Darparwr: Ysgol Croesyceiliog
Level of follow-up: Adolygu gan Estyn / Mesurau arbennig
Removed: Tachwedd 2021
Arolygwyd Ysgol Croesyceiliog yn 2018 ac fe’i rhoddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol anstatudol (adolygu gan Estyn). Pan ailymwelodd arolygwyr yn 2020, canfuwyd bod cynnydd yn rhy araf ac ystyriwyd bod angen rhoi mesurau arbennig ar waith yn yr ysgol. Penodwyd pennaeth gweithredol, a aeth ati’n gyflym i ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer gwella’r ysgol. Mireiniwyd rolau a chyfrifoldebau ar lefel uwch arweinwyr ac arweinwyr canol er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r staff presennol, a sicrhaodd yr arweinwyr hyn fod gwaith gwella’r ysgol yn cynnwys ffocws cynaledig ar ddatblygu arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Fe wnaeth gweithgareddau dysgu proffesiynol gwerthfawr helpu arweinwyr i ddatblygu’u gallu i werthuso’u meysydd cyfrifoldeb yn gywir, yn enwedig effeithiolrwydd addysgu. Galluogodd hyn iddynt adnabod yn union yr agweddau penodol yr oedd angen eu datblygu.
Fe wnaeth y cyfeiriad strategol a ddarparwyd gan y pennaeth gweithredol helpu staff i gydweithio, er enghraifft trwy rannu arfer dda yn rheolaidd. O ganlyniad, gwnaeth yr ysgol gynnydd cyflym yn erbyn yr argymhellion o’r arolygiad craidd.