Skip to content

Adroddiad sector

Cyfiawnder

2022-2023

Click on individual markers for provider details

Nodyn – Mae yna un cartref plant diogel yng Nghymru. Gwahoddir Estyn gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i gyfrannu at arolygu gwasanaethau addysg y darparwr hwn ond mae Estyn wedi cytuno i beidio â chyhoeddi cyfeiriad y cartref ac nid yw’n cael ei ddangos yma. Gwahoddir Estyn hefyd i gyfrannu at arolygiadau Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi (HMIP) o Wasanaethau Troseddau Ieuenctid yng Nghymru; nid yw lleoliadau’r darparwyr hyn yn cael eu dangos yma.

Darparwyr

5

Nifer o Garchardai

1

Nifer y sefydliadau troseddwyr ifanc

17

Nifer o ddarparwyr Gwasanaethau Troseddwyr Ifanc

1

Nifer o Gartrefi Diogel i Blant




Yn ystod 2022-2023, ymunodd Estyn ag Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi ar un arolygiad, sef arolygiad o CEF Abertawe, i werthuso ansawdd gweithgareddau addysg, hyfforddiant a gwaith. Cyhoeddwyd yr adroddiad arolygu llawn ar gyfer Carchar Ei Fawrhydi Abertawe ym mis Mehefin 2023.  Mae Arolygiaeth Carchardai EF yn arwain arolygiadau o garchardai ledled Cymru a Lloegr ac mae Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Carchardai EF yn ymdrin â’r materion cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer yr ystad ddiogel.

Daw’r canfyddiadau sy’n dilyn o’r arolygiad o Garchar EF Abertawe ac maent yn adlewyrchu materion cenedlaethol o adroddiad blynyddol Arolygiaeth Carchardai EF.


Addysgu a dysgu

Canfu arolygwyr fod y dynion yng Ngharchar EF Abertawe yn gallu manteisio ar arlwy cwricwlwm priodol, er enghraifft, roeddent yn gallu dysgu medrau galwedigaethol perthnasol ac sy’n benodol i ddiwydiant neu ganolbwyntio ar ddatblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd.  Roedd grŵp Cymraeg gweithredol ac roedd sesiynau Cymraeg yn cael eu cynnig i garcharorion. Roedd tiwtoriaid a rheolwyr gweithdai yn arwain eu dysgwyr i wneud cynnydd. At ei gilydd, roedd llawer o ddysgwyr yn ennill cymwysterau priodol yn ystod eu cyfnod yng Ngharchar EF Abertawe.

Er gwaethaf yr ystod o gyfleoedd addysg, hyfforddiant a gwaith sydd ar gael, roedd oedi o ran trefnu darpariaeth a luniwyd i gyfateb i anghenion y farchnad lafur leol ac roedd hyn yn cyfyngu ar y gallu i fanteisio ar y gweithgareddau pwrpasol hyn. Dim ond megis dechrau cael ei ddatblygu oedd strategaeth darllen y carchar ac nid oedd darllenwyr datblygol yn cael eu nodi’n ddigonol ac nid oedd darpariaeth ddigonol ar eu cyfer.


Gofal, cymorth a lles

Roedd dysgwyr yng Ngharchar EF Abertawe yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd i gefnogi eu rhagolygon cyflogaeth a datblygu’r medrau cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus y tu mewn a’r tu allan i’r carchar. Yn benodol, roedd y dynion yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a ddarparwyd gan fentoriaid y carchar ar gyfer eu lles, yn ogystal â’u dysgu. Roedd carcharorion a oedd yn cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant yn ymgysylltu’n dda â’u dysgu, yn gyffredinol, ac yn trin eu cymheiriaid ac aelodau staff â pharch. Fodd bynnag, roedd presenoldeb mewn sesiynau addysg yn rhy anghyson.

Yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi ar gyfer addysg a medrau yng Nghymru, roedd y carchar yn asesu dysgwyr yn briodol i ddarganfod eu hanghenion hyfforddiant o ran dysgu a medrau. Fodd bynnag, roedd asesu anghenion dysgu ychwanegol wedi’i gyfyngu i hunanddatgelu ac nid oedd gwybodaeth am ddysgu blaenorol y dynion ar gael yn rhwydd. Roedd hyn yn effeithio ar ystod ac ansawdd y cymorth i ddynion ag anghenion mwy cymhleth.

Roedd bwrdd a hwb cyflogaeth Carchar EF Abertawe yn ymgysylltu’n dda ag asiantaethau a chyflogwyr i ddarparu hyfforddiant ychwanegol i’r dynion, ynghyd â chymorth ymarferol o ddod o hyd i swyddi ac ymgeisio amdanynt, yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu eu medrau cyfweliad. Adeg yr arolygiad, roedd tua chwarter y dynion yn cael eu cyflogi chwe wythnos ar ôl cael eu rhyddhau, roedd hyn yn cymharu’n dda â chyfraddau cyflogaeth dynion a ryddhawyd yn ddiweddar o ystadau diogel eraill yng Nghymru.


Arwain a gwella

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2023, canfu Arolygiaeth Carchardai EF, ar ôl aflonyddwch pandemig COVID-19, y bu cyflymdra’r adferiad ar draws y sector carchardai yng Nghymru a Lloegr yn rhy araf, ar y cyfan, a bod gormod o garcharorion wedi’u caethiwo am gyfnodau gormodol. Yn ystod yr arolygiad o Garchar EF Abertawe, canfu arolygwyr Estyn fod arweinwyr ac aelodau staff wedi gweithio’n ddiwyd ar hyd pandemig COVID-19 i greu pecynnau gweithgareddau, a oedd yn cefnogi dysgu a lles, a oedd ar gael i’r dynion yn ystod y cyfnodau estynedig yn eu celloedd. Roedd y staff wedi ymdrechu i ailddechrau arlwy addysg, hyfforddiant a gwaith amser llawn i’r dynion cyn gynted â phosibl ar ôl i gyfyngiadau’r cyfnodau clo gael eu llacio.

Roedd gan arweinwyr yng Ngharchar EF Abertawe weledigaeth glir i fodloni anghenion carcharorion trwy arlwy’r cwricwlwm a chynnig y cymorth a’r arweiniad yr oedd eu hangen arnynt i’w helpu i sicrhau a chynnal cyflogaeth ar ôl cael eu rhyddhau, gan leihau’r perygl o aildroseddu. Roeddent yn dechrau defnyddio hunanwerthuso yn briodol i lywio dysgu proffesiynol aelodau staff addysg, yn ogystal â llunio arlwy’r cwricwlwm. Fodd bynnag, nid oeddent yn nodi meysydd i’w gwella’n ddigon manwl bob tro nac yn blaenoriaethu eu gweithgareddau gwella yn effeithiol. Fel y crybwyllwyd gan Arolygiaeth Carchardai EF, roedd ymgysylltu â gweithgarwch bwriadus yn peri pryder o hyd. Canfuom nad oedd arweinwyr yn nodi nac yn mynd i’r afael ag unrhyw ddiffyg presenoldeb neu ddiffyg ymgysylltiad yn ddigon da. Mewn llawer o garchardai ar draws Cymru a Lloegr, roedd prinder staff yn cael effaith negyddol ar allu rheolwyr carchardai i sicrhau parhad yn ystod lawn y ddarpariaeth, ac roedd hyn i’w weld yng Ngharchar EF Abertawe hefyd.


Cyfeiriadau

Arolygaeth Carchardai Ei Fawrhydi (2023a) Carchar ei Fawrhydi Abertawe. DU: HMIP. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmiprisons/wp-content/uploads/sites/4/2023/06/Swansea-web-2023-Welsh.pdf [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]

Arolygaeth Carchardai Ei Fawrhydi (2023b) Adroddiad Blynyddol2022-23. DU: HMIP. [Ar-lein]. Ar gael yn:Available from: https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmiprisons/inspections/annual-report-2022-23/ [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]

Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru (2019) HMPPS in Wales: Learning and Skills strategy for Prisons in Wales. Wales: HMPPS. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5d3afa93e5274a400ce4c212/Learning_and_Skills_Strategy_for_Wales_Prisons_July_2019_.pdf [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]