Darparwyr sydd wedi gwella’n gyflym ac nad oes angen eu monitro mwyach
Pan fydd arolygwyr yn nodi diffygion difrifol o ran ansawdd a chysondeb addysgu, ac effeithiolrwydd arweinyddiaeth yn gyffredinol adeg yr archwiliad craidd, mae darparwyr yn cael eu rhoi mewn dilyniant. Ar gyfer ysgolion ac UCDau, mae dau gategori statudol o ddilyniant (angen mesurau arbennig neu angen gwelliant sylweddol). Mae gan sectorau eraill drefniadau gwahanol, ond mae gan bob un lefelau o ddilyniant. Yna, mae arolygwyr yn monitro’r gwelliannau y mae’r darparwyr yn eu gwneud dros amser. Rydym yn parhau i fonitro darparwr nes bod y gwelliannau’n ddigon cadarn i gael effaith ar ddeilliannau i ddysgwyr, ac mae arweinwyr yn dangos gallu gwell i sicrhau rhagor o welliannau. Fe wnaeth dau ddeg saith o ddarparwyr gwrdd â’r meini prawf hyn a chawsant eu tynnu o ddilyniant yn 2021-22.
Gellir dysgu gwersi gwerthfawr gan ddarparwyr sydd wedi’u tynnu o ddilyniant. Mae’r rhain yn cynnwys gwersi am sut i wneud cynnydd cyflym a beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio o ran cefnogi gwelliant.
Pa welliannau ydym yn eu nodi?
- Mae presenoldeb yn gwella a gwaharddiadau’n gostwng.
- Mae ymddygiad, ymgysylltiad ac agweddau dysgwyr tuag at ddysgu yn gwella.
- Wrth i ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth wella, mae dysgwyr yn dysgu mwy ac yn cyflawni’n well.
Pa welliannau ydym yn eu nodi?
- Mae gan ddarparwyr sy’n gwella gyd-ddealltwriaeth o sut olwg sydd ar arfer dda.
- Yn aml, mae staff yn cydweithio â’i gilydd i lunio agweddau nad ydynt yn agored i drafodaeth y mae pawb yn eu harddel.
- Mae arweinwyr yn cynnig cymorth, mentora a dysgu proffesiynol y mae ymarferwyr yn eu gweld yn ddefnyddiol.
- Mae arweinwyr yn ffocysu eu monitro i nodi’n gywir beth sydd wedi gwella (a’i effaith ar ddeilliannau dysgwyr) a’r hyn sydd angen sylw o hyd.
- Mae’r cwricwlwm wedi’i ddylunio’n ofalus i fodloni anghenion dysgwyr unigol a’r gymuned leol.
What still needs to improve?
Mewn ychydig o achosion:
- nid oes gan staff ddisgwyliadau digon uchel o’r hyn y gallai eu dysgwyr ei gyflawni
- nid yw staff yn asesu dysgu dysgwyr yn ddigon manwl gywir i nodi’n fanwl a chynllunio ar gyfer eu camau nesaf
- mae staff yn cael trafferth derbyn nad yw eu harfer broffesiynol eu hunain yn galluogi pob un o’r dysgwyr i wneud y cynnydd y dylent ei wneud
Pa welliannau ydym yn eu nodi?
- Mae arweinwyr yn meithrin ymdeimlad o waith tîm ymhlith eu staff.
- Mae arweinwyr yn ddetholus wrth benderfynu beth i’w flaenoriaethu ac yn cydnabod bod ymwreiddio gwelliannau yn cymryd amser a bod rhaid teilwra unrhyw strategaethau newydd i anghenion y darparwr.
- Mae arweinwyr yn dangos gwydnwch a chadernid ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel. Nid ydynt yn derbyn esgusodion na darpariaeth nad yw’n ddigon da.
- Mae monitro’n fwy miniog, mae cynllunio gwelliant yn ystwyth ac yn ymatebol ac mae arweinwyr yn dwyn yr holl staff (gan gynnwys nhw’u hunain) i gyfrif.
- Mae arweinyddiaeth wedi’i datganoli ac mae uwch arweinwyr yn rhannu cyfrifoldebau’n briodol ar draws yr uwch dîm arweinyddiaeth a’r tu hwnt i feithrin gallu. Dolen i adnodd.
- Mae gan arweinwyr berthynas waith gryfach â’u hawdurdod lleol.
- Caiff cymorth a her effeithiol eu cynnig gan unrhyw fyrddau goruchwyliol, fel y corff llywodraethol, y bwrdd gwella ysgolion neu bwyllgor rheoli’r UCD.
- Mae arweinwyr yn ceisio barn yr holl randdeiliaid ac yn gweithredu arni.
Beth sydd angen ei wella o hyd?
Yn aml, mae angen cymorth ar arweinwyr:
- i ddefnyddio tystiolaeth eang yn ddigon miniog i nodi’r blaenoriaethau gwella cywir iddyn nhw’u hunain
- i ddatblygu rôl arweinwyr canol
O bryd i’w gilydd, nid yw’r cymorth a’r her sy’n cael eu cynnig gan y rhanbarthau, awdurdodau lleol a chyrff llywodraethol i gefnogi gwelliant mewn ysgolion ac UCDau yn ddigon cadarn.