Skip to content

Ysgolion arbenigol ADY annibynnol

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu

Mae ysgolion wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ganddynt gwricwlwm cyfoethogol ac addysgu effeithiol i gefnogi dysgu disgyblion a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau sy’n deillio o unrhyw darfu ar eu haddysg.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Ar draws bron pob un o’r ysgolion, mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i ennyn eu diddordeb a’u hysgogi yn eu dysgu.
  • Bron ym mhob un o’r ysgolion, gwna llawer o ddisgyblion gynnydd cryf o’u mannau cychwyn unigol â’u medrau cymdeithasol a chyfathrebu.
  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, gwna llawer o ddisgyblion gynnydd cadarn o ran datblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd ac annibyniaeth.
  • Mae’r cwricwlwm mewn llawer o ysgolion yn canolbwyntio’n briodol ar anghenion, diddordebau a galluoedd disgyblion.
  • Mae llawer o ysgolion yn cyfoethogi eu cwricwlwm yn sylweddol gan ddefnyddio ystod eang o gyfleoedd dysgu dilys y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
  • Mae llawer o ysgolion yn defnyddio data asesu yn dda i lywio cynllunio a sicrhau cynnydd mewn dysgu.
  • Mae llawer o ddisgyblion yn symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o ysgolion, mae datblygu medrau darllen cynyddol wedi’i gyfyngu gan ddiffyg cyfleoedd.
  • Mewn llawer o ysgolion, nid yw disgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu medrau digidol yn gynyddol ar draws y cwricwlwm.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae lleiafrif o ddisgyblion yn or-ddibynnol ar staff i gyfarwyddo eu dysgu.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae cyfleoedd cyfyngedig i ddisgyblion ennill achrediad priodol.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw profiadau dysgu yn cyfateb i anghenion disgyblion yn ddigon da.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw gwybodaeth asesu’n llywio cynllunio ar gyfer y dyfodol na chyflwyno ymyriadau priodol yn ddigon da i fodloni anghenion disgyblion unigol.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae ysgolion wedi gweithio’n effeithiol i sicrhau lefelau da o ofal, cymorth ac arweiniad i fynd i’r afael ag unrhyw faterion yn ymwneud â lles disgyblion a’u paratoi’n dda ar gyfer eu camau nesaf.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r lefelau uchel o ofal a chymorth a ddarperir yn sicrhau bod bron pob un o’r disgyblion yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gwybod â phwy i siarad os oes ganddynt bryderon.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn yr ysgol ac yn mwynhau eu dysgu.
  • Mae llawer o ddisgyblion yn dangos presenoldeb gwell dros gyfnod.
  • Mae cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY) disgyblion yn gyffredinol briodol ac yn bodloni eu hanghenion.
  • Mae mwyafrif yr ysgolion yn darparu ystod fuddiol o brofiadau i ddisgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth ysbrydol, foesol a chymdeithasol yn dda.
  • Mae gan lawer o ysgolion ddiwylliant diogelu cadarn.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw systemau i olrhain cynnydd disgyblion yn erbyn eu targedau unigol wedi’u datblygu’n ddigonol.
  • Mae presenoldeb isel ychydig o ddisgyblion yn cael effaith negyddol ar eu cynnydd, cyflawniad a lles.
  • Mewn llawer o achosion, nid yw effaith therapi neu ymyriadau ar gynnydd a lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu yn cael ei gwerthuso’n ddigon da.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw darpariaeth ar gyfer arweiniad gyrfaoedd wedi’i datblygu’n ddigonol.
  • Nid yw cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’u datblygu cystal.

Arwain a gwella

Mae arweinwyr wedi parhau i ddatblygu darpariaeth ac addasu wrth iddynt sicrhau bod ganddynt dîm staff cryf, wedi’u hyfforddi’n dda a phrosesau sicrhau ansawdd cadarn i’w cynorthwyo i wella’r ysgol. Fodd bynnag, ym mwyafrif yr ysgolion, nid yw prosesau sicrhau ansawdd yn canolbwyntio’n ddigonol ar effeithiolrwydd addysgu a’i effaith ar ddysgu.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae mwyafrif yr ysgolion yn parhau i fod ag arweinyddiaeth gadarn.
  • Mae arweinwyr yn y rhan fwyaf o ysgolion wedi sefydlu gweledigaeth glir ac wedi’i chyfleu’n dda i gymuned yr ysgol.
  • Mae ychydig o ysgolion yn darparu arlwy dysgu proffesiynol cryf sy’n cysylltu’n dda â blaenoriaethau gwella’r ysgol.
  • Mae’r amgylchedd dysgu yn y rhan fwyaf o ysgolion yn hybu dysgu’n dda.
  • Mae mwyafrif yr ysgolion yn parhau i gydymffurfio â’r Safonau Ysgolion Annibynnol.

Beth sydd angen ei wella

  • Ym mwyafrif yr ysgolion, nid yw prosesau sicrhau ansawdd yn canolbwyntio’n ddigonol ar effeithiolrwydd addysgu a’i effaith ar ddysgu.
  • Mae newidiadau diweddar i arweinyddiaeth wedi arafu cynnydd mewn lleiafrif o ysgolion.
  • Mae heriau o ran recriwtio a chadw staff yn rhwystro gallu arweinwyr i ganolbwyntio ar flaenoriaethau gwella, sy’n effeithio ar gysondeb ac ansawdd addysgu.
  • Ychydig iawn o ysgolion sydd â chartrefi preswyl cysylltiedig sy’n darparu hyfforddiant i staff gofal ar sut i gefnogi disgyblion mewn addysg ac nid oes gan leiafrif o ysgolion brosesau i olrhain effaith dysgu proffesiynol.
  • Nid yw’r perchenogion mewn lleiafrif o ysgolion yn sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â’r Safonau Ysgolion Annibynnol.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau craidd

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn 12 o ysgolion arbennig annibynnol.

11

Rhoddwyd argymhelliad i 11 (91.7%) o ddarparwyr sefydlu neu fireinio eu prosesau sicrhau ansawdd a chynllunio gwelliant, yr oedd 7 ohonynt yn argymell canolbwyntio ar gynnydd disgyblion.

7

Rhoddwyd argymhelliad i 7 o ddarparwyr (58.3%) gydymffurfio’n llawn â’r Safonau Ysgolion Annibynnol, a rhoddwyd argymhelliad i un ohonynt sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cydymffurfio â’u categori cofrestru.

4

Rhoddwyd argymhelliad i 4 o ddarparwyr (43.3%) i gryfhau neu ddatblygu eu cwricwlwm, naill ai i wella darpariaeth ar gyfer gyrfaoedd, addysg ysbrydol, foesol, gymdeithasol a diwylliannol ac addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh), cefnogi disgyblion i ddilyn eu llwybrau dysgu dymunol, sicrhau bod rhaglenni astudio’n cael eu cefnogi gan gynlluniau gwaith ac asesu i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion yn gynyddol, neu gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu mewn cyd-destunau go iawn a dilyn eu llwybrau dysgu dymunol.

3

Argymhellwyd bod 3 darparwr yn cryfhau’r rheolaeth ar ddiogelu ac yn mynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd yn ystod yr arolygiad.

3

Rhoddwyd argymhelliad i 3 darparwr i gryfhau cynllunio i wella datblygiad medrau disgyblion.

3

Rhoddwyd argymhelliad i 3 darparwr i fireinio rolau a chyfrifoldebau’r staff.

2

Rhoddwyd argymhelliad i 2 ddarparwr i wella ansawdd yr addysgu.

Gwerthusom gydymffurfiaeth 15 o ysgolion â’r Safonau Ysgolion Annibynnol hefyd fel rhan o ymweliadau monitro.