Skip to content

Adroddiad sector

Uwchradd

2022-2023





Ffynhonnell: Rhestr gyfredol o ysgolion Llywodraeth Cymru. Cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD) Llywodraeth Cymru.

Darparwyr

178

Nifer o ddarparwyr 2023

41

Nifer o ddarparwyr cyfrwng Cymraeg 2023

121

Nifer o ddarparwyr sydd â chweched dosbarth


Disgyblion

174,948

Cyfanswm disgyblion

175,957

Cyfanswm disgyblion 2021-22

174,133

Cyfanswm disgyblion 2020-21

155,676

Nifer o ddisgyblion oed uwchradd (addysg orfodol)

19,272

Nifer o ddisgylblion chweched dosbarth

21%

Canran o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim

4%

Canran gyda Saesneg fel iaith ychwanegol (A,B,C)

16%

Canran o ddisgyblion sy’n gallu siarad Cymraeg

15%

Canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 28

Cyfrwng Cymraeg: 7

Cyfrwng Saesneg: 21

Ymweliadau ymgysylltu: 5

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 11

Gweithgarwch dilynol

Nifer o fewn y categori dilynol Medi 2022

MA: 8

GS: 3

AE: 3

Nifer a dynnwyd allan 2022-23

MA: 5

GS: 0

AE: 3

Nifer a roddwyd mewn categori dilynol yn 2022-2023

MA: 1

GS: 4

AE: 6

Cyfanswm o fewn categori dilynol Awst 2023

MA: 6

GS: 5

AE: 6



Yn ystod 2022-2023, fe barhaodd arweinwyr a staff mewn ysgolion uwchradd i ymateb yn dda i’r heriau parhaus y mae ysgolion a disgyblion yn eu hwynebu. Roeddent wedi rhoi blaenoriaeth i lefelau uchel o ofal, cymorth ac arweiniad ac wedi canolbwyntio ar wella cyfraddau presenoldeb. Er gwaethaf y ffocws hwn o’r newydd mewn llawer o ysgolion, roedd cyfraddau presenoldeb ar draws y sector yn araf i ddychwelyd i’r un lefelau a cyn y pandemig. Roedd y mwyafrif o ysgolion wedi datblygu gweledigaeth addas ar gyfer Cwricwlwm i Gymru sy’n cael ei deall yn dda. Fodd bynnag, roedd parodrwydd ysgolion i gyflwyno eu cwricwlwm yn rhy amrywiol. Lle’r oedd cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn llai llwyddiannus, roedd hyn yn aml oherwydd nad oedd datblygiad wedi’i gefnogi’n ddigon da gan ffocws digon cryf ar sicrhau addysgu effeithiol. Fe roedd cryfderau amlwg mewn arweinyddiaeth ar draws y sector ond roedd hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant yn wendid parhaol o hyd. Ym mwyafrif yr achosion, nid oedd arweinwyr yn canolbwyntio’n ddigon manwl ar effaith darpariaeth ar ddeilliannau disgyblion. Yn benodol, wrth werthuso addysgu, ni wnaethant ystyried ei effaith ar gynnydd disgyblion yn ddigon gofalus. Yn aml, roedd hyn yn rhoi darlun rhy hael iddynt o effeithiolrwydd eu hysgol ac yn rhwystro eu gallu i gynllunio ar gyfer gwelliannau penodol.

Disgyblion gyda'u hathrawes yn y dosbarth gwyddoniaeth

Addysgu a dysgu

Yn dilyn llacio’r cyfyngiadau COVID-19, fe weithiodd ysgolion yn galed i ailsefydlu arferion bywyd ysgol er mwyn i ddisgyblion allu ymgysylltu â’u dysgu a datblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau. Fe fu hyn yn gymorth i’r mwyafrif o ddisgyblion i wneud cynnydd cadarn yn eu gwersi a thros gyfnod. Fodd bynnag, nid oedd lleiafrif ohonynt yn gwneud cymaint o gynnydd ag y gallent yn gyson. Roedd hyn yn rhannol oherwydd effeithiau hirdymor y pandemig ond, yn aml, roedd hefyd o ganlyniad i ddiffygion mewn addysgu a disgwyliadau isel.

Gwnaeth fwyafrif y disgyblion ag ADY gynnydd cadarn yn erbyn eu targedau unigol. Dechreuodd llawer o ysgolion ddatblygu ystod o strategaethau addas i gefnogi cyflawniad disgyblion o aelwydydd ag incwm isel. Fodd bynnag, yn gyffredinol, cafodd yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig effaith anghymesur ar y grŵp hwn o ddisgyblion ac roedd y bwlch rhwng lefel eu cynnydd a chynnydd eu cyfoedion yn parhau i beri pryder.

Lle y gwnaeth ddisgyblion gynnydd boddhaol o leiaf, roedd hyn yn gyffredinol oherwydd bod gan athrawon ddisgwyliadau uchel priodol. Roedd yr athrawon hyn yn cynllunio cyfresi o weithgareddau’n ystyrlon, a oedd yn adeiladu’n dda ar ei gilydd ac yn herio disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth ar gyflymdra priodol. Roeddent yn monitro cynnydd disgyblion yn ofalus ac yn rhoi adborth defnyddiol iddynt er mwyn sicrhau yr aethpwyd i’r afael ag unrhyw gamsyniadau’n gyflym. Mewn lleiafrif o achosion, roedd athrawon yn cynllunio ar gyfer yr hyn roeddent am i ddisgyblion ei wneud yn hytrach na’r hyn roeddent am iddynt ei ddysgu. Yn aml, roedd hyn yn arwain at ddisgyblion yn cyflawni tasgau di-her nad oeddent yn eu helpu i wneud cynnydd. Yn y gwersi hyn, nid oedd athrawon yn datblygu gwydnwch ac annibyniaeth disgyblion yn ddigon da ac roeddent yn rhy fodlon derbyn diffyg ymgysylltiad disgyblion.

Mewn llawer o wersi, roedd disgyblion yn gwrando’n ofalus ar eu hathrawon a’u cyfoedion ac yn cymryd rhan yn llwyddiannus mewn gweithgareddau trafod. Yn ddefnyddiol, rhoddodd llawer o ysgolion bwyslais penodol ar ddatblygu medrau llafaredd disgyblion, gan fod hon yn agwedd a gafodd ei heffeithio’n arbennig gan golli dysgu wyneb-yn-wyneb yn ystod y cyfnodau clo. Fodd bynnag, roedd lleiafrif o ddisgyblion yn brin o hyder o hyd wrth fynegi eu hunain, gan roi ymatebion cryno nad oeddent wedi’u datblygu’n ddigonol i gwestiynau. Roedd hyn yn arbennig o amlwg mewn ysgolion lle nad oedd athrawon yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau holi yn gyson dda.

Roedd llawer o ddisgyblion yn dangos medrau darllen sylfaenol cadarn ac roedd ychydig ohonynt yn defnyddio technegau mwy datblygedig yn hyderus, fel cyfosod. Fodd bynnag, ym mwyafrif yr ysgolion, nid oedd disgyblion yn cael cyfleoedd digon ystyrlon i ddatblygu’r medrau hyn ar draws y cwricwlwm. Roedd mwyafrif y disgyblion yn ysgrifennu â chywirdeb ac eglurder addas ar gyfer ystod briodol o ddibenion a chynulleidfaoedd, ac roedd ychydig ohonynt yn llunio darnau ysgrifennu estynedig dychmygus a soffistigedig. Ym mwyafrif yr ysgolion, roedd darpariaeth addas yn sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd defnyddiol i ddatblygu’r medrau hyn ar draws y cwricwlwm. Fodd bynnag, nid oedd cynllunio i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion yn gynyddol wedi’i ddatblygu’n ddigonol o hyd mewn lleiafrif o ysgolion. Cafodd y cyfnodau clo yn ystod y pandemig effaith nodedig ar ansawdd llawysgrifen a chyflwyniad disgyblion, ac roedd hyn yn broblem i leiafrif o ddisgyblion o hyd.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, roedd disgyblion yn dangos geirfa eang ac yn gallu trafod ystod o bynciau â rhuglder addas. Roedd y mwyafrif ohonynt yn gallu llunio darnau o waith wedi’u hysgrifennu’n dda a oedd yn mynegi eu syniadau’n glir. Fodd bynnag, roedd gan leiafrif o ddisgyblion eirfa gyfyngedig ac yn ei chael hi’n anodd mynegi eu hunain yn glir yn Gymraeg, gan ddefnyddio geiriau neu ymadroddion Saesneg yng nghanol brawddegau. Roedd llawer o’r ysgolion hyn yn parhau i roi blaenoriaeth ar ddefnyddio’r Gymraeg a hyrwyddo Cymreictod bob dydd. Roedd y rhain yn gyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu eu medrau Cymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol trwy weithgareddau allgyrsiol.

Roedd mwyafrif y disgyblion yn dangos medrau rhif sylfaenol cadarn ac yn eu defnyddio’n briodol ar draws y cwricwlwm i gyflawni ystod o gyfrifiadau. Roedd y disgyblion hyn yn mesur yn gywir ac yn defnyddio eu medrau trin data yn addas, yn enwedig wrth ddewis a llunio graffiau priodol. Roedd tua hanner y disgyblion yn dehongli eu graffiau’n addas ac yn defnyddio’r rhain i ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r pwnc mewn pynciau perthnasol ar draws y cwricwlwm. Mewn lleiafrif o ysgolion, roedd disgyblion yn datblygu eu medrau rhifedd yn dda trwy ystod fuddiol o gyfleoedd heriol, dilys. Fodd bynnag, yn rhy aml, nid oedd tasgau yn gysylltiedig â rhifedd yn ddigon perthnasol neu heriol ac roedd disgyblion yn ymarfer yr hyn roeddent yn gallu ei wneud eisoes yn unig. Yn aml, roedd hyn oherwydd nad oedd ymagweddau ysgol gyfan at ddatblygu medrau rhifedd wedi’u cydlynu’n ddigon da. Mewn ychydig o ysgolion, roedd disgyblion yn mwynhau ystod o gyfleoedd defnyddiol i wella eu medrau digidol. Darllenwch sut y gwnaeth Ysgol Gyfun Coed Duon ddatblygu a gwella sgiliau cymhwysedd digidol dysgwyr. Fodd bynnag, ym mwyafrif yr ysgolion, nid oedd disgyblion yn datblygu eu medrau digidol yn ddigon da oherwydd diffyg cyfleoedd ystyrlon neu heriol addas. Yn rhy aml, nid oedd disgyblion yn adeiladu ar y medrau digidol y gwnaethant eu dysgu yn yr ysgol gynradd.

Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, roedd gan leiafrif o ddisgyblion afael addas ar Gymraeg sylfaenol ond nid oedd y mwyafrif ohonynt yn gwneud cynnydd digonol o ran datblygu eu medrau, yn enwedig eu gallu i siarad Cymraeg. Yn aml, roedd hyn oherwydd bod y gwaith roeddent yn ei gyflawni yn llai beichus na’r hyn y cawsant brofiad ohono ym Mlynyddoedd 5 a 6. Ym mwyafrif yr achosion, nid oedd hyder disgyblion yn y Gymraeg yn cael ei gefnogi’n ddigon da gan gyfleoedd i ymarfer defnyddio’r iaith y tu allan i wersi Cymraeg. Mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd disgyblion yn cael digon o gyfleoedd i ddysgu am ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Datblygodd mwyafrif yr ysgolion weledigaeth addas ar gyfer Cwricwlwm i Gymru a oedd yn cael ei deall yn dda. Fodd bynnag, roedd parodrwydd ysgolion i gyflwyno eu cwricwlwm yn rhy amrywiol. Yn yr enghreifftiau gorau, treialodd ysgolion amrywiaeth o ymagweddau, wedi’u dilyn gan werthuso a mireinio trylwyr. Mae’r astudiaeth achos hon gan Ysgol Gyfun Lewis i Ferched yn rhoi enghraifft o ddefnyddio’r cwricwlwm i wella profiadau dysgu disgyblion ac ehangu eu gorwelion. Mae Ysgol Gyfun Llangefni wedi datblygu cwricwlwm awyr agored i gynorthwyo i ddatblygu gwybodaeth, medrau a lles disgyblion. Cydweithiodd lleiafrif o ysgolion uwchradd â’u hysgolion cynradd lleol i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o ddysgu a dilyniant. Yn gyffredinol, dim ond megis dechrau cael ei ddatblygu roedd y gwaith hwn ac nid oedd yn sicrhau cynnydd gwell i bob disgybl yn gyson. Lle’r oedd cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn llai llwyddiannus, roedd hyn oherwydd nad oedd datblygu wedi’i gefnogi’n ddigon da gan ffocws digon cryf ar sicrhau addysgu effeithiol. Mewn ychydig o achosion, roedd cynllunio ysgolion ar gyfer y cwricwlwm wedi’i rwystro gan gamddehongli rhai egwyddorion allweddol, er enghraifft trwy geisio cynllunio ar gyfer y pedwar diben a’u gwerthuso mewn gwersi unigol.

Darparodd y rhan fwyaf o ysgolion ystod addas o gyrsiau cyffredinol a galwedigaethol ar gyfer disgyblion hŷn. Mewn ychydig o achosion, roedd ymestyn cwricwlwm Cyfnod Allweddol 4 i dair blynedd yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddisgyblion astudio rhai pynciau y tu hwnt i Flwyddyn 8 ac yn lleihau ehangder y cwricwlwm. Roedd llawer o ysgolion yn cynnig darpariaeth i ddisgyblion a oedd mewn perygl o ymddieithrio. Er enghraifft, darllenwch sut y mae Ysgol Uwchradd Y Rhyl wedi defnyddio cynigion cwricwlwm unigoledig a theilwredig i ddileu rhwystrau rhag dysgu. Yn gyffredinol, roedd ysgolion yn darparu rhaglen briodol o addysg bersonol a chymdeithasol i ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3. Fodd bynnag, roedd darpariaeth ar gyfer disgyblion hŷn yn fwy amrywiol o lawer.

Disgyblion yn coginio yn y dosbarth

Gofal, cymorth a lles

Roedd llawer o ddisgyblion yn croesawu dychwelyd i addysg arferol ar ôl cyfyngiadau’r cyfnod clo a gwnaethant ymgartrefu’n ôl yn yr ysgol yn llwyddiannus gyda chymorth gan eu hathrawon a’r staff cymorth. Roedd gan ysgolion ffocws cryf ar fonitro a chefnogi lles disgyblion o hyd, yn enwedig y rhai mwyaf bregus. Fodd bynnag, parhaodd ychydig o ddisgyblion i gael trafferth ail-addasu i fywyd ysgol ac roedd effeithiau’r pandemig i’w gweld o hyd ar ymgysylltiad y disgyblion hyn â’u dysgu.

Darparodd llawer o ysgolion gymorth bugeiliol a gofal cryf a bodloni anghenion cymdeithasol ac emosiynol disgyblion yn dda. Yn aml, cefnogwyd y gwaith hwn yn effeithiol gan ystod o bartneriaethau allanol. O ganlyniad, roedd llawer o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac yn rhydd rhag bwlio ac aflonyddu. Roeddent yn gwybod at bwy i droi os oes ganddynt broblem ac yn teimlo’n hyderus y gellid mynd i’r afael ag unrhyw faterion. Yn gyffredinol, datblygodd disgyblion ymwybyddiaeth addas o bwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth ac roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu hannog i drin pobl eraill â goddefgarwch a pharch. Fodd bynnag, roedd ychydig o ddisgyblion yn teimlo na aethpwyd i’r afael ag achosion o fwlio neu aflonyddu yn ymwneud â rhywioldeb, hil neu rywedd yn ddigon cyson.

Roedd llawer o ddisgyblion yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu. Roeddent yn cymryd rhan mewn gwersi â pharodrwydd, yn dangos annibyniaeth a gwydnwch wrth wynebu tasgau heriol ac yn cydweithio’n llwyddiannus mewn gweithgareddau grŵp neu bâr. Weithiau, roedd lleiafrif o ddisgyblion yn fodlon parhau’n oddefol yn eu gwersi, yn enwedig lle’r oedd yr addysgu’n brin o her. Roedd gan lawer o ysgolion drefniadau priodol i fonitro a chefnogi ymddygiad disgyblion. Lle na chymhwyswyd yr ymagweddau hyn yn gyson, roedd ymddygiad ychydig o ddisgyblion yn amharu ar eu dysgu eu hunain a dysgu disgyblion eraill.

Yn ystod y pandemig, gweithiodd ysgolion yn galed i ddatblygu eu systemau ar gyfer monitro presenoldeb disgyblion. Yn gyffredinol, gwnaethant barhau i ddatblygu’r ymagweddau hyn, gan ddefnyddio ystod o strategaethau i hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb da a mynd i’r afael ag absenoldebau cyson. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, nid oedd y strategaethau hyn yn ddigon strategol nac effeithiol. At ei gilydd, er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o ysgolion, roedd cyfraddau presenoldeb, yn enwedig ymhlith y disgyblion hynny ag ADY neu o aelwydydd ag incwm isel, yn peri pryder sylweddol o hyd (Llywodraeth Cymru, 2023) ac yn cael effaith negyddol ar gynnydd lleiafrif o ddisgyblion.

Mewn llawer o ysgolion, roedd disgyblion yn cael cyfleoedd buddiol i ddylanwadu ar fywyd yr ysgol a datblygu eu medrau arweinyddiaeth trwy’r cyngor ysgol a grwpiau eraill. Mewn lleiafrif o achosion, roedd cyfleoedd arweinyddiaeth i ddisgyblion yn rhy gyfyngedig ac ni wnaethpwyd disgyblion eraill yn ddigon ymwybodol o waith y cyngor ysgol. O ganlyniad, nid oedd disgyblion yn yr ysgolion hyn yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt bob tro.

Mewn llawer o ysgolion, fe ganfu arolygwyr fod y cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a ddarperir gan y tîm ADY yn gryfder. Yn yr achosion hyn, roedd staff ADY yn cynllunio cymorth i’r disgyblion hyn yn ofalus trwy ymyriadau a chymorth targedig mewn gwersi prif ffrwd. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, nid oedd athrawon yn defnyddio’r arweiniad a ddarparwyd gan y tîm ADY yn ddigon da i fodloni anghenion y disgyblion hyn. Gwnaeth llawer o ysgolion gynnydd da wrth iddynt baratoi ar gyfer gofynion diwygio ADY. Er enghraifft, fe lwyddodd Ysgol Gyfun Llangefni i sicrhau fod ADY yn gyfrifoldeb ar bawb fel rhan o’i darpariaeth i ddisgyblion ag ADY. Lle’r oedd gan ysgolion ganolfan adnoddau arbenigol, roeddent yn amgylcheddau diogel a chefnogol a oedd yn helpu disgyblion i integreiddio mewn darpariaeth brif ffrwd yn llwyddiannus. Darllenwch sut mae Ysgol Gyfun Trefynwy wedi datblygu ymagwedd integredig at ddarpariaeth arbenigol.

Ym mron pob ysgol, roedd trefniadau addas ar gyfer hyfforddiant yn ymwneud â diogelu ac amddiffyn plant ac roedd staff yn deall eu rôl o ran cadw plant yn ddiogel. Roedd llawer o ysgolion wedi datblygu diwylliant cryf o ddiogelu lle roedd staff yn cadw ffocws cyson ar gadw disgyblion yn hapus ac yn ddiogel trwy bob agwedd o’u gwaith. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, nid oedd prosesau ar gyfer cofnodi digwyddiadau diogelu yn ddigon cadarn. Yn ogystal, mewn tuag un o bob tri arolygiad craidd, nododd arolygwyr fater iechyd a diogelwch yr oedd angen mynd i’r afael ag ef.

Dau ddisgybl yn gweithio wrth ddesg

Arwain a gwella

Roedd gan lawer o benaethiaid weledigaeth glir ar gyfer eu hysgol a oedd yn cael ei chyfleu’n glir a’i deall yn dda gan yr holl staff. Yn yr ysgolion hyn, roedd rolau arweinyddiaeth yn deg ac wedi’u diffinio’n glir, ac roedd trefniadau rheolaeth linell yn briodol o gadarn. Lle nad oedd hyn yn wir, roedd hyn yn ei gwneud yn anodd i arweinwyr gyflawni eu rolau’n effeithiol neu gael eu dwyn i gyfrif yn llawn am sicrhau gwelliant.

Roedd cyfyngiadau yn ystod y pandemig yn golygu, ym mron pob ysgol, bod gweithgareddau hunanwerthuso, fel arsylwi gwersi, wedi’u cwtogi’n sylweddol. Pan roeddent yn gallu ailgydio yn yr agwedd hon ar eu gwaith, cynhaliodd llawer o ysgolion ystod o weithgareddau gwerthuso priodol. Mewn lleiafrif o ysgolion, defnyddiwyd y dystiolaeth uniongyrchol yn addas i nodi meysydd i’w gwella. Fodd bynnag, ym mwyafrif yr achosion, nid oedd arweinwyr yn canolbwyntio’n ddigon gofalus ar effaith darpariaeth ar ddeilliannau disgyblion. Yn benodol, wrth werthuso addysgu, nid oeddent yn ystyried ei effaith ar gynnydd disgyblion yn ddigon gofalus. Yn aml, roedd hyn yn rhoi darlun rhy hael iddynt o effeithiolrwydd eu hysgol ac yn rhwystro eu gallu i gynllunio ar gyfer gwelliannau penodol. O ganlyniad, roedd angen cryfhau prosesau hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella ym mwyafrif yr ysgolion. Mewn ychydig o ysgolion hynod effeithiol yn unig, roedd arweinwyr yn cyfosod ystod o dystiolaeth hunanwerthuso gywir, fanwl yn gyson i gynllunio ar gyfer gwelliannau a’u sicrhau. Darllenwch am waith Ysgol Gyfun Coed Duon i ddatblygu diwylliant effeithiol o hunanwerthuso a dysgu proffesiynol parhaus.

Robust self-evaluation activities and planning for improvement, Coedcae School

Most leaders have a secure understanding of the specific strengths and areas for development in their areas of responsibility, garnered from a range of robust self-evaluation activities that focus sharply on pupil progress and well-being. This helps them to plan for improvement precisely, identify developmental needs in a timely manner and adapt provision accordingly. Leaders at all levels make good use of an extensive variety of data. This helps them to monitor pupil progress closely and put in place many timely and highly beneficial interventions. In addition, the views of pupils and well-established links with parents and the wider community are used well to evaluate and strengthen the school’s work.

Mewn llawer o ysgolion, datblygodd arweinwyr ffocws cryf ar leihau effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion. Roeddent yn defnyddio cyllid grant, fel y grant datblygu disgyblion, yn briodol i wella profiadau a deilliannau disgyblion sy’n cael profiad o dlodi, er enghraifft trwy ddarparu cyllid ar gyfer teithiau neu wersi cerddorol. Mewn ychydig o ysgolion, sefydlodd arweinwyr ymagwedd ysgol gyfan gydlynus at liniaru effeithiau tlodi a chawsant effaith nodedig ar ddyheadau, ymgysylltiad a chyflawniad y disgyblion hyn.

Roedd arweinwyr mewn llawer o ysgolion yn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o ddysgu proffesiynol. Er enghraifft, gweler sut defnyddiodd Ysgol Gyfun Lewis i Ferched dysgu proffesiynol i effeithio ar addysgu a dysgu, datblygu’r cwricwlwm, ac arweinyddiaeth. Roeddent yn sicrhau bod staff yn cael ystod o gyfleoedd i rannu arfer dda oddi mewn ac ar draws adrannau ac, yn yr enghreifftiau gorau, gydag ysgolion eraill. Mewn ychydig o achosion, helpodd cysylltiadau cryf, wedi’u cynllunio’n dda, rhwng tystiolaeth hunanwerthuso, trefniadau rheoli perfformiad a gweithgareddau dysgu proffesiynol i ysgolion sicrhau gwelliannau o ran ansawdd yr addysgu. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd arweinwyr yn cynllunio ar gyfer dysgu proffesiynol nac yn ei werthuso’n ddigon da.

Yn gyffredinol, roedd llywodraethwyr yn gefnogwyr tra ymrwymedig o’u hysgolion. Roeddent yn monitro cyllid yr ysgol yn ofalus ac, mewn llawer o achosion, yn herio uwch arweinwyr yn briodol. Mewn ychydig o achosion, ni roddwyd digon o wybodaeth i lywodraethwyr i allu herio arweinwyr ysgolion neu chwarae rôl lawn mewn gosod cyfeiriad strategol yr ysgol.


Cyfeiriadau

Llywodraeth Cymru (2023) Absenoldeb o ysgolion Uwchradd: Medi 2022 i Awst 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/10/4/1697706994/absenoldeb-o-ysgolion-uwchradd-medi-2022-i-awst-2023-diwygiedig.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]