Rhagair
Croeso i’n hadroddiad blynyddol. Yn yr adroddiad hwn, fe welwch sut mae sectorau addysg a hyfforddiant Cymru wedi perfformio dros y flwyddyn. Yn ogystal â’n mewnwelediadau cynnar, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2024, bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys fy myfyrdodau personol ar y flwyddyn, yn ogystal â manylion a gwybodaeth bellach am ein canfyddiadau a dadansoddiadau. Gyda dros 400 o arolygiadau blynyddol, mae Estyn yn parhau i ddatblygu ei ethos o sicrhau atebolrwydd ac annog gwelliannau. Felly, byddwn yn amlygu’r arferion gorau a welwyd, yn ogystal â chanolbwyntio ar feysydd lle mae angen mynd i’r afael â thueddiadau cenedlaethol er mwyn i Gymru gyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer pob dysgwr.
Hoffwn ddiolch i’r holl ddarparwyr yr ymwelwyd â hwy yn ystod y flwyddyn a’r system yn ehangach am eu hymdrechion a’u hymrwymiad i ddysgwyr. Parhau i ymweld yn rheolaidd â phob math o leoliadau ledled Cymru, cyfarfod â dysgwyr a’r timau brwd sy’n ymroddedig i addysg a hyfforddiant, yw’r rhan fwyaf gwerth chweil o’m rôl.

Yn ogystal â’n hadroddiadau thematig, byddwn eleni eto yn cynnwys gwerthusiadau dethol yn canolbwyntio ar sut mae darparwyr yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau penodol sy’n wynebu dysgwyr yng Nghymru, gan gynnwys:
- Symud tuag at Gymru wrth-hiliol
- Addysgu a’r Cwricwlwm
- Hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
- Recriwtio a chadw
- Y Gymraeg
- Presenoldeb
Mae’r canlyniadau o’r gwaith hwn wedi bod yn ddadlennol. Er enghraifft, rydym wedi gweld ymdrechion canmoladwy gan ysgolion i integreiddio gwrth-hiliaeth yn eu hegwyddorion a’u harferion, er bod dyfnder a lled yr integreiddio hwn yn amrywio.
Mae gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru wedi symud ymlaen, ond nid yw llawer o ysgolion yn alinio datblygiad y cwricwlwm gyda strategaethau addysgu ac asesu effeithiol yn ddigon da. Mewn rhai achosion, mae cynllunio ar gyfer datblygiad yn dan ddatblygedig, ac mae disgwyliadau athrawon o’r hyn y gall disgyblion ei gyflawni yn rhy isel.
Mae hunanwerthuso, yn arbennig, yn parhau i fod yn faes hanfodol i’w wella. Dim ond lleiafrif o ddarparwyr sy’n dangos arferion cryf sy’n sbarduno gwelliannau, tra bod eraill yn methu â gwerthuso effaith addysgu ar ddysgu’n ddigon manwl ac felly’n ei chael hi’n anodd cynllunio gwelliannau penodol ac effeithiol.
Mae recriwtio, yn enwedig mewn meysydd fel yr iaith Gymraeg, gwyddoniaeth a mathemateg, wedi bod yn her sylweddol, gan effeithio ar ansawdd addysg. Mae hyn yn bryder mawr mewn ysgolion uwchradd. Mae’r methiant i ddenu ymgeiswyr newydd i’r proffesiwn wedi effeithio ar ansawdd addysgu a dysgu.
Tra bo angen cryfhau’r ddarpariaeth i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o’r Gymraeg ym mhob sector, rydym hefyd wedi arsylwi ar arferion cryf wrth hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, sy’n gweithredu fel modelau i eraill.
Eleni, rydym wedi ceisio gwella ein dulliau o gyfathrebu ein canfyddiadau. Er enghraifft, rydym wedi cydweithio ag ymarferwyr i greu podlediadau sy’n cynnig mwy o fanylder a myfyrdodau ar wrth-hiliaeth a gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cefnogi cynnydd yn y meysydd hyn.

Wrth droi at ein harolygiadau, er bod llawer o gryfderau yn sectorau addysg a hyfforddiant Cymru, mae dal i fod meysydd i’w gwella. Y themâu cliriaf o’n gwaith eleni oedd:
- Mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon uchel. Er enghraifft, mewn ychydig llai na hanner yr ysgolion a’r Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau), mae diffygion mewn addysgu sy’n effeithio’n uniongyrchol ar gynnydd dysgwyr.
- Ceir bylchau amlwg yn y ffordd mae darparwyr yn cynllunio ar gyfer datblygiad medrau llythrennedd, rhifedd, a digidol dysgwyr.
- Mae diogelu a chefnogaeth llesiant yn gyson gryf ar draws y rhan fwyaf o ysgolion a darparwyr eraill. Fodd bynnag, er gwaethaf gwelliannau cymedrol, mae presenoldeb yn parhau’n rhy isel, yn enwedig i ddysgwyr sy’n byw mewn tlodi.
- Mae hunanwerthuso a chynllunio gwella ar draws y mwyafrif o sectorau, gan gynnwys ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol yn parhau i fod yn feysydd sy’n peri pryder. Mae’r prosesau hyn yn aml yn wan, heb ganolbwyntio digon ar effaith addysgu ar gynnydd dysgwyr. Mae hyn yn cael ei waethygu gan faterion llywodraethu, lle mae lleiafrif yn dibynnu’n ormodol ar wybodaeth gan arweinwyr ysgolion yn unig. Yn yr achosion hyn, nid oes gan lywodraethwyr y modd i werthuso blaenoriaethau gwella ysgolion nac asesu effaith cyllid ar ganlyniadau disgyblion.
- Mae lleiafrif o ddarparwyr wedi integreiddio datblygiad proffesiynol gyda blaenoriaethau gwella ehangach yn llwyddiannus, gan sicrhau bod hyfforddiant staff yn cyd-fynd â’r diffygion a nodwyd mewn addysgu.
Ar draws y sectorau rydym yn eu harolygu, mae darpariaeth Blynyddoedd Cynnar wedi parhau i berfformio’n dda, gan fanteisio ar gefnogaeth awdurdodau lleol a darparu sylfaen gadarn ar gyfer dysgu. Mae darpariaeth yn y lleoliadau hyn, ac mewn dosbarthiadau meithrin a derbyn yn yr ysgolion, wedi ymateb yn dda i newidiadau yn eu cymunedau a pharodrwydd plant i ddysgu.
Mae’r mwyafrif o ysgolion cynradd ac uwchradd wedi dangos ffocws cryf ar lesiant disgyblion a’u gofal, cymorth ac arweiniad. Mae hyn wedi arwain at agweddau cadarnhaol disgyblion tuag at ddysgu. Mae’r ddau sector wedi gwneud cynnydd da wrth weithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd. Er hynny, mae rhywfaint o amrywiad yn parhau o ran darpariaeth ysgolion. O ran tlodi, er bod llawer o heriau y tu hwnt i’w rheolaeth, mae staff ysgol yn parhau i weithio’n ddiwyd i liniaru effaith tlodi ar gyflawniad addysgol.
Mae presenoldeb yn parhau’n sylweddol is na lefelau cyn y pandemig. Gwelwyd ychydig o welliant, gan gynyddu o 88.5% i 89.0% yn ystod 2023-2024, ond mae disgyblion o hyd, ar gyfartaledd, yn colli mwy nag un diwrnod bob pythefnos o’r ysgol. Mae’r bwlch o’i gymharu â lefelau cyn y pandemig yn fwy amlwg mewn ysgolion uwchradd er gwaethaf eu hymdrechion gorau, ac mae presenoldeb y rhai sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn parhau’n bryder. Tra bo rhywfaint o newyddion da fod y bwlch yn culhau, mae’n parhau’n rhy uchel. Mae presenoldeb isel iawn mewn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn bryder mawr. Mae dal gormod o amrywiad yn ffocws ac effaith awdurdodau lleol ar wella presenoldeb.
Mae amrywiaeth sylweddol yn parhau yn y modd y mae ysgolion wedi datblygu eu cwricwlwm. Mae cynllunio ar gyfer pontio cwricwlaidd yn parhau i fod yn broblem wrth i ddysgwyr symud o gyfnod cynradd i’r uwchradd.
Mewn ysgolion, mae’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau llythrennedd a rhifedd sylfaenol wedi cryfhau, gyda dysgwyr yn gwneud cynnydd cychwynnol da. Fodd bynnag, nid yw dysgwyr bob amser yn gwneud digon o gynnydd yn ystod blynyddoedd olaf y cyfnod cynradd a dechrau’r cyfnod uwchradd i sicrhau eu bod yn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd uwch. Mae’n werth cofio bod y Profion Rhaglen Asesu Myfyrwyr Ryngwladol (PISA) yn asesu medrau llythrennedd a rhifedd uwch, sef maes lle mae Cymru wedi tanberfformio.
Bydd llwyddiant Rhaglen Gwella Ysgolion Llywodraeth Cymru yn hanfodol i gefnogi’r newidiadau sydd eu hangen, yn ogystal â rôl y sefydliad dysgu proffesiynol newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gefnogi addysgu o ansawdd uchel a gwella arweinyddiaeth. Mae gan awdurdodau lleol berthynas broffesiynol gadarn gydag arweinwyr yn y sectorau, ac mae cefnogaeth feirniadol barhaus i ysgolion yn hanfodol. Bydd disgwyliadau uchel, monitro cynnydd a gwelliannau, wedi’u selio ar werthusiad cadarn ynghyd â chefnogaeth benodol i bynciau, yn elfennau hanfodol o’r ystod o gymorth sydd ar gael i ysgol newydd. Bydd y model cydweithredol newydd ond yn llwyddo os yw’r dibenion ar gyfer cydweithio’n glir, ac os yw’r gwerthusiad yn gadarn ac yn canolbwyntio’n glir ac yn barhaus ar wella cynnydd dysgwyr.
Mae arweinwyr ysgolion yn parhau i nodi heriau yn y system sy’n atal cynnydd, gan gynnwys cyllid, ymddygiad disgyblion a’r argaeledd o wasanaethau cymorth megis Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) neu wasanaethau cyfeirio disgyblion. Rydym eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith bod capasiti yn yr unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion arbennig yn gyfyngedig iawn, a bod cyn lleied o ddisgyblion addas yn dychwelyd i’r brif ffrwd, gan gyfyngu capasiti o fewn y gwasanaethau arbenigol hynny i gefnogi mwy o ddisgyblion. Yn gyffredinol, mae ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau arbenigol ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn darparu cwricwlwm effeithiol ac unigolyddol, gyda gofal a chymorth cryf sy’n hyrwyddo llesiant. Mewn ychydig o achosion, mae diffyg arbenigedd staff neu gyfleusterau annigonol yn cyfyngu’r effaith. Mae UCDau yn addysgu cyfran uchel o ddisgyblion ag ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol), ac mae awdurdodau lleol yn rhy anghyson yn y ffordd y maent yn defnyddio Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) i hwyluso Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY).
Er gwaethaf rhywfaint o dystiolaeth o ddarpariaeth gref yn y sector Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), mae recriwtio athrawon cymwys priodol yn parhau i fod yn risg i’r system addysg. Roedd yr heriau recriwtio yn fwy amlwg ar gyfer addysg uwchradd, yn enwedig ym meysydd mathemateg a gwyddoniaeth. Mae diffyg athrawon cymwys sy’n gallu addysgu drwy’r Gymraeg yn broblem benodol ac yn bryder mawr o ran gwireddu’r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae darparwyr AGA wedi methu recriwtio traean o’r targed ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd dros y tair blynedd diwethaf.
Yn y lleoliadau addysg a hyfforddiant ôl-16 a arolygwyd, roedd dysgwyr yn cymryd rhan, ond yn aml nid oedd digon o her iddynt. Mae’r gyfran o ddysgwyr sy’n cyflawni graddau uwch mewn darpariaeth wedi’i graddio, ar raglenni galwedigaethol a Lefel A yn rhy isel. Mae materion cyffredin yn parhau fel cyfeirio a blaenoriaethu, yn ogystal â’r argaeledd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn gyffredinol, mae dal gormod o gystadleuaeth anffafriol, sy’n effeithio ar y wybodaeth y mae dysgwyr yn ei chael am gamau nesaf ac ar gysondeb a dewis llwybrau.
Dangosodd llawer o ddysgwyr addysg bellach sgiliau pwnc neu alwedigaethol cryf, ac roedd eraill wedi ail-ymgysylltu â’u haddysg. Dangosodd prentisiaethau iau, sydd wedi bod yn nodwedd o adolygiad thematig diweddar, addewid sylweddol i rai dysgwyr 14-16 oed. Dangosodd gwasanaethau ieuenctid, maes y mae Estyn wedi dechrau ei arolygu eto yn ddiweddar, werth sylweddol wrth helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau, adeiladu gwytnwch a magu hyder. Her mewn addysg bellach oedd darparu digon o her i alluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial.
Parhaodd prentisiaethau dysgu seiliedig ar waith i ddangos cryfderau, gyda’r mwyafrif o ddysgwyr yn datblygu sgiliau ymarferol cynhwysfawr y gallent eu cymhwyso yn y gwaith. Er bod dysgwyr wedi datblygu sgiliau llafar a chyfathrebu’n dda, roedd yr addysgu a’r dysgu o ran medrau llythrennedd, rhifedd a digidol wedi’u hanelu’n ormodol at baratoi ar gyfer asesiadau allanol nad oedd bob amser yn addas. Roedd cyfraddau cwblhau mewn rhai meysydd blaenoriaeth, fel iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal a lletygarwch, yn rhy isel, er bod sawl ffactor yn cyfrannu, gan gynnwys llwybrau asesu addas. Roedd cynnydd darparwyr prentisiaethau wrth ddatblygu adnoddau dwyieithog yn nodedig.
Darparodd dysgu cymunedol i oedolion lwybr hanfodol i lawer o ddysgwyr ond yn aml nid oedd yn cynnig gwerth am arian oherwydd buddsoddiadau mawr a thymor-byr o gyllid anghynaladwy drwy’r rhaglen Multiply. Roedd y berthynas agos rhwng tiwtoriaid a’u dysgwyr yn gryfder arbennig, er bod y ddarpariaeth o wasanaethau cyfrwng Cymraeg, hyd yn oed mewn ardaloedd lle siaredir Cymraeg yn bennaf, yn wael.
Dangosodd y sector Cyfiawnder, pan oedd addysgu’n gryf, y gallai dysgwyr ddatblygu sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys medrau llythrennedd a rhifedd. Fodd bynnag, roedd ansawdd yr addysgu’n amrywio, ac nid oedd yn cyfrannu digon i ragolygon ar gyfer y dysgwyr ar ôl cael eu rhyddhau.
Yn olaf, dangosodd y sector Cymraeg i Oedolion gryfder sylweddol unwaith eto. Yn ogystal â darparwyr, arolygwyd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a daethpwyd o hyd i amgylchedd wedi’i strwythuro’n dda lle roedd dysgwyr wedi’u trochi’n fedrus yn yr iaith. Darparodd tiwtoriaid ddysgu cryf, gan roi’r ysgogiad i lawer barhau â’u dysgu ar gyrsiau dilynol ac uwch.
Yn gyffredinol, dangosodd y flwyddyn hon fod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond hefyd feysydd sydd angen gwelliant o hyd. Mae Estyn yn parhau’n ymrwymedig i gefnogi gwelliant drwy ein gweithgareddau, ac rydym wedi tynnu sylw at feysydd allweddol a all gryfhau’r ddarpariaeth.