Skip to content

Crynodeb sector

Dysgu oedolion yn y gymuned

2022-2023


Addysgu a dysgu

What's going well

  • Mae partneriaethau’n parhau i gynnig sesiynau dysgu wyneb-yn-wyneb ac ar-lein yn unol â dymuniadau dysgwyr.
  • At ei gilydd, mae addysgu ar draws meysydd rhaglenni yn effeithiol ac mae tiwtoriaid yn cefnogi eu dysgwyr yn dda.
  • Mae nifer y dysgwyr Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill yn cynyddu a, lle y bo’n berthnasol, mae darpariaeth yn llwyddiannus o ran helpu dysgwyr i addasu i’w bywydau newydd yng Nghymru.
  • Lle mae partneriaethau’n cynnig cyrsiau diddordeb personol, mae’r rhain o fudd i les dysgwyr, yn ogystal â’u cynorthwyo i gaffael medrau a gwybodaeth.

What needs to improve

  • Nid yw partneriaethau’n olrhain a monitro cynnydd disgyblion o fewn, ar draws ac wrth adael eu darpariaeth, yn ddigon da.
  • Nid yw partneriaethau’n darparu digon o gyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg eu hiaith gymryd rhan mewn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gofal, cymorth a lles

What's going well

  • Mae darparwyr yn cynnig cymorth gwerthfawr wedi’i bersonoli i ddysgwyr.
  • Mae darparwyr yn canolbwyntio ar hyrwyddo dewisiadau iach i ddysgwyr o ran eu ffordd o fyw, yn ogystal â helpu dysgwyr i ddeall pwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Mae darparwyr yn cynnig cyfleoedd ystyrlon i ddysgwyr leisio eu barn a dylanwadu ar ddarpariaeth.
  • Mae bron pob dysgwr yn cyfranogi’n frwdfrydig a dywed llawer ohonynt fod ymgysylltu â’u dysgu yn fuddiol i’w lles.

What needs to improve

  • Heb wefannau trosfwaol ar gyfer partneriaethau, yn aml, nid yw darpar ddysgwyr yn gallu gweld arlwy gyfan y bartneriaeth yn hawdd. Mae hyn yn golygu na allant ddod o hyd i’r cyrsiau sy’n gweddu orau i’w hanghenion neu eu dewis iaith bob tro.

Arwain a gwella

What's going well

  • Mae partneriaethau’n deall anghenion eu dysgwyr a’u cymunedau’n dda.
  • Yn yr enghreifftiau gorau, mae gan bartneriaethau weledigaeth glir, gytûn sy’n cael ei mynegi’n dda; mae’r partneriaid yn alinio eu gwaith a’u hadnoddau i gefnogi hyn yn effeithiol.
  • Mae arweinwyr a rheolwyr yn cydweithio’n dda â’i gilydd i sicrhau y caiff gwersi eu cynnal mewn ystod eang o leoliadau sy’n hawdd eu cyrraedd ac sydd wedi’u lleoli’n gyfleus ar draws ardaloedd daearyddol gwahanol.

What needs to improve

  • Lle nad yw gweithio mewn partneriaeth yn gryf, mae angen gwella trefniadau arweinwyr ar gyfer hunanwerthuso a sicrhau ansawdd darpariaeth.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

3

Arolygwyd tair partneriaeth yn ystod 2022-2023.

3

Cafodd bob un o’r tair partneriaeth argymhellion i wella olrhain a monitro cynnydd dysgwyr.

3

Cafodd bob un o’r tair partneriaeth argymhelliad i ymwreiddio neu gynyddu’r arlwy cyfrwng Cymraeg o fewn eu darpariaeth.

Roedd argymhellion eraill yn canolbwyntio ar yr angen i ddarparu cyfeiriad strategol ar lefel y bartneriaeth, gwella marchnata arlwy’r ddarpariaeth, gwella i ba raddau y mae dysgwyr yn cyfrannu at hunanwerthuso, a rhoi arsylwi a safoni traws-bartneriaeth ar waith i adeiladu cyd-ddealltwriaeth o ansawdd yr addysgu a’r dysgu.


Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu darparwyr i ddefnyddio gwybodaeth am gynnydd a dilyniant dysgwyr i wella eu darpariaeth a’u harfer:

  • Pa mor effeithiol y mae’r bartneriaeth yn olrhain a monitro cynnydd dysgwyr yn y ddarpariaeth ac ar ei thraws?
  • Pa mor dda y mae partneriaid yn y bartneriaeth yn rhannu gwybodaeth briodol am ddilyniant dysgwyr wrth iddynt symud rhwng partneriaid?
  • Pa mor dda y mae’r bartneriaeth yn cipio gwybodaeth am gyrchfannau dysgwyr ar ôl iddynt adael y ddarpariaeth?
  • Pa mor effeithiol y mae gwybodaeth am gynnydd a chyrchfannau dysgwyr, ynghyd â mewnwelediad i effaith darpariaeth, yn llywio prosesau hunanwerthuso ar lefel darparwyr a’r bartneriaeth?

Effective practice

To read about individual providers that are working effectively in specific aspects of their work, visit our effective practice summary page for 2022-2023