Skip to content
Disgbl yn gweithio

Adroddiad sector: Unedau cyfeirio disgyblion 2021-2022

Yn gyfreithiol, mae unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn fath o ysgol ac yn fath o addysg heblaw yn yr ysgol (AHY). Maent wedi’u sefydlu a’u cynnal gan awdurdod lleol i ddarparu addysg addas i blant a phobl ifanc efallai na fyddant yn cael addysg debyg oherwydd salwch, gwaharddiad neu reswm arall (adran 19 Deddf Addysg 1996).


UCDau

22

Cyfanswm nifer yr UCDau ym mis Ebrill 2021

21

Cyfanswm nifer yr UCDau ym mis Chwefror 2022

2

Mae dwy UCD yn darparu addysg ar gyfer disgyblion y dysgu sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 yn unig

7

Mae saith UCD yn darparu addysg ar gyfer disgyblion cynradd, y cyfnod sylfaen a Chyfnodau Allweddol 3 a 4 yn unig

11

Mae gan 11 UCD ddarpariaeth pob oed

4

Nifer yr awdurdodau lleol heb ddarpariaeth UCD gofrestredig


Disgyblion

857

Nifer y disgyblion mewn darpariaeth UCD ym mis Ionawr 2022

Manylion

UCDau yw darparwr mwyaf addysg heblaw yn yr ysgol (AHY).


Modelau darpariaeth

  • Mae ysgol eang o fodelau ar waith ledled Cymru.
  • Mae cymysgedd o UCDau â darpariaeth ar un safle ac UCDau portffolio sydd wedi’u trefnu dros nifer o safleoedd.
  • Mae’r ystod oed mewn UCDau yn amrywio, gyda rhai UCDau pob oed a rhai yn darparu ar gyfer ystod oedran benodol.
  • Gall cofrestriad mewn UCDau fod ar sail ranamser ac amser llawn. Gall disgyblion fod wedi’u cofrestru mewn mwy nag un sefydliad.
  • Mae niferoedd y disgyblion mewn UCDau unigol yn amrywio o tua 20 i dros 120.
  • Gall arweinwyr UCDau fod â chyfrifoldebau ychwanegol ar ran awdurdodau lleol, fel rheoli gwasanaethau tiwtora gartref neu diwtora yn yr ysbyty.
  • Mae’n ofynnol i bob UCD fod â phwyllgor rheoli.

Darpariaeth UCD

  • Cyfanswm 21

  • Cyfrwng Cymraeg 2

  • Dwyieithog 1

Gweithgarwch dilynol

  • Medi 2021 nifer yr UCDau mewn categori gweithgarwch dilynol (y ddau ohonynt yn y categori mesurau arbennig) 2

  • Nifer yr UCDau a dynnwyd o gategori gweithgarwch dilynol yn 2021-2022 2

  • Nifer yr UCDau mewn categori gweithgarwch dilynol Awst 2022 0

Arolygiadau craidd

  • Nifer yr arolygiadau craidd 2


Gweithgarwch ymgysylltu

Oherwydd pandemig COVID-19, cynhaliwyd arolygiadau craidd rhwng diwedd mis Ionawr a mis Gorffennaf 2022 yn unig. Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, cynhaliodd arolygwyr alwadau neu ymweliadau ymgysylltu â phob UCD.


Astudiaethau achos

UCD Bryn y Deryn


Dysgu

Gwnaeth lawer o ddisgyblion yn yr UCDau a arolygwyd gynnydd o’u mannau cychwyn gwreiddiol. At ei gilydd, fe wnaethant ymateb yn dda i ailsefydlu arferion a strwythurau, a dangos gwydnwch. Fodd bynnag, roedd angen cymorth ychwanegol ar y rhan fwyaf o ddisgyblion ar gyfer eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl. Roedd problemau parhaus â phresenoldeb ac absenoldebau cyson yn her o hyd ac effeithiodd hyn ar gynnydd disgyblion.

Dros gyfnod, gwellodd medrau cymdeithasol llawer o ddisgyblion a’u gallu i oddef cydweithio â disgyblion eraill, yr oedd y pandemig wedi cael effaith niweidiol arnynt. Fodd bynnag, i lawer o ddisgyblion, gwaethygwyd bylchau blaenorol mewn dysgu gan y pandemig. Er enghraifft, ni ddatblygodd llawer o ddisgyblion eu medrau TGCh yn gynyddol oherwydd diffyg cyfleoedd cyson a chynlluniedig ar draws y cwricwlwm.

Manteisiodd y rhan fwyaf o ddisgyblion ar ystod addas o gymwysterau cydnabyddedig ar ddiwedd Blwyddyn 11. Ailsefydlodd UCDau brosesau effeithiol ar gyfer cynlluniau pontio yn gyflym wrth i ddisgyblion adael yr UCD. O ganlyniad, yn yr UCDau a arolygwyd, symudodd bron bob disgybl a adawodd UCDau yn ystod blwyddyn academaidd 2020-2021 ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Lles

Parhaodd disgyblion nad oeddent yn ymgysylltu’n dda â dysgu cyn dechrau COVID19 i beri pryder trwy gydol y pandemig. At ei gilydd, cynyddodd anghenion cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl disgyblion yn sgil y pandemig a chafodd ychydig o ddisgyblion drafferth cydymffurfio’n llwyddiannus â disgwyliadau ac arferion wrth i’r argyfwng gilio. Canolbwyntiodd yr UCDau a aeth i’r afael â’r materion hyn yn fwyaf effeithiol ar gynnal perthynas waith gadarnhaol â disgyblion.

Bryn Y Deryn PRU

There was a notable culture and ethos of supporting well-being across the PRU. Nearly all pupils consistently engaged with the established routines in morning pastoral time. The positive working relationships between staff and pupils supported a family approach that allowed pupils to manage their behaviours more successfully. Nearly all pupils reviewed and acted upon purposeful targets for improvement during this time. As a consequence, nearly all pupils were punctual to lessons, able to settle quickly into learning situations and demonstrated exemplary behaviour in lessons.

Cymerodd bron bob disgybl yn yr UCDau a arolygwyd ran mewn cyfleoedd i ddylanwadu ar beth a sut roeddent yn dysgu. Er enghraifft, roedd cyfarfodydd y cyngor ysgol wedi’u sefydlu’n dda ac roedd disgyblion yn teimlo bod staff yn gwrando ar eu safbwyntiau.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Mabwysiadodd arweinwyr ymagwedd hyblyg tuag at y cwricwlwm, gyda ffocws penodol ar les disgyblion a’u hanghenion ymddygiadol, emosiynol ac iechyd meddwl. Crybwyllodd arweinwyr bryderon yn ymwneud ag amrywioldeb ymgysylltiad disgyblion â’u dysgu. I ymateb i hynny, cynyddodd UCDau ddarpariaeth yr ymyriadau therapiwtig ychwanegol i gynorthwyo disgyblion a’u hailymgysylltu â’u dysgu.

Effeithiodd absenoldebau parhaus staff a disgyblion yn gysylltiedig â COVID-19 ar barhad darpariaeth ac ansawdd yr addysgu a dysgu ar draws UCDau. Er bod arweinwyr yn siarad yn hyderus am sut roeddent yn datblygu eu cwricwlwm ar sail y pedwar diben, arweiniodd yr heriau gweithredol a achoswyd gan y pandemig at amrywiad yn y parodrwydd ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adnodd hwn yn darparu sbardunau hunanfyfyrio i gynorthwyo UCDau i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Yn y ddau ddarparwr a arolygwyd, roedd rhaglenni ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol wedi’u sefydlu’n dda ac roeddent yn ffocws allweddol ers y pandemig.

Roedd bron pob un o’r staff wedi meithrin perthynas waith gadarnhaol a gwerthfawr â’u disgyblion. Roeddent yn dangos eu bod yn deall ac yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn cydnabod y rhwystrau posibl rhag dysgu y gallai disgyblion eu hwynebu. Mewn llawer o achosion, ceisiodd athrawon leddfu effaith y pandemig trwy addysgu disgyblion mewn grwpiau bach neu’n unigol. Fodd bynnag, yn y ddwy UCD, roedd cryfhau cysondeb mewn addysgu yn faes i’w wella. Yn y ddau ddarparwr, roedd ystod y profiadau dysgu i gynorthwyo disgyblion i wneud dewisiadau gwybodus yn ymwneud â’u gyrfaoedd yn y dyfodol a’r byd gwaith yn gryf.

Canolfan Addysg Conwy

In Key Stage 4, the PRU provided a good range of learning experiences to help pupils make informed choices around future careers and the world of work. These experiences were delivered through strong partnerships with the local college, the careers adviser and other external partners. The PRU arranged visits for pupils to the college of their choice and from local businesses to explain the work that they do to support pupils to gain skills for the workplace. This work was a strength of the PRU.

At ei gilydd, roedd gan yr UCDau a arolygwyd drefniadau asesu cynhwysfawr i nodi cryfderau disgyblion a’u meysydd i’w datblygu. Defnyddiwyd deilliannau asesu yn dda gan athrawon i gynllunio profiadau dysgu priodol i ennyn diddordeb disgyblion a’u cynorthwyo i wneud cynnydd ar sail eu hanghenion unigol. At ei gilydd, roedd gan staff ddealltwriaeth dda o anghenion dysgu ychwanegol (ADY) disgyblion. Roeddent yn ystyried cynlluniau addysg unigol (CAUau) neu gynlluniau datblygu unigol (CDUau) a thargedau disgyblion ac yn cynllunio’n dda ar gyfer y rhain yn eu haddysgu.

Bryn Y Deryn PRU

Comprehensive assessments on entry to the PRU, alongside effective liaison with partner schools and agencies, allowed staff to identify and plan well for pupils’ individual learning and well-being needs. These initial assessments fed into a valuable record of achievement document. Progress was tracked effectively across all areas of achievement including engagement, learning targets and career aspirations. In addition, ‘learner journey’ documents supported planning for next steps in learning or development, with a focus on careers and post-16 options.

Gofal, cymorth ac arweiniad

Roedd gan y ddwy UCD a arolygwyd ethos gofalgar a chynhwysol. Roedd yr ethos hwn yn ymdreiddio i waith yr UCDau ac yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar les disgyblion. Wynebodd arweinwyr heriau o ran bodloni anghenion cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl cynyddol eu disgyblion yn sgil y pandemig. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd ystod gynyddol yr ymyriadau therapiwtig ar sail arferion wedi’u llywio gan drawma a ddarparwyd gan yr UCDau wedi dechrau mynd i’r afael â’r heriau hyn yn llwyddiannus. Fodd bynnag, crybwyllodd UCDau y gallai cymorth allanol i fynd i’r afael â phroblemau yn ymwneud â phresenoldeb fod yn rhy feichus ac nad oeddent yn ddigon amserol. Roedd y gallu i fanteisio ar Wasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn rhy amrywiol hefyd.

I ddisgyblion newydd a oedd yn ymuno ag UCDau, roedd prosesau asesu cynhwysfawr i asesu eu hanghenion a’u galluoedd. Roedd y trefniadau hyn yn cynorthwyo’r rhan fwyaf o ddisgyblion i ymgartrefu’n gyflym ac yn dda yn eu UCDau.

Roedd gan y ddwy UCD ddull cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a oedd wedi’i ddatblygu’n dda. Roedd cyfuniad o CAUau a CDUau ar waith ar draws yr UCDau. Roedd hyn yn adlewyrchu ymagwedd yr awdurdod lleol ar y pryd wrth ymateb i ddiwygio ADY. Roedd staff yn defnyddio CAUau a CDUau yn dda i gynllunio a darparu profiadau dysgu perthnasol i ddisgyblion. Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd anghysondebau o ran y trefniadau ar draws awdurdodau lleol mewn perthynas â ‘pherchenogaeth’ CDUau disgyblion yn peri pryder o hyd ymhlith arweinwyr mewn UCDau.

Roedd gan y ddwy UCD strategaethau effeithiol ar gyfer cyfathrebu â rhieni a gofalwyr. Cryfhawyd y rhain yn sylweddol yn ystod y pandemig a pharhaodd UCDau i adeiladu’n llwyddiannus ar yr arfer hon. Roedd diwylliant ac arfer diogelu ar draws UCDau yn gryf.

Arweinyddiaeth

Yn ein hymgysylltiad â darparwyr, crybwyllodd arweinwyr mewn UCDau fod absenoldebau parhaus staff o ganlyniad i COVID-19 yn cael effaith negyddol ar gynnydd disgyblion. Er enghraifft, roedd disgyblion yn aml yn ei chael yn heriol meithrin perthnasoedd ac yn cael trafferth dysgu’n effeithiol â staff anghyfarwydd. Roedd dod o hyd i staff asiantaeth addas yn heriol iawn hefyd. Serch hynny, parhaodd arweinwyr i roi blaenoriaeth uchel i les staff a disgyblion.

Crybwyllodd arweinwyr fod ganddynt gyfrifoldebau ychwanegol i reoli gwasanaethau dan arweiniad yr awdurdod lleol, fel gwasanaethau tiwtora gartref a thiwtora yn yr ysbyty. Mae i hyn fantais ogreu ymagwedd fwy hyblyg a chydlynus tuag at gefnogi pobl ifanc sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY). Fodd bynnag, crybwyllodd ychydig o arweinwyr newydd fod yr heriau sy’n gysylltiedig â’r cyfrifoldebau ychwanegol hyn yn ychwanegu at eu llwyth gwaith.

Yn y ddwy UCD a arolygwyd, parhaodd prosesau hunanwerthuso a monitro a systemau sicrhau ansawdd i weithredu. Roedd y prosesau hyn yn galluogi arweinwyr i gynllunio’n strategol ar gyfer gwella a chryfhau darpariaeth. Dangosodd arweinwyr lefel uchel o wydnwch a hyblygrwydd a rheolwyd newid yn dda.

Manteisiodd arweinwyr i’r eithaf ar gyfleoedd dysgu proffesiynol yn ystod y pandemig. Rhoddodd digwyddiadau hyfforddiant rhithwyr gyfle iddynt gefnogi datblygiad staff yn fwy hyblyg. Roedd arweinwyr yn awyddus i ailsefydlu ymweliadau â darparwyr eraill i fanteisio i’r eithaf ar rannu arfer dda ar draws y sector.

Yn gyffredinol, mae’r cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff yn cyd-fynd yn effeithiol â blaenoriaethau UCDau. Mae hyn yn cynnig y set medrau sydd ei hangen ar staff i gefnogi anghenion cymhleth disgyblion ar draws UCDau yn fwy llwyddiannus. Mae staff yn elwa ar gyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n adlewyrchu anghenion cymhleth disgyblion yn dda.

At ei gilydd, roedd lefel y cymorth a her a gynigiwyd i arweinwyr gan bwyllgorau rheoli wedi gwella. Yn y ddwy UCD, roedd trefniadau cydweithio cryfach â swyddogion yr awdurdod lleol yn gwella ansawdd darpariaeth yr UCD. Ar draws awdurdodau lleol, mae anghysondebau yn nhrefniadau’r gyllideb ar gyfer UCDau.

Dolenni : Crynodeb o alwadau ac ymweliadau ymgysylltu ag ysgolion ac UCDau – hydref 2021 | Estyn (gov.wales)