Lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Skip to content

Lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Addysgu a dysgu

Mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn ac yn meithrin ystod eang o fedrau’n llwyddiannus trwy chwarae ac archwilio pwrpasol. Er bod llawer o ymarferwyr yn cynllunio profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb, yn hyrwyddo iaith a llythrennedd cynnar yn effeithiol ac yn defnyddio gwybodaeth asesu’n dda, nid yw ychydig o leoliadau’n nodi’r camau nesaf mewn dysgu yn ddigon cywir. Mae ychydig o leoliadau’n cael trafferth cefnogi datblygiad cynyddol medrau Cymraeg plant neu ddarparu digon o gyfleoedd i blant ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn unigol ac yn meithrin ystod eang o fedrau’n effeithiol. Mae llawer o ymarferwyr yn creu amgylcheddau dysgu ysgogol dan do ac yn yr awyr agored sy’n annog plant i ddod yn ddysgwyr chwilfrydig ac annibynnol.
  • Mae gan lawer o ymarferwyr ddealltwriaeth gadarn o sut mae plant yn dysgu trwy chwarae. Maent yn cynllunio profiadau dysgu ar sail diddordebau a chwilfrydedd plant.
  • Mae llawer o ymarferwyr yn modelu iaith yn dda. Maent yn defnyddio llyfrau Cymraeg a Saesneg yn rheolaidd i ysgogi chwilfrydedd plant a meithrin diddordeb cynnar mewn llyfrau. Maent yn darparu cyfleoedd pwrpasol i wneud marciau trwy chwarae rôl a chyd-destunau ystyrlon o fywyd go iawn.
  • Mae ymarferwyr yn y rhan fwyaf o leoliadau cyfrwng Cymraeg yn meithrin medrau Cymraeg plant yn dda ac yn trochi plant yn yr iaith trwy ganeuon, rhigymau a chwarae pwrpasol. Mae ymarferwyr mewn llawer o leoliadau cyfrwng Saesneg yn cyflwyno’r Gymraeg yn effeithiol trwy drefnau, storïau a chwarae.
  • Mae llawer o ymarferwyr yn defnyddio arsylwadau ac asesiadau’n dda i nodi cynnydd plant a llywio profiadau dysgu yn y dyfodol. Yn y lleoliadau cryfaf, mae ymarferwyr yn cynnal arsylwadau rheolaidd, yn rhannu gwybodaeth yn effeithiol ac yn addasu’r ddarpariaeth yn fedrus i ymateb i anghenion plant.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o leoliadau, nid yw prosesau arsylwi ac asesu bob amser yn nodi’r camau nesaf mewn dysgu yn gywir. Mae hyn yn rhwystro gallu ymarferwyr i ddarparu profiadau dysgu effeithiol.
  • Mewn ychydig o leoliadau, nid yw ymarferwyr yn hyderus yn eu medrau Cymraeg eu hunain ac, o ganlyniad, anaml y maent yn defnyddio’r Gymraeg. Yn y lleoliadau hyn, nid yw medrau Cymraeg plant wedi’u datblygu cystal.
  • Mewn ychydig iawn o leoliadau, nid yw cyfleoedd i blant archwilio a dathlu amrywiaeth ddiwylliannol wedi’u datblygu’n ddigonol.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae lleoliadau’n parhau i gefnogi lles plant yn effeithiol trwy berthnasoedd cynnes, trefniadau gofal a chymorth cadarn a chydweithio agos â rhieni ac asiantaethau allanol. Mewn ychydig iawn o leoliadau, nid yw arweinwyr yn cynnal cofnodion ysgrifenedig nac asesiadau risg priodol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae bron pob lleoliad yn darparu gofal, cymorth ac arweiniad cadarn sy’n cael effaith gadarnhaol ar les plant.
  • Mewn llawer o leoliadau, mae ymarferwyr yn hyrwyddo annibyniaeth plant yn llwyddiannus trwy eu galluogi i wneud dewisiadau pwrpasol am eu chwarae, eu dysgu a’u harferion dyddiol.
  • Mae plant yn meithrin perthnasoedd cynnes llawn ymddiriedaeth ag ymarferwyr ac yn elwa ar amgylcheddau meithringar lle maent yn teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gwrando arnynt.
  • Mae gan bron pob ymarferwr ddealltwriaeth gadarn o’i gyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu a lles plant. Maent yn annog plant i ddatblygu ffyrdd iach o fyw trwy weithgarwch corfforol rheolaidd a bwyta’n iach.
  • Mae llawer o ymarferwyr yn cydweithio’n agos â rhieni, gofalwyr ac asiantaethau allanol i nodi anghenion dysgu ychwanegol plant ac ymateb iddynt yn brydlon. Maent yn rhoi strategaethau cymorth pwrpasol ar waith ac yn elwa ar gydweithio amlasiantaethol cryf i sicrhau bod plant yn cael gofal a chymorth priodol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig iawn o leoliadau, nid yw arweinwyr yn cynnal cofnodion ysgrifenedig digon manwl, nid yw asesiadau risg yn nodi pob perygl posibl ac nid yw ymarferwyr yn gweithredu gweithdrefnau diogelu’n ddigon cyson.

Arwain a gwella

Mae llawer o arweinwyr yn rhoi cyfeiriad clir i’w lleoliadau trwy waith tîm effeithiol, dysgu proffesiynol a hunanwerthuso a chynllunio gwelliant pwrpasol. O ganlyniad, caiff ymarferwyr gymorth da i wella eu harfer. Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, nid yw arweinwyr yn nodi’r blaenoriaethau gwella pwysicaf yn ddigon clir nac yn gwerthuso effaith newidiadau’n effeithiol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinyddiaeth mewn llawer o leoliadau yn gadarn ac yn effeithiol, gyda ffocws clir ar les, dysgu a datblygiad plant.
  • Mae llawer o arweinwyr yn sefydlu timau cydweithredol lle mae ymarferwyr yn cydweithio’n effeithiol ac yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau’n dda.
  • Mae llawer o arweinwyr yn sicrhau gwelliant parhaus yn llwyddiannus trwy hunanwerthuso a chynllunio gwelliant effeithiol. Maent yn nodi cryfderau a blaenoriaethau ar gyfer datblygu’n gywir ac yn monitro effaith newidiadau’n ofalus.
  • Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr yn sicrhau bod ymarferwyr yn elwa ar gyfleoedd dysgu proffesiynol addas. Maent yn cydweithio’n agos â phartneriaid fel athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar i gryfhau gwybodaeth broffesiynol a gwella arfer.
  • Mae llawer o arweinwyr yn gwneud defnydd effeithiol o gyllid, gan gynnwys grantiau, i gefnogi gwelliannau a bodloni anghenion plant.
  • Mae llawer o leoliadau’n sefydlu partneriaethau buddiol â rhieni, gofalwyr ac ysgolion. Maent yn gwneud defnydd pwrpasol o’r gymuned ehangach i gyfoethogi profiadau dysgu plant.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o leoliadau, nid yw prosesau hunanwerthuso’n nodi’r blaenoriaethau pwysicaf yn ddigon clir nac yn gwerthuso effaith y ddarpariaeth yn effeithiol.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Arolygodd Estyn 90 o leoliadau meithrin nas cynhelir yn ystod blwyddyn academaidd 2025–2026. O’r rhain, cafodd 89 o leiaf un argymhelliad a rhoddwyd 4 mewn categori gweithgarwch dilynol. Gwnaeth arolygwyr 190 o argymhellion i gyd.

Cafodd chwe deg pump o leoliadau (72%) o leiaf un argymhelliad yn ymwneud ag addysgu a dysgu.

  • Cafodd tri deg dau o leoliadau (36%) argymhelliad i ddarparu neu wella cyfleoedd i blant feithrin eu medrau.
  • Cafodd dau ddeg wyth o leoliadau (31%) argymhelliad i ddefnyddio arsylwadau’n fwy effeithiol i gynllunio camau nesaf plant yn eu dysgu.
  • Cafodd dau ddeg dau o leoliadau (24%) argymhelliad i ddarparu mwy o gyfleoedd i blant ddysgu am ddiwylliannau gwahanol ac amrywiaeth o fewn cymdeithas.

Cafodd dau ddeg un o leoliadau (23%) o leiaf un argymhelliad yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad.

  • Roedd yr argymhellion hyn yn ymwneud â materion fel cynnal cofnodion ysgrifenedig digon manwl, cofnodi presenoldeb staff yn gywir, a chynnal a chofnodi ymarferion tân yn rheolaidd.

Cafodd pum deg saith o leoliadau (63%) o leiaf un argymhelliad yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth.

  • Cafodd dau ddeg pedwar o leoliadau (27%) argymhelliad i gryfhau gweithdrefnau hunanwerthuso.
  • Cafodd dau ddeg dau o leoliadau (24%) argymhelliad i fynd i’r afael â meysydd o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn ystod yr arolygiad.
  • Cafodd pymtheg o leoliadau (17%) argymhelliad yn ymwneud â datblygu staff, gan gynnwys ffurfioli neu wella trefniadau arfarnu a goruchwylio.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Meithrinfa Cae’r Ffair

Darllenwch am sut mae arweinwyr Meithrinfa Cae’r Ffair Meithrinfa Cae’r Ffair yn cynnwys ymarferwyr, rhieni a’r gymuned yn nysgu plant.

Allsorts Nursery

Darllenwch sut mae ymarferwyr ym Allsorts Nursery yn ymateb i ddiddordebau plant trwy roi cyfleoedd iddynt arbrofi â gwneud marciau a chyfathrebu â ffrindiau o leoliad arall. oliad arall.

Berriew Pre-school

Darllenwch sut mae arweinwyr yn Berriew Pre-school yn gwneud defnydd effeithiol o gyllid grant i gefnogi dysgu a meithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd. 

Darllenwch sut mae ymarferwyr yn Berriew Pre-school yn datblygu chwarae sgematig plant trwy arsylwadau gofalus a defnydd pwrpasol o’r amgylchedd.