Themâu allweddol
Gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru
2022-2023
Yn ystod 2022-2023, parhaodd darparwyr ledled Cymru i ddatblygu eu hymagweddau tuag at weithredu Cwricwlwm i Gymru. Roedd gweithredu’r cwricwlwm yn statudol ar gyfer ysgolion ac UCDau sydd â disgyblion oedran cynradd a lleoliadau nas cynhelir o fis Medi 2022. Roedd gweithredu’r cwricwlwm ar gyfer ysgolion ac UCDau sydd â disgyblion oedran ysgol uwchradd yn orfodol o fis Medi 2023 ar gyfer Blynyddoedd 7 ac 8. Fodd bynnag, dewisodd tua hanner yr ysgolion uwchradd weithredu’r cwricwlwm ar gyfer Blwyddyn 7 flwyddyn yn gynnar, o fis Medi 2022, ynghyd â thua chwarter o ysgolion arbennig ac UCDau.
Lle’r oedd datblygiadau cwricwlaidd yn fwyaf llwyddiannus, roedd darparwyr yn blaenoriaethu gwella ansawdd yr addysgu ochr yn ochr â chynllunio eu cwricwlwm. Yn ychwanegol, canolbwyntiodd y darparwyr hyn yn fanwl ar gynorthwyo athrawon ac ymarferwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o gynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm. Gweithiodd llawer o ddarparwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddilyniant addas yn eu cwricwlwm ac ystyried sut beth yw cynnydd effeithiol gan ddisgyblion. Yr agwedd hon ar gynllunio’r cwricwlwm, ynghyd â datblygu ymagweddau asesu at gefnogi addysgu a dysgu, yw’r agweddau mwyaf heriol i ysgolion ar hyn o bryd. Byddai arweinwyr ysgolion yn elwa ar ganllawiau cenedlaethol mwy penodol am ddisgwyliadau gofynnol o gynnydd ar gyfer disgyblion ar wahanol adegau. Byddai hyn yn helpu arweinwyr i ystyried sut maent yn cynllunio cwricwlwm cynyddol ar gyfer eu disgyblion.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn destun gwerthusiad i ddeall sut mae’r diwygiadau’n gweithio a’r graddau y maent yn cael yr effaith ddymunol ar gyfer yr holl ddysgwyr, ni waeth beth yw eu cefndir neu’u hanghenion. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun gwerthuso ym mis Medi 2023.
Y cwricwlwm o fewn sectorau
Mewn lleoliadau nas cynhelir, gwelsom nifer gynyddol yn dechrau gweithredu Cwricwlwm i Gymru a’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir yn llwyddiannus. Yn yr enghreifftiau mwyaf effeithiol, roedd gan ymarferwyr ddealltwriaeth glir o sut mae cynllunio i ymateb i ddiddordebau a cham datblygu plant yn cefnogi cynnydd mewn dysgu. Mewn llawer o leoliadau lle roedd addysgu’n gryf, roedd ymarferwyr yn gwybod pryd i ymyrryd a phryd i gamu’n ôl i roi amser i blant weithio allan drostynt eu hunain.
Mewn ysgolion cynradd, roedd mwyafrif yn gwneud cynnydd da wrth iddynt weithredu’r Cwricwlwm i Gymru. Gwnaeth ychydig o ysgolion fwy o gynnydd ac roeddent yn gwreiddio eu dull gan gynnwys disgyblion mewn cynllunio’r cwricwlwm mewn ffordd ystyrlon. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, roedd yn ddyddiau cynnar o hyd o ran gwneud cynnydd i weithredu’r cwricwlwm. Yn aml, nid oedd gan yr ysgolion hyn ddealltwriaeth ddigon cadarn o egwyddorion Cwricwlwm i Gymru, ac roeddent yn addasu cynllunio i ganolbwyntio ar beth mae disgyblion yn ei ddysgu, yn hytrach na sut maent yn dysgu. Yn yr achosion hyn, nid oedd eu cwricwlwm yn ymgorffori agweddau pwysig fel medrau trawsgwricwlaidd.
Datblygodd mwyafrif o ysgolion uwchradd weledigaeth addas ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. At ei gilydd, roedd parodrwydd ysgolion i gyflwyno’u cwricwlwm yn rhy amrywiol. Yn yr enghreifftiau gorau, treialodd ysgolion ddulliau cyn mynd ati i werthuso a mireinio. Bu lleiafrif o ysgolion uwchradd yn cydweithio’n bwrpasol â’u hysgolion cynradd i ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddysgu. Mewn ychydig iawn o achosion, arweiniodd hyn at gwricwlwm mwy cydlynus i gefnogi cynnydd disgyblion wrth iddynt bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Yn yr achosion hynny lle roedd cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru wedi bod yn llai llwyddiannus, nid oedd ysgolion yn aml yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar sicrhau addysgu neu gyflwyno effeithiol, a oedd wedi cael ei lesteirio gan gamddehongli egwyddorion allweddol.
Mewn rhai ysgolion uwchradd, gwelsom ddisgyblion yn dechrau cyrsiau TGAU ar ddechrau Blwyddyn 9. O ganlyniad, roedd y disgyblion hyn yn cael cyfleoedd cyfyngedig i ddatblygu a dyfnhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ar draws y cwricwlwm cyn gwneud eu dewisiadau cymhwyster. Yn ychwanegol, cyflwynodd ychydig o ysgolion ymagwedd garwsél at eu cwricwlwm lle roedd disgyblion yn cylchdroi pynciau penodol ar draws y flwyddyn. Roedd y dull hwn yn aml yn cyfyngu ar gyfleoedd disgyblion i atgyfnerthu eu dysgu, a gwneud cynnydd ynddo. Roedd hyn hefyd yn gwneud dilyniant i Flwyddyn 10 yn fwy heriol.
Mewn ysgolion pob oed, sefydlodd arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer y cwricwlwm, yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau a gwella addysgu. Roeddent yn annog athrawon i dreialu ymagweddau at addysgu, a thrwy werthuso systematig, yn addasu eu darpariaeth yn seiliedig ar eu canfyddiadau. Roedd rhai o’r gwendidau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn amlwg yn y sector hwn, hefyd.
Parhaodd yr unedau cyfeirio disgyblion yr ymwelom â nhw i ystyried sut orau i weithredu’r Cwricwlwm i Gymru a chanllawiau addysg heblaw yn yr ysgol (Llywodraeth Cymru, 2020). At ei gilydd, roedd hyn yn digwydd ar raddau datblygu amrywiol, ac yn gyffredinol, canfuom fod ansawdd ac effaith y gwaith hwn yn amrywiol. Yn yr enghreifftiau mwyaf effeithiol, roedd ehangder a dyfnder addas i’r cynnig cwricwlwm ac roedd yn cefnogi dysgu a chynnydd disgyblion a’u hanghenion iechyd emosiynol a therapiwtig. Gallwch chi ddarllen mwy yn ein hadroddiad ar degwch profiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) (Estyn, 2023).
Parhaodd ysgolion arbennig a gynhelir i ganolbwyntio ar sicrhau cwricwlwm a oedd yn briodol o eang a chytbwys. Canfuom fod cynllunio cwricwlwm cydweithredol yn nodwedd gref mewn ysgolion arbennig, ar y cyfan. Roedd hyn yn ymgorffori syniadau gan ddisgyblion ac aelodau staff, fel ei gilydd.
Mewn partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon, gwelsom eu bod yn cyflwyno myfyrwyr i egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru yn briodol. Fodd bynnag, nid oedd myfyrwyr yn gyffredinol yn cael eu cynorthwyo’n ddigon da i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r Cwricwlwm i Gymru. Roedd hyn yn aml oherwydd bod eu dealltwriaeth o’r modd yr oedd y Cwricwlwm i Gymru yn gweithio’n ymarferol dim ond wedi’i gyfyngu i’r hyn yr oeddent yn ei arsylwi yn eu hysgolion lleoli. Mewn ychydig o achosion, atgyfnerthodd ysgolion gamdybiaethau yn ymwneud â chynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm. Nid oedd partneriaethau’n nodi a mynd i’r afael â hyn yn ddigon da trwy eu prosesau gwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella.
Ystyriaethau allweddol i ysgolion wrth ddatblygu a gweithredu eu cwricwlwm. Mae’r rhain yn cynnwys heriau a chamdybiaethau cyffredin, sy’n gallu effeithio ar gynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm.
Y pedwar diben
Pan oedd ysgolion yn deall yn eglur sut i greu cwricwlwm effeithiol wedi’i arwain gan ddiben, roeddent yn canolbwyntio llai ar helpu disgyblion i wybod beth oedd y pedwar diben, ac yn canolbwyntio yn hytrach ar gynllunio profiadau dysgu difyr a oedd yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben, a’u hymgorffori. Roedd gan yr ysgolion hyn ddealltwriaeth glir o sut i gynllunio dysgu sy’n cefnogi cynnydd disgyblion ac yn datblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, nid oedd ysgolion yn ystyried sut gallent ddatblygu gwybodaeth, medrau a phrofiadau disgyblion i gyflawni’r pedwar diben yn ddigon da. Yn ychwanegol, mewn ychydig o achosion, roedd ysgolion yn gofyn i athrawon nodi pa rai o’r pedwar diben y byddent yn eu cynnwys mewn gwersi unigol, ac yn gofyn iddynt geisio gwerthuso p’un a oedd disgyblion yn bodloni’r dibenion yn y gwersi hyn. Roedd yr arfer hon yn aml yn ddi-fudd, gan nad oedd yn cynorthwyo staff i alluogi disgyblion i ddatblygu tuag at y pedwar diben yn y ffordd fwriadol, gyfannol.
Creodd ychydig o ysgolion gymeriadau i gynrychioli pob un o bedwar diben y cwricwlwm. Er bod hyn yn gweithio’n dda mewn rhai achosion, er enghraifft wrth helpu disgyblion i nodi’r pedwar diben, yn aml, roedd yn achosi i ddisgyblion feddwl y gallent ond cynrychioli un diben ar unrhyw adeg benodol.
Pwysigrwydd addysgu
Lle’r oedd darparwyr wedi datblygu’r cwricwlwm yn hynod lwyddiannus, roeddent yn blaenoriaethu gwella ansawdd yr addysgu ochr yn ochr â chynllunio’u cwricwlwm. Yn yr achosion mwyaf effeithiol, roedd arweinwyr yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol yn bwrpasol i gynorthwyo staff i wella’u harfer. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, roeddent yn helpu staff i ystyried sut mae addysgu effeithiol a chwricwlwm o ansawdd uchel yn ategu ei gilydd.
Yn gyffredinol, lle roedd y cwricwlwm yn llai effeithiol o ran gwella dysgu, roedd arweinwyr yn canolbwyntio gormod ar ddatblygu cynnwys y cwricwlwm ar draul gwella addysgu. Yn yr achosion hyn, roedd arweinwyr yn canolbwyntio’n ormodol ar ‘beth’ maent yn ei addysgu, ac nid oeddent yn darparu digon o amser na dysgu proffesiynol i alluogi athrawon i feddwl ‘sut’ orau i addysgu gwahanol agweddau ar eu cwricwlwm.
Datblygu annibyniaeth
Lle’r oedd athrawon yn datblygu annibyniaeth yn effeithiol, roeddent yn meddwl yn ofalus am y dysgu bwriadedig. Roeddent yn cynllunio profiadau dysgu a oedd yn adeiladu’n fuddiol ar ei gilydd. Roedd athrawon yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu’r medrau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth oedd eu hangen arnynt ac yn cymhwyso’r rhain yn annibynnol mewn cyd-destunau newydd a weithiau mwy heriol.
Mewn ychydig o achosion, gwelsom ysgolion yn dechrau cyflwyno arferion dysgu sylfaen ar ddiwedd y sector cynradd a thu hwnt. Yn aml, nid oedd gan yr ysgolion hyn ddealltwriaeth ddigon cryf o sut gall yr arfer hon gynorthwyo disgyblion hŷn. Er enghraifft, roedd athrawon yn gosod ystod o ‘genadaethau’ neu ‘heriau’ i ddisgyblion weithio’n annibynnol, heb sicrhau bod gan ddisgyblion y wybodaeth, y medrau a’r ddealltwriaeth roedd eu hangen arnynt i lwyddo. Mewn gormod o achosion, roedd diffyg her a diben yn y tasgau yr oedd disgyblion yn ymgymryd â nhw, gydag ychydig iawn o gymorth gan oedolyn, os o gwbl, ac nid oeddent yn gwneud rhyw lawer i ymestyn dysgu’r disgyblion. O ganlyniad, roedd disgyblion yn gwneud cynnydd cyfyngedig.
Parhaodd lleoliadau nas cynhelir, ysgolion ac UCDau i ddatblygu eu dulliau i alluogi disgyblion i ddylanwadu ar eu dysgu eu hunain. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd staff yn cychwyn trafodaethau ystyrlon â disgyblion am beth hoffent ei ddysgu, a sut. Roeddent hefyd yn sicrhau bod gan yr holl oedolion ddealltwriaeth glir o’r dysgu bwriadedig. Sicrhaodd hyn fod athrawon yn gallu cynllunio’n ofalus i gefnogi cynnydd disgyblion. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, roedd athrawon yn canolbwyntio gormod ar beth ddywedodd disgyblion yr oeddent eisiau ei ddysgu ac nid oeddent yn ystyried p’un a oedd hyn yn briodol, a sut roedd yn cyd-fynd â thaith ddysgu disgyblion. Mae’n bwysig fod arweinwyr yn helpu athrawon i ddeall sut i arwain a chyfeirio dysgu tra’n rhoi cyfleoedd perthnasol i ddisgyblion ddylanwadu ar beth maent yn ei ddysgu, a’r ffordd y maent yn gwneud hynny.
Hyrwyddo Cynefin a datblygu diwylliant gwrth-hiliol a chynhwysol
Fel rhan o ddatblygu eu cwricwlwm, ystyriodd llawer o ysgolion ac UCDau sut roeddent yn galluogi pob un o’r disgyblion i deimlo eu bod yn rhan o’r ysgol a’r gymuned leol, a sut roeddent yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn, Cynefin. Yn gynyddol, fel rhan o hyn, roedd ysgolion ac UCDau yn ystyried sut gallent ddatblygu diwylliant gwrth-hiliol a chynhwysol. Yn yr achosion gorau, roedd athrawon yn ystyried sut roeddent yn defnyddio cyfleoedd dysgu i ddatblygu synnwyr o Gynefin, yn ogystal ag addysgu disgyblion am Gymru a’r byd ehangach. Roeddent yn cynnwys cyfleoedd pwrpasol i ddisgyblion ddysgu am ddiwylliant a hanes pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbili, fel rhan o’u taith tuag at gwricwlwm gwrth-hiliol, defnyddiodd arweinwyr a staff eu gwerthusiadau yn dda i wella’r ffordd roeddent yn galluogi eu cwricwlwm i uniaethu â diddordebau’r disgyblion eu hunain. Arweiniodd hyn at ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd dathlu amrywiaeth ac o hyrwyddo cynhwysiant ar draws yr ysgol. Fodd bynnag, mewn mwyafrif o ysgolion, megis dechrau datblygu oedd yr agwedd hon.
Mewn ychydig o achosion, canolbwyntiodd ysgolion yn rhy gyfyng ar eu bro wrth ddatblygu eu hymagwedd at y cwricwlwm, ac ni roesant ystyriaeth ddigon da i sut roeddent yn addysgu disgyblion am Gymru a’r byd ehangach. O ganlyniad i hyn, roedd athrawon ond yn cynllunio profiadau dysgu a oedd yn gysylltiedig â diwylliannau a phrofiadau a oedd eisoes yn gyfarwydd i ddisgyblion yn yr ysgol. Nid oedd yr arferion hyn yn cynorthwyo disgyblion yn ddigon da i ddatblygu dealltwriaeth o’r diwylliannau amrywiol yng Nghymru, o fewn eu cymunedau, a’r tu allan, ac nid oeddent yn helpu disgyblion i greu cysylltiadau ar draws eu dysgu. Lle’r oedd ysgolion yn hynod effeithiol, roedd ganddynt gwricwlwm cynlluniedig a oedd yn atgyfnerthu diwylliant cynhwysol a gwrth-hiliol trwy gael gwerthoedd clir yr oedd pob un o’r disgyblion yn falch o’u cynnal. Fel rhan o’r diwylliant cynhwysol hwn, roedd yr ysgolion hyn yn llwyddiannus o ran hyrwyddo hawliau disgyblion LHDTC+ ac yn creu amgylchedd cadarnhaol lle roedd disgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Asesu a chynnydd
Y pryder mwyaf cyffredin a gododd arweinwyr a staff yn ystod ein harolygiadau oedd datblygu ymagweddau at asesu a dilyniant. Yn fwyaf cyffredin, roedd staff yn poeni am sut gallent fesur ac olrhain cynnydd disgyblion yn effeithiol. Yn aml, teimlai darparwyr ar gam fod angen iddynt newid eu holl ymagweddau at asesu wrth iddynt ddatblygu eu cwricwlwm. At ei gilydd, mae angen arweiniad mwy ymarferol ar arweinwyr am y disgwyliadau ar gyfer cynnydd disgyblon trwy gydol eu haddysg. Yn yr achosion mwyaf effeithiol, roedd arweinwyr a staff yn ystyried yn ofalus pa arferion asesu effeithiol yr oeddent yn eu defnyddio ar hyn o bryd a sut gallent barhau i ddefnyddio’r rhain i lywio dysgu’r disgyblion. At ei gilydd, dylid defnyddio asesu i nodi cryfderau disgyblion a’r meysydd i’w gwella, a galluogi staff i gynllunio addysgu i gefnogi a mynd i’r afael â chamdybiaethau ac adeiladu ar gynnydd blaenorol disgyblion. Yn ystod ein harolygiadau, gwelsom, yn gyffredinol, nad oedd dysgu proffesiynol yn cynorthwyo staff yn ddigon da i wella’u hymagweddau at asesu ac addysgu ac nid oedd bob amser yn ddigon ymarferol i ddiwallu anghenion athrawon. Yn ychwanegol, nid oes ffocws digon cryf wedi bod ar gefnogi datblygiad addysgegau pwnc a sector, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.
Cyfeiriadau
Estyn (2023) Tegwch profiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY). Caerdydd: Estyn. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.estyn.gov.wales/system/files/2023-06/Tegwch%20profiadau%E2%80%99r%20cwricwlwm%20ar%20gyfer%20disgyblion%20sy%E2%80%99n%20derbyn%20addysg%20heblaw%20yn%20yr%20ysgol%20%28AHY%29.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]
Llywodraeth Cymru (2020) Addysg heblaw yn yr ysgol (AHY). Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cynllunio-eich-cwricwlwm/addysg-heblaw-yn-yr-ysgol-ahy [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]