Skip to content

Crynodeb sector

Ysgolion prif ffrwd annibynnol

2022-2023


Addysgu a dysgu

What's going well

  • Ar draws yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw, mae cynnydd disgyblion yn gryf. Mae medrau cyfathrebu yn gryfder penodol.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu medrau mathemategol cryf.
  • Mae ysgolion yn cynnig cwricwlwm eang sy’n aml yn cael ei deilwra’n dda i anghenion a diddordebau disgyblion.
  • Mae staff yn adnabod anghenion, galluoedd a diddordebau eu disgyblion yn arbennig o dda ac yn meithrin perthnasoedd anogol cryf yn eu dosbarthiadau.
  • Mae athrawon yn defnyddio ystod o strategaethau asesu yn effeithiol i ddeall cynnydd disgyblion a rhoi adborth amserol i symud dysgu yn ei flaen.

What needs to improve

  • Lle mae ysgrifennu’n llai cadarn, nid yw disgyblion yn cymhwyso eu medrau ysgrifennu’n gywir yn gyson. Wrth ysgrifennu mewn pynciau ar draws y cwricwlwm, nid yw disgyblion pob tro, yn ysgrifennu i’r un safon uchel ag y maent yn eu gwersi Saesneg.
  • Mae cynnydd ym medrau digidol disgyblion yn amrywio.
  • Lle nad yw cynnydd disgyblion cystal, mae hyn yn aml oherwydd bod athrawon yn sgaffaldio gweithgareddau’n ormodol ac nid ydynt yn rhoi digon o gyfleoedd i ddisgyblion weithio’n annibynnol.

Gofal, cymorth a lles

What's going well

  • Mae ysgolion yn rhoi blaenoriaeth uchel dros ben i les eu disgyblion.
  • Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn bodloni eu hanghenion yn hynod effeithiol.
  • Caiff disgyblion eu hannog i fod yn gyfrifol am eu dysgu ac ymgymryd â swyddi sydd â chyfrifoldeb, sy’n datblygu eu medrau arweinyddiaeth a’u hunanhyder.

What needs to improve

  • Nid yw disgyblion yn gallu dangos gwydnwch bob tro na’r gallu i wella gwaith a dysgu o’u camgymeriadau.

Arwain a gwella

What's going well

  • Mae gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer eu hysgol, maent yn uchelgeisiol ar gyfer eu disgyblion ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o’u staff.
  • Mae arweinwyr yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i’r holl staff ymgymryd â dysgu proffesiynol.

What needs to improve

  • Nid yw dysgu proffesiynol yn cysylltu’n ddigon da ag anghenion datblygu unigol staff bob tro.
  • Mae diffygion o ran y broses sicrhau ansawdd a gwella ysgol yn golygu nad yw cynlluniau gwella arweinwyr wedi’u seilio ar dystiolaeth gref, nid ydynt wedi nodi’r ychydig o feysydd a all elwa ar gael eu datblygu neu nid ydynt yn canolbwyntio’n ddigon da ar wella deilliannau disgyblion.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

4

Arolygwyd pedair ysgol brif ffrwd annibynnol yn ystod 2022-2023.

Cafodd pob un o’r ysgolion a arolygwyd argymhelliad yn ymwneud â sicrhau ansawdd. Mae’r argymhellion yn canolbwyntio ar ffurfioli, miniogi, cryfhau neu ymwreiddio’r prosesau hyn.


Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu ysgolion prif ffrwd annibynnol i fyfyrio ar eu hunanwerthuso a chynllunio gwelliant:

  • Pa mor effeithiol y mae trefniadau’r ysgol i werthuso ansawdd addysgu ac asesu’n cipio’r prif gryfderau a meysydd i’w gwella ar draws ystod lawn y ddarpariaeth?
  • Pa mor dda y mae prosesau sicrhau ansawdd yn canolbwyntio ar effaith darpariaeth ar gynnydd a lles disgyblion? Pa mor dda y mae arweinwyr yn defnyddio ystod o wybodaeth i nodi meysydd i’w gwella?
  • Wrth werthuso addysgu, pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn canolbwyntio ar ba mor dda mae’n helpu disgyblion i wneud cynnydd yn eu gwybodaeth, medrau a’u dealltwriaeth?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn defnyddio canlyniadau prosesau sicrhau ansawdd i fonitro a gwerthuso cynnydd disgyblion er mwyn gwella addysgu a dysgu?
  • Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn cynllunio ar gyfer gwelliannau mewn addysgu? Pa mor glir y mae cynlluniau ar gyfer gwella yn pennu nodau ac amcanion, amserlenni, meini prawf llwyddiant i werthuso cynnydd mewn dysgu a threfniadau ar gyfer monitro?
  • Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn monitro cynlluniau ar gyfer gwella? Pa mor dda y mae arweinwyr yn diwygio ac addasu cynlluniau gwella yn sgil tystiolaeth o brosesau sicrhau ansawdd?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn cysylltu blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau mewn addysgu â dysgu proffesiynol? Pa mor effeithiol y maent yn gwerthuso effaith dysgu proffesiynol ar addysgu a chynnydd disgyblion?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn dyrannu adnoddau, gan gynnwys amser aelodau staff a mewnbwn gan sefydliadau partner, i sicrhau llwyddiant ei gwaith gwella?

Effective practice

To read about individual providers that are working effectively in specific aspects of their work, visit our effective practice summary page for 2022-2023