Skip to content

Crynodeb sector

Addysg bellach

2022-2023


Addysgu a dysgu

What's going well

  • Mae’r rhan fwyaf o golegau’n addasu datblygu medrau ymarferol ar raglenni galwedigaethol i gyfateb i anghenion y diwydiant.
  • Mae llawer o golegau wedi cynnal ychydig o agweddau ar gyflwyno o bell ac arlein sydd wedi’i dargedu’n ofalus.
  • Mae llawer o golegau’n datblygu ac yn gwella ymagweddau ymgorfforedig tuag at ddysgu digidol.
  • Mae’r rhan fwyaf o golegau wedi ailddechrau teithiau ac ymweliadau addysgol sy’n gyffredinol debyg i’r lefelau cyn y pandemig.
  • Mae ychydig o golegau wedi datblygu ymagweddau at brofiad gwaith sydd wedi’u targedu’n dda.

What needs to improve

  • At ei gilydd, nid yw medrau rhifedd dysgwyr wedi’u datblygu cystal â charfannau tebyg cyn y pandemig.
  • Nid oes darpariaeth ddigonol o weithgareddau dysgu sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd iach ac yn atal agweddau misogynistaidd.

Gofal, cymorth a lles

What's going well

  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant tuag at eu cyrsiau.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymwybodol o ystod eang o gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol.
  • Mae gan golegau bolisïau a phrosesau sefydledig ar gyfer disgyblu dysgwyr ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ymdrin yn effeithiol ag achosion difrifol o aflonyddu rhywiol y rhoddir gwybod amdanynt.
  • Mae ychydig o golegau’n datblygu arferion sy’n ystyriol o drawma.

What needs to improve

  • Nid yw pob dysgwr yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus ar draws pob agwedd ar eu profiadau dysgu.
  • Mae aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid yn cael ei dangofnodi’n gyffredinol.
  • Ni all dysgwyr fanteisio’n gyfartal ar deithiau ac ymweliadau addysgol.

Arwain a gwella

What's going well

  • Mae colegau’n rhannu ac yn cydweithio’n dda â’i gilydd ar draws ystod o faterion a mentrau allweddol.
  • Mae colegau wedi diweddaru eu trefniadau sicrhau ansawdd i gynnwys arsylwi sesiynau dysgu ar-lein a digidol.
  • Mae’r rhan fwyaf o golegau’n defnyddio timau cymorth digidol neu unigolion i ddatblygu adnoddau a chynorthwyo staff i gyflwyno gweithgareddau dysgu ar-lein a digidol.
  • At ei gilydd, mae colegau wedi adolygu eu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer teithiau ac ymweliadau addysgol ac wedi’u diwygio’n briodol i fynd i’r afael ag argymhellion adroddiad thematig blaenorol Estyn.

What needs to improve

  • Nid yw colegau’n monitro a gwerthuso cynnydd ac effaith eu camau cynllunio gwelliant yn ddigon da bob tro.
  • Mae diffyg hyder gan lawer o staff colegau ac maent yn teimlo bod angen mwy o ddatblygu a diweddaru arnynt o ran mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.
  • Nid yw colegau’n cofnodi a gwerthuso achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ddigon systematig.
  • Nid yw’r rhan fwyaf o golegau’n casglu adborth ffurfiol gan ddysgwyr yn ymwneud â theithiau ac ymweliadau addysgol.

Trosolwg o argymhellion

1

Arolygwyd un coleg addysg bellach yn ystod 2022-2023.

  • Roedd yr adroddiad ar yr arolygiad o Goleg Cambria yn cynnwys argymhellion ar gynllunio gwelliant, helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial a mynd i’r afael a bylchau mewn medrau llythrennedd a rhifedd.
  • Fe wnaeth ein hadolygiad thematig hefyd wneud cyfres o argymhellion mewn perthynas â gweithio i nodi a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed. Roedd y rhain yn cynnwys darparu gweithgareddau dysgu ar berthnasoedd iach, atal agweddau a diwylliannau misogynistaidd, dysgu proffesiynol ychwanegol i staff, a sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus ar draws pob agwedd ar eu profiad yn y coleg. Roedd argymhellion eraill yn canolbwyntio ar wella trefniadau cofnodi a gwerthuso a rhoi arweiniad mwy eglur ar draws y sector.

Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu i lywio prosesau cynllunio gwelliant darparwyr:

  • Pa mor glir yw nodau ac amcanion unrhyw gynlluniau sy’n ymwneud â mentrau gwella allweddol?
  • I ba raddau y mae cynlluniau prosiectau’n pennu amcanion penodol sydd â mesurau effaith priodol, ynghyd ag amserlenni clir ac arweinwyr dynodedig?
  • Pa mor effeithiol y mae’r darparwr yn dyrannu adnoddau, gan gynnwys amser aelodau staff, i sicrhau llwyddiant ei waith gwella?
  • Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn monitro cynnydd yn erbyn eu cynlluniau gwella ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i nodi camau gweithredu sydd angen sylw pellach?
  • Pa mor effeithiol y mae gwerthusiadau cyffredinol yn nodi’r gwersi allweddol sy’n cael eu dysgu pan gaiff prosiectau eu cwblhau?
  • Sut caiff gwersi sy’n cael eu dysgu eu defnyddio i fod o fudd wrth gynllunio prosiectau neu fentrau yn y dyfodol?
  • Pa mor dda y mae’r darparwr yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth i lywio ei waith gwerthuso a gwella?
  • I ba raddau y mae’r ystod lawn o randdeiliaid yn cyfrannu at werthuso effaith mentrau gwella allweddol?

Effective practice

To read about individual providers that are working effectively in specific aspects of their work, visit our effective practice summary page for 2022-2023