Meithrinfeydd nas cynhelir
Adroddiad sector 2023 - 2024
Cyfanswm nifer y lleoliadau yn darparu addysg a ariennir
569
Ionawr 2019
546
Ionawr 2020
537
Gorffennaf 2021
529
Awst 2022
543
Mai 2023
527
Awst 2024
Arolygiadau ar y cyd
Hydref 2023: 30 arolygiad
Gwanwyn 2024: 27 arolygiad
Haf 2024: 33 arolygiad
Nifer arolygiadau: 90
Gweithgarwch dilynol
Rhoddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol adolygu gan Estyn: 1 yn ystod 23/24
Tynnwyd o gategori gweithgarwch dilynol: 1 o 22/23
Wedi aros yn y categori gweithgarwch dilynol adolygu gan Estyn: 0 o 22/23
Astudiaethau achos
Ceisiadau am astudiaeth achos: 20
Wedi’u cyhoeddi ar y wefan: 17
Crynodeb
Pan oedd ymarferwyr yn darparu cyfleoedd cyfoethog drwy weithgareddau a meysydd dysgu a gynlluniwyd yn dda, datblygodd y rhan fwyaf o blant sgiliau yn gyfannol ar draws gwahanol gyd-destunau. Roedd ymarferwyr i bob pwrpas yn dal chwilfrydedd plant, gan eu trochi mewn rhyfeddod am y byd naturiol. Roeddent yn cynnig profiadau dysgu pwrpasol yn seiliedig ar amgylchedd uniongyrchol y plant, gan ganiatáu ar gyfer cyfnodau hir o chwarae lle gallai plant ymgysylltu’n ddwfn â’u diddordebau. Fodd bynnag, mewn rhai lleoliadau, roedd y defnydd o asesiadau ac arsylwadau i ymateb i anghenion plant unigol yn dal i ddatblygu. Nid oedd lleiafrif o ymarferwyr yn defnyddio arsylwadau i gynllunio’r camau nesaf mewn dysgu. Yn ogystal, nid oedd rhai lleoliadau’n cynllunio’n ddigon pwrpasol i ddatblygu sgiliau plant, yn enwedig mewn ardaloedd awyr agored.
Roedd lleoliadau’n darparu lefelau da o ofal, cefnogaeth ac arweiniad, gan effeithio’n gadarnhaol ar les plant. Roedd arferion rheolaidd, rhagweladwy yn helpu plant i deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus, gan ganiatáu iddynt ffurfio perthnasoedd cryf gyda chyfoedion ac ymarferwyr. Dangosodd y plant hyn lefelau uchel o fwynhad a hyder yn eu chwarae a’u dysgu. Roedd bron pob lleoliad yn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a diogelwch, gyda llawer â gweithdrefnau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, roedd asesiadau risg yn rhai generig neu heb eu hadolygu’n rheolaidd i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol.
Roedd arweinyddiaeth yn gryf mewn llawer o leoliadau, gydag arweinwyr â gweledigaeth glir ar gyfer darparu profiadau gwerth chweil mewn amgylcheddau diogel a meithringar. Bu i brosesau hunanwerthuso effeithiol a cynlluniau gwella gwybodus, arwain at newidiadau cadarnhaol yn y ddarpariaeth a’r canlyniadau i blant. Fodd bynnag, mewn rhai lleoliadau, nid oedd arweinwyr yn blaenoriaethu meysydd allweddol i’w gwella, gan ganolbwyntio yn hytrach ar feysydd o ddiddordeb.
Addysgu a dysgu
Ym mron pob un o’r lleoliadau a arolygwyd, gwnaeth y rhan fwyaf o blant gynnydd da, o leiaf, o’u mannau cychwyn unigol a datblygu ystod eang o fedrau trwy eu chwarae.
At ei gilydd, rhoddodd llawer o leoliadau y Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir nas Cynhelir ar waith yn llwyddiannus. Roedd ymarferwyr yn y lleoliadau hyn yn darparu cyfleoedd cyfoethog i blant ddatblygu ystod eang o fedrau mewn ardaloedd a gweithgareddau a oedd wedi’u cynllunio’n ofalus. Er enghraifft, roedd llawer o ymarferwyr yn darparu cyfleoedd buddiol i blant drin llyfrau a gwrando ar storïau ym mhob rhan o’r lleoliad.
Roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn hybu medrau cyfathrebu plant yn effeithiol. Roeddent yn annog plant i ofyn ac ateb cwestiynau ac yn rhoi sylwadau symbylol a oedd yn annog plant i feddwl drostynt eu hunain. Roedd y rhan fwyaf o blant yn siarad yn hyderus ag oedolion a’u cyfoedion. Roeddent yn defnyddio ystod eang o eirfa yn ystod chwarae digymell a strwythuredig i egluro syniadau sylfaenol a disgrifio’r hyn yr oeddent yn ei wneud. Roedd llawer o blant yn gwrando ar ymarferwyr yn ofalus ac â dealltwriaeth ac yn dilyn eu cyfarwyddiadau o wirfodd.
Mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn cynllunio ar gyfer datblygiad Cymraeg plant yn effeithiol. Roeddent yn trochi plant yn y Gymraeg ac, o ganlyniad, roedd dealltwriaeth plant yn datblygu’n dda. Yn y lleoliadau mwyaf llwyddiannus, roedd ymarferwyr yn cydweithio â’i gilydd yn fuddiol, gan sicrhau bod yr arferion hyn yn gyson ac yn cael yr effaith orau bosibl ar ddealltwriaeth a chynnydd ieithyddol plant.
Mewn llawer o leoliadau cyfrwng Saesneg, roedd ymarferwyr yn datblygu defnydd plant o’r Gymraeg yn llwyddiannus trwy fanteisio ar gyfleoedd trwy gydol y sesiwn i gyflwyno ac atgyfnerthu dysgu a dealltwriaeth plant. Yn yr arfer gryfaf, roedd ymarferwyr yn siarad yn glir ac yn achub ar bob cyfle i gyflwyno geirfa newydd i blant, gan eu hannog i ymateb i eiriau ac ymadroddion syml yn Gymraeg. Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, nid oedd ymarferwyr yn defnyddio’r Gymraeg yn ddigon cyson bob tro i gefnogi plant i ddatblygu eu medrau Cymraeg.
Roedd llawer o ymarferwyr yn cynllunio cydbwysedd da o ddysgu dan arweiniad oedolion a dysgu wedi’i ysgogi gan blant. Roeddent yn sicrhau bod adnoddau ar gael yn hawdd i blant er mwyn iddynt allu gwneud dewisiadau pwrpasol ynghylch ble a sut yr hoffent chwarae. Roedd hyn yn golygu bod plant yn ymgysylltu’n dda â gweithgareddau ac yn cael llawer o gyfleoedd i ddilyn eu diddordebau eu hunain a datblygu eu medrau.
Roedd llawer o ymarferwyr yn darparu ystod eang o gyfleoedd wedi’u cynllunio’n dda i blant ddatblygu eu medrau corfforol yn llwyddiannus. Er enghraifft, roeddent yn annog plant i ddefnyddio trawstiau ac offer cydbwyso a ddarparwyd i adeiladu eu cyrsiau rhwystrau eu hunain. Roedd llawer o blant yn datblygu medrau echddygol manwl a medrusrwydd corfforol yn effeithiol trwy weithgareddau fel defnyddio gefeiliau bach, edafu gleiniau a thrin toes.
At ei gilydd, roedd ymarferwyr yn cynllunio profiadau a oedd yn ennyn chwilfrydedd plant yn dda. Yn yr enghreifftiau gorau, roeddent yn sicrhau bod plant yn cael eu rhyfeddu gan y byd a’r ffordd y mae pethau’n datblygu ac yn tyfu’. Roeddent hefyd yn defnyddio’r gweithgareddau hyn i ddatblygu medrau plant yn gyfannol. Er enghraifft, roedd ymarferwyr yn cynnwys plant mewn gweithgareddau garddio i ddatblygu iaith fathemategol plant mewn cyd-destunau go iawn. Roedd hyn yn galluogi plant i ddatblygu eu medrau rhifedd a datrys problemau, yn ogystal â’u medrau corfforol.
Yn yr arfer gryfaf, roedd ymarferwyr yn darparu cyfnodau estynedig o chwarae i blant, lle’r oeddent yn gallu ailymweld â gweithgareddau roedd ganddynt ddiddordeb ynddynt, ac yn caniatáu amser iddynt ymgysylltu’n ddwfn â’u dysgu. Roeddent yn ymateb yn gadarnhaol i ddiddordebau plant a’u diddordebau arbennig. Roeddent yn defnyddio’r wybodaeth hon yn effeithiol ac yn addasu eu cynllunio i ennyn diddordeb plant yn eu dysgu ymhellach, er enghraifft trwy ddarparu gweithgareddau cynllunio er mwyn ymateb i ddiddordebau plant mewn gwneud bisgedi yn yr ardal chwarae rôl.
Yn gyffredinol, roedd lleoliadau’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i blant fod yn greadigol ac arbrofi â syniadau, deunyddiau ac offer. O ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o blant yn datblygu eu medrau creadigol yn dda trwy weithgareddau celf neu trwy arbrofi ag offerynnau cerdd a dawnsio yn llawn mynegiant. Roedd bron pob un o’r plant yn datblygu eu medrau digidol yn dda. Yn yr enghreifftiau cryfaf, roedd ymarferwyr yn annog plant i ddeall effaith dyfeisiau digidol ar eu bywydau trwy weithgareddau fel pwyso eitemau ar glorian digidol, recordio nodiadau llais neu ddefnyddio technoleg wedi’i hysgogi gan lais i ddod o hyd i wybodaeth.
Roedd y rhan fwyaf o leoliadau’n parhau i ddarparu cyfleoedd addas i blant ymgynefino â diwylliant Cymru a chael profiad ohono. Er enghraifft, roedd ymarferwyr yn trefnu ymweliadau a gweithgareddau fel teithiau cerdded i siopau lleol, llyfrgelloedd a pharciau neu deithiau ar wasanaethau bws lleol i amwynderau ychydig ymhellach i ffwrdd. Roedd y rhan fwyaf o leoliadau’n dathlu ac yn cynllunio gweithgareddau o gwmpas ychydig o ddyddiadau diwylliannol pwysig, fel y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a Diwali, ond roedd cyfleoedd i blant ddatblygu dealltwriaeth o ddiwylliannau nad oeddent yn gyfarwydd â nhw yn gyfyngedig o hyd. Roedd hyn yn golygu nad oedd plant bob amser yn dysgu am amrywiaeth Cymru.
Mewn llawer o leoliadau, lle’r oedd yr addysgu’n gryf, roedd gan ymarferwyr ddealltwriaeth gadarn o ddatblygiad plant ac roeddent yn cynnig ystod eang o gyfleoedd chwarae cyfoethog i blant, wedi’u seilio ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru. Roedd ymarferwyr yn darparu gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored a oedd yn annog plant i fentro ac i ddatblygu eu medrau cymdeithasol a chydweithio yn bwrpasol. Roeddent yn creu amgylcheddau dysgu anogol, a oedd yn creu ymdeimlad o berthyn ymhlith y plant ac yn cynorthwyo i ddatblygu eu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth yn dda. Roedd llawer o ymarferwyr yn holi plant yn fedrus i gefnogi ac ymestyn eu dysgu. Roeddent yn defnyddio cwestiynau penagored yn fedrus i ennyn syniadau’r plant a’u hannog i feddwl yn ehangach.
Yn yr arfer fwyaf effeithiol, roedd ymarferwyr yn cydnabod pa bryd yr oedd angen iddynt ymyrryd a pha bryd i gamu’n ôl er mwyn annog plant i feddwl a datrys pethau drostyn nhw’u hunain. Er enghraifft, roedd ymarferwyr yn rhoi rhyddid i blant archwilio sut mae pethau’n gweithio, fel olwynion ar lorïau tegan. Yna, roeddent yn cyflwyno offer a deunyddiau eraill i alluogi plant i ddatrys problemau drostyn nhw’u hunain.
Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, nid oedd ymarferwyr yn cynllunio’n ddigon pwrpasol i ddatblygu medrau plant, yn enwedig yn yr ardaloedd awyr agored. Yn yr enghreifftiau hyn, roedd plant yn aml yn chwarae heb unrhyw ffocws na diben gwirioneddol ac roedd ymarferwyr yn dueddol o orgyfarwyddo dysgu’r plant, gan lesteirio cyfleoedd iddynt ddarganfod pethau drostyn nhw’u hunain.
Yn ystod y flwyddyn, mabwysiadodd nifer gynyddol o leoliadau y Trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Roedd hyn yn helpu ymarferwyr i ddeall cynnydd yn nysgu plant yn well ac i gymhwyso egwyddorion cynnydd yn ymarferol.
Tiggys Day Care Day Nursery
In Tiggys Day Care Day Nursery, practitioners use observations proactively to write down children’s interests and fascinations as they play. They place their written notes on a planning board that is then used by all practitioners to plan experiences and adapt environments to be meaningful and relevant to children’s interests. For example, when children are observed pretending to fix a cupboard in the role play area, practitioners enrich the area the following day with tools relating to carpenters, plumbers and electricians.
Mewn lleiafrif o leoliadau, dim ond megis dechrau cael ei ddatblygu oedd y defnydd o asesiadau ac arsylwadau i ymateb i anghenion plant unigol a dyfnhau ac ymestyn eu dysgu. Yn yr achosion hyn, nid oedd ymarferwyr yn defnyddio arsylwadau ac asesiadau yn werthfawr bob tro i gynllunio ac addysgu’r camau nesaf mewn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau plant yn ddigon da.
Gofal, cymorth ac arweiniad a lles
Parhaodd lleoliadau i ddarparu lefelau effeithiol o ofal, cymorth ac arweiniad i blant a oedd yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles. Roedd llawer o blant yn ymgysylltu’n hapus â chyfoedion ac oedolion yn eu lleoliadau. Roedd y lleoliadau hynny a oedd wedi sefydlu arferion rheolaidd, rhagweladwy yn rhoi ymdeimlad o sicrwydd i blant, gan eu galluogi i deimlo’n gyfforddus ac gartrefol. Roedd y plant hyn yn ymgartrefu’n dda ac yn meithrin cysylltiadau cryf â’u cyfoedion ac ymarferwyr. Roeddent yn dangos lefelau uchel o fwynhad. Yn yr achosion hyn, roedd plant yn aml yn gwneud dewisiadau a phenderfyniadau hyderus am eu chwarae a’u dysgu. Roeddent yn symud yn rhwydd rhwng gweithgareddau hygyrch a oedd o ddiddordeb iddynt ac yn gwneud dewisiadau ystyrlon wrth chwarae. Roeddent yn aml yn chwarae ag ystod eang o adnoddau diddorol ac yn defnyddio’r rhain i lunio eu chwarae eu hunain ac i ddatblygu eu syniadau’n effeithiol. Yn y lleoliadau niferus lle’r oedd hyn yn wir, roedd y rhan fwyaf o blant yn mynegi eu hunain yn dda oherwydd eu bod yn gwybod bod ymarferwyr yn gwerthfawrogi eu barn a’u teimladau.
Roedd llawer o ymarferwyr yn cefnogi plant yn fedrus wrth iddynt chwarae ac yn ystod arferion dyddiol a oedd yn cadw plant yn ddiogel, wrth annog eu hannibyniaeth a pharchu eu preifatrwydd, hefyd.
Little Explorers
In Little Explorers, children thrive at the setting and respond very well to the numerous opportunities to develop independence. They serve themselves at snack time, peel and cut their fruit, pour their own milk and take their plates to the sink. Older children find their name cards to write their name on their pictures and all children learn to put on their waterproofs and boots before outside play.
Ym mron pob lleoliad, roedd ymarferwyr yn dilyn polisïau a gweithdrefnau eu lleoliad a oedd yn annog ffyrdd iach o fyw ac yn hybu diogelwch a lles plant. Yn y lleoliadau hyn, roedd ymarferwyr yn glir ynghylch eu cyfrifoldebau o ran ymdrin â phryderon amddiffyn plant ac anghenion meddygol unrhyw blentyn. Roeddent yn cynnig dewisiadau cytbwys o ran bwyd a diod ac yn annog rhieni’n llwyddiannus i ddarparu pecynnau cinio iach. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd ymarferwyr yn goruchwylio plant yn dda ac yn cwblhau’r holl gofnodion perthnasol yn ymwneud â damweiniau, digwyddiadau, anafiadau presennol a meddyginiaeth yn briodol. Roeddent yn cynnal adolygiadau rheolaidd ac yn dadansoddi unrhyw dueddiadau. Fodd bynnag, mewn ychydig iawn o achosion lle nad oedd arfer mor gryf, roedd arweinwyr yn mabwysiadu asesiadau risg generig nad oeddent yn cynnwys manylion penodol am y lleoliad, neu nid oeddent yn adolygu asesiadau risg yn rheolaidd i adlewyrchu sefyllfa gyfredol y lleoliad.
Roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn rheoli rhyngweithiadau plant yn dda iawn. Trwy esboniadau clir a thrafodaethau tawel, roeddent yn helpu plant i ddatblygu ymdeimlad o dda a drwg mewn modd sensitif. Roeddent yn defnyddio canmoliaeth i ddathlu’r pethau cadarnhaol roedd plant yn eu gwneud ac roedd y gweithredoedd hyn yn aml yn helpu plant i ddeall sut roedd eu gweithredoedd yn effeithio ar bobl eraill. Roedd hyn yn arwain at lawer o blant yn defnyddio moesau da ac yn trin ei gilydd â charedigrwydd wrth chwarae â’u cyfoedion.
Ym mron pob un o’r lleoliadau, roedd ymarferwyr yn meithrin perthnasoedd cynnes â phlant ac yn eu trin â gofal a pharch. Roeddent yn adnabod y plant yn dda ac yn ymatebol i’w hanghenion unigol ac yn cynnig lefel dda o gymorth. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd ymarferwyr yn cael gwybodaeth ddefnyddiol gan rieni a gofalwyr ar hoff a chas bethau’r plant. Roedd hyn yn cefnogi ymarferwyr i gael dealltwriaeth well o blant unigol cyn iddynt ymuno â’r lleoliad. Yn y lleoliadau hyn, roedd ymarferwyr yn diwygio eu harfer yn rheolaidd i adlewyrchu ac ystyried newidiadau a datblygiadau a oedd yn digwydd yn y lleoliad ac ym mywyd cartref y plentyn.
Roedd gan lawer o leoliadau weithdrefnau cadarn i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Lle’r oedd arfer yn effeithiol, roedd lleoliadau’n ymgymryd â hyfforddiant gwerthfawr i’w cefnogi yn eu rolau ac i fodloni anghenion plant y nodwyd bod ganddynt ADY yn well. Roedd ymarferwyr yn treulio amser yn gwerthuso effaith eu hymagweddau ac yn nodi diwygiadau pellach yn feddylgar. O ganlyniad, roedd gan y lleoliadau hynny wybodaeth dda am dargedau unigol plant ac roedd ganddynt ddealltwriaeth gref o sut gallent eu cefnogi i wneud cynnydd. Yn yr enghreifftiau cryfaf, roedd lleoliadau’n creu amgylchedd cynhwysol ar gyfer pob plentyn. Er enghraifft, mewn ychydig o enghreifftiau, roedd staff yn defnyddio arwyddion ac ystumiau, ochr yn ochr â geiriau llafar, yn llwyddiannus i helpu i ddatblygu medrau iaith a chyfathrebu plant.
Arweinyddiaeth
Yn yr un modd â’r llynedd, roedd arweinyddiaeth yn y rhan fwyaf o leoliadau yn gryf o hyd. Roedd gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer eu lleoliadau ac roeddent yn angerddol am ddarparu profiadau gwerthfawr i blant mewn amgylcheddau diogel ac anogol. Roedd bron pob un o’r lleoliadau yn rhoi pwyslais clir ar les pob plentyn. Lle’r oedd arweinyddiaeth yn gryf, roedd arweinwyr yn cyfleu eu gweledigaeth yn glir trwy eu gweithredoedd a thrwy feithrin a chynnal perthnasoedd cryf â phlant a’u teuluoedd.
Roedd llawer o arweinwyr yn gwerthuso eu harfer yn gywir, gan ystyried pob agwedd ar eu lleoliad. Roeddent yn datblygu prosesau hunanwerthuso gwerthfawr a oedd yn bwydo cynlluniau gwella’r lleoliad yn bwrpasol. Roeddent yn nodi eu cryfderau a’u meysydd i’w gwella yn gywir ac yn pennu camau gweithredu priodol i sicrhau’r gwelliannau dymunol hynny. Lle’r oedd arfer yn arbennig o gryf, roedd lleoliadau’n defnyddio cyngor asiantaethau allanol a safbwyntiau ymarferwyr yn dda i ddatblygu a gwella eu darpariaeth a chefnogi dysgu’r plant. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd arweinwyr yn gwerthuso gwelliannau yn y ddarpariaeth trwy ystyried yr effaith ar ddysgu a lles plant. Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, nid oedd arweinwyr yn blaenoriaethu’r meysydd pwysicaf i’w gwella yn ddigon da bob tro, gan dueddu i ganolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb yn hytrach na meysydd allweddol i’w gwella.
Roedd gan arweinwyr mewn llawer o leoliadau ddisgwyliadau uchel ac roeddent yn buddsoddi’n bwrpasol yn eu staff. Roeddent yn cwblhau arfarniadau a goruchwyliaethau gwerthfawr, reolaidd â’u hymarferwyr. Roeddent yn creu ac yn cynnal ethos tîm cryf. Yn y lleoliadau hyn, roedd staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso i ddatblygu’n broffesiynol trwy hyfforddiant o ansawdd da a oedd yn cefnogi blaenoriaethau’r lleoliad a dyheadau unigol ymarferwyr. Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, nid oedd arweinwyr yn cynnig arfarniadau addas i ymarferwyr bob tro. O ganlyniad, nid oedd ymarferwyr bob amser yn gwybod beth a ddisgwyliwyd ganddynt, na pha gamau yr oedd angen iddynt eu cymryd i sicrhau gwelliannau a chydymffurfio â rheoliadau. Mewn ychydig iawn o leoliadau lle’r oedd gweithdrefnau goruchwylio ac arfarnu yn aneffeithiol, nid oeddent yn cael eu rhoi ar waith yn gyson na’u ffurfioli bob tro.
Roedd llawer o leoliadau’n meithrin ac yn cynnal partneriaethau da, gan eu bod yn deall yr effaith gadarnhaol yr oedd hyn yn ei chael ar y plant dan eu gofal. Roeddent yn cefnogi teuluoedd i ddeall datblygiad eu plant ac yn rhoi syniadau iddynt o ran sut y gallent helpu gartref trwy weithgareddau fel anfon clipiau fideo a negeseuon rheolaidd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol, a chyfarfodydd wyneb-yn-wyneb i drafod lles a chynnydd eu plant.
Chuckles Day Care
Leaders at Chuckles Day Care have established exceptional links with a range of partners. They work closely with local schools through activities such as forest school sessions and sports day visits. Leaders work with the local authority early years advisory teacher to improve standards and share good practice with other settings. Leaders plan family and parent workshops throughout the year, focusing on local community needs and priorities, such as a healthy food workshop and cooking days. They provide food and menu cards for families to use at home. The setting has close involvement in transition projects, supporting children and families moving from the nursery into the local schools.
Yn y rhan fwyaf o leoliadau, roedd arweinwyr yn gwneud defnydd gwerthfawr o’r grantiau sydd ar gael. Roeddent yn sicrhau bod gan eu lleoliadau adnoddau da ac roeddent yn gwario’n ddoeth, fel prynu adnoddau newydd, yn ôl yr angen. Roedd y rhan fwyaf o’r lleoliadau a gafodd Grant Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar yn uniongyrchol yn ei ddefnyddio’n effeithlon i gael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau i blant difreintiedig. Roedd arweinwyr yn nodi plant cymwys ac yn prynu adnoddau i gefnogi’r unigolion hynny, fel adnoddau mathemateg neu lyfrau darllen i fynd adref gyda nhw.
Roedd y rhan fwyaf o leoliadau’n darparu amgylchedd cyfoethog a oedd yn cefnogi dysgu a datblygiad plant yn effeithiol. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd arweinwyr yn creu amgylcheddau a oedd yn tanio chwilfrydedd plant, yn eu grymuso i ymchwilio ac yn caniatáu iddynt wneud dewisiadau annibynnol dan do ac yn yr awyr agored.
Homestead Nursery
Leaders at Homestead Nursery provide purposeful resources that support children’s holistic development in an exciting and innovative way. They consider children’s development well and ensure appropriate access to activities that build upon individuals’ abilities very effectively as they move through the setting. They use vintage furniture, plants and mirrors creatively and successfully to create a warm and homely environment where children, practitioners and visitors feel relaxed. The environment is further enhanced with a range of imaginative resources that stimulate children’s senses extremely well. For example, fresh and dehydrated fruits, real fresh herbs and musical areas with a disused piano with its functions exposed are used effectively to inspire curiosity.
Trosolwg argymhellion
Yn y flwyddyn academaidd 2023 – 2024, arolygodd Estyn 90 o leoliadau nas cynhelir.
Cafodd 38 (42.2%) o leoliadau argymhelliad i wella eu harfer mewn rhyw ffordd. O’r rheini, cafodd 26 o leoliadau argymhelliad i ddarparu neu ehangu cyfleoedd i wella sgiliau plant; roedd hanner yr argymhellion hynny yn ymwneud â datblygu sgiliau Cymraeg plant.
Cafodd 23 (25.6%) o leoliadau argymhelliad i wella neu ddatblygu’r defnydd o arsylwadau. Roedd tua hanner yr argymhellion hynny’n ymwneud â defnyddio arsylwadau i helpu i gynllunio’r camau nesaf yn natblygiad plant, roedd y lleill yn canolbwyntio’n amrywiol ar sicrhau bod plant yn gwneud cynnydd, cefnogi dysgu a datblygiad plant, a defnyddio arsylwadau i gynllunio profiadau sy’n bodloni anghenion unigol pob plentyn.