reflective approach to research and apply this to their practice.

Mewn lleiafrif o ysgolion, bu ffocws rhy gryf ar y pedwar diben wrth gynllunio ar gyfer addysgu dyddiol, yn hytrach na blaenoriaethu’r deilliannau dysgu penodol yr hoffent i ddisgyblion eu cyflawni. Weithiau, arweiniodd hyn at athrawon yn cynllunio gwersi unigol i ‘fodloni’r’ pedwar diben yn unig neu’n cynllunio ystod o weithgareddau i ddisgyblion eu cwblhau nad ydynt yn datblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth na’u medrau yn gynyddol.

St Julian’s School

Spotlight – develop a strong curriculum offer

Leaders at St Julian’s School have focused strongly on develop their approach to Curriculum for Wales. They have ensured that they offer a broad range of subjects, from all areas of learning and experience, for pupils in Year 10 and Year 11 Leaders and staff have a clear vision for their curriculum and this is underpinned by developing high quality teaching.

The school has focused on maintaining subject specialism, whilst providing subject leads with a broad autonomy to plan how and what they teach. Staff have remained focused on planning for pupil progress and ensuring that all learning has a clear purpose. Work with their feeder primary schools has supported staff at all levels to ensure that planning builds on pupils’ prior learning and supports them to make effective practice.


Datblygu medrau 

Mewn mwyafrif o ysgolion cynradd a lleiafrif o ysgolion uwchradd, roedd staff wedi cynllunio’n dda i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion ar draws y cwricwlwm. Yn yr achosion gorau, ceir ymagwedd strategol lle mae staff yn cydweithio’n bwrpasol i gynllunio’r medrau hyn yn gynyddol.

Cefn Hengoed Community School

Spotlight – The planning and co-ordination for the progressive development of pupils’ skills

The school employs Literacy, Numeracy, Bilingualism and Digital Competence Framework (DCF) Managers. Leaders and staff in each subject area work collaboratively with these managers to ensure that the planning for skills builds purposely on pupils’ prior learning and that opportunities to apply skills are progressive as pupils move through the school. There is a clear focus on creating authentic links between the cross-curricular skills and subject content to ensure that lessons are meaningful and have a positive impact on pupil progress.

Mewn llawer o leoliadau nas cynhelir, roedd staff yn cynllunio’n dda i ddatblygu medrau plant yn gyfannol ar draws y cwricwlwm. Fodd bynnag, mewn gormod o ysgolion, roedd cynllunio ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn gynyddol yn fwy cyfyngedig. Yn yr ysgolion hyn, nid oedd athrawon yn darparu digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’u medrau mewn cyd-destunau mwyfwy heriol neu ar lefel ddigon uchel. O ganlyniad, yn aml, cafodd cyfleoedd eu colli i ddisgyblion ddwysáu eu dealltwriaeth a’u medrau. Er enghraifft, roedd cyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso’r ystod lawn o fedrau rhifedd ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion yn aml yn gyfyngedig. Hefyd, nid oedd digon o gyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ddatblygu medrau darllen mwy soffistigedig mewn ystod o feysydd ar draws y cwricwlwm.


Datblygu ymdeimlad o Gynefin ac ymgysylltu â’r gymuned 

At ei gilydd, gwnaeth mwyafrif yr ysgol a’r lleoliadau ddefnydd da o’u cymuned. Er enghraifft, roedd staff mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir yn ystyried anghenion dysgu disgyblion yn ofalus ac yn cydweithio’n agos â rhieni i ddarparu cymorth ar gyfer dysgu eu plentyn gartref. Roedd ysgolion yn aml yn defnyddio adnoddau yn eu hardal leol a sefydliadau allanol yn feddylgar. Mewn lleiafrif o achosion, roedd ysgolion a lleoliadau’n darparu cyfleoedd buddiol i ddisgyblion ddatblygu ymdeimlad o ‘gynefin’ trwy ymgorffori hanes a daearyddiaeth yr ardal leol, Cymru a’r byd ehangach yn eu haddysgu.

Roedd mwyafrif yr ysgolion uwchradd yng Nghymru yn cynnig ystod eang a chytbwys o gyrsiau yng nghyfnod allweddol 4, gan gynnwys dewisiadau TGAU a dewisiadau galwedigaethol. Fodd bynnag, mewn lleiafrif ohonynt, roedd ystod fwy cyfyngedig o bynciau ar gael, sy’n cyfyngu ar allu disgyblion i ddilyn eu diddordebau. Roedd ychydig o ysgolion yn parhau i roi cyfnod astudio TGAU tair blynedd ar waith, er gwaethaf yr arweiniad statudol diweddar gan Lywodraeth Cymru i beidio â gwneud hynny. Mae hyn yn golygu bod disgyblion yn rhoi’r gorau i ystod ehangach o bynciau ar ddiwedd Blwyddyn 8, gan gyfyngu eu cyfle i fanteisio ar gwricwlwm ehangach. Mae hyn yn lleihau cyfleoedd iddynt archwilio pynciau amrywiol yn ddigonol cyn gwneud dewisiadau mwy gwybodus ar unrhyw oedran priodol ym Mlwyddyn 9.


Cefnogi pontio disgyblion 

Roedd arweinwyr a staff mewn lleoliadau nas cynhelir yn gweithio’n dda â rhieni i gefnogi addysg gynnar eu plant. Er enghraifft, roedd y rhan fwyaf o leoliadau’n gwahodd rhieni i leoliadau yn ystod y cyfnodau ymgartrefu cychwynnol. Yn gyffredinol, roedd llawer o leoliadau ac ysgolion cynradd yn cydweithio’n briodol i sicrhau pontio llyfn. Roedd lleiafrif o ysgolion uwchradd yn dechrau cydweithio â’u hysgolion cynradd partner i ddatblygu ymagwedd ar y cyd at ddylunio cwricwlwm ac addysgu. Roedd yr ysgolion hyn yn dechrau ystyried y cynnydd yr hoffent i ddisgyblion ei wneud yn eu gwybodaeth a’u medrau ac yn cydweithio â’i gilydd i nodi sut y gellir adeiladu ar ddysgu disgyblion wrth iddynt symud o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd. Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd diffyg cysondeb wrth bontio o addysg gynradd i addysg uwchradd ac nid oedd staff ar draws y ddau sector yn cydweithio’n ddigon da â’i gilydd bob tro i rannu ymagweddau at wella addysgu a datblygu’r cwricwlwm er mwyn sicrhau parhad pwrpasol yn nysgu disgyblion.


Datblygu ymagweddau at asesu a chynnydd 

Roedd mwyafrif yr athrawon yn defnyddio dulliau asesu ffurfiannol i ddeall pa mor dda yr oedd disgyblion yn dod yn eu blaenau ac i addasu eu haddysgu. Lle mae gan athrawon fwriadau dysgu clir, roeddent yn aml yn cynllunio cwestiynau’n ofalus i wirio dealltwriaeth disgyblion a datblygu eu meddwl. Ym mwyafrif yr achosion, roedd athrawon yn rhoi adborth llafar defnyddiol yn ystod gwersi i gefnogi disgyblion ac roedd y mwyafrif ohonynt yn rhoi adborth ysgrifenedig cynorthwyol i arwain disgyblion i ddeall eu camau nesaf. Yn yr achosion gorau, roedd yr athrawon yn cynllunio tasgau dilynol effeithiol i ddisgyblion weithredu ar yr adborth hwn. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd athrawon yn sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd digonol i ymateb yn ddigon da i adborth a gwneud gwelliannau ystyrlon i ansawdd eu gwaith.

Troedyrhiw Primary School

Spotlight – The progress of learners as a result of robust assessment strategies and monitoring of pupils’ achievements and next steps in learning

Quality time is spent ensuring that all staff have a clear and accurate understanding of progression in each area of learning. Staff and leaders triangulate date from feedback in pupils’ books, cohort progress reviews and ‘Pupil Meets’ where time is spent with each pupil to discuss what they are doing well, what their next steps in learning are and how they will be supported. As a result, feedback to pupils is effective. There are timely opportunities for pupils to build on prior learning and a clear understanding of what the pupil is achieving in lessons and what they need to do to improve. This in turn informs the next steps for teachers’ planning.

Mae lleiafrif o ysgolion wedi gweithio’n dda i ddatblygu dealltwriaeth staff o gynnydd ar draws pob ystod oedran. Fodd bynnag, at ei gilydd, ledled Cymru, roedd ysgolion yn ei chael hi’n anodd datblygu cyd-ddealltwriaeth o ddilyniant a chynllunio’n fanwl gywir i gefnogi cynnydd disgyblion. Roedd arweinwyr yn nodi y byddent yn croesawu eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut olwg ddylai fod ar y cynnydd gofynnol a ddisgwylir ar gamau gwahanol o ddysgu a datblygiad disgyblion.


Cwestiynau hunan fyfyrio 

  • Pa mor dda y mae ein staff yn deall pwysigrwydd addysgu o ansawdd uchel a’i effaith ar gynnydd eu disgyblion? 
  • A ydym ni fel arweinwyr wedi datblygu diwylliant o hunanwerthuso a dysgu proffesiynol, lle mae gwella addysgu yn flaenoriaeth uchel? 
  • Pa mor effeithiol y mae ein hathrawon yn cynllunio ar gyfer dysgu, gan ddylunio tasgau sy’n ddifyr ac yn cyd-fynd â’r deilliannau dysgu arfaethedig? 
  • Pa mor dda y mae ein staff yn cyflawni eu rôl fel oedolion sy’n galluogi, deall anghenion disgyblion, ac addasu eu haddysgu yn fedrus i gefnogi a symud dysgu yn ei flaen?  
  • Pa mor dda ydyn ni’n cynllunio i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion yn gynyddol ar draws y cwricwlwm?  
  • Pa mor effeithiol ydyn ni’n defnyddio ein cymuned, ein hardal leol a sefydliadau allanol i gyfoethogi profiadau dysgu?  
  • Pa mor dda ydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod trefniadau pontio yn datblygu ymagwedd ar y cyd at ddylunio’r cwricwlwm, yn gwella ein dealltwriaeth o addysgu effeithiol ac yn datblygu cyd-ddealltwriaeth o ddilyniant?  
  • Pa mor dda y mae athrawon yn cefnogi disgyblion i ddatblygu eu hannibyniaeth?  
  • Pa mor effeithiol y mae athrawon yn defnyddio ymagweddau ffurfiannol tuag at asesu i ddeall pa mor dda y mae disgyblion yn dod yn eu blaenau ac yn addasu eu haddysgu mewn gwersi a thros gyfnod?