Addysg gychwynnol i athrawon
Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.
What’s going well
- Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gadarnhaol am ymuno â’r proffesiwn addysgu. Yn benodol, maent yn mwynhau eu profiadau ysgol ac yn meithrin perthynas waith dda â disgyblion a staff ysgolion.
- Mae staff partneriaethau’n teimlo bod myfyrwyr wedi meithrin gwydnwch a hyblygrwydd trwy fod wedi gorfod gweithio o fewn cyfyngiadau’r pandemig.
- Mae gan bartneriaethau strategaethau buddiol i gefnogi lles myfyrwyr. Mae ‘cysylltu’ â thiwtoriaid prifysgol a chymheiriaid yn rheolaidd yn helpu myfyrwyr i drafod unrhyw faterion a chanolbwyntio ar eu cynnydd.
- Wrth i gyfyngiadau’r pandemig gael eu llacio, roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyfarfod â thiwtoriaid a’u cymheiriaid wyneb-yn-wyneb. Helpodd hyn iddynt feithrin perthnasoedd proffesiynol cadarnhaol.
- At ei gilydd, mae partneriaethau’n defnyddio eu systemau olrhain yn ddefnyddiol i gynorthwyo myfyrwyr sy’n cwympo ar ei hôl hi o ran eu cynnydd.
What needs to improve
- Mewn rhai achosion, mae myfyrwyr yn cael trafferth rheoli eu llwyth gwaith, yn enwedig wrth gydbwyso gorchmynion aseiniadau a pharatoi ar gyfer addysgu.
- Mae rhai myfyrwyr yn ystyried bod eu haseiniadau academaidd yn angenrheidiol i lwyddo yn y rhaglen, yn hytrach nag yn ffordd i wella eu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu.
- Mae amrywioldeb sylweddol o ran cynlluniau gwersi myfyrwyr.
What’s going well
- Mae pob partneriaeth wedi llunio rhaglenni AGA sydd â sail resymegol glir yn seiliedig ar ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru. O ganlyniad, mae myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o nodweddion allweddol y Cwricwlwm i Gymru yn dda.
- Mae cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr cynradd ac uwchradd weithio ar draws y cyfnodau i archwilio gwaith trawsgwricwlaidd a datblygu dulliau addysgu a dysgu gwahanol.
- Yn yr enghreifftiau gorau, mae cynnwys y rhaglen yn alinio’n dda i greu cysylltiadau effeithiol rhwng theori ac arfer. Mae hyn yn fwyaf effeithiol lle mae cyfathrebu clir ynghylch cynnwys y rhaglen ar draws y bartneriaeth.
- Mae pob partneriaeth yn datblygu systemau electronig defnyddiol i olrhain cynnydd myfyrwyr a’u helpu i gymryd perchenogaeth dros eu datblygiad eu hunain.
What needs to improve
- Mewn ychydig o bartneriaethau, nid oes gan fyfyrwyr, yn enwedig y rhai ar raglenni uwchradd, ddealltwriaeth ddigon da o sut i gynllunio’n effeithiol i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm.
- Yn rhannol oherwydd y pandemig, mae profiad myfyrwyr o weld dylunio a chyflwyno’r cwricwlwm yn effeithiol yn rhy amrywiol.
- Mae mentoriaid wedi ymrwymo i gynorthwyo eu myfyrwyr a’u helpu i ddatblygu strategaethau addysgu. Fodd bynnag, nid yw digon ohonynt yn annog myfyrwyr yn rheolaidd i gysylltu theori ag arfer na’u helpu i feddwl yn greadigol am eu haddysgu.
- Dim ond megis dechrau cael ei ddatblygu y mae gwaith i sicrhau bod mentoriaid yn gwerthuso cynnydd myfyrwyr mewn ysgolion yn gywir ac yn gyson. Dolen i adnodd.
What’s going well
- Mae gan bob partneriaeth strwythur arweinyddiaeth clir sy’n cynrychioli cymuned y bartneriaeth yn dda. Mae partneriaid wedi ymrwymo i gydweithio ac yn dangos dymuniad gwirioneddol i gynorthwyo i ddiwygio AGA yng Nghymru.
- Mae’r rhan fwyaf o bartneriaethau wedi datblygu is-grwpiau arweinyddiaeth buddiol i ysgogi datblygiad meysydd pwysig o waith y bartneriaeth.
- Mae’r holl bartneriaethau’n cynllunio cyfleoedd rheolaidd i fyfyrio ar ansawdd y rhaglen a deilliannau myfyrwyr ar sail data a thystiolaeth uniongyrchol, gan gynnwys safbwyntiau myfyrwyr.
- Mae gan bob partneriaeth strategaeth glir i ddatblygu ymchwil ac ymholi ar draws y bartneriaeth. Yn yr achosion mwyaf effeithiol, mae tiwtoriaid a mentoriaid yn defnyddio eu hymchwil eu hunain i gefnogi dysgu myfyrwyr.
What needs to improve
- At ei gilydd, nid yw prosesau hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant yn ddigon miniog, yn enwedig o ran nodi’r hyn y mae angen ei wella mewn addysgu a phrofiadau dysgu. Dolen i adnodd.
- Er bod pob partneriaeth yn casglu cyfoeth o wybodaeth am safbwyntiau myfyrwyr, nid ydynt yn triongli hyn yn ddigon da â ffynonellau eraill o dystiolaeth.
- Mae cyfyngiadau’r pandemig wedi golygu nad yw partneriaethau wedi ymgymryd â gweithdrefnau sicrhau ansawdd a datblygu mentoriaid unigol fel y cynlluniwyd. O ganlyniad, mae myfyrwyr wedi cael profiadau sydd wedi amrywio’n sylweddol.