Skip to content

Addysg bellach

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu

Lle mae addysgu a dysgu yn effeithiol, mae dysgwyr yn gwneud cynnydd da ac yn dangos medrau pynciol neu alwedigaethol cryf.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae llawer o ddysgwyr yn dangos medrau pynciol neu alwedigaethol cryf.
  • Mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys dysgwyr ar raglennu medrau byw’n annibynnol, yn gwneud cynnydd cadarn yn eu dysgu, o leiaf.
  • Mae athrawon a dysgwyr mewn pynciau ymarferol yn aml yn elwa ar amgylcheddau dysgu proffesiynol a realistig sy’n helpu dysgwyr i ddatblygu medrau perthnasol sy’n eu paratoi ar gyfer cyflogaeth.
  • Lle mae addysgu dwyieithog yn fwyaf effeithiol, mae athrawon yn ddelfryd ymddwyn gryf yn y ddwy iaith ac mae iaith y dysgu’n newid yn ddi-dor rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Mae rhaglenni prentisiaeth iau yn cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad, presenoldeb a chynnydd dysgwyr 14 i 16 oed.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw tasgau, holi a dulliau addysgu yn cynnig digon o ymestyniad a her i bob dysgwr.
  • Mae cyfran y dysgwyr sy’n cyflawni graddau uwch mewn darpariaeth raddedig, ar raglenni galwedigaethol a Safon Uwch fel ei gilydd, yn rhy isel.
  • Mae cyfraddau cwblhau’n llwyddiannus yn rhy isel ar raglenni sy’n tanberfformio.
  • Nid yw medrau iaith Cymraeg yn cael eu datblygu’n ddigonol ac mae cyfran y dysgwyr sy’n gwneud gwaith ysgrifenedig yn y Gymraeg yn rhy isel.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Caiff gofal, cymorth, arweiniad a lles eu cefnogi’n dda trwy amgylcheddau croesawgar a chynhwysol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae colegau’n cynnig amgylchedd croesawgar a chynhwysol i ddysgwyr.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn mwynhau dod i’r coleg ac yn teimlo’n ddiogel a sicr.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn hapus, yn llawn cymhelliant ac yn falch o’u cynnydd.
  • Mae ystod eang o wasanaethau cymorth buddiol ar gael i ddysgwyr ar draws pob safle, gyda ffocws penodol ar gymorth i ddysgwyr y mae tlodi, ADY neu rwystrau eraill a nodwyd rhag cynnydd yn effeithio arnynt.
  • Mae trefniadau pontio yn gwella trwy gydweithio agosach ag ysgolion ac awdurdodau lleol.
  • Mae trefniadau llais y dysgwr sydd wedi’u sefydlu’n dda, gan gynnwys arolygon dysgwyr a dulliau cynrychiolwyr dysgwyr, yn cynnig cyfleoedd defnyddiol i ddysgwyr fynegi eu barn a’u safbwyntiau ar eu profiadau dysgu.
  • Caiff diwylliannau diogelu cryf eu sefydlu, gyda pherthynas waith dda rhwng timau addysgu, lles a diogelu ac asiantaethau allanol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae gormod o anghysondeb o fewn ac ar draws colegau o ran pa mor dda y maent yn sicrhau presenoldeb a phrydlondeb dysgwyr ar draws campysau.
  • Mae effeithiolrwydd ac effaith gyffredinol rhaglenni tiwtorial yn rhy amrywiol.
  • Nid yw cyngor ac arweiniad ar y camau nesaf yn cael eu rhoi bob tro i bob un o’r dysgwyr sydd bron â chwblhau eu rhaglen.
  • Nid yw cyfrifoldebau penodol ar gyfer trefniadau diogelu yn cael eu gwneud yn glir bob tro ac ni chynhelir asesiadau risg unigol bob tro ar gyfer pob disgybl ysgol sy’n mynychu darpariaeth partneriaeth yn y coleg, gan gynnwys prentisiaid iau.

Arwain a gwella

Mae arweinwyr yn sicrhau bod gwelliannau a dysgu proffesiynol yn ymateb yn dda i anghenion cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Caiff blaenoriaethau strategol eu nodi’n glir a’u defnyddio’n briodol i lywio cynllunio strategol a gweithredol.
  • Mae dychweliad graddol i ddefnyddio meincnodi mewnol ac allanol i ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol wrth gyhoeddi data mesurau cyson yn gysylltiedig â deilliannau dysgwyr a dychwelyd i drefniadau asesu arferol.
  • At ei gilydd, mae colegau’n ymateb yn dda i’r anghenion medrau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy’n cael eu nodi gan bartneriaethau medrau rhanbarthol.
  • Mae byrddau llywodraethol yn cynnig her a chymorth priodol i uwch arweinwyr.
  • Mae staff yn elwa ar ystod eang o weithgareddau datblygiad proffesiynol, gydag amser penodedig yng nghalendr y coleg.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae gwerthuso addysgu, asesu a safon gwaith dysgwyr i lywio cynllunio gwelliant a chynorthwyo i rannu arfer dda yn rhy amrywiol.
  • Nid yw cydweithio rhwng colegau, ysgolion ac awdurdodau lleol wedi’i ddatblygu’n ddigonol o hyd, ac oherwydd cyfarwyddyd cenedlaethol a gweithredu lleol annigonol, nid yw’n manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i wella darpariaeth 16-19 leol neu ddarpariaeth partneriaeth i ddisgyblion 14 i 16 oed, gan gynnwys prentisiaethau iau.
  • Nid yw gwerthuso a chynllunio gwelliant yn rhoi digon o bwyslais ar wella cyrhaeddiad graddau uchel ar gyrsiau sy’n arwain at gymwysterau graddedig.
  • Mae gormod o amrywiad yng nghywirdeb a dibynadwyedd dulliau o fewnbynnu a gwerthuso data gwerth ychwanegol.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn un darparwr addysg bellach, y rhoddwyd tri o argymhellion iddo:

  • Gwella effaith yr addysgu ar ansawdd y dysgu, gyda ffocws ar holi, asesu ffurfiannol ac ymestyn a her
  • Gwella cyrhaeddiad graddau uchel ar ddarpariaeth raddedig, yn cynnwys cymwysterau galwedigaethol ac UG / Safon Uwch
  • Mynd i’r afael â materion presenoldeb a phrydlondeb gwael dysgwyr yn gyson ar draws campysau

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Addysgu a dysgu

Grŵp Llandrillo Menai

Inspection report

Mae adroddiad arolygu Grŵp Llandrillo Menai yn cynnwys dau ‘giplun’ ar addysgu a phrofiadau dysgu yn y coleg, gan gynnwys cyflwyno’n ddwyieithog ac addysgu hybrid. Mae’r ‘Ciplun ar gyflwyno dwyieithog’ yn amlygu sut mae iaith y dysgu’n newid yn ddi-dor rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn y sesiynau hyn. Mae’r ‘Ciplun ar addysgu hybrid’ yn amlinellu sut mae athrawon yn cynllunio ac yn cyflwyno’r sesiynau hyn yn fedrus i wneud yn siŵr fod pob un o’r dysgwyr yn cyfrannu ac yn rhannu eu syniadau trwy weithgareddau cydweithredol.