Canolfan Addysg Conwy
Yng Nghyfnod Allweddol 4, darparodd yr UCD ystod dda o brofiadau dysgu i helpu disgyblion i wneud dewisiadau gwybodus am eu gyrfaoedd yn y dyfodol a’r byd gwaith. Darparwyd y profiadau hyn trwy bartneriaethau cryf â’r coleg lleol, y cynghorydd gyrfaoedd a phartneriaid allanol eraill. Trefnodd yr UCD ymweliadau i ddisgyblion â’r coleg o’u dewis a chan fusnesau lleol i esbonio’r gwaith maent yn ei wneud i gynorthwyo disgyblion i ennill medrau ar gyfer y gweithle. Roedd y gwaith hwn yn gryfder yn yr UCD.