Diwylliant darllen cryf yn Ysgol Fitzalan – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Skip to content

Diwylliant darllen cryf yn Ysgol Fitzalan

Mae pob disgybl yn elwa ar flaenoriaethu darllen ar draws yr ysgol gyfan a datblygu diwylliant darllen cryf. Mae hyn wedi’i ategu’n gadarn gan argymhellion llyfrau addas, modelau rôl ymhlith y staff addysgu ac amser darllen rheolaidd yn ystod cyfnodau cofrestru ac mewn llyfrgell dynodedig. Trwy roi sylw i lawer o feysydd pwnc, gan gynnwys materion cymdeithasol y tu allan i’r ysgol, mae disgyblion yn dysgu i werthfawrogi bod gan ddarllen le mewn sawl agwedd ar fywyd ac mae hyn yn eu helpu i ddatblygu’n unigolion cyflawn sy’n barod i dderbyn syniadau newydd.