Cymraeg i Oedolion – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Skip to content

Cymraeg i Oedolion

Adroddiad sector 2023 - 2024



Darparwyr

11

Darparwyr Dysgu Cymru dan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n ariannu ac yn sicrhau ansawdd eu gwaith


Dysgwyr

16,905

Dysgwyr yn ystod 2022-2023

15,260

Dysgwyr yn ystod 2021-2022

14,965

Yn ystod 2020-2021

Mae nifer y dysgwyr wedi cynyddu 33% ers dechrau’r cylch arolygu (12,680 o ddysgwyr unigol yn 2017-2018)


Darpariaeth

Mae pob darparwr yn cynnig amrywiaeth o ddysgu wyneb-yn-wyneb, ar-lein ac o bell.


Arolygiadau

Cynhaliwyd dau arolygiad craidd o ddarparwyr Dysgu Cymraeg yn ystod 2023-2024:

Yn y sector Cymraeg i Oedolion, parhaom i roi graddau crynodol ar gyfer arolygiadau o ddarparwyr Dysgu Cymraeg.

Arolygom y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am yr eildro yn ystod y cylch arolygu hwn, hefyd. 

Adroddiad arolygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol 2024 (llyw.cymru)


Gweithgarwch dilynol

Mae gweithgarwch dilynol yn y sector yn wahanol i bron pob sector arall gan fod corff llywodraethol sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd yn y sector. Mae cynnydd yn erbyn yr holl argymhellion i ddarparwyr Dysgu Cymraeg unigol yn ystod arolygiadau craidd yn cael ei drafod â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’i werthuso fel rhan o’i harolygiad.


Cyflwyniad

Mae nifer y dysgwyr yn y sector Cymraeg i Oedolion wedi cynyddu 33% ers i’r ffigurau cenedlaethol cyntaf gael eu cyhoeddi ar gyfer y sector yn 2017-2018. Yn ogystal, mae’r sector bellach yn cynnig cyrsiau am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, gan gynyddu nifer y dysgwyr yn y categori hwn 9% ymhellach yn ystod 2022-2023. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi gweithio’n bwrpasol i gynyddu arlwy’r sector i ddysgwyr sydd eisiau dysgu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r gwaith, yn ogystal â grwpiau penodol fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gyda deunyddiau ar gael erbyn hyn i siaradwyr Cantoneg, Syriaidd, Arabeg, Pashto, Ffarsi ac Wcreineg.


Crynodeb

Mae’r addysgu yn y sector yn canolbwyntio ar sicrhau bod profiadau dysgu yn gynhwysol, yn gadarnhaol ac yn effeithiol wrth gynhyrchu siaradwyr Cymraeg gweithredol. Roedd gofal, cefnogaeth ac arweiniad yn rhagorol yn y ddau ddarparwyr Dysgu Cymraeg a arolygwyd eleni. Mae’r gefnogaeth a’r arweiniad a ddarperir yn cyfrannu’n gadarnhaol at les dysgwyr a mwynhad o’u cyrsiau. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n ariannu ac ansawdd yn sicrhau gwaith darparwyr Dysgu Cymraeg, yn cefnogi’r gwaith hwn yn ddefnyddiol trwy gyfleoedd craffu a datblygiad proffesiynol priodol i staff. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darparu arweinyddiaeth hynod effeithiol i’r sector, sy’n cael ei adlewyrchu yn y weledigaeth a rennir a ffocws clir gan ddarparwyr Dysgu Cymraeg. Gyda’i gilydd, maent yn cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu siaradwyr Cymraeg gweithredol, yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru.


Dysgu, addysgu a phrofiadau dysgu

Parhaodd dysgwyr ym mhob math o ddarpariaeth i ddangos lefelau uchel o gymhelliant a brwdfrydedd yn ystod eu gwersi. Roedd llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cryf wrth ddatblygu eu medrau iaith, gan siarad yn gynyddol ddigymell ac yn hyderus â’i gilydd a’u tiwtoriaid. Roedd tiwtoriaid yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac yn eu hannog i ddefnyddio eu medrau iaith yn eu cymunedau a’u gweithleoedd. O ganlyniad, roedd llawer o ddysgwyr yn siarad Cymraeg y tu allan i sesiynau ffurfiol, a oedd yn cynyddu eu hyder ac yn gwella eu gallu i deimlo’n rhan o rwydweithiau a chymunedau Cymraeg. Roedd dysgwyr yn gwneud y cynnydd cryfaf pan roeddent yn cael eu trochi’n llawn yn yr iaith ar gyrsiau dwys. Roedd bron pob un o’r dysgwyr a oedd yn mynychu cyrsiau preswyl yn gwneud cynnydd cyflym. Roedd hyn oherwydd cyfuniad o gynllunio ac addysgu medrus a’r amgylchedd trochi unigryw.

Roedd y ddau ddarparwr Dysgu Cymraeg a arolygwyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau, o lefel mynediad i hyfedredd, wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Roedd un darparwr yn gweithredu’n effeithiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn ei awdurdod lleol lletyol trwy gyflogi swyddog i weithio’n rhagweithiol â staff yr awdurdod lleol.

Roedd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn chwarae rhan werthfawr mewn datblygu ansawdd cyffredinol uchel yr addysgu a’r dysgu ar draws darparwyr Dysgu Cymraeg. Nid oedd ychydig o diwtoriaid mewn un darparwr a arolygwyd yn holi dysgwyr yn ddigon effeithiol nac yn caniatáu digon o amser iddynt ystyried gwybodaeth a dechrau creu iaith yn annibynnol. Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd gan y rhan fwyaf o diwtoriaid ar draws y ddau ddarparwr ddisgwyliadau uchel o’u dysgwyr ac roeddent yn defnyddio’r iaith darged yn effeithiol i wella medrau siarad a gwrando dysgwyr. Roeddent yn procio ac yn ymyrryd yn bwrpasol i ymestyn gallu dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol a gwella eu dealltwriaeth o nodweddion gramadegol gwahanol yr iaith.


Gofal, cymorth, arweiniad a lles ac agweddau at ddysgu

Roedd safon y gofal, cymorth ac arweiniad yn rhagorol yn y ddau ddarparwr a arolygwyd. Mae ymagwedd gadarnhaol darparwyr at greu amgylchedd gofalgar a chynhwysol ar gyfer pob dysgwr yn helpu dysgwyr i deimlo’n ddiogel ac yn awyddus i ymgysylltu â’u dysgu yn effeithiol.

Roedd darparwyr a thiwtoriaid yn ymateb yn dda i anghenion addysgol a bugeiliol unigolion i’w helpu i gyflawni eu nodau personol. Roedd llawer o ddysgwyr yn chwarae rhan weithredol yn eu cymunedau dysgu ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn teimlo bod darparwyr yn ymateb yn briodol i’w safbwyntiau a’u pryderon.

Roedd tiwtoriaid ac arweinwyr a oedd yn gyfrifol am gyrsiau yn y darparwr preswyl yn sicrhau bod dysgwyr yn cael lefelau rhagorol o ofal bugeiliol ac addysgol cyn ac yn ystod eu cyrsiau. Roedd hyn yn fuddiol i’w lles a’u lefelau cyrhaeddiad.

Yn gyffredinol, roedd dysgwyr yn y ddau ddarparwr yn cael lefelau uchel iawn o ofal a chymorth. O ganlyniad, roedd llawer o ddysgwyr yn dychwelyd i gyrsiau dilynol ac yn gwella eu lefelau rhuglder.


Arweinyddiaeth

Roedd y ddau ddarparwr Dysgu Cymraeg a arolygwyd yn canolbwyntio’n glir ar eu cenhadaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg gweithredol.

Roedd arweinwyr mewn un darparwr yn hynod effeithiol o ran datblygu eu darpariaeth yn arloesol i gynnig yr amgylchedd gorau posibl lle gallai dysgwyr wneud cynnydd effeithiol a gwerthfawrogi’r Gymraeg fel iaith fyw.

Roedd arweinwyr yn y darparwr Dysgu Cymraeg arall yn effeithiol o ran datblygu arlwy’r ddarpariaeth o fewn cyfyngiadau darparwr bach. Roedd y darparwr yn gwerthuso data’n briodol ac roedd hyn yn cyfrannu at berfformiad cryf a chyson y darparwr yn erbyn ei dargedau recriwtio a lefelau cwblhau a dilyniant dysgwyr. Fodd bynnag, nid oedd rheolwyr yn olrhain cynnydd grwpiau o ddysgwyr yn ddigon manwl yn systematig i fireinio ac addasu darpariaeth yn bwrpasol. Yn ogystal, nid oeddent bob amser yn nodi’r meysydd i’w gwella mewn agweddau ar eu gwaith, fel addysgu a dysgu, yn ddigon da.

Roedd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darparu arweinyddiaeth effeithiol iawn i’r sector ac roedd yn rhagweithiol o ran hybu lefelau uwch o gyfranogiad gan bob grŵp yn y gymdeithas. Roedd y strwythur ffioedd cenedlaethol yn cadw costau cyrsiau i ddysgwyr mor isel â phosibl ac roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr naill ai’n cael gostyngiadau i ffioedd cyrsiau neu’n cael cyrsiau am ddim.

Roedd y Ganolfan Genedlaethol wedi datblygu’r sector o fod yn ddarparwr cyrsiau ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn unig i fod yn llais dylanwadol ac yn hwylusydd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl gweithredol.


Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Arolygwyd dau ddarparwr Dysgu Cymraeg yn ystod 2023-2024, ynghyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Yn y darparwr sy’n arbenigo mewn darpariaeth breswyl a throchi iaith, roedd yr argymhellion yn canolbwyntio ar ymestyn yr arlwy dysgu proffesiynol i gynnwys cyfleoedd rheolaidd i diwtoriaid arsylwi arfer effeithiol. Ar ben hynny, roedd argymhelliad i sefydlu gweithdrefnau â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i rannu gwybodaeth yn genedlaethol am gynnydd a chyflawniad dysgwyr sydd wedi dilyn cyrsiau dwys y darparwr, i’w cefnogi i ddysgu Cymraeg yn ddi-dor, pwy bynnag yw’r darparwr.

Yn y darparwr Dysgu Cymraeg arall a arolygwyd, roedd tri argymhelliad yn adlewyrchu’r meysydd allweddol i’w gwella, sef: 

  • Cryfhau prosesau cynllunio strategol i flaengynllunio’r ddarpariaeth yn fwy bwriadus
  • Miniogi prosesau gwerthuso addysgu a dysgu i flaenoriaethu cryfderau a meysydd i’w gwella
  • Cryfhau prosesau monitro ac olrhain cynnydd grwpiau a charfanau o ddysgwyr dros gyfnod er mwyn diwallu anghenion dysgwyr yn gynyddol effeithiol

Cafodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddau argymhelliad, sef:

  • Parhau i ymestyn a rhannu arbenigedd y sector Dysgu Cymraeg o ran addysgeg a chaffael ail iaith i sectorau perthnasol eraill i gefnogi nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 
  • Parhau i arloesi trwy hwyluso gweithgareddau cynllunio ieithyddol sy’n integreiddio siaradwyr newydd ac anfoddog mewn mentrau i normaleiddio defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau ac yn eu gwaith

Trosolwg argymhellion

Arolygwyd dau ddarparwr Dysgu Cymraeg yn ystod 2023-2024, ynghyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Yn y darparwr sy’n arbenigo mewn darpariaeth breswyl a throchi iaith, roedd yr argymhellion yn canolbwyntio ar ymestyn yr arlwy dysgu proffesiynol i gynnwys cyfleoedd rheolaidd i diwtoriaid arsylwi arfer effeithiol. Ar ben hynny, roedd argymhelliad i sefydlu gweithdrefnau â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i rannu gwybodaeth yn genedlaethol am gynnydd a chyflawniad dysgwyr sydd wedi dilyn cyrsiau dwys y darparwr, i’w cefnogi i ddysgu Cymraeg yn ddi-dor, pwy bynnag yw’r darparwr.

Yn y darparwr Dysgu Cymraeg arall a arolygwyd, roedd tri argymhelliad yn adlewyrchu’r meysydd allweddol i’w gwella, sef:

  • Cryfhau prosesau cynllunio strategol i flaengynllunio’r ddarpariaeth yn fwy bwriadus
  • Miniogi prosesau gwerthuso addysgu a dysgu i flaenoriaethu cryfderau a meysydd i’w gwella
  • Cryfhau prosesau monitro ac olrhain cynnydd grwpiau a charfanau o ddysgwyr dros gyfnod er mwyn diwallu anghenion dysgwyr yn gynyddol effeithiol

Cafodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddau argymhelliad, sef:

  • Parhau i ymestyn a rhannu arbenigedd y sector Dysgu Cymraeg o ran addysgeg a chaffael ail iaith i sectorau perthnasol eraill i gefnogi nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
  • Parhau i arloesi trwy hwyluso gweithgareddau cynllunio ieithyddol sy’n integreiddio siaradwyr newydd ac anfoddog mewn mentrau i normaleiddio defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau ac yn eu gwaith