Prif ffrwd annibynnol – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Skip to content

Prif ffrwd annibynnol

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Dysgu ac addysgu

Yn gyffredinol, mae disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu, yn ymddwyn yn barchus ac yn cymryd rhan yn hyderus mewn ystafelloedd dosbarth tawel a phwrpasol lle mae gan staff ddyheadau uchel ac mae addysgu’n cefnogi cynnydd effeithiol. Mae ysgolion hefyd yn cynnig cwricwlwm eang a chyfleoedd cyfoethog i ehangu profiadau disgyblion, ac yn eu cefnogi i feithrin hyder a medrau gweithio mewn tîm a chyfathrebu. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, roedd anghysondebau yn ansawdd yr addysgu, fel gweithgareddau a oedd yn cael eu gyfarwyddo’n ormodol gan athrawon, cyfleoedd cyfyngedig i feddwl yn annibynnol ac adborth nad oedd yn ddigon manwl gywir, yn golygu nad oedd disgyblion bob amser yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt i wneud y cynnydd gorau posibl.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu ac roeddynt yn ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd a staff.
  • Ym mron bob ysgol, mae ystafelloedd dosbarth fel arfer yn amgylcheddau tawel a phwrpasol lle mae’r disgyblion yn cymryd rhan yn hyderus, yn parhau i ymddiddori yn eu dysgu ac yn dangos balchder yn eu gwaith.
  • Mae ehangder y cwricwlwm a’r ystod eang o gyfleoedd i ehangu profiadau disgyblion yn gryfder yn y sector. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae arweinwyr yn sicrhau bod disgyblion yn elwa ar brofiadau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan gynnwys chwaraeon, y celfyddydau perfformio, dysgu yn yr awyr agored ac ystod o glybiau a gweithgareddau. Mae’r cyfleoedd hyn yn cefnogi datblygiad personol disgyblion ac yn eu helpu i feithrin hyder a medrau gweithio mewn tîm a chyfathrebu.
  • Ym mron bob ysgol, mae’r addysgu’n galluogi disgyblion i wneud cynnydd cadarn o leiaf, dros gyfnod. Yn gyffredinol, mae athrawon yn sefydlu disgwyliadau clir a chreu amgylcheddau dysgu cadarnhaol. Mewn llawer o wersi, mae gan  athrawon wybodaeth bynciol gadarn, yn enwedig wrth baratoi ar gyfer arholiadau cyhoeddus, a defnyddio dulliau holi ac adborth yn effeithiol i ddyfnhau dealltwriaeth disgyblion a meithrin eu medrau’n gynyddol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o ysgolion, mae anghysondebau yn ansawdd yr addysgu. Yn yr achosion hyn, lle mae’r dysgu’n llai effeithiol, mae gweithgareddau dysgu’n cael eu or-gyfarwyddo gan athrawon neu nid ydynt yn darparu digon o gyfleoedd cyson i ddisgyblion weithio’n annibynnol neu feddwl yn ddyfnach am eu dysgu.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw’r adborth i ddisgyblion yn nodi’r camau nesaf yn glir ac, o ganlyniad, yn cyfyngu ar ddealltwriaeth disgyblion o sut i wella ansawdd eu gwaith.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae perthnasoedd proffesiynol a chefnogol rhwng disgyblion a staff yn sail i amgylcheddau meithringar a chynhwysol ym mron bob ysgol. Mae systemau bugeiliol strwythuredig yn rhoi blaenoriaeth i les disgyblion ac mae rhaglenni addysg bersonol a chymdeithasol yn cefnogi disgyblion i feithrin hyder, gwydnwch ac ymwybyddiaeth foesol a chymdeithasol gadarn.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae perthnasoedd proffesiynol cadarn rhwng staff a disgyblion yn nodwedd gyson o’r sector. Mae staff yn adnabod disgyblion yn dda ac yn darparu cymorth bugeiliol sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at hyder a lles disgyblion a’u hymgysylltiad â dysgu.
  • Mae’r ddarpariaeth ar gyfer lles a datblygiad personol disgyblion yn gryfder nodedig yn y mwyafrif o ysgolion. Mae llawer o ysgolion yn darparu systemau bugeiliol sydd wedi’u strwythuro’n dda, rhaglenni addysg bersonol a chymdeithasol a chyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu medrau arwain. Mae’r ymagweddau hyn yn helpu disgyblion i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i ddatblygu ymwybyddiaeth foesol a chymdeithasol gadarn.
  • Ym mron bob ysgol, mae presenoldeb disgyblion yn gryfder ac yn cefnogi parhad mewn dysgu a lles.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o ysgolion, nid oes gan bob aelod o staff ddealltwriaeth ddigon cadarn o’r gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am bryderon diogelu yn ymwneud ag uwch arweinwyr.

Arwain a gwella

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae gan arweinwyr weledigaeth glir, maent yn uchelgeisiol ar gyfer eu disgyblion ac yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer staff, gan feithrin cymunedau cydlynus sy’n cydweithio ac yn canolbwyntio ar lwyddiant disgyblion. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, roedd gwendidau mewn goruchwyliaeth strategol a sicrhau ansawdd yn cyfyngu ar allu arweinwyr i werthuso effaith addysgu’n gywir neu sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2024.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer eu hysgol, maent yn uchelgeisiol ar gyfer eu disgyblion ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o’u staff.
  • Ym mron bob ysgol, mae arweinwyr yn creu cymunedau cydlynus sy’n cydweithio er budd gorau disgyblion.
  • Mewn llawer o ysgolion, roedd dysgu proffesiynol wedi’i alinio’n agos â blaenoriaethau’r ysgol ac yn helpu athrawon i fireinio eu harfer.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o’r ysgolion, nid yw’r perchennog wedi sicrhau bod pob agwedd ar Reoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2024 wedi’i bodloni. Mewn tair o’r ysgolion hyn, ni fodlonwyd y gofyniad i adnewyddu gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer staff bob tair blynedd.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae angen cryfhau llywodraethiant a goruchwyliaeth strategol i ddarparu ‘cyfeillgarwch beirniadol’ effeithiol. Yn yr ysgolion hyn, roedd cyrff llywodraethol neu berchnogion wedi dechrau cymryd camau i wella eu trefniadau goruchwylio.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae angen cryfhau prosesau sicrhau ansawdd ar gyfer gwerthuso addysgu a dysgu. Yn yr achosion hyn, roedd monitro’n canolbwyntio’n fwy ar weithredoedd athrawon nag ar ansawdd dysgu disgyblion, ac nid oedd arweinwyr bob amser yn meithrin dealltwriaeth ddigon cywir o effaith addysgu ar gynnydd.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026, cynhaliodd Estyn chwe arolygiad craidd a phum arolygiad monitro o ysgolion prif ffrwd annibynnol.

  • Cafodd mwyafrif yr ysgolion (6 o 11) argymhelliad yn ymwneud ag addysgu a dysgu, yn seiliedig ar ganolbwyntio ar wella cysondeb ac ansawdd yr addysgu, darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu annibynnol, effeithiolrwydd adborth a defnyddio gwybodaeth asesu i gynllunio’r camau nesaf mewn dysgu.
  • Cafodd un ysgol argymhelliad yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad, a oedd yn canolbwyntio ar gryfhau’r ddarpariaeth addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd (ABaCh) ac arweiniad gyrfaoedd.
  • Cafodd y rhan fwyaf o ysgolion argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella. O’r rhain, nid oedd pedair yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2024 a chawsant eu rhoi mewn categori gweithgarwch dilynol. Ar gyfer yr ysgolion hyn, un o’u hargymhellion ym maes arolygu 3 oedd cydymffurfio’n llawn â’r Safonau Ysgol Annibynnol. At hynny, roedd argymhellion dwy ysgol yn canolbwyntio’n benodol ar gryfhau llywodraethiant.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Redhill Preparatory School

Darllenwch sut mae cwricwlwm Redhill Preparatory School, wedi’i arwain gan waith ymchwil, wedi’i wreiddio yn yr amgylchedd ac yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o faterion fel cynaliadwyedd.

Haberdasher’s Monmouth School

Darllenwch sut mae Haberdasher’s Monmouth Schoolwedi creu diwylliant cryf o ddarllen.

St David's College

Darllenwch sut mae rhaglen gweithgareddau awyr agored St David’s College yn helpu disgyblion i ddatblygu gwydnwch, dyfalbarhad a hyder.

Darllenwch sut mae St David’s College yn ymgorffori gofalu am anifeiliaid yn y cwricwlwm i gefnogi lles disgyblion a darparu cyfleoedd dilys i gyfoethogi eu hastudiaethau academaidd