Skip to content
Plentyn yn chwarae yn yr ysgol

Adroddiad sector: Meithrinfeydd nas cynhelir

Cyfanswm nifer y lleoliadau yng Nghymru

529

2022

537

Gorffennaf 2021

546

Ionawr 2020

569

Ionawr 2019

Gweithgarwch dilynol

Lleoliadau yr ystyriwyd bod angen gweithgarwch dilynol arnynt i sicrhau gwelliant yn dilyn arolygiad craidd

  • Wedi’u rhoi mewn categori gweithgarwch dilynol 6

  • Wedi’u tynnu o gategori gweithgarwch dilynol 5

  • Wedi aros mewn categori gweithgarwch dilynol 5

Ionawr 2022:

Ailgychwynnwyd arolygiadau ar y cyd gyda chydweithwyr o Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn oedi o 21 mis yn sgil y pandemig COVID-19

Ionawr 2022:

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir Nas Cynhelir, yn seiliedig ar y pum llwybr datblygu: (perthyn, cyfathrebu, archwilio, datblygiad corfforol, lles)


57

Ymweliadau ymgysylltu â lleoliadau nas cynhelir yn ystod tymor yr hydref 2021

60

Arolygiadau ar y cyd o leoliadau nas cynhelir yn ystod tymor y gwanwyn a thymor yr haf


Dysgu

O ystyried eu cam datblygiadol, mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd da yn ystod eu cyfnod mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir. Yn yr ychydig iawn o achosion lle nad oedd cynnydd mor gryf, nid oedd plant yn datblygu ac yn cymhwyso ystod addas o fedrau llythrennedd a rhifedd yn gyson yn eu chwarae a gweithgareddau strwythuredig. Roedd tystiolaeth o’n gweithgarwch ymgysylltu yn nhymor yr hydref wedi awgrymu, oherwydd y tarfu i ddarpariaeth cyn-ysgol a achoswyd gan y pandemig, y gallai fod dirywiad ym medrau siarad a gwrando plant o gymharu â charfanau blaenorol. Fodd bynnag, pan ailddechreuwyd ein harolygiadau, de wnaethon ddarganfod, gyda chymorth gan ymarferwyr, fod llawer o blant wedi gwneud cynnydd da gyda’u medrau cyfathrebu o waelodlin isel. Er enghraifft, byddent yn gwrando ar oedolion ac yn ymateb yn briodol, ac yn dechrau mynegi dewisiadau neu’n gofyn am gymorth, fel y bo’r gofyn. Wrth i’w hyder gynyddu, dechreuodd y rhan fwyaf sgwrsio’n naturiol ag ymarferwyr a’u ffrindiau, a chwarae gyda nhw yn hytrach nag ochr yn ochr â nhw. Datblygodd llawer o blant eu medrau cyfathrebu yn dda gan ddefnyddio technoleg. Er enghraifft, wrth siarad am ffotograffau yr oeddent wedi’u tynnu gan ddefnyddio camerâu digidol.

Roedd bron bob plentyn yn mwynhau gwrando ac ymuno wrth i ymarferwyr ddarllen storïau. Byddai lleiafrif yn dewis cydio a rhyngweithio â llyfrau yn annibynnol. Mewn llawer o leoliadau cyfrwng Saesneg, roedd plant yn dechrau caffael medrau Cymraeg syml a byddent yn ymateb i gyfarchion neu’n adnabod lliwiau yn Gymraeg.

Roedd bron bob plentyn yn datblygu eu medrau corfforol yn dda. Trwy ddatblygu medrau echddygol manwl drwy weithgareddau fel chwarae gyda gleiniau bach a’u rhoi ar linyn, roedd plant yn dechrau datblygu’r medrau sydd eu hangen arnynt i ysgrifennu’n gynnar. Roedd llawer yn arbrofi’n effeithiol â gwneud marciau, er enghraifft trwy ddefnyddio sialciau lliw i dynnu llun ar gerrig palmant neu gymryd archebion mewn llyfr nodiadau yn rôl chwarae caffi. Roeddent yn datblygu medrau echddygol bras yn dda drwy weithgareddau fel cerdded ar drawstiau cydbwyso a thrwy ddefnyddio’r offer dringo awyr agored a brynwyd yn aml gyda chyllid grant COVID-19.

Datblygodd llawer o blant fedrau creadigol da. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn lleoliadau lle’r oeddent yn cael eu hannog a’u galluogi i wneud dewisiadau eu hunain, fel dewis arbrofi gyda phaentiau, creu dawnsfeydd dychymygus neu ddefnyddio offer taro i wneud patrymau sain syml. Yn yr achosion cryfaf, roedd plant yn elwa o allu cael mynediad i ystod eang o offer yn annibynnol oedd ar gael iddynt eu defnyddio i fwynhau mynegi’u creadigrwydd a datblygu medrau newydd.

Roedd llawer o blant yn datblygu medrau rhifedd cynnar yn unol â’u cam datblygiadol. Er enghraifft, roeddent yn dechrau adnabod termau fel ‘trwm’ ac ‘ysgafn’ wrth lenwi cynwysyddion gyda dŵr a thywod. Pan roddwyd heriau penodol iddynt, roedd plant yn mwynhau datblygu’u medrau datrys problemau drwy arbrofi a goresgyn anawsterau. Er enghraifft, roeddent yn dyfalbarhau ac yn defnyddio dulliau gwahanol wrth adeiladu strwythur i osod uchder o flociau pren. Roedd llawer yn dechrau adnabod ac enwi siapiau syml, ac roedd mwyafrif yn datblygu’u dealltwriaeth o rif yn dda. Er enghraifft, roeddent yn ailadrodd rhifau wrth ymuno â chaneuon, ac roedd y rheiny a oedd ymhellach ymlaen o ran eu cam datblygiadol, yn dechrau cyfrif gwrthrychau gyda rhywfaint o annibyniaeth.

Lles

Ar ddechrau tymor yr hydref, nododd ychydig o arweinwyr bod cynnydd yn nifer y plant oedd â medrau personol a chymdeithasol llai datblygedig o ganlyniad i lai o gyfleoedd i chwarae ochr yn ochr â phlant eraill yn ystod cyfnodau clo. Er enghraifft, roedd rhai plant yn dangos mwy o amharodrwydd i rannu adnoddau, neu i chwarae â phlant eraill. Ar ôl i arolygiadau ailddechrau, fe wnaethom ddarganfod fod y rhan fwyaf o blant wedi ymgartrefu’n dda ac yn teimlo’n ddiogel. Roedd llawer ohonynt yn hapus yng nghwmni eu ffrindiau ac ymarferwyr, ac yn ymgysylltu â’r adnoddau a oedd ar gael iddyn nhw gyda brwdfrydedd. Arweiniodd hyn at blant yn y rhan fwyaf o leoliadau i ddatblygu eu medrau personol a chymdeithasol yn dda. Roedd safonau lles yn hynod gryf lle’r oedd y ddarpariaeth yn ddifyr, ac roedd ymarferwyr yn chwarae ochr yn ochr â phlant, gan fodelu medrau cyfathrebu fel geirfa a phatrymau iaith yn gelfydd. Yn yr achosion hyn, roedd plant yn llawn brwdfrydedd ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mewn llawer o leoliadau, roedd plant yn gwneud dewisiadau ynglŷn â’u dysgu, fel symud yn rhydd rhwng mannau dan do a mannau awyr agored i chwarae, a phenderfynu, pan yn cael y cyfle, pa adnoddau i chwarae â nhw. Roeddent yn mwynhau chwarae am gyfnodau amser estynedig, a ddarparodd gyfleoedd i ddatblygu ystod eang o fedrau fel cydweithio gydag eraill. Yn yr un modd, mewn llawer o leoliadau, roedd plant yn mwynhau achlysuron cymdeithasol fel amserau byrbryd, a sgwrsio’n naturiol gyda ffrindiau neu oedolion. Yn y lleoliadau cryfaf, roedd plant yn datblygu medrau hunanofal yn dda iawn trwy ddewis pa bryd i fwyta neu beth i’w fwyta, neu drwy helpu i weini’u hunain neu eu ffrindiau. Roeddent yn dechrau datblygu annibyniaeth yn dda, er enghraifft drwy fynd i nôl eu hances bapur eu hunain pan roedd angen iddynt chwythu’u trwynau neu wisgo’u cot eu hunain i fynd y tu allan. Roedd plant yn dylanwadu’n gynyddol ar beth neu sut y maen nhw yn ddysgu, wrth i ymarferwyr weithio tuag at roi egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru ar waith. Er enghraifft, maent wedi awgrymu fod wal ddringo yn cael ei hychwanegu at lethr serth fel eu bod yn gallu mynd at y llithren yn haws.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Er gwaethaf yr heriau a achoswyd gan y pandemig COVID-19, parhaodd y rhan fwyaf o arweinwyr i ddarparu profiadau dysgu addas ar gyfer plant yn ystod tymor yr hydref. Rhoddodd bron yr holl arweinwyr bwyslais cryf ar ddarparu cyfleoedd i blant chwarae a dysgu yn yr awyr agored, gan wneud defnydd o adnoddau newydd. Cynyddodd ychydig o leoliadau eu defnydd o adnoddau naturiol a bywyd go iawn, fel brigau a cherrig yn y mannau awyr agored, neu eitemau bob dydd fel sosbenni yn ardal y cartref. Lle’r oedd y dysgu’n fwyaf effeithiol, roedd ymarferwyr yn darparu ystod eang o adnoddau sy’n eu hysgogi i blant, ac adnoddau y gallai plant gael gafael arnynt yn rhwydd.

Yn ystod tymor yr hydref, dechreuodd lleiafrif o leoliadau i weithio mewn ffyrdd newydd i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, er enghraifft drwy arbrofi â dull sy’n cael ei arwain yn fwy gan blant. O dymor y gwanwyn ymlaen, yn dilyn cyhoeddi’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, sy’n anelu i ennyn ymdeimlad cadarnhaol tuag at ddysgu ymhlith plant’ (tud. 3), dechreuodd mwy o leoliadau addasu eu dulliau addysgu a dysgu. Roedd y ddogfen yn amlinellu pwysigrwydd darpariaeth sy’n cynnwys oedolion sy’n galluogi, profiadau sy’n ennyn diddordeb ac amgylcheddau effeithiol i gynorthwyo plant wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r ddogfen hefyd yn amlinellu pum llwybr datblygu y mae’n cydnabod eu bod yn ‘hanfodol i er mwyn i bob plentyn ifanc ddysgu a datblygu’ – perthyn, cyfathrebu, archwilio, datblygiad corfforol a lles. Yn gyffredinol, mae’r ddogfen wedi cael effaith gadarnhaol o ran cynorthwyo ymarferwyr i ymgysylltu â diwygio’r cwricwlwm.

Wrth weithio tuag at egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, darparodd lawer o ymarferwyr fwy o gyfleoedd ar gyfer chwarae di-dor, gan alluogi i blant ymgolli yn eu dychymyg, dyfalbarhau â thasgau, a dewis drostyn nhw eu hunain pan fyddan nhw’n barod i symud ymlaen at weithgareddau gwahanol. Yn yr achosion cryfaf, roedd ymarferwyr yn cynllunio gweithgareddau a oedd yn dilyn diddordebau plant, ac yn ymyrryd yn fedrus yn ystod sesiynau i symud dysgu’r plant yn ei flaen. Er enghraifft, roeddent yn chwarae ochr yn ochr â’r plant, yn modelu patrymau iaith cywir wrth iddynt sgwrsio ac yn gofyn cwestiynau a wnaeth, yn eu tro, gyflwyno plant at eirfa newydd a’u hannog nhw i feddwl.

Roedd llawer o ymarferwyr yn darparu cyfleoedd helaeth i blant arbrofi a datrys problemau, er enghraifft drwy herio plant i sianelu dŵr yn yr ardal awyr agored. Yn yr enghreifftiau cryfaf, parhaodd ymarferwyr i ddod o hyd i ffyrdd i gyflwyno plant i brofiadau newydd, er enghraifft trwy gynllunio gweithgareddau sy’n gwahodd plant i ddathlu treftadaeth Cymru ac amrywiaeth ddiwylliannol yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar ddiddordebau presennol plant. Mewn ychydig iawn o achosion, fodd bynnag, fe wnaeth lleoliadau dorri’n ôl yn ormodol ar ymyrraeth oedolion. O ganlyniad, ni wnaeth ymarferwyr adnabod cyfleoedd dysgu wrth i blant chwarae, ac nid oeddent yn annog plant i ddatblygu eu medrau i’r cam nesaf. Trwy ganolbwyntio’n unig ar ddiddordebau plant, collodd ychydig iawn o ymarferwyr gyfleoedd i gyflwyno ystod ddigon eang o brofiadau dysgu ar gyfer plant.

Datblygodd llawer o leoliadau eu defnydd o arsylwadau o blant mewn sesiynau yn hytrach nag asesiadau mwy ffurfiol o ddysgu plant, er bod yr arfer hon, yn gyffredinol, ar gam datblygu cynnar. Mewn ychydig o achosion, ni wnaeth yr arsylwadau hyn lywio cynllunio i’r dyfodol yn ddigonol i sicrhau bod gweithgareddau’n ddigon heriol i blant.

Gofal, cymorth ac arweiniad 

Yn unol â blynyddoedd blaenorol, parhaodd sefydliadau i ddarparu lefelau gofal, cymorth ac arweiniad cadarn ar gyfer plant, gydag ymarferwyr yn datblygu perthnasoedd gweithio cynnes gyda phlant, gan eu trin â pharch a gofalu am eu hanghenion. Ym mron pob achos, teimlai plant yn ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn barod i ddysgu.

Roedd ymarferwyr yn hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol ac yn cynorthwyo plant i ddatblygu medrau cymdeithasol fel rhannu ac ystyried teimladau ei gilydd. Roeddent yn annog plant i ddechrau deall eu diwylliant a threftadaeth Cymru. Gweithiai ymarferwyr i sicrhau bod plant yn dechrau adnabod y ffyrdd amrywiol mae pobl yn byw eu bywydau. Er enghraifft, roeddent yn darparu cyfleoedd i blant ganfod ac archwilio ystod o ddathliadau crefyddol a diwylliannol. Roedd llawer yn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw yn dda, fel drwy annog plant i ddewis  ystod o ffrwythau a llysiau adegau byrbryd ar eu pennau eu hunain.

Mewn ychydig o leoliadau, fodd bynnag, roeddem wedi nodi pryderon diogelu yn ystod arolygiadau, fel arfer yn gysylltiedig â threfniadadau ar gyfer cadw plant yn ddiogel. Er enghraifft, nid oedd staff yn hyderus ynghylch beth ddylent ei wneud os oeddent yn poeni am les plentyn, ac nid oedd ychydig iawn o leoliadau yn cydymffurfio’n llawn gydag arferion recriwtio diogel.

Yn dilyn y cyfnodau clo, dywedodd arweinwyr wrthym eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y plant oedd â materion yn ymwneud â lleferydd, iaith, materion emosiynol ac ymddygiadol. Mae tystiolaeth o arolygu wedi dangos sut mae arweinwyr wedi gweithio’n dda gydag asiantaethau allanol, lle bo’r angen, i ddarparu cymorth i blant ag ADY. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o blant, gan gynnwys y rheiny ag ADY, yn gwneud cynnydd da. Mae arweinwyr mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg wedi mynegi pryderon ynglŷn ag argaeledd cymorth arbenigol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr ac ymarferwyr wedi defnyddio’r cyfleoedd sydd ar gael i gyrchu hyfforddiant ar y Ddeddf ADY newydd. Maent wedi croesawu rôl statudol newydd Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC) mewn awdurdodau lleol, ac yn gwerthfawrogi’r cymorth ganddynt. Mae arweinwyr wedi dechrau datblygu eu hymagweddau at ADY, er enghraifft trwy ddatblygu proffiliau un dudalen ar gyfer plant. Mae’r rhain yn eu galluogi i adnabod dewisiadau a diddordebau plant pan fyddant yn dod i mewn i’r lleoliad, yn ogystal â nodi unrhyw anghenion sy’n dod i’r amlwg.

Arweinyddiaeth

Deliodd arweinwyr yn dda â lefelau digynsail o darfu yn ystod y pandemig, yn enwedig trwy fisoedd y gaeaf pan roedd cyfraddau heintiau COVID-19 ar eu huchaf. Er gwaetha’r heriau staffio a greodd hyn, llwyddodd y rhan fwyaf o arweinwyr i redeg eu lleoliadau’n effeithiol, cydymffurfio â chanllawiau diogelwch a chynnal morâl staff. Gwelodd arweinwyr fod rheoli absenoldeb staff yn sgil hunanynysu yn her arbennig, yn enwedig gan fod staff cyflenwi yn brin. Mewn lleiafrif o leoliadau, cafodd staff gyflogaeth amgen yn ystod y pandemig, ac roedd recriwtio staff â chymwysterau addas a medrus yn her sylweddol barhaus. Roedd y cyfryw bryderon hyd yn oed yn waeth mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg.

Pan ailddechreuwyd arolygu, fe wnaethon ni ddarganfod fod arweinwyr yn gweithio’n effeithiol i sicrhau bod eu lleoliadau’n ystyried anghenion newidiol eu plant. Roedd trefniadau hunanwerthuso a gwella effeithiol gan lawer wedi  arwain at addasiadau i’r lleoliad. Er enghraifft, gwnaethant newidiadau i’r ddarpariaeth ar sail adborth gan rieni. Mewn ychydig o leoliadau, fodd bynnag, nid oedd arweinwyr wedi ailddechrau trefniadau sicrhau ansawdd yn llawn, fel arsylwadau a goruchwyliaethau staff. Golygai hyn nad oeddent bob amser yn llwyddiannus o ran nodi targedau gwelliant addas ar gyfer ymarferwyr, neu’r lleoliadau yn eu cyfanrwydd. Fe wnaeth bron yr holl arweinwyr greu a chynnal cysylltiadau cadarnhaol â phartneriaid allanol a rhieni yn benodol. Er enghraifft, darparodd llawer o leoliadau wybodaeth ddefnyddiol i rieni ynglŷn â’r lleoliad, ei waith a chynnydd eu plant. I ymateb i heriau’r pandemig, addasodd llawer o leoliadau i wneud mwy o ddefnydd o gyfathrebu digidol.

Mae wedi bod yn flaenoriaeth i arweinwyr ganolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth ymarferwyr o’r Cwricwlwm i Gymru a’r Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir nas Cynhelir. Mewn llawer o achosion, fe wnaethant sicrhau bod ymarferwyr yn cael dysgu proffesiynol i gefnogi’r ddealltwriaeth hon. Yn yr achosion cryfaf, sicrhaodd arweinwyr fod dysgu proffesiynol yn gysylltiedig â gweledigaeth glir ar gyfer darpariaeth yn y lleoliad, yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o ddatblygiad plant. Roedd arweinwyr ym mron yr holl leoliadau yn sicrhau bod ymarferwyr yn cael eu diweddaru â hyfforddiant gorfodol sy’n helpu cadw plant yn ddiogel, er enghraifft hyfforddiant diogelu a hylendid bwyd.

Mae’r adnodd hwn yn darparu sbardunau hunanfyfyrio i helpu arweinwyr mewn lleoliadau nas cynhelir i werthuso ansawdd eu darpariaeth.