Skip to content

Sector cyfiawnder

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu

Lle mae’r addysgu’n gryf, mae llawer o ddysgwyr yn datblygu medrau gwerthfawr ac yn gwneud cynnydd cadarn. Fodd bynnag, mae ansawdd addysgu yn anghyson ar draws y sector. Lle mae’n wan, nid yw’n bodloni anghenion dysgwyr nac yn cyfrannu’n ddigon da at eu rhagolygon llwyddiant ar ôl cael eu rhyddhau.

Beth sy’n mynd yn dda

Yn y carchar i oedolion yr ymwelsom ag ef, caiff llawer o sesiynau addysgu eu cynllunio’n gadarn ac mae athrawon yn darparu gweithgareddau defnyddiol i gefnogi dysgu a chynnydd. Yn y sesiynau hyn, yn gyffredinol, mae dysgwyr:

  • yn ymgysylltu’n bwrpasol â darpariaeth addysg, hyfforddiant a gwaith sy’n bodloni eu hanghenion personol, addysgol a chyflogaeth yn effeithiol.
  • yn datblygu medrau gwerthfawr mewn cyd-destunau ystyrlon, gan gynnwys eu medrau llythrennedd a rhifedd.
  • yn ennill cymwysterau priodol yn ystod eu cyfnod yn y carchar.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae cynnydd dysgwyr tuag at gyflawni achrediad ystyrlon mewn llythrennedd a rhifedd yn rhy araf yn y Sefydliad Troseddwyr Ifanc yr ymwelwyd ag ef.
  • Lle nad yw gweithgareddau addysgu yn herio dysgwyr nac yn bodloni eu hanghenion neu ddiddordebau, mae hyn yn cael effaith negyddol ar ymgysylltiad a chynnydd dysgwyr. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn lleiafrif o sesiynau yn y Sefydliad Troseddwyr Ifanc.
  • Mae ychydig o blant yn amharu ar gynnydd plant eraill yn y Sefydliad Troseddwyr Ifanc.
  • Ar draws yr ystâd carchardai yr ymwelwyd â hi eleni, nid oes darpariaeth ddigonol i ddysgwyr ddatblygu eu medrau digidol.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae cyfraddau presenoldeb wedi gwella ers y pandemig. Fodd bynnag, mae’r cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i oresgyn rhwystrau rhag dysgu yn anghyson.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae cyfraddau presenoldeb mewn addysg, hyfforddiant neu weithgareddau gwaith wedi gwella’n raddol ers y pandemig.
  • Ar y cyfan, mae llawer o garcharorion mewn carchardai oedolion i ddynion yn ymgysylltu’n gynhyrchiol â’r gweithgareddau sydd ar gael.
  • Mae aelodau staff a mentoriaid cymheiriaid yn cefnogi carcharorion a phlant mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc yn effeithiol i fagu hyder a gwydnwch.
  • Mewn rhai achosion, mae staff yn defnyddio’r wybodaeth o asesiadau cychwynnol yn dda i lywio eu haddysgu a lliniaru rhwystrau posibl rhag dysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw cymorth i oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol a pha mor dda y mae staff yn monitro eu cynnydd yn ddigon cryf.
  • Mae arferion rhai plant yn rhy gyfyngol, gan leihau’r cyfleoedd iddynt ddatblygu eu medrau cymdeithasol ac emosiynol.

Arwain a Gwella

Mae arweinwyr yn cydweithio’n dda â’i gilydd i sicrhau bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cael digon o amser y tu allan i’r gell i ymgymryd ag ystod o weithgareddau. Fodd bynnag, lle mae arlwy’r cwricwlwm yn wan, nid oes digon o gyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn dysgu neu hyfforddiant ystyrlon a phriodol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr a staff yn cydweithio’n dda â’i gilydd i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddynion a phlant dreulio amser y tu allan i’w celloedd.
  • Mae arweinwyr yn adolygu eu darpariaeth yn briodol i nodi meysydd eang i’w datblygu, fel ansawdd yr addysgu ac ehangder darpariaeth.
  • Mewn rhai achosion, mae arweinwyr yn cydweithio’n dda â phartneriaid allanol i wella’r ystod o lwybrau galwedigaethol achrededig i gynyddu’r siawns y bydd dysgwyr yn dod o hyd i gyflogaeth lwyddiannus ar ôl cael eu rhyddhau.
  • Mae staff ar bob lefel yn ymgysylltu’n dda â rhwydweithiau rhanbarthol a chenedlaethol i rannu arfer.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw’r cwricwlwm yn bodloni anghenion dysgwyr ac/neu’n cefnogi eu dilyniant ystyrlon yn ddigon da bob tro. Roedd hyn yn peri pryder penodol yn y Sefydliad Troseddwyr Ifanc ac yn cael ei waethygu gan fylchau yn y staff addysgu.
  • Nid yw arweinwyr yn defnyddio gweithgareddau monitro yn gyson dda i nodi meysydd i’w gwella yn fanwl gywir.
  • Mewn ychydig o achosion, nid yw gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau allanol neu bartneriaid dan gontract yn ddigon cryf.
  • Nid oes darpariaeth ddigonol i ddatblygu’r Gymraeg.

Dim ond un arolygiad ar y cyd o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2023-2024. Felly, nid yw’r canfyddiadau hyn wedi’u cynnwys yn y canfyddiadau interim, ond ceir adroddiad llawn arnynt yn yr Adroddiad Blynyddol.