Dysgu oedolion yn y gymuned
Mewnwelediadau cynnar 2025-2026
Addysgu a dysgu
Mae dysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn ac yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu. Ar y cyfan, mae tiwtoriaid yn ymateb yn dda i anghenion dysgwyr. Fodd bynnag, nid yw ychydig ohonynt yn gwneud defnydd digonol o gyfleoedd sy’n codi’n naturiol i ddatblygu ac atgyfnerthu medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae bron bob un o’r dysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn o’u mannau cychwyn ac yn datblygu hyder, annibyniaeth a medrau pwnc-benodol sy’n cefnogi dysgu pellach, cyflogaeth a bywyd bob dydd.
- Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn cofio ac yn cymhwyso dysgu blaenorol yn effeithiol, gan eu galluogi i fynd i’r afael â thasgau a heriau cynyddol gymhleth.
- Mae addysgu’n gryf ar draws y rhan fwyaf o’r ddarpariaeth. Mae tiwtoriaid yn dangos gwybodaeth bynciol gadarn, yn cynllunio’n effeithiol, yn gosod disgwyliadau uchel ac yn addasu dysgu’n dda i fodloni anghenion dysgwyr.
- Mae dysgwyr yn ymgysylltu’n frwdfrydig, yn gweithio’n barchus ag eraill ac yn dangos gwydnwch ac uchelgais, gyda chefnogaeth ymagweddau cyflwyno hyblyg sy’n hyrwyddo cyfranogiad a dilyniant.
- Mae llawer o ddysgwyr yn gwella eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ac yn eu cymhwyso’n hyderus yn eu dysgu a’u bywydau bob dydd.
- Mae dysgwyr yn elwa ar adborth adeiladol ac amgylcheddau dysgu cynhwysol sy’n cryfhau eu lles, eu hyder a’u hymwneud â’u cymunedau.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw ychydig o diwtoriaid yn gwneud defnydd digonol o gyfleoedd sy’n codi’n naturiol i atgyfnerthu medrau llythrennedd a rhifedd.
- Mae cyfleoedd i ddatblygu medrau Cymraeg neu fanteisio ar ddysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn parhau’n gyfyngedig.
- Mewn ychydig iawn o sesiynau, nid yw gweithgareddau dysgu yn ennyn diddordeb dysgwyr yn ddigonol nac yn eu helpu i ddatblygu eu gwybodaeth yn systematig.
- Nid yw dysgwyr bob amser yn ddigon ymwybodol o’r cyfleoedd achredu sydd ar gael iddynt.
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Mae bron bob un o’r dysgwyr yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael cefnogaeth dda mewn amgylcheddau dysgu cynhwysol. Mae darparwyr yn ymateb yn effeithiol i amgylchiadau unigol dysgwyr ac yn cefnogi eu lles, eu hyder a’u cynhwysiant cymdeithasol. Fodd bynnag, mae diffyg mynediad digidol a threfniadau cofrestru digidol yn unig yn creu rhwystrau i ychydig o ddysgwyr a darpar ddysgwyr.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae bron bob un o’r dysgwyr yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael cefnogaeth dda mewn amgylcheddau dysgu croesawgar, cynhwysol a pharchus.
- Mae darparwyr yn dangos ymrwymiad cryf i les, twf personol a chynhwysiant cymdeithasol dysgwyr. Mae llawer o ddysgwyr yn nodi gwelliannau sylweddol yn eu hyder, eu hagwedd neu eu lles.
- Mae tiwtoriaid a staff cymorth yn ymateb yn sensitif ac yn hyblyg i amgylchiadau dysgwyr ac yn darparu cymorth bugeiliol effeithiol.
- Mae darparwyr yn defnyddio gweithgareddau cyfoethogi a gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol i hyrwyddo integreiddio cymdeithasol, dealltwriaeth ddiwylliannol ac ymgysylltiad dysgwyr.
- Mae darparwyr yn nodi anghenion cymorth dysgwyr yn briodol ac yn mynd i’r afael â nhw’n effeithiol trwy ymyraethau wedi eu targedu a gyda phartneriaethau allanol.
- Mae dysgwyr yn cyfrannu’n gadarnhaol trwy drefniadau llais y dysgwr.
Beth sydd angen ei wella
- Mae trefniadau cofrestru digidol yn unig a diffyg mynediad digidol ehangach yn creu rhwystrau i ychydig o ddysgwyr a darpar ddysgwyr.
- Mae presenoldeb yn amrywio ar draws rhywfaint o ddarpariaeth nos a chymunedol. Mewn ychydig iawn o ddosbarthiadau, mae presenoldeb isel yn cyfyngu ar gyfleoedd i ryngweithio ac ymgysylltu.
Arwain a gwella
Mae arweinwyr yn darparu cyfeiriad strategol clir ac yn gweithio’n effeithiol â phartneriaid i deilwra darpariaeth i flaenoriaethau lleol. Fodd bynnag, mae trefniadau i olrhain a gwerthuso cynnydd dysgwyr ar draws darparwyr a lefelau yn parhau i ddatblygu, ac mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn parhau’n gyfyngedig.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae arweinwyr yn darparu cyfeiriad strategol clir ac yn cynnal trefniadau llywodraethu, rheoli a phartneriaeth effeithiol.
- Mae darparwyr yn deall anghenion cymunedol yn dda ac yn teilwra darpariaeth yn effeithiol i flaenoriaethau lleol.
- Mae arweinwyr yn defnyddio adborth gan randdeiliaid, teithiau dysgu, arsylwadau a thystiolaeth arolygiadau yn effeithiol i gefnogi gwelliant parhaus.
- Mae dysgu proffesiynol yn cael ei gefnogi’n dda ac yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau a nodau sefydliadol.
- Mae marchnata, ymgysylltu â’r gymuned a threfniadau cyflwyno hyblyg yn cefnogi cyfranogiad ac yn gwella mynediad.
Beth sydd angen ei wella
- Mae trefniadau i olrhain a gwerthuso cynnydd dysgwyr ar draws darparwyr a lefelau yn parhau i ddatblygu.
- Mae cyfleoedd i fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn parhau’n gyfyngedig.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026, arolygom 2 ddarparwr yn y sector dysgu oedolion yn y gymuned.
Cafodd un darparwr (50%) argymhelliad mewn perthynas ag addysgu a dysgu:
- Gwella cynnydd dysgwyr wrth iddynt symud o ddarpariaeth gymunedol i ddarpariaeth alwedigaethol neu fedrau ar lefelau uwch
Cafodd y ddau ddarparwr (100%) argymhellion yn ymwneud ag arwain a gwella:
- Cafodd un darparwr (50%) argymhelliad i werthuso effaith ei ddarpariaeth ar gynnydd dysgwyr
- Cafodd un darparwr (50%) argymhelliad i ymestyn ei gyrhaeddiad i leoliadau cymunedol er mwyn helpu i leihau rhwystrau rhag addysg
- Cafodd un darparwr (50%) argymhelliad i annog dysgwyr i ddefnyddio a datblygu eu medrau Cymraeg ac i gynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau
Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam / Cyngor Sir y Fflint)
Darllenwch sut mae arweinwyr a staff yn cyflwyno teuluoedd i Ddysgu Teuluol, gan gynnwys defnyddio DA (AI) i gefnogi dysgu, datblygu’r Celfyddydau Mynegiannol, a mabwysiadu dull thematig o hunanwerthuso.
Coleg Pen-y-bont (Pen-y-bont ar Ogwr)
Inspection report: Coleg Pen-y-bont (Pen-y-bont ar Ogwr)
Darllenwch sut mae Coleg Pen-y-Bont yn datblygu medrau ffotograffiaeth ddigidol dysgwyr ac yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu eu hanghenion.