Skip to content
Plentyn gydag oedolyn

Adroddiad sector: Ysgolion arbennig a gynhelir 2021-2022

Mae 40 o ysgolion arbennig a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg ar gyfer bron i 5,500 o ddisgyblion.

Mae nifer y disgyblion mewn ysgolion arbennig wedi cynyddu blwyddyn ar ôl blwyddyn dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae tair ysgol yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Nid oes unrhyw ysgolion arbennig yng Ngheredigion na Sir Fynwy.

Mae llawer o ysgolion arbennig yn darparu addysg ar gyfer plant o 3-19 oed. Yn gynyddol, mae ysgolion arbennig yn addysgu plant ag anghenion mwy cymhleth. Yn nodweddiadol, mae ysgolion arbennig yn darparu addysg ar gyfer disgyblion ag anawsterau gwybyddol a dysgu y gellir eu dosbarthu yn rhai dwys, difrifol neu gymedrol. Yn ogystal, mae ein hysgolion arbennig yn darparu ar gyfer disgyblion â chyflwr y sbectrwm awtistiaeth; anawsterau lleferydd, cyfathrebu ac iaith; neu gyflyrau corfforol a/neu feddygol, gan gynnwys cyflyrau synhwyraidd fel namau ar y clyw a/neu’r golwg. Mae ychydig o ysgolion yn cynnig darpariaeth seibiant preswyl, ac mae ychydig iawn o ysgolion yn darparu bron yn gyfan gwbl ar gyfer disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Ymweliadau ymgysylltu

Cynhaliom ymweliadau ymgysylltu â dwy ysgol yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, cyfrannodd naw o ysgolion at waith thematig.

Arolygiadau craidd

Oherwydd y pandemig COVID-19, dim ond o ddiwedd Ionawr hyd fis Gorffennaf 2022 y cynhaliwyd arolygiadau craidd. Yn ystod y cyfnod hwn, arolygwyd tair ysgol.

Gweithgarwch dilynol

Tynnwyd dwy ysgol o’r categori adolygu gan Estyn, ac mae un yn parhau yn y categori adolygu gan Estyn. Cafodd un ysgol ei rhoi yn y categori mesurau arbennig.

Dysgu

Mae anghenion ac ystod oedran disgyblion sy’n mynychu ysgolion arbennig a gynhelir yn amrywio gryn dipyn.

At ei gilydd, yn sgil y cymorth ac anogaeth gref a gawsant gan staff, fe wnaeth y rhan fwyaf o ddisgyblion fodloni targedu personol diwygiedig a datblygu medrau priodol.

Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu eu medrau cyfathrebu yn dda ac yn dod yn fwyfwy hyderus wrth ddefnyddio’r medrau hyn mewn gwahanol gyd-destunau. Er enghraifft, roeddent yn mynegi dealltwriaeth ac anghenion drwy ystumio, arwyddo, ysgrifennu a lleisio, gan gynnwys lleferydd. Roedd disgyblion mwy abl yn cyfranogi mewn sgyrsiau manwl ac ystyrlon, ac yn defnyddio iaith benodol i bwnc ac iaith dechnegol yn dda. Datblygodd disgyblion eu medrau darllen ac ysgrifennu yn briodol, o adnabod a deall symbolau i ddewis a darllen llyfrau o ystod o destunau ffuglen a ffeithiol. Roedd medrau ysgrifennu disgyblion yn ymestyn o wneud marciau synhwyraidd a ffurfio llythrennau unigol i ysgrifennu’n estynedig ac at ddibenion gwahanol, gan gynnwys dadansoddi barddoniaeth fel rhan o gwrs llenyddiaeth Saesneg.

Datblygodd llawer o ddisgyblion fedrau rhifedd a oedd yn eu galluogi, er enghraifft, i ddeall y gwahaniaeth rhwng mawr a bach neu hir a byr. Lle bo’n briodol, datblygodd disgyblion eu medrau rhifedd ac roeddent yn gallu adnabod rhifau a’u gwerth, a chwblhau gweithrediadau fel adio, tynnu, lluosi a rhannu. Dros gyfnod, roedd disgyblion yn ennill dealltwriaeth o werth arian a sut i ddefnyddio arian mewn cyd-destunau bywyd go iawn, er enghraifft i gyllidebu teithiau i’r siop a chyfrifo’r newid y dylent ei dderbyn.

Roedd llawer o ddisgyblion yn datblygu a chymhwyso’u medrau creadigol yn dda, gan gynnwys cyfranogi’n frwdfrydig yn eu côr ysgol. Yn ogystal, roedd disgyblion yn ymgysylltu’n awchus â gweithgareddau caneuon a dawns a ddefnyddir yn effeithiol i atgyfnerthu eu dysgu. Cynhyrchwyd gwaith celf deniadol gan ddisgyblion, gan gynnwys dyfrlliwiau a ffotograffiaeth ddigidol. Roeddent yn creu gemau cyfrifiadur cyffrous ac yn cynhyrchu propiau ac effeithiau arbennig ar gyfer cynyrchiadau cyfryngau yn yr ysgol. Er enghraifft, yn Ysgol Pen-y-Bryn, cafodd medrau ffilm effaith arwyddocaol a chadarnhaol ar hyder, ymgysylltiad, gwydnwch a datblygiad medrau disgyblion. Bu’r ysgol yn ddigon caredig i ddarparu astudiaeth achos ar Gwella profiad o’r cwricwlwm drwy fedrau ffilm.

Yn eu cyhoeddiad ym mis Ebrill 2022, Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (Llywodraeth Cymru, 2022, tabl 4), nododd Llywodraeth Cymru fod pobl ifanc rhwng 16-18 oed, ag anabledd, bron deirgwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant o gymharu â phobl ifanc heb anabledd o’r un oedran. Mae hyn wedi gwaethygu dros y tair blynedd flaenorol o leiaf. Roedd yr adroddiad yn awgrymu bod ychydig o dan un rhan o bump o bobl ifanc anabl 16 i 18 oed heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Lles

Yn ystod tymor yr hydref 2021, fe wnaethom nodi fod ychydig o ddisgyblion yn cael anhawster ailintegreiddio a chydymffurfio’n llwyddiannus â disgwyliadau a threfniadau arferol, ac adroddodd arweinwyr fod anghenion cymdeithasol ac emosiynol disgyblion wedi cynyddu’n gyffredinol. Drwy ein gwaith arolygu dros y ddau dymor nesaf, fe wnaethom nodi fod llawer o ddisgyblion, gyda chymorth sensitif gan staff, wedi dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu ac roeddent yn dyfalbarhau’n dda. Roedd gan lawer o ddisgyblion agweddau cadarnhaol at ddysgu, ac fe wnaethant ailymgysylltu’n dda â’u cyfoedion yn yr ystafell ddosbarth. Dysgodd disgyblion unwaith eto i dderbyn gwahaniaethau unigol a bod yn gefnogol i’w gilydd. O ganlyniad, daeth disgyblion yn fwyfwy hyderus yn eu dysgu ac fel unigolion.

Yn ei adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru, Adolygiad presenoldeb – goblygiadau’r pandemig COVID-19 ar bresenoldeb mewn ysgolion nododd y cyn Brif Arolygydd Ysgolion yng Nghymru “…yr ysgolion â’r cyfraddau presenoldeb isaf yn ystod y pandemig a’i ganlyniadau fu ysgolion arbennig…” (Llywodraeth Cymru, 2022, tud14). Gellid priodoli hyn i deuluoedd yn dymuno peidio ag anfon eu plant i’r ysgol, efallai oherwydd eu hanghenion gofal iechyd penodol neu yn sgil bygythiadau iechyd ychwanegol yn sgil COVID-19, er ei bod yn anodd cyffredinoli ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Mae presenoldeb disgyblion mewn ysgolion arbennig wedi bod yn gwella ond mae’n is na’r lefelau cyn y pandemig, yn gyffredinol.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Erbyn diwedd tymor yr haf, roedd y rhan fwyaf o ysgolion arbennig mewn sefyllfa dda i weithredu diwygiadau’r cwricwlwm. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd y cynnig cwricwlwm yn cyfateb yn dda i egwyddorion a dibenion y Cwricwlwm i Gymru. Defnyddiodd Ysgolion Arbennig eu rhwydweithiau cryf presennol i gydweithio ar ddatblygu eu cynigion cwricwlwm. Mae bron yr holl ysgolion arbennig yn rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith o fis Medi, gan gynnwys ychydig dan draean o ysgolion arbennig gyda disgyblion oed uwchradd.

Yn gyffredinol, roedd arweinwyr ar draws ysgolion arbennig yn cydnabod yr angen parhaus am gwricwlwm hyblyg i ymateb i anghenion disgyblion oherwydd eu profiadau gwahanol yn ystod y pandemig. Mae ysgolion yn sicrhau bod medrau staff yn cyfateb yn dda iawn yn gyffredinol i anghenion disgyblion. Drwy ein gwaith arolygu, fe wnaethom nodi fod cysylltiadau gwerthfawr â darparwyr allanol wedi dechrau ailgychwyn yn raddol. Roedd y rhain yn darparu profiadau dysgu buddiol i ddisgyblion, gan gynnwys ymweliadau â mannau o ddiddordeb lleol, datblygu medrau galwedigaethol a chyfleoedd dysgu yn y gysylltiedig â gwaith. Roedd y profiadau yn ennyn ymgysylltiad dysgwyr yn dda, yn datblygu eu hyder a’u hunan-barch. Lle nad yw’r cysylltiadau allanol hyn yn bodoli, mae’r cynnig cwricwlwm yn rhy gul ac nid yw bob amser yn cyfateb yn ddigon da i anghenion a dyheadau ar gyfer disgyblion.

At ei gilydd, mae staff yn parhau i fod â dealltwriaeth gadarn o anghenion disgyblion. Roedd cyfathrebu gwell rhwng ysgolion a rhieni yn sicrhau bod ysgolion yn deall anghenion newidiol disgyblion yn gyflym. Ymatebodd y rhan fwyaf o ysgolion arbennig yn briodol i brofiadau eu disgyblion dros gyfnod y pandemig. Fe wnaethant barhau i addasu’u cynlluniau yn sensitif, ac aildrefnu grwpiau dosbarth ac ailbennu pwrpas mannau i alluogi ar gyfer addysgu disgyblion mewn grwpiau bach neu yn unigol, lle bo’n briodol.

Mae absenoldeb staff a threfnu staff cyflenwi addas yn parhau’n her mewn ysgolion arbennig. Yn aml, roedd disgyblion ag anghenion cymhleth yn ei chael yn heriol sefydlu perthnasoedd gyda staff anghyfarwydd. At ei gilydd, mae staff wedi dangos gwydnwch a chreadigrwydd arbennig wrth addasu i’r cyfyngiadau a oedd ar waith, gan gynnwys gweithredu grwpiau cyswllt llym a oedd yn cyfyngu ar symud disgyblion o amgylch yr ysgol ac yn cyfyngu ar ddigwyddiadau ysgol gyfan. Yn ein harolygiad o Ysgol Ddydd Arbennig Crownbridge, gwnaethom sylwadau ar y defnydd cynyddol o lwyfannau ar-lein a oedd yn galluogi disgyblion i gynnal a chyflwyno gwasanaethau ysgol gyfan. “…Mae’r rhain yn brofiadau ysbrydoledig, sy’n cael eu mwynhau gan ddisgyblion sy’n ymgysylltu ag angerdd, brwdfrydedd a mwynhad dilyffethair…”

Gofal, cymorth ac arweiniad

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae gofal, cymorth ac arweiniad wedi bod yn dda neu’n well mewn llawer o ysgolion arbennig. Yn ein hadroddiad Crynodeb o alwadau ymgysylltu ac ymweliadau ag ysgolion ac UCDau Hydref 2021 (Estyn 2022, tud.7), fe wnaethom nodi fod bron pob arweinydd mewn ysgolion arbennig yn parhau i rannu dulliau clir o asesu, monitro a gwerthuso lles disgyblion. Mae darparu ymyriadau lles wedi cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion. Fe wnaeth y dulliau hyn, ynghyd ag ailsefydlu trefniadau arferol, perthnasoedd a strwythurau, gynorthwyo’n fawr i adfer presenoldeb rheolaidd llawer o ddisgyblion. Roedd staff ysgolion yn cefnogi teuluoedd yn dda. Er enghraifft yn Ysgol Pen-y-Bryn, cafodd ymgysylltu â theuluoedd effaith gadarnhaol iawn, gan sicrhau bod disgyblion yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn eu lles a’u dysgu.

Fe wnaeth adolygiad llenyddiaeth a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru amlygu nifer o ddarnau ymchwil perthnasol ar effaith trychinebau ar les ac iechyd meddwl plant oedran ysgol. Roedd hyn yn cynnwys ymchwil gan Asbury ac eraill, a ganfu fod rhieni wedi adrodd bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn dioddef mwy o anawsterau iechyd meddwl. Roedd yr anawsterau hyn yn cynnwys gorbryder, hwyl isel, tynnu’n groes a newidiadau ymddygiad, ac awgrymodd rhieni fod plant a oedd â dealltwriaeth well o’r sefyllfa COVID-19 yn cael deilliannau gwell na’r rheiny â dealltwriaeth gyfyngedig. Cydnabu ymchwil bellach gan Pearcey ac eraill ar effaith y pandemig COVID-19 fod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn pryderu ynglŷn â dychwelyd i’r ysgol oherwydd “…bod pethau’n ansicr neu’n wahanol, newidiadau i’r drefn arferol, ac nad yw’r rhannau o’r ysgol yr oeddent yn eu mwynhau yn digwydd mwyach, a bod i ffwrdd o adref…”.

Roedd ein hadroddiad thematig Cyngor ac arweiniad diduedd ar yrfaoedd i bobl ifanc 14-16 oed a ddarperir gan gynghorwyr Gyrfa Cymru (Estyn, 2022, tud 19) yn pwysleisio bod gan gynghorwyr gyrfaoedd ddealltwriaeth gref o anghenion disgyblion mewn ysgolion arbennig a’u bod yn darparu graddfa uchel o eiriolaeth ar eu cyfer, gan gynrychioli eu barnau a’u hanghenion mewn cyfarfodydd. Nid yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn rhoi rôl statudol i gynghorwyr gyrfaoedd mwyach i asesu anghenion disgyblion neu eiriol ar eu rhan. Nid oedd staff mewn ysgolion arbennig, awdurdodau lleol a Gyrfa Cymru yn glir ynghylch sut, neu os, y byddai’r rôl hon yn addasu i sicrhau bod disgyblion ag ADY yn cael mynediad i gyngor ac arweiniad annibynnol a chymorth i gynllunio’u pontio i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn y dyfodol.

Yn gyffredinol, roedd ysgolion arbennig mewn sefyllfa dda i weithredu’r diwygiadau ADY. Roedd arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn nodwedd hir sefydledig o waith y sector, ac mae staff mewn llawer o ysgolion arbennig wedi defnyddio’u harbenigedd i gynorthwyo cydweithwyr mewn ysgolion prif ffrwd wrth ddatblygu arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Dros gyfnod, mae’r arbenigedd mewn ysgolion arbennig wedi’i ddefnyddio i ddylanwadu ar ddylunio a defnyddio cynlluniau datblygu unigol wedi’u cytuno’n lleol sy’n dechrau disodli datganiadau anghenion addysgol arbennig. Fodd bynnag, o fis Gorffennaf 2022, nid oedd bod amser yn glir i ysgolion na rhieni p’un a fyddai cynlluniau datblygu unigol yn cael eu cadw gan awdurdodau lleol neu ysgolion, ac mae hyn wedi creu ansicrwydd i rieni ac ysgolion.

Mewn adroddiad rhagarweiniol Addysg Disgyblion Awtistig yng Nghymru, (Davies, S. Prifysgol Abertawe, 2022, tud. 21) nododd yr awdur, sy’n fyfyriwr Doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe, fod llawer o rieni disgyblion ag awtistiaeth a oedd yn mynychu lleoliadau arbenigol, gan gynnwys ysgolion arbennig, yn hapus â’r ysgol. Mae hyn yn cyferbynnu’n llym â’r 46% o rieni a oedd yn hapus ag ysgolion prif ffrwd. Mae’r canlyniadau hyn yn cysoni’n fras â’r rheiny a ddarparwyd gan rieni yn ein holiaduron cyn-arolygiad.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Parhaodd arweinwyr mewn ysgolion arbennig i wynebu heriau gweithredol yn ddyddiol. Yn gyffredinol, roeddent yn dangos gwydnwch a’r gallu i addasu. Fe wnaethant barhau yn optimistaidd, ac yn gyffredinol roeddent yn benderfynol o sicrhau darpariaeth sy’n bodloni anghenion lles a dysgu disgyblion, a sicrhau bod staff hefyd yn cael cefnogaeth yn ystod cyfnodau o her sefydliadol a phersonol.

Parhaodd absenoldeb staff i fod yn broblem, ac mewn ychydig o achosion, effeithiodd yn negyddol ar yr ysgol. Nododd arweinwyr heriau parhaus wrth sicrhau athrawon cyflenwi i lenwi dros gyfnodau o absenoldebau.

Roedd arweinwyr mewn llawer o ysgolion arbennig yn sicrhau bod staff yn cael cyfleoedd addas i ddatblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a’u medrau ar draws ystod eang o faterion, gan gynnwys cyflawni mentrau cenedlaethol fel diwygio’r cwricwlwm ac ADY. Dechreuwyd ailgychwyn gweithgareddau’n ymwneud â hunanwerthuso a chynllunio gwelliant wrth i effeithiau’r pandemig leihau. Yn gyffredinol, mae ysgolion a arolygwyd wedi myfyrio’n dda ar eu hymatebion i natur anrhagweladwy popeth yn sgil y pandemig.