Skip to content

Dysgu yn y gwaith

Negeseuon Cynnar


Addysgu a dysgu

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu ystod eang o fedrau ymarferol a damcaniaethol yn gyflym o ganlyniad i’w profiadau yn y gweithle ac addysgu, hyfforddiant ac asesu cefnogol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae dysgwyr yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu ystod gynhwysfawr o fedrau ymarferol y maent yn eu cymhwyso i’w rolau gwaith yn dda.
  • Daw dysgwyr yn aelodau staff gwerthfawr o’u cyflogwyr yn gyflym.
  • Mae dysgwyr yn datblygu eu medrau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn dda.
  • Mae athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn defnyddio cwestiynau yn effeithiol i wirio gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr ac i brocio ac ymestyn dealltwriaeth a meddwl ar lefel uwch.
  • Mae gan ddarparwyr ystod gynhwysfawr o adnoddau addysgu a dysgu, gan gynnwys adnoddau dwyieithog.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal, ac mewn lletygarwch ac arlwyo, mae cyfraddau llwyddiant a chwblhau amserol dysgwyr yn rhy isel o hyd.
  • Mae addysgu a dysgu y medrau llythrennedd, rhifedd a digidol wedi’u gogwyddo’n rhy benodol tuag at baratoi ar gyfer asesiadau allanol.
  • Mae nifer y dysgwyr sy’n dewis cwblhau gwaith ysgrifenedig neu asesiadau yn Gymraeg yn isel o hyd.
  • Mae ansawdd y cynllunio a gosod targedau ar gyfer cynnydd a chyflawniad dysgwyr yn rhy amrywiol.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae darparwyr yn gwella eu gweithdrefnau yn barhaus i sicrhau bod anghenion lles dysgwyr yn cael eu nodi a’u bodloni’n gyflym.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae ystod gynhwysfawr o weithdrefnau a phrotocolau gofal, cymorth ac arweiniad sy’n canolbwyntio ar les dysgwyr.
  • Mae aseswyr yn ymweld yn rheolaidd â dysgwyr sydd mewn perygl o adael eu prentisiaeth neu y tu ôl i ble y dylent fod ar gyfer cam y rhaglen.
  • Mae trefniadau’n gwella ar gyfer nodi a chefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw darparwyr yn datblygu dealltwriaeth dysgwyr o radicaleiddio ac eithafiaeth yn gyson.

Arwain a gwella

Yn gyffredinol, mae arweinwyr yn blaenoriaethu’n dda ac yn gweithio’n effeithiol ag ystod o bartneriaid.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae gan arweinwyr ffocws clir ar fodloni blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Mae darparwyr yn gweithio a chyfathrebu’n dda â’u hisgontractwyr. Maent yn rhannu ystod dda o wybodaeth ag isgontractwyr ynghylch cyflwyno’r contract.
  • Mae arweinwyr yn ymgysylltu’n dda â diwydiant i ddylanwadu ar ddarpariaeth a datblygu medrau arbenigol.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw hunanwerthuso’n ddigon miniog bob tro ac nid yw cynlluniau gwella’n ddigon clir a manwl gywir bob tro i allu monitro cynnydd a mesur effaith.
  • Nid yw darparwyr arweiniol yn nodi ac yn rhannu arfer orau yn ddigon da â’u partneriaid, yn enwedig mewn addysgu, hyfforddi ac asesu.
  • Mae gormod o brentisiaid, yn enwedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, nad ydynt yn cael amser gan eu cyflogwyr i ymgymryd â dysgu i ffwrdd o’r gwaith.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, arolygodd Estyn dri darparwr dysgu yn y gwaith.

Rhoddwyd argymhelliad i’r tri ohonynt wella’r cyfraddau y mae dysgwyr yn cwblhau eu rhaglenni arnynt.

Roedd argymhellion eraill yn cynnwys gwella ansawdd gosod targedau, cryfhau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant, a sicrhau bod dysgwyr yn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd.

Rhoddwyd argymhellion i’r darparwr gwannach yn ymwneud ag:

  • addysgu, dysgu ac asesu
  • sicrhau bod cyflogwyr yn bodloni eu rhwymedigaethau i gefnogi hyfforddiant eu prentisiaid
  • trefniadau ansawdd a goruchwyliaeth effeithiol a thrylwyr

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Gofal, cymorth a lles

Coleg Gŵyr

Inspection report

Astudiaeth achos – Gofal cofleidiol cyffredinol ar gyfer prentisiaid – Estyn (llyw.cymru).

Coleg Gŵyr

Inspection report

Astudiaeth achos – Dysgu proffesiynol a rhannu arfer dda mewn dysgu yn y gwaith – Estyn (llyw.cymru).