Unedau cyfeirio disgyblion (UCDau)
Mewnwelediadau cynnar 2025-2026
Addysgu a dysgu
Mae staff mewn llawer o unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol llawn ymddiriedaeth â disgyblion, gan eu helpu i deimlo’n ddiogel ac yn barod i ddysgu. Fodd bynnag, mae ansawdd yr addysgu yn parhau’n amrywiol ac, yn aml, nid yw cynllunio ar gyfer datblygiad cynyddol medrau disgyblion wedi’i ddatblygu’n ddigonol, sy’n cyfyngu ar gynnydd dros gyfnod.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae llawer o staff yn meithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth sy’n cefnogi ymgysylltiad disgyblion â dysgu.
- Mae llawer o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at eu gwaith.
- Mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas o’u mannau cychwyn pan fyddant yn mynychu’n rheolaidd. Mae’r mwyafrif yn ennill achrediad ffurfiol, ac mae ychydig yn ennill ystod ehangach o gymwysterau sy’n cyfateb i’w galluoedd a’u diddordebau.
- Mewn lleiafrif o UCDau, mae arweinwyr yn dechrau darparu profiadau dysgu mwy pwrpasol mewn cyd-destunau go iawn sy’n gwella ymgysylltiad a chymhelliant.
Beth sydd angen ei wella
- Mae ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn rhy amrywiol. Mae hyn yn cyfyngu ar ymgysylltiad a chynnydd disgyblion.
- Nid yw cynllunio ar gyfer datblygiad cynyddol medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm wedi’i ddatblygu’n ddigonol.
- Nid yw’r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg wedi’i datblygu’n ddigonol ac nid yw dysgwyr yn cael cyfleoedd cyfartal i’w datblygu.
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Ar draws UCDau, mae arweinwyr a staff yn rhoi lles disgyblion wrth wraidd eu gwaith. Mae hyn yn helpu llawer o ddisgyblion i wella eu hymddygiad, eu hyder a’u hymgysylltiad. Fodd bynnag, mae cyfraddau presenoldeb yn parhau’n rhy isel, mae gormod o ddisgyblion yn aros ar amserlenni rhan-amser am gyfnod rhy hir, ac nid oes digon o ddisgyblion yn dychwelyd i addysg brif ffrwd.
Beth sy’n mynd yn dda
- Ym mron pob UCD, mae perthnasoedd parchus ac ymagweddau meithringar yn creu amgylcheddau tawel ac yn cefnogi lles, ymddygiad ac ymgysylltiad disgyblion.
- Mae trefniadau diogelu yn gadarn ar y cyfan. Mae bron bob aelod o staff yn deall ei gyfrifoldebau ac mae llawer o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn cael cymorth da.
- Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr yn cydnabod presenoldeb fel blaenoriaeth ac yn cryfhau trefniadau i’w fonitro.
- Yn gyffredinol, mae staff yn dangos ymrwymiad cryf i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mewn llawer o UCDau, mae cymorth wedi’i deilwra sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn datblygu’n briodol, gyda chefnogaeth asiantaethau allanol.
- Mae bron pob UCD yn darparu cymorth gwerthfawr i ddisgyblion sy’n symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn lleiafrif o UCDau, nid yw’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu disgyblion sut i gadw eu hunain yn ddiogel wedi’i datblygu’n ddigonol. Yn ogystal, nid yw ychydig iawn o amgylcheddau dysgu yn addas i bwrpas.
- Mae presenoldeb yn parhau’n rhy isel ac, mewn ychydig o achosion, nid yw arweinwyr yn dadansoddi data presenoldeb yn ddigon gofalus.
- Mae’r defnydd o gynlluniau cymorth bugeiliol a’r modd y cânt eu hadolygu yn anghyson. O ganlyniad, mae gormod o ddisgyblion yn aros ar amserlenni wedi cwtogi am gyfnodau estynedig, gan gyfyngu ar eu mynediad at gwricwlwm eang a rhwystro cynnydd.
- Mewn ychydig o UCDau, mae strategaethau rheoli ymddygiad ac ymagweddau at reoli emosiynol yn anghyson. Mae gwaharddiadau am gyfnod penodedig yn parhau’n rhy uchel, ac nid yw arweinwyr bob amser yn defnyddio data ymddygiad yn ddigon da i lywio gwaith ataliol.
Arwain a gwella
Yn y rhan fwyaf o UCDau, mae arweinyddiaeth yn cael effaith gadarnhaol ar y ddarpariaeth ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad. Fodd bynnag, nid yw arweinwyr wedi sicrhau digon o welliant mewn addysgu, presenoldeb na medrau disgyblion. Mae pwyllgorau rheoli yn cyfrannu arbenigedd perthnasol, ond nid yw eu her na’u cyfraniad uniongyrchol at welliant wedi’u datblygu’n ddigonol.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth i les a chynhwysiant disgyblion, gan greu amgylcheddau meithringar a pherthnasoedd cadarnhaol, wrth nodi blaenoriaethau priodol i wella addysgu, dysgu a darpariaeth y cwricwlwm.
- Mae mwyafrif yr arweinwyr yn datblygu dealltwriaeth gadarn o ansawdd yr addysgu a’r dysgu trwy brosesau monitro, gwerthuso ac adolygu mwy systematig.
- Yn y rhan fwyaf o UCDau, mae dysgu proffesiynol yn dechrau cyd-fynd â blaenoriaethau gwella ac anghenion staff a disgyblion.
Beth sydd angen ei wella
- At ei gilydd, nid yw arweinyddiaeth yn sicrhau gwelliant cyson a chynaledig trwy hunanwerthuso, cynllunio gwelliant, dysgu proffesiynol na goruchwyliaeth strategol effeithiol.
- Nid yw arweinwyr yn gwella addysgu a dysgu na phresenoldeb yn ddigon cyflym nac yn ddigon cyson.
- Yn gyffredinol, mae pwyllgorau rheoli yn gefnogol, ond nid ydynt yn herio arweinwyr yn ddigon cadarn nac yn ymgysylltu’n ddigonol ag addysgu a dysgu.
- Mae llety ac amgylcheddau dysgu yn amrywio gormod ar draws yr UCDau a arolygwyd gennym.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Arolygwyd pedwar darparwr yn y sector UCDau yn ystod 2025–2026, a rhoddwyd dau ohonynt mewn categori statudol.
Cafodd pob un o’r pedwar darparwr argymhellion yn ymwneud ag addysgu a dysgu.
Cafodd tri darparwr (75%) argymhelliad i wella ansawdd addysgu, dysgu ac asesu, gan sicrhau ffocws clir ar gynnydd a deilliannau disgyblion.
Cafodd dau ddarparwr (50%) argymhelliad i gryfhau cynllunio a’r ddarpariaeth ar gyfer medrau.
Cafodd un darparwr (25%) argymhelliad i barhau i gryfhau’r arlwy cwricwlwm i fodloni anghenion a diddordebau’r disgyblion.
Cafodd pob darparwr argymhellion yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad.
Cafodd pob darparwr (100%) argymhelliad i wella presenoldeb, gan gynnwys lleihau nifer y cynlluniau cymorth bugeiliol mewn dau achos.
Cafodd un darparwr (25%) argymhelliad i fynd i’r afael â’r pryderon diogelu a nodwyd yn ystod yr arolygiad.
Cafodd un darparwr (25%) argymhelliad i gryfhau arweinyddiaeth strategol a’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY.
Cafodd pob darparwr (100%) o leiaf un argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella, gan amlaf yn ymwneud â chryfhau arweinyddiaeth a phrosesau hunanwerthuso.
Cafodd un darparwr (25%) argymhelliad i ddatblygu arweinyddiaeth ar y cyd er mwyn cynyddu capasiti cyfunol yr UCD.
Cafodd tri darparwr (75%) argymhellion i gryfhau rôl y pwyllgor rheoli.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau
Canolfan Addysgu a Dysgu Sir Gaerfyrddin
Darllenwch am sut mae Canolfan Addysgu a Dysgu Sir Gaerfyrddin yn darparu cymorth buddiol i ddisgyblion dan anfantais economaidd.