Darpariaeth trochi yn y Gymraeg – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Skip to content

Darpariaeth trochi yn y Gymraeg

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Dysgu ac addysgu

Mae’r addysgu wedi’i seilio ar fodelau rôl gref o ran y Gymraeg, addysgeg drochi effeithiol a phrofiadau dysgu sydd wedi’u cynllunio’n dda. Mae hyn yn galluogi’r rhan fwyaf o ddisgyblion i wneud cynnydd cryf wrth gaffael y Gymraeg.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae staff yn fodelau rôl gref o ran y Gymraeg ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o ddisgyblion.
  • Yn y rhan fwyaf o ddarpariaethau, mae staff yn defnyddio addysgeg drochi bwrpasol i gefnogi disgyblion i gaffael y Gymraeg yn gynyddol.
  • Mae staff yn datblygu cwricwlwm cydlynus ac yn darparu profiadau dysgu dilys sy’n cefnogi dilyniant clir yn natblygiad y Gymraeg ymhlith y rhan fwyaf o ddisgyblion ac yn annog defnydd pwrpasol o’r Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
  • Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn defnyddio dulliau asesu effeithiol ac yn addasu eu haddysgu’n bwrpasol i gefnogi cynnydd disgyblion.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu hyder, rhuglder ac agweddau cadarnhaol at ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Dros gyfnod, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai y mae tlodi’n effeithio arnynt, yn gwneud cynnydd cryf yn eu medrau llafaredd Cymraeg.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig iawn o achosion, nid yw staff yn darparu digon o her nac yn cynnal sesiynau gyda chyflymdra priodol i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cymaint o gynnydd â phosibl.
  • Mewn ychydig o achosion, nid yw staff yn darparu digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu annibyniaeth a chymryd cyfrifoldeb am eu dysgu.
  • Mewn ychydig o achosion, nid yw’r ddarpariaeth ôl-ofal yn cael ei gweithredu’n ddigon cyson i gynnal cynnydd disgyblion.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae lles disgyblion yn gryfder nodedig. Mae darpariaeth gynhwysol a meithringar yn galluogi disgyblion i deimlo’n ddiogel, ymgysylltu’n gadarnhaol a phontio’n llwyddiannus i addysg cyfrwng Cymraeg.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Ym mron bob darpariaeth, mae staff yn hyrwyddo amgylchedd meithringar a chynhwysol i gefnogi lles, hyder ac ymdeimlad disgyblion o berthyn.
  • Mae bron bob disgybl yn dangos ymddygiad ac agweddau cadarnhaol sy’n cyfrannu at ddiwylliant dysgu cefnogol.
  • Mae staff yn ymateb yn briodol i les emosiynol ac anghenion dysgu ychwanegol disgyblion, gan ddarparu cymorth amserol ac effeithiol sy’n galluogi disgyblion i ymgysylltu’n llwyddiannus â’u dysgu.
  • Mae trefniadau pontio cadarn yn cefnogi’r parhad mewn dysgu a dilyniant i addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Ym mron bob darpariaeth, mae trefniadau diogelu a gofal bugeiliol effeithiol yn sicrhau bod disgyblion a theuluoedd yn teimlo’n ddiogel ac yn cael cymorth da.

Beth sydd angen ei wella

  • Ni nodwyd unrhyw feysydd yn ystod ein harolygiadau.

Arwain a gwella

Mae arweinyddiaeth yn effeithiol ar y cyfan. Byddai gwaith pellach i gryfhau prosesau hunanwerthuso, cefnogi’r broses o rannu arfer effeithiol yn systematig, a gwella’r modd y caiff darpariaeth trochi yn y Gymraeg ei hyrwyddo a’i gwneud yn hygyrch yn gwella cysondeb ar draws y sector.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinyddiaeth strategol ym mhob awdurdod lleol a arolygwyd yn darparu cyfeiriad clir ar gyfer darpariaeth trochi yn y Gymraeg o ansawdd uchel.
  • Mae partneriaethau cryf a dysgu proffesiynol yn cryfhau ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth.
  • Mae prosesau sicrhau ansawdd a hunanwerthuso priodol yn cefnogi gwelliant parhaus trwy ddealltwriaeth gywir o gryfderau a meysydd i’w datblygu.
  • Caiff adnoddau a chyllid eu defnyddio’n briodol i wella’r ddarpariaeth a phrofiadau dysgwyr.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn dau awdurdod lleol, nid yw prosesau hunanwerthuso’n canolbwyntio’n gyson ar effaith y ddarpariaeth ar ddeilliannau disgyblion.
  • Mewn un o’r tri awdurdod lleol, nid yw arweinwyr bob amser yn gwerthuso effaith y ddarpariaeth yn ddigon systematig dros gyfnod.
  • Mewn un awdurdod lleol, nid yw arweinwyr yn rhannu arfer effeithiol yn ddigon systematig ar draws y ddarpariaeth trochi.
  • Mewn un awdurdod lleol, nid yw arweinwyr yn codi proffil darpariaeth trochi yn ddigonol nac yn sicrhau ei bod yn hawdd cael mynediad ati trwy brosesau derbyn a chyfathrebu’r awdurdod lleol.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026, arolygodd Estyn dri awdurdod lleol. Cafodd y tri argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella:

  • Cafodd y tri awdurdod argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella a’u prosesau hunanwerthuso.
  • Cafodd un awdurdod argymhelliad i ddatblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff ymhellach.
  • Cafodd un awdurdod argymhelliad i hyrwyddo trefniadau trochi yn y Gymraeg yn glir fel rhan o’i brosesau derbyn.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Cyngor Bro Morgannwg

Darllenwch am sut mae Cyngor Bro Morgannwg yn datblygu gwaith partneriaeth bwrpasol i gefnogi trochi yn y Gymraeg a phontio.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Darllenwch am sut mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfoethogi darpariaeth trochi trwy ddefnyddio cyd-destunau ystyrlon o fywyd go iawn, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn bwrpasol mewn sefyllfaoedd dilys sy’n adlewyrchu eu bywydau a’u profiadau (adroddiad arolygu i’w gynnwys ar ôl ei gyhoeddi).

Darllenwch am sut mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn datblygu capasiti’r gweithlu trwy gyfleoedd dysgu proffesiynol (adroddiad arolygu i’w gynnwys ar ôl ei gyhoeddi).