Skip to content

Ysgolion annibynnol

Negeseuon cynnar


Addysgu a dysgu

Mae ysgolion yn parhau i ddarparu addysgu effeithiol i gefnogi dysgu disgyblion ac yn sicrhau deilliannau cryf mewn arholiadau cyhoeddus.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae athrawon yn cymhwyso eu gwybodaeth arbenigol am fanylebau arholiadau cyhoeddus yn hynod effeithiol. O ganlyniad, at ei gilydd, mae cyrhaeddiad disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus yn gryf.
  • Mae medrau cyfathrebu disgyblion yn dra datblygedig ac maent yn gryfder penodol.
  • Mae mwynhad disgyblion o ddarllen a safon eu darllen yn uchel.
  • Mae disgyblion yn dangos galluoedd ysgrifennu cryf at amrywiaeth o ddibenion, yn enwedig disgyblion hŷn sy’n ysgrifennu dadleuon cryno a chymhellol wrth ymateb i gwestiynau arholiadau.
  • Gwna’r rhan fwyaf o ddisgyblion gynnydd cryf wrth ddatblygu eu medrau mathemategol ac mae disgyblion hŷn yn datblygu medrau mathemategol uwch yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.
  • Mae ysgolion yn cynnig cwricwlwm helaeth sy’n aml wedi’i unigoleiddio’n fawr ac sydd wedi’i deilwra’n dda i anghenion a diddordebau disgyblion.
  • Mae staff yn adnabod anghenion, galluoedd a diddordebau eu disgyblion yn arbennig o dda ac yn meithrin perthnasoedd proffesiynol cryf â’u dosbarthiadau.
  • Mae’r addysgu wedi’i ddilyniannu’n dda ac wedi’i gefnogi gan adnoddau sydd wedi’u dethol a’u dylunio’n ofalus.

Beth sydd angen ei wella

  • Ym mhob un o’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw, mae disgyblion yn defnyddio technolegau digidol yn hyderus, er bod cynnydd o ran datblygu eu medrau digidol arwahanol yn amrywio. Mae hyn oherwydd mai dim ond megis dechrau y mae cynllunio’r cwricwlwm i ddatblygu’r medrau hyn yn gynyddol.
  • Lle mae cynnydd disgyblion yn llai cryf, mae hyn yn digwydd amlaf oherwydd bod athrawon yn sgaffaldio neu’n arwain gweithgareddau’n ormodol ac nad ydynt yn darparu digon o gyfleoedd i ddisgyblion weithio’n annibynnol.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae ysgolion wedi gweithio’n hynod effeithiol i sicrhau lefelau da o ofal, cymorth ac arweiniad i barhau i gefnogi lles disgyblion yn llwyddiannus.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae pob ysgol a arolygwyd yn rhoi blaenoriaeth uchel dros ben ar les eu disgyblion.
  • Un cryfder penodol yw’r cyngor a chymorth cynhwysfawr y cafodd disgyblion wrth ystyried eu cyrchfannau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.
  • Mae perthnasoedd rhwng staff a disgyblion yn gryf, yn adeiladol ac yn gefnogol.
  • Mae gan ddisgyblion ymdeimlad cryf o berthyn, maent yn ymfalchïo yn eu hysgol ac yn trin ei gilydd, aelodau staff ac ymwelwyr â’r ysgol â pharch.
  • Mae ymddygiad bron pob un o’r disgyblion ac agweddau’r rhan fwyaf o ddisgyblion at ddysgu yn ganmoladwy.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos lefelau uchel o ganolbwyntio ac yn ymgysylltu’n frwdfrydig trwy gydol eu gwersi.
  • Mae pob un o’r ysgolion a arolygwyd yn hybu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol yn dda.
  • Mae pob un o’r ysgolion a arolygwyd eleni yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn dda.
  • Mae disgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt yn cael eu hadnabod yn gyflym ac mae staff yn defnyddio strategaethau defnyddiol yn ystod gwersi i gael gwared ar rwystrau rhag dysgu. O ganlyniad, mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cyflawni’n unol â’u disgwyliadau.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o achosion, roedd angen mân newidiadau i bolisïau ysgolion i fodloni gofynion deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Arwain a gwella

Mae arweinwyr wedi cynnal cymunedau cydlynol ac yn parhau i fod yn uchelgeisiol ar gyfer eu disgyblion ac yn gweithio’n golegol er eu lles pennaf.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer eu hysgol, maent yn uchelgeisiol dros eu disgyblion ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o’u staff.
  • Mae arweinwyr wedi adeiladu a/neu gynnal cymunedau cydlynol sy’n gweithio’n golegol er lles pennaf disgyblion.
  • Mae arweinwyr yn hybu diwylliant diogelu yn briodol.
  • Mae trefniadau llywodraethu yn gadarn ac yn darparu lefel briodol o her a chymorth.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw systemau ac ymagweddau at olrhain cynnydd disgyblion unigol dros gyfnod wedi’u mireinio na’u hymwreiddio’n llawn hyd yn hyn.
  • Nid yw arsylwadau gwersi sy’n cael eu cynnal fel rhan o weithgareddau sicrhau ansawdd arweinwyr yn gwerthuso effaith addysgu ar ddysgu yn gyson nac yn nodi’r agweddau cynnil ar arfer addysgu y gallai fod angen eu gwella.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn bum ysgol prif ffrwd annibynnol.

4

Rhoddwyd argymhelliad i bedwar darparwr fireinio prosesau sicrhau ansawdd neu hunanwerthuso, yn enwedig o ran ansawdd yr addysgu.

2

Rhoddwyd argymhelliad i ddau ddarparwr adeiladu ar arfer bresennol i wella cysondeb ar draws yr ysgol.

2

Rhoddwyd argymhelliad i ddau ddarparwr ar arweinyddiaeth:

  • Cryfhau arferion presennol yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau ar lefel cyfarwyddiaeth a’r corff llywodraethol wedi’u diffinio’n glir
  • Sicrhau bod y tîm arweinyddiaeth yn distyllu’r wybodaeth sydd ar gael yn effeithiol i ddatblygu trosolwg cydlynol o addysgu, dysgu, presenoldeb a’r cwricwlwm ar draws yr ysgol gyfan

Roedd argymhellion eraill a roddwyd i leoliadau prif ffrwd annibynnol yn cynnwys gwella presenoldeb, sicrhau bod disgwyliadau athrawon yn briodol o uchel, manteisio i’r eithaf ar ddata asesu i lywio/gwella cynnydd disgyblion, a miniogi gwaith monitro a gwella i ganolbwyntio ar ddeilliannau disgyblion.