Addysgu sy’n gyson gryf yn Y Coleg Merthyr Tudful – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Skip to content

Addysgu sy’n gyson gryf yn Y Coleg Merthyr Tudful

Mae gan y coleg strategaeth addysgu a dysgu ddiffiniedig yn seiliedig ar fodel addysgu myfyriol a chydweithredol, wedi’i lywio gan ymchwil. Mae’r model hwn wedi’i wreiddio’n gadarn ar draws y coleg. Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn rhoi’r strategaeth hon ar waith yn gyson, gan sicrhau bod gwersi’n cael eu cynllunio’n effeithiol, eu bod yn ddifyr, a bod cyflymdra da iddynt. Mae athrawon yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau addysgu i gynorthwyo dysgwyr i adeiladu’n raddol ar wybodaeth flaenorol. O ganlyniad, mae dysgwyr yn dangos ymgysylltiad cryf ac yn gwneud cynnydd cadarn yn datblygu eu medrau a’u dealltwriaeth.