Gwaith ieuenctid
Adroddiad sector 2024 - 2025
Darparwyr Gwaith Ieuenctid
Cyflawnom 4 arolygiad craidd o waith ieuenctid, gan gynnwys arolygiad o sefydliad sector gwirfoddol mwy, a chynhaliom ein harolygiad â thema cyntaf o 4 sefydliad sector gwirfoddol llai.
Hefyd, fe wnaethom beilota cynhyrchu fersiynau i bobl ifanc o’n hadroddiadau arolygu, er enghraifft:
Nifer y bobl ifanc
Roedd gan ddarpariaeth gwaith ieuenctid statudol 81,293 o aelodau cofrestredig yn 2023-2024. Fodd bynnag, mae miloedd yn rhagor o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cael eu cynnal gan y sector gwirfoddol.
Ffynhonnell: Gwaith ieuenctid | LLYW.CYMRU
Darpariaeth
Mae gwaith ieuenctid yn cael ei ddarparu mewn amrywiaeth eang o leoliadau ar draws Cymru ac mae wedi’i yrru gan anghenion a diddordebau pobl ifanc a medrau gweithwyr ieuenctid. Mae Estyn yn arolygu darpariaeth gwaith ieuenctid mewn lleoliadau sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus, sy’n cael eu cynnal gan y sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol.
Gweithgarwch arolygu
Nifer yr arolygiadau craidd: 4
3 awdurdod lleol
Adroddiad arolygiad Ieuenctid Casnewydd – Newport Youth 2024
Adroddiad arolygiad Gwasanaeth Ieuenctid Integredig Powys – Powys Integrated Youth Service 2025
Adroddiad Arolygiad Ieuenctid Castell Nedd Port Talbot 2025
1 corff gwirfoddol
Adroddiad Arolygiad Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol YMCA Abertawe 2025
1 arolygiad thematig o bedwar corff gwaith ieuenctid gwirfoddol ar thema perthnasoedd iach
Astudiaethau achos
Nifer yr astudiaethau achos: dim ond cipluniau a ddefnyddiwyd
18 ciplun
Data Gweithgarwch Dilynol
Nid oes unrhyw ddarparwr wedi’i osod mewn categori gweithgarwch dilynol
Crynodeb
Sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?
Ar y cyfan, datblygodd pobl ifanc amrywiaeth eang o fedrau a dwysáu eu dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio ar eu bywyd nhw ac ar fywyd pobl ifanc eraill. Fe wnaeth eu hyder a’u haeddfedrwydd dyfu, gan eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn yn ei dro.
Trwy ddarpariaeth dargedig, cynigiodd llawer o ddarparwyr gyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc ddilyn llwybrau dysgu achrededig, strwythuredig. Fodd bynnag, ni wnaeth ychydig iawn o bobl ifanc elwa o gyfleoedd pellach i ennill achrediad ar gyfer eu gweithgareddau dysgu ffurfiol i’w helpu i symud ymlaen i gamau nesaf eu taith ddysgu, a’u paratoi ar gyfer bywyd oedolyn.
Mewn sesiynau mynediad agored anffurfiol, datblygodd pobl ifanc ddealltwriaeth gryf o berthnasoedd personol a materion cymdeithasol, wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydau creadigol pleserus neu chwarae chwaraeon a gemau. Fe ddysgon nhw i weithio’n dda gyda’u cymheiriaid a dysgu parchu safbwyntiau pobl eraill.
Cymerodd y rhan fwyaf o bobl ifanc ran yn frwdfrydig mewn sesiynau strwythuredig a sesiynau mwy anffurfiol. Roedd ychydig o bobl ifanc wedi datblygu eu rôl fel eiriolwyr dros bobl ifanc eraill mewn fforymau fel cynghorau ieuenctid yn hynod effeithiol. Yn yr enghreifftiau gorau, craffodd pobl ifanc ar waith swyddogion etholedig yn ddiwyd a chynorthwyo â’u dwyn nhw i gyfrif. Aeth ychydig o bobl ifanc ymlaen i rolau arwain a gwirfoddoli o fewn darparwyr. Fe wnaeth y bobl ifanc hyn, yr oedd rhai ohonynt wedi arddangos ymddygiad heriol yn flaenorol, aeddfedu’n oedolion ifanc a fu wedyn yn fodelau cadarnhaol o ymddygiad i bobl ifanc eraill.
Enillodd llawer o bobl ifanc wybodaeth a dealltwriaeth werthfawr o’r problemau y mae pobl eraill yn eu hwynebu, fel pobl ifanc LHDTC+, gofalwyr ifanc a cheiswyr lloches. Tyfodd eu hempathi a’u haeddfedrwydd. Enillodd llawer o bobl ifanc hyder a theimlo eu bod wedi’u grymuso i ymfalchïo ynddynt eu hunain fel unigolion.
Spotlight: Clwb Ni: Powys
An LGBTQ+ club for young people was set up in Ysgol Bro Hyddgen by the youth worker after a need was identified. This club evolved to cover wider diversity and equality issues, becoming ‘Clwb Ni’. The young people attending this club were keen to do more for their school and wanted to inform their peers about equality issues. With support from the youth worker, young people developed and delivered a ‘unity workshop’ for every young person in the school. The workshop included a ‘unity pledge’, which was adopted by the whole school, expressing everyone’s commitment to treating people equally and with kindness.
The young people delivering the workshop gained confidence, improved resilience and developed their public speaking skills. The project demonstrated a range of youth work principles, and the levels of participation were exceptional. Young people taking ownership of and delivering workshops to other young people had a notable positive impact across the whole school community.
Dros gyfnod, datblygodd llawer o bobl ifanc y medrau a’r agweddau gofynnol i wneud cynnydd mewn dysgu ffurfiol ac anffurfiol, ynghyd â thyfu fel unigolion.
Beth gall pobl ifanc ei ddisgwyl gan ddarpariaeth gwaith ieuenctid
Roedd bron bob un o’r gweithwyr ieuenctid yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig iawn yn eu penderfyniad i helpu pobl ifanc i fod y gorau y gallant fod a chyflawni eu potensial unigol. Fe ddarparon nhw fannau diogel i bobl ifanc gyfarfod ag oedolion y gallent ymddiried ynddyn nhw a chymdeithasu â’u cymheiriaid. Fe wnaeth gweithwyr ieuenctid feithrin perthnasoedd cryf â phobl ifanc yn llwyddiannus, gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn canolbwyntio ar eu hanghenion. Fe ddarparon nhw fodelau cadarnhaol o ymddygiad i bobl ifanc ac, ar adegau, nhw oedd yr unig fodelau dibynnol o ymddygiad a oedd gan bobl ifanc, gan eu helpu i ddeall natur perthnasoedd iach. Fe wnaeth hyn yn ei dro eu helpu i fyw bywyd iachach a mwy diogel.
West Rhyl Young People’s Project (WRYPP)
Beyond the role: youth workers as trusted adults
Youth workers at WRYPP play a vital role in the lives of the young people who access their services. The relationships they build are rooted in care and compassion, while maintaining clear professional boundaries. To many young people, these youth workers become trusted adults and positive role models, often filling a gap left by the absence of such figures in their lives.
Vulnerable young people with complex needs, those navigating the care system, homelessness, or experiences of exploitation, often find sanctuary at WRYPP. It is regarded as a psychologically safe space. Young people describe the Pixel drop-in sessions not as a youth group, but as a family. This supportive environment empowers them to overcome adversity and provides space to grow, build confidence, and re-establish themselves in society.
The relational behaviours modelled by youth workers set a positive tone, encouraging young people to form new friendships, participate in a wide range of activities, and engage in accredited opportunities that prepare them for their next steps.
From offering emotional support and steering young people away from risky behaviours, to helping them engage with educational and personal development activities, and even accompanying them to medical appointments, the staff at WRYPP demonstrate the pivotal role youth workers play in the lives of the young people they serve.
Fe wnaeth y rhan fwyaf o ddarparwyr gynnig cyfleoedd gwerthfawr yn rheolaidd i bobl ifanc fynegi eu barn a dylanwadu ar gynnig y ddarpariaeth. Yn aml, roedd y ddarpariaeth hon yn cael ei harwain gan y bobl ifanc a’i chreu ar y cyd â gweithwyr ieuenctid. Fodd bynnag, ni wnaeth ychydig bach iawn o ddarparwyr roi cyhoeddusrwydd yn ddigon effeithiol i’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i bobl ifanc.
Cynigiodd llawer o ddarparwyr gymorth targedig hynod fuddiol trwy weithgareddau i grwpiau o bobl ifanc bregus, ynghyd â thrwy weithgareddau dysgu ffurfiol, gan gynnwys mewn ysgolion. Yn ogystal, fe wnaeth ychydig ddarparwyr awdurdodau lleol gynorthwyo pobl ifanc sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref i gael gwersi Saesneg, anogaeth, arweiniad gyrfaol, a chymorth â gwneud ceisiadau i’r coleg.
Spotlight: Newport Youth and Play Service
A space where young people with additional learning needs can make friends and develop independence
In collaboration with the Disabled Children’s Team, the youth and play service has established a specialist club for young people with additional learning needs (ALN). The supported youth club in Rogerstone runs weekly sessions for children and young people with ALN who are aged between seven and twenty-five years.
The aim of the club is to build trusted relationships with the young people and provide them with opportunities to make friendships. The club supports these young people successfully to develop their confidence, self-esteem and independence, with a view to enabling them to engage in mainstream youth provisions. The young people play, socialise and learn new skills. For example, they participate in sporting activities, arts and crafts, and gaming activities. There are opportunities for them to develop important independent life skills such as decision-making and money management.
The young people and their parents and carers are very positive about the impact of this provision on those who attend. They describe how the provision has enabled them to make sustainable friendships and improved their resilience when faced with new challenges. Young people say that the club gives the freedom to be themselves and to express themselves outside of more formal education settings. It enables them to make friends with other young people from across the city and to have a social life. This helps to prepare them for transitions into wider society.
Cynigiodd ychydig ddarparwyr gyfleoedd ystyrlon a gwerthfawr iawn i bobl ifanc ddatblygu a defnyddio’u medrau Cymraeg. Ar y cyfan, mewn llawer o ddarparwyr fodd bynnag, roedd y cyfleoedd i bobl ifanc y mae’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig.
Spotlight: Welsh language
Neath Port Talbot (NPT) youth service has adopted a proactive approach in linking youth work and the authority’s Welsh in Education Strategic Plan to promote and expand the use of the Welsh language. For example, all youth clubs are required to provide a Welsh language or culture themed activity each month. Youth workers hold highly engaging promotional activities during community events to promote the value of bilingualism.
The service collaborates effectively with the local Welsh language initiative, Menter Iaith NPT. Joint initiatives include:
- assisting English-medium secondary schools to establish Welsh language lunchtime youth clubs
- organising trips to Llangrannog where young people can gain accreditation on the Welsh language and customs through the medium of Welsh or English
- offering first aid courses through the medium of Welsh
- holding one bilingual youth club in Pontardawe and a Welsh-medium youth club in Trebanos as part of the service’s open access offer
As a result, Welsh-medium provision and activities are an integral part of the mainstream offer.
Arwain a gwella
Ar y cyfan, roedd gan uwch arweinwyr ddealltwriaeth glir o waith ieuenctid a sut y gall helpu pobl ifanc i ddatblygu a chyflawni eu nodau trwy’r ddarpariaeth maen nhw’n ei chynnig. Fe weithion nhw’n effeithiol gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, yn y sectorau statudol a gwirfoddol, i gynllunio’r ddarpariaeth a chyrraedd cynifer o bobl ifanc ag y gallant.
Cynlluniodd arweinwyr mewn llawer o ddarparwyr yn effeithiol i liniaru effaith tlodi ar bobl ifanc, er enghraifft trwy ddarparu mannau cynnes yn ystod y gaeaf, dosbarthu bwyd am ddim, darparu talebau banc bwyd a darparu nwyddau hylendid personol.
Canolbwyntiodd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn fuddiol ar ddarparu cyfleoedd datblygu proffesiynol ystyrlon i staff a gwirfoddolwyr, gan gynnwys hyfforddiant rheolaidd ar ddiogelu. Fe sicrhaon nhw fod staff yn cael cymwysterau proffesiynol cydnabyddedig a chafodd hyn effaith gadarnhaol ar ansawdd y ddarpariaeth.
Roedd angen cyllid grant ychwanegol ar bron bob darparwr i gynnal cynnig eu darpariaeth. Mae hyn yn arbennig o heriol i gyrff sector gyhoeddus, sy’n aml yn dibynnu ar nifer o ffynonellau cyllid byrdymor, a threuliodd arweinwyr lawer o’u hamser yn gweinyddu grantiau un-tro.
Ni wnaeth llawer o ddarparwyr hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella yn ddigon effeithiol, ac nid oedd cydberthynas ddigonol rhwng arfer fyfyriol a dadansoddi data. Ni wnaeth cynllunio gwelliant bob amser nodi blaenoriaethau gyda thargedau seiliedig ar ddangosyddion llwyddiant mesuradwy. Yn yr ychydig o enghreifftiau lle’r oedd hunanwerthuso yn gadarn, cyfunodd darparwyr ddata amrywiol, tystiolaeth a myfyrdod yn effeithiol i addasu a datblygu’r ddarpariaeth.
Spotlight: Self-evaluation and improvement planning
Staff in YMCA Swansea use a variety of methods to capture and evaluate data to inform practice. Pivotal to this is the use of their management information system. Through this, leaders capture and collate key information ranging from young people’s information, details and reflection of every provision session, distance travelled, and feedback from young people through surveys. The data from the system enables leaders to put effective evaluative reports together. The ability to track and monitor individual young people through the service ensures that staff can amend individual support or provision to best suit the needs of young people.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Cafwyd pedwar arolygiad craidd yn y sector ieuenctid ac un arolygiad â thema o bedwar sefydliad gwirfoddol. Yn ystod yr arolygiadau craidd, cafodd dau ddarparwr argymhellion o fewn maes arolygu 1 (sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?):
- Amlinellu strategaeth glir ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid a chwarae trwy fapio darpariaeth gwaith ieuenctid ar draws ardal yr awdurdod lleol, a datblygu cynllun i gydlynu’r gwasanaethau ar draws partneriaid mewnol ac allanol yng Nghasnewydd i sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu
- Cynyddu cyfleoedd perthnasol i achredu dysgu pobl ifanc
Cafodd un darparwr argymhelliad o fewn maes arolygu 2 (beth all pobl ifanc ei ddisgwyl o ddarpariaeth gwaith ieuenctid):
- Cryfhau proses hunanwerthuso’r gwasanaeth ieuenctid a chwarae i gynorthwyo cynllunio gwelliant a mesur a gwerthuso effaith gwaith ieuenctid ar bobl ifanc yn fwy cywir
Cafodd tri darparwr argymhelliad o fewn maes arolygu 3 (arwain a gwella):
- Argymhellwyd bod dau yn gwella prosesau hunanwerthuso i sicrhau gwelliant neu wella cynllunio strategol
- Argymhellwyd bod un yn gwella cyfleoedd i bobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt ar lefel sirol
- Argymhellwyd bod un yn cynyddu cyfranogiad mewn gwasanaethau ieuenctid fel y gall mwy o bobl ifanc fanteisio ar gyfleoedd gwaith ieuenctid
Yn ogystal, argymhellwyd bod un darparwr yn datblygu arlwy rhagweithiol i hybu a hwyluso gwasanaethau i bobl ifanc y mae’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt.
Yn dilyn yr arolygiad thematig, cafwyd un argymhelliad o fewn maes arolygu 2 (beth gall pobl ifanc ei ddisgwyl o ddarpariaeth gwaith ieuenctid):
- Gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i wella hygyrchedd i gludiant i alluogi pobl ifanc o ardaloedd gwledig i elwa ar wasanaethau
Cafwyd tri argymhelliad o fewn maes arolygu 3 (arwain a gwella):
- Gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhanbarthol perthnasol i ffurfio cynnig dysgu proffesiynol cyson, sy’n cael ei ariannu’n briodol ac yn darparu’r capasiti i staff fynychu
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid perthnasol i fanteisio ar ffrydiau cyllido cyson sy’n sicrhau cynaliadwyedd ac yn caniatáu ar gyfer cynllunio strategol manylach
- Gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod staff yn gallu cael cymorth addas ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles