Cynradd – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Skip to content

Cynradd

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Dysgu ac addysgu

Mae llawer o ysgolion yn darparu profiadau dysgu pwrpasol, wedi’u cefnogi gan addysgu effeithiol a pherthnasoedd cadarnhaol sy’n helpu disgyblion i wneud cynnydd sicr. Yn gyffredinol, mae disgyblion yn ymgysylltu’n dda, yn magu hyder ac yn datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu. Fodd bynnag, mae amrywiaeth yn y ddarpariaeth o hyd, yn enwedig o ran ansawdd a chysondeb yr addysgu, cywirdeb asesu a dilyniant a lefel yr her. Mewn ychydig o ysgolion, mae dysgu sy’n cael ei or-gyfarwyddo a diffyg lefel her yn cyfyngu ar annibyniaeth disgyblion, eu gallu i feddwl yn ddyfnach a’u gallu i gymhwyso eu medrau.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae llawer o ysgolion yn parhau i adolygu eu cwricwlwm ac addasu profiadau dysgu mewn ymateb i anghenion a chynnydd disgyblion.
  • Mae llawer o ysgolion yn darparu profiadau dysgu dilys a phwrpasol sy’n helpu disgyblion i wneud cysylltiadau ystyrlon o fewn meysydd dysgu a phrofiad ac ar eu traws. Mae’r ymagweddau hyn yn aml yn canolbwyntio’n briodol ar sicrhau dysgu dyfnach yn hytrach na chwmpasu cynnwys.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae addysgu ac asesu yn effeithiol, ar y cyfan. Mae perthnasoedd cryf, amgylcheddau dysgu tawel a chwestiynu pwrpasol yn cefnogi dysgu disgyblion ac yn eu galluogi i wneud cynnydd da.
  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn helpu disgyblion i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu ac at fywyd yr ysgol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn tua thair o bob deg ysgol gynradd, nid yw cynllunio’r cwricwlwm yn cefnogi dilyniant digon cydlynus yng ngwybodaeth, dealltwriaeth a medrau disgyblion. Yn yr ysgolion hyn, mae gweithgareddau dysgu yn aml yn brin o bwrpas, eglurder, her neu ehangder.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw athrawon yn defnyddio gwybodaeth asesu’n ddigon da i fonitro cynnydd disgyblion nac addasu cymorth i’w helpu i wella.
  • Mewn ychydig dros chwarter yr ysgolion, nid yw athrawon yn sicrhau bod disgyblion yn dysgu ar gyflymder addas.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae gweithgareddau sy’n rhoi gormod o sgaffaldiau yn cyfyngu ar annibyniaeth disgyblion ac yn lleihau cyfleoedd iddynt feddwl drostynt eu hunain.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae llawer o ysgolion yn cefnogi lles a chynhwysiant disgyblion yn effeithiol trwy berthnasoedd cadarnhaol, cymorth wedi’i dargedu a chyfleoedd ystyrlon i ddylanwadu ar fywyd yr ysgol. Fodd bynnag, mae presenoldeb ac absenoldebau parhaus yn parhau’n heriau sylweddol, yn enwedig i ddisgyblion sy’n profi tlodi. Er bod ysgolion wedi cryfhau eu hymdrechion i wella presenoldeb, mae amrywiaeth yn yr effaith ar draws y sector o hyd.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mewn llawer o ysgolion, mae’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cefnogi eu dysgu a’u lles yn effeithiol. Mae staff yn rhannu disgwyliadau uchel ac yn rhoi blaenoriaeth i adnabod ac ymyrryd yn gynnar.
  • Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion ddiwylliant diogelu cryf, ac mae staff yn deall eu cyfrifoldeb i gadw disgyblion yn ddiogel.
  • Mae llawer o ysgolion yn hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol, parchus a chynhwysol sy’n cryfhau lles ac ymdeimlad disgyblion o berthyn.
  • Mae llawer o ysgolion wedi parhau i gryfhau’r modd y maent yn monitro presenoldeb ac yn cefnogi disgyblion i fynychu’n rheolaidd.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw’r oruchwyliaeth strategol o gyfraddau presenoldeb yn ddigon cadarn, yn enwedig absenoldebau parhaus a phresenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae arweinyddiaeth disgyblion yn cael ei chyfarwyddo’n ormodol gan oedolion neu nid yw’n cynnwys pob grŵp o ddisgyblion yn ddigon da.

Arwain a gwella

Mae llawer o ysgolion yn elwa ar arweinyddiaeth effeithiol. Yn yr ysgolion cryfaf, mae hunanwerthuso cywir, dysgu proffesiynol pwrpasol ac arweinyddiaeth ddosranedig effeithiol yn cefnogi gwelliant cynaledig. Fodd bynnag, mae amrywiaeth yn effaith arweinyddiaeth o hyd. Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella yn ddigon trylwyr i sicrhau gwelliant parhaol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mewn llawer o ysgolion cynradd, mae arweinwyr yn pennu cyfeiriad strategol clir sy’n helpu staff i wella’r addysgu a dysgu.
  • Mae llawer o arweinwyr yn deall eu hysgol a’u cymuned yn dda ac yn addasu’r ddarpariaeth yn ystyriol i fodloni anghenion a diddordebau disgyblion.
  • Mae arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel yn cyfrannu’n gryf at wella ansawdd yr addysgu mewn llawer o ysgolion cynradd.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae arweinwyr yn defnyddio dysgu proffesiynol sydd wedi’i gynllunio’n dda a’i fonitro’n fanwl i gefnogi gwelliant yn llwyddiannus.

Beth sydd angen ei wella

  • Ble roedd arweinyddiaeth yn llai effeithiol, nid yw hunanwerthuso yn canolbwyntio’n ddigon craff ar addysgu a chynnydd disgyblion. O ganlyniad, nid yw cynllunio ar gyfer gwella bob amser yn cyd-fynd yn ddigon da â blaenoriaethau’r ysgol.
  • Er bod llawer o ysgolion yn rheoli’r grant datblygu disgyblion yn briodol, nid yw arweinwyr bob amser yn gwerthuso ei effaith ar bresenoldeb, lles a chynnydd disgyblion yn ddigon da.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae llywodraethwyr yn dibynnu’n ormodol ar wybodaeth gan uwch arweinwyr ac nid ydynt yn eu herio’n ddigon cadarn ynghylch cynnydd disgyblion nac effaith y ddarpariaeth.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2025–2026, cynhaliodd Estyn arolygiadau craidd mewn 209 o ysgolion cynradd. Rhoddwyd 11 o ysgolion mewn categori gweithgarwch dilynol. Cafodd pob ysgol o leiaf un argymhelliad, gyda chyfanswm o 454 o argymhellion.

Cafodd cyfanswm o 191 o ysgolion (91%) o leiaf un argymhelliad yn ymwneud ag addysgu a dysgu.

  • Cafodd 77 o ysgolion (37%) argymhelliad i wella ansawdd yr addysgu neu leihau’r amrywiaeth mewn addysgu ar draws yr ysgol.
  • Cafodd 58 o ysgolion (28%) argymhelliad i gryfhau dysgu annibynnol disgyblion.
  • Cafodd 51 o ysgolion (25%) argymhelliad i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion.
  • Cafodd 39 o ysgolion (19%) argymhelliad i sicrhau lefel briodol o her yn nysgu disgyblion.

Cafodd 62 o ysgolion (30%) o leiaf un argymhelliad yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad.

  • Cafodd 52 o ysgolion (24%) argymhelliad i wella presenoldeb neu brydlondeb.

Cafodd 76 o ysgolion (36%) o leiaf un argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella.

  • Cafodd 51 o ysgolion (25%) argymhelliad i ddatblygu neu gryfhau hunanwerthuso a gwella ysgolion.
  • Cafodd 22 o ysgolion (11%) argymhelliad i gryfhau arweinyddiaeth.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

MA1: Addysgu a dysgu

Blaen-y-Cwm C.P. School

Darllenwch am sut y sicrhaodd staff yn Blaen-y-Cwm CP School fod addysgu hynod effeithiol yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu a chynnydd disgyblion.

Ynysowen Community Primary School

Darllenwch sut y datblygodd Ynysowen Community Primary School ym Merthyr Tudful ymagwedd strategol ysgol gyfan a wellodd fedrau darllen lefel uwch disgyblion a meithrin cariad at ddarllen er pleser.

Cwmffrwdoer Primary School

Yn Cwmffrwdoer Primary School, sefydlodd staff gwricwlwm bywiog sy’n cefnogi disgyblion i atgyfnerthu ystod eang o fedrau trwy brosiectau STEM.

Ysgol Gynradd Llanfairpwll

Mae arweinwyr a staff yn Ysgol Gynradd Llanfairpwll yn hyrwyddo medrau disgyblion ac yn ehangu eu gorwelion trwy brofiadau cyfoes a Chymreig.

MA2: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Ysgol Plascrug

Yn Ysgol Plascrug yn Aberystwyth, cynlluniodd staff gymorth yn ofalus i alluogi disgyblion ag ADY, disgyblion sy’n agored i niwed a disgyblion sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) i ffynnu.

MA3: Arwain a gwella

Ffederasiwn Ysgol Gynradd Talysarn ac Ysgol Brynaerau

Darllenwch sut y defnyddiodd arweinwyr ffederasiwn Ysgol Gynradd Talysarn ac Ysgol Brynaerau ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel i fodloni anghenion gwella’r ysgolion a gofynion datblygu staff unigol.

Ysgol Bryn Coch

Darllenwch sut y sefydlodd arweinwyr yn Ysgol Bryn Coch yn yr Wyddgrug, ddiwylliant cryf a chynaledig o fyfyrio, cydweithio a gwella er mwyn sicrhau addysgu a dysgu hynod effeithiol.

Ysgol Cefnllys

Defnyddiodd staff ac arweinwyr yn Ysgol Cefnllys eu gwybodaeth helaeth am ddisgyblion a theuluoedd i ddarparu cymorth hynod effeithiol i ddisgyblion sy’n agored i niwed.