Ciplun: Y Gymraeg
Mae gwasanaeth ieuenctid Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu dull rhagweithiol o gysylltu gwaith ieuenctid â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod i hybu ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Er enghraifft, mae’n ofynnol i bob clwb ieuenctid ddarparu gweithgaredd ar thema’r Gymraeg neu ddiwylliant Cymru bob mis. Mae gweithwyr ieuenctid yn cynnal gweithgareddau hyrwyddo hynod ddifyr yn ystod digwyddiadau cymunedol i hybu gwerth dwyieithrwydd.
Mae’r gwasanaeth yn cydweithio’n effeithiol â’r fenter iaith leol, sef Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot. Mae mentrau ar y cyd yn cynnwys:
- cynorthwyo ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg i sefydlu clybiau ieuenctid amser cinio cyfrwng Cymraeg
- trefnu teithiau i Langrannog, lle gall pobl ifanc ennill achrediad yn y Gymraeg ac arferion trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg
- cynnig cyrsiau cymorth cyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg
- cynnal un clwb ieuenctid dwyieithog ym Mhontardawe a chlwb ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn Nhrebanos fel rhan o gynnig mynediad agored y gwasanaeth
O ganlyniad, mae darpariaeth a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o’r arlwy prif ffrwd.