Addysg Bellach
Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.
What’s going well
- Mae gan y rhan fwyaf o golegau ddull systematig ar gyfer asesiadau cychwynnol a diagnostig o anghenion pob dysgwr o ran medrau llythrennedd a rhifedd.
- Mae bron pob coleg wedi cryfhau ei staffio a’i allu i gynnig cymorth lles.
- Mae dysgwyr yn teimlo bod eu cymorth lles yn gwella eu cynnydd mewn dysgu.
- Mae trefniadau pontio ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr y nodwyd eisoes bod ganddynt ADY yn yr ysgol yn effeithiol, ar y cyfan.
- Mae llawer o golegau’n cynnig cyfleoedd defnyddiol i ddysgwyr ymweld â’r coleg fel rhan o weithgareddau ymgynefino a pharatoi cyn eu rhaglenni ymsefydlu ffurfiol.
What needs to improve
- Mae’r pandemig wedi cael effaith niweidiol ar les ac iechyd meddwl dysgwyr.
- Nid yw trefniadau rhannu gwybodaeth rhwng darparwyr wedi’u ffurfioli bob tro. Yn aml, mae hyn yn golygu y gofynnir i ddysgwyr a rhieni/gofalwyr ddarparu’r un wybodaeth sawl gwaith.
What’s going well
- Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd priodol, o leiaf, yn eu dysgu er bod y bylchau yn eu medrau a’u gwybodaeth gychwynnol yn fwy na rhai’r carfannau blaenorol.
- Mae dysgwyr yn gwerthfawrogi gweithgareddau ychwanegol i baratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau sy’n helpu i leddfu eu pryder.
- Mae’r rhan fwyaf o golegau wedi ailsefydlu gweithgareddau cyfoethogi wyneb-yn-wyneb defnyddiol.
- Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn cynnig cymorth ychwanegol defnyddiol i helpu’r dysgwyr niferus y mae eu medrau llythrennedd a rhifedd islaw’r lefelau a ddisgwylir fel arfer.
- Mae’r rhan fwyaf o golegau’n cynnig cyfleoedd dilyniant da i ddysgwyr.
What needs to improve
- Mae llawer o athrawon yn colli cyfleoedd i gynnwys datblygiad medrau llythrennedd a rhifedd yn eu dosbarthiadau, heblaw am wersi medrau sydd wedi’u hamserlennu’n benodol.
- Nid yw llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd digonol o ran datblygu eu medrau rhifedd. Dolen i adnodd.
- Mae cynnydd ychydig o ddysgwyr yn cael ei lesteirio gan anawsterau o ran sicrhau lleoliadau gwaith.
- Nid yw’r sail resymegol ar gyfer dysgu ar-lein yn cael ei hegluro i ddysgwyr bob tro.
What’s going well
- Mae arweinwyr colegau wedi rhoi blaenoriaeth i les dysgwyr a staff.
- Mae’r rhan fwyaf o golegau wedi cryfhau eu gallu digidol ac wedi uwchsgilio staff mewn defnyddio technoleg yn effeithiol.
- Mae llawer o golegau’n gwneud mwy o ddefnydd o asesu cymheiriaid a chymorth mentora i staff.
What needs to improve
- Mae llawer o golegau’n cael trafferth recriwtio staff ar draws ystod o rolau.