Adroddiad sector: Ysgolion pob oed a gynhelir 2021-2022
Ysgolion
Ysgolion pob oed yng Nghymru Ionawr 2022
Manylion
Yn Agor ym mis Medi 2022: 1
Testun ymgynghori: 3
Mae’r sector yn parhau i dyfu, gyda thrafodaethau mewn awdurdodau lleol ledled Cymru ynglŷn â sefydlu ysgolion pob oed.
Disgyblion
Holl ddisgyblion
Nifer y disgyblion oed cynradd
Nifer y disgyblion oed uwchradd (Addysg orfodol)
Nifer y disgyblion yn y chweched dosbarth
Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
Canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Canran y disgyblion sy’n gallu siarad Cymraeg
Gweithgarwch dilynol
-
Heb fod mewn categori gweithgarwch dilynol ym mis Medi 2021MA0GS2AE1
Nifer a dynnwyd 2021-2022MA0GS2AE1
Nifer a aeth i mewn i gategori gweithgarwch dilynol 2021-2022MA1GS0AE0
Cyfanswm mewn categori gweithgarwch dilynol Awst 2022MA2GS0AE0
Arolygiadau craidd
- Nifer yr arolygiadau: 3
- Nifer heb fod mewn categori gweithgarwch dilynol: 2
- Cyfrwng Cymraeg: 1
- Dwyieithog: 0
- Cyfrwng Saesneg: 2
- Ffydd: 1
Oherwydd y pandemig COVID-19, dim ond rhwng diwedd mis Chwefror a diwedd mis Mai 2022 y cynhaliwyd arolygiadau craidd.
Ystalyfera Bro Dur
Ysgol Gymunedol Tonyrefail
Ysgol Crist y GairYmweliadau ymgysylltu
- Nifer yr ymweliadau: 3
- Cyfrwng Cymraeg: 1
- Dwyieithog: 0
- Cyfrwng Saesneg: 2
- Ffydd: 1
Astudiaethau achos
- Nifer yr astudiaethau achos 1
Ysgolion ag astudiaethau achos:
Ysgol Ystalyfera Bro Dur
Mae nifer yr ysgolion pob oed yng Nghymru yn cynyddu, a disgwylir y bydd mwy ohonynt yn agor yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae ymchwil i ysgolion pob oed, gan gynnwys buddion y model hwn, yn gyfyngedig yn gyffredinol, yn bennaf o ganlyniad i niferoedd cymharol isel yr ysgolion pob oed yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill. Mae buddion posibl o fodel pob oed, gan gynnwys gwella addysgeg a gofal, manteision ar gyfer datblygu dysgu, a heriau posibl ar gyfer arweinyddiaeth. At ei gilydd, gyda’r nifer fach o arolygiadau a gynhaliwyd hyd yma ac effaith y pandemig, mae’n rhy gynnar i ddweud p’un a yw’r model hwn wedi cyflawni o ran ei botensial.
Dysgu
Pan ddychwelwyd i’r ysgol o fis Medi 2021, adroddodd ysgolion nad oedd medrau disgyblion wedi datblygu yn ôl y disgwyl yn ystod y pandemig. Roedd hwn yn ddarlun tebyg i hwnnw a welwyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Nododd asesiadau ysgolion o fedrau disgyblion ddirywiad yn eu medrau iaith a chyfathrebu. Effeithiwyd yn arbennig ar fedrau llefaredd disgyblion gan nad oedd disgyblion wedi ymgysylltu digon â gweithgareddau siarad tra’r oeddent gartref. Cynlluniodd ysgolion ymyriadau i geisio cryfhau medrau disgyblion.
Yn yr ysgolion a arolygwyd, roedd medrau llythrennedd disgyblion yn amrywiol. Yn yr achosion gorau, roedd disgyblion yn barod i gyfrannu’n llafar a chynnig ymatebion estynedig pan gawsant eu hysgog i wneud. Fe wnaethant ddangos fedrau ysgrifennu cryf, gan ysgrifennu’n effeithiol at ddibenion gwahanol ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol. Roedd llawer o’r disgyblion hyn yn cynhyrchu darnau ysgrifenedig estynedig gyda mynegiant clir. Mewn achosion eraill, roedd diffyg medrau llythrennedd sylfaenol gan ddisgyblion, roeddent yn gwneud camgymeriadau sillafu a gramadeg yn aml, ac nid oeddent yn gallu cyfleu eu barnau yn rhugl. Gellid priodoli’r diffygion hyn i wendidau yn yr addysgu yn aml. Yn gyffredinol, roedd medrau rhifedd llawer o ddisgyblion yn datblygu’n briodol ac roedd eu medrau digidol wedi datblygu’n dda.
Lles
Roedd disgyblion yn hapus i fod yn ôl yn yr ysgol yn dilyn y pandemig, ond roedd angen mwy o gymorth emosiynol ac iechyd meddwl arnyn nhw. Mewn dau arolygiad, roedd lles disgyblion yn gryf yn sgil ansawdd y cymorth a’r arweiniad a ddarparwyd ar draws yr ysgol. Roedd llawer o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda ac yn dangos parch at eu cyfoedion ac oedolion. Fe wnaethant ddangos agwedd iach tuag at eu dysgu ac roeddent yn dal ati i ganolbwyntio wrth ddysgu. Mewn llawer o achosion, datblygodd disgyblion fedrau arwain cadarn a’u galluogodd i wneud cyfraniadau cadarnhaol at fywyd yr ysgol. Mewn ychydig o achosion, nid oedd disgyblion yn ymgysylltu’n dda â’u dysgu. Roeddent yn amharod i gyfranogi mewn trafodaethau i gefnogi’u dysgu, a dim ond atebion byr iawn yr oeddent yn eu rhoi i gwestiynau athrawon. Nid oeddent yn datblygu eu gwydnwch a’u penderfyniad yn ddigonol, a hynny’n aml am nad oedd athrawon yn darparu cyfleoedd iddynt wneud hynny.
Addysgu a phrofiadau dysgu
Trwy gydol y flwyddyn, parhaodd gwella addysgu yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion pob oed. Bu llawer o athrawon yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio a gweithredu cwricwlwm sy’n ystyried dilyniant ar draws yr holl gyfnodau. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion wedi datblygu eu gweledigaeth ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, ac wedi dechrau treialu dulliau ac adnoddau. Roedd ysgolion yn treialu profiadau a strategaethau addysgu newydd gyda disgyblion Blwyddyn 7 fel parhad o’r profiadau yr oedd disgyblion wedi’u derbyn yn is i lawr yn yr ysgol.
Gweithiodd athrawon ag arbenigedd mewn agweddau gwahanol ar y cwricwlwm gyda’i gilydd i sicrhau bod disgyblion ar draws yr holl gyfnodau yn cael profiadau gwerth chweil. Roedd hyn yn cynnwys arbenigwyr pwnc yn addysgu disgyblion oed cynradd mewn gweithdai technoleg, stiwdios drama a labordai gwyddoniaeth.
Diwygio’r cwricwlwm
Roedd cynllunio a pharodrwydd ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn amrywio ar draws ysgolion. Roedd llawer o gyfnodau cynradd wedi addasu eu cwricwlwm yn addas, ond nid oedd hyn bob amser wedi parhau i mewn i Flwyddyn 7. Mewn ychydig o achosion, roedd ysgolion yn treialu gweithgareddau ym Mlwyddyn 7 a oedd yn adeiladu’n fuddiol ar brofiadau mewn blynyddoedd is. Yn gyffredinol, roedd ysgolion pob oed yn darparu profiadau dysgu diddorol a chyffrous ar gyfer disgyblion oedran cynradd, ac roeddent yn dechrau datblygu’r addysgu i gyflwyno profiadau tebyg i ddisgyblion hŷn.
Gofal, cymorth ac arweiniad
Roedd gofal a chymorth bugeiliol ar gyfer lles disgyblion yn gryfder yn y rhan fwyaf o ysgolion pob oed, a bu’n flaenoriaeth ers i ysgolion ailagor. Yn gyffredinol, teimlodd disgyblion yn ddiogel yn yr ysgol, bod gofal da iddynt, eu bod yn cael eu cefnogi, a’u gwerthfawrogi. Yn ein harolygiad o Ysgol Ystalyfera Bro Dur, roedd gofal, cymorth ac arweiniad yn arbennig o gryf ac yn sicrhau bod disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi’n dda. Fe wnaeth hyn eu datblygu’n ddinasyddion gwybodus o fewn eu cymuned, yng Nghymru a’r byd ehangach.
Ym mwyafrif yr ysgolion, roedd staff yn defnyddio gwybodaeth yn dda i nodi disgyblion yr oedd angen cymorth arnynt ar gyfer eu lles neu’u dysgu. Roeddent yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i ddiwallu anghenion y disgyblion hyn. Lle nad oedd hyn mor llwyddiannus, nid oedd arweinwyr yn olrhain cynnydd disgyblion yn ddigon da nac yn trefnu cymorth digonol i ddisgyblion er mwyn gwneud cynnydd.
Mae llawer o ysgolion wedi datblygu prosesau priodol i alluogi disgyblion gyfranogi yn y broses gwneud penderfyniadau trwy ddarparu cyfleoedd iddynt ddylanwadu ar beth a sut maen nhw’n dysgu. Mewn ychydig o ysgolion, nid oedd effaith disgyblion ar benderfyniadau ysgol gyfan wedi’i datblygu’n ddigonol.
Mewn dwy o’r tair ysgol a arolygwyd, roedd y trefniadau ar gyfer diogelu disgyblion yn gadarn, ac roedd bron yr holl staff yn deall eu rolau i gadw disgyblion yn ddiogel. Yn yr ysgolion hyn, roedd diwylliant diogelu wedi’i hen sefydlu. Gweithiodd yr holl ysgolion yn agos gydag asiantaethau allanol i ymateb a darparu cymorth priodol i ddisgyblion a’u teuluoedd. Mewn un achos, fodd bynnag, nid oedd arweinwyr yn ddigon rhagweithiol o ran mynd i’r afael â materion yn ymwneud â lles a diogelwch disgyblion. Yn ogystal, nid oedd system yr ysgol ar gyfer cofnodi pryderon diogelu yn ddigon trwyadl.
Arweinyddiaeth
At ei gilydd, roedd timau arweinyddiaeth pob oed llwyddiannus yn cynnwys cydbwysedd da o arweinwyr â chefndiroedd mewn sectorau oedran gwahanol. Wrth iddynt ddod yn fwy sefydledig, mae ysgolion wedi datblygu arweinwyr i ymgymryd â chyfrifoldebau ysgol gyfan, er enghraifft mewn cydlynu cynllunio ar gyfer dilyniant medrau disgyblion, neu arwain maes dysgu. Mae’r adnodd hwn yn darparu sbardunau hunanfyfyrio i helpu ysgolion pob oed i ystyried i ba raddau maent yn elwa ar gynnig darpariaeth pob oed.
Roedd ansawdd hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant ar draws y sector yn amrywiol. Fodd bynnag, yn yr enghreifftiau gorau, roedd ysgolion yn gwerthuso darpariaeth a safonau ar draws cyfnodau a rhyngddynt. Roedd athrawon yn craffu ar waith disgyblion ar draws ystodau oedran ac yn gwerthuso cynnydd dros gyfnod. Roedd hyn yn rhoi darlun cynyddol gywir o gynnydd disgyblion yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, ac effaith darpariaeth ar draws yr ysgol. Roedd hyn yn galluogi arweinwyr i fynd i’r afael ag unrhyw ostyngiadau mewn dysgu yn brydlon. Mewn ysgolion llai effeithiol, nid oedd gwerthuso a chynllunio gwelliant yn ddigon manwl. Nid oedd arweinwyr yn gwerthuso gwaith yr ysgol o ran ei effaith ar ddysgu disgyblion yn ddigon da. Cyfrannodd hyn at fod ganddynt olwg rhy gadarnhaol o lawer o waith yr ysgol, ac o ganlyniad, roedd diffyg manylder mewn cynlluniau gwella o ran beth yn union yr oedd angen ei wella.
Roedd dysgu proffesiynol mewn ysgolion pob oed yn arbennig o ddefnyddiol pan roedd yn canolbwyntio ar agweddau ysgol gyfan, ar draws cyfnodau, fel datblygu medrau disgyblion. Roedd hyn yn cynnwys rhannu arfer dda mewn addysgu yn fewnol neu rhwng ysgolion tebyg. Fodd bynnag, nid oedd dysgu proffesiynol allanol wedi’i deilwra’n ddigon penodol yn aml i anghenion y sector pob oed.
Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddom adroddiad thematig ar heriau a llwyddiannau sefydlu ysgolion pob oed yng Nghymru. Un o’i argymhellion yw y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno canllawiau cenedlaethol i ysgolion pob oed i gefnogi ysgolion pob oed, eu harweinwyr, llywodraethwyr ac awdurdodau lleol. Mae hyn i gydnabod bod y sector yn wahanol i ysgolion cynradd ac uwchradd. Hefyd, mae’r adroddiad yn cydnabod pa mor dda mae ysgolion pob oed yn gweithio gyda’i gilydd drwy’r fforwm cenedlaethol ar gyfer ysgolion pob oed. Ceir crynodeb o’r adroddiad thematig yma. Mae fersiwn lawn yr adroddiad ar gael ar ein gwefan.
Mae astudiaethau achos o ddetholiad o ysgolion pob oed yn yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol y gall ysgolion eraill uniaethu â hi neu ei defnyddio i wella eu harfer.