Skip to content
Disgbl mewn gwers wyddoniaeth

Adroddiad sector: Prif ffrwd annibynnol 2021-2022

36

Nifer o ysgolion Ionawr 2022

10

Gan gynnwys 10 ysgol breswyl

37

Ysgolion prif ffrwd annibynnol Ionawr 2021


Safonau Ysgolion Annibynnol

Mewn ysgolion annibynnol, rydym yn arolygu i ba raddau y mae’r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003.

Roedd yr holl ysgolion a arolygwyd yn 2021-2022 yn bodloni’r Safonau hyn.

Eleni, gofynnodd Llywodraeth Cymru yn ffurfiol i ni gynnal un arolygiad â rhybudd, gan canolbwyntio ar arolygu dan adran 160 Deddf Addysg 2002 (Prydain Fawr, 2002). Roedd gan yr arolygiad ffocws penodol ar safon 3 Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003, sy’n ymwneud â lles, iechyd a diogelwch disgyblion (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2003). Adeg yr arolygiad â ffocws, nid oedd yr ysgol yn bodloni gofynion rheoleiddiol y safon hon yn llawn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r ysgol hon ac yn monitro a fydd yn gwneud y gwelliannau sydd eu hangen i gynnal ei chofrestriad.

Cynhaliom dair cynhadledd wella hefyd ag ysgol a fethodd y gofynion rheoleiddiol ar gyfer safon 3 yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol. Mae’r ysgol hon bellach yn bodloni’r holl ofynion rheoleiddiol ac mae wedi’i thynnu o’r categori gweithgarwch dilynol.


Astudiaeth achos

Ysgol Gynradd Fwslimaidd Caerdydd – cymorth ymarferol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol


Arolygiadau craidd

Eleni, arolygom bedair ysgol brif ffrwd annibynnol.

Mae tair ysgol yn ysgolion pob oed ac un ohonynt yn ysgol gynradd.

Yn ogystal, mae dwy o’r ysgolion yn ysgolion preswyl.


Ymweliadau ag ysgolion annibynnol

Yn ogystal â’n harolygiadau craidd a’n harolygiadau â ffocws, rydym hefyd yn ymgymryd ag ystod o waith arall ag ysgolion annibynnol:

  • Un ymateb i gynllun gweithredu lle nad yw ysgol yn bodloni Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003
  • Tri ymweliad cofrestru cychwynnol i gofrestru ysgol annibynnol newydd
  • Tri ymweliad dilynol ar ôl cofrestru i sicrhau bod ysgol annibynnol sydd newydd agor yn parhau i gydymffurfio â’r safonau ysgolion annibynnol
  • Ymweliadau â chwe ysgol annibynnol fel rhan o’n hadroddiad thematig ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion
  • Saith ymweliad newid perthnasol, i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ynghylch newid i amgylchiadau ysgol annibynnol

Dysgu

Yn yr ysgolion a arolygwyd eleni, sicrhaodd ymateb chwim i heriau pandemig COVID19 fod safonau’n parhau’n uchel a bod disgyblion yn parhau i wneud cynnydd cryf.

Ar draws yr ysgolion a arolygwyd, roedd gan ddisgyblion fedrau cyfathrebu datblygedig iawn. Roedd bron bob disgybln yn huawdl ac yn hyderus wrth siarad ag ymwelwyr. Roeddent yn teimlo’n gartrefol wrth drafod eu gwaith ac wrth ymateb i gwestiynau. Fodd bynnag, nid oedd ychydig o ddisgyblion yn gwrando’n ddigon da bob tro pan roedd pobl eraill yn siarad.

Ym mron pob un o’r ysgolion a arolygwyd, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos medrau darllen cryf, ynghyd â hoffter o lyfrau a llenyddiaeth. Roedd ychydig o ddisgyblion yn ddarllenwyr eithriadol o gymwys ac yn gallu darllen a deall ystod eang o destunau. Roedd y medrau darllen hyn yn galluogi disgyblion i fanteisio’n llwyddiannus ar ddeunydd ysgrifenedig ar draws y cwricwlwm.

Roedd safon ysgrifennu y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gryf ar draws pob ysgol. Roedd disgyblion yn datblygu’r medrau priodol i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd a dibenion gwahanol. Roedd ychydig iawn o ddisgyblion yn gwneud gwallau sylfaenol cyson o ran sillafu, atalnodi a gramadeg.

Datblygodd y rhan fwyaf o ddisgyblion fedrau mathemategol hynod o gryf a, phan roddwyd cyfle iddynt, fe wnaethant gymhwyso eu medrau rhifiadol mewn cyd-destun gwahanol. Roedd ychydig iawn o ddisgyblion hŷn yn fathemategwyr medrus dros ben a oedd yn cymhwyso eu medrau mathemategol yn gywir ac yn gadarn ar draws y cwricwlwm.

Datblygodd medrau digidol bron bob disgybl yn dda oherwydd y ddarpariaeth ar-lein effeithiol a drefnwyd gan ysgolion yn ystod pandemig COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys ffocws cryf ar ddefnyddio technoleg ddigidol i gyfathrebu’n effeithiol, i gwblhau eu gwaith ac ar gyfer ymchwil.

Lles ac agweddau at ddysgu

Ym mhob un o’r ysgolion a arolygwyd, roedd lles disgyblion a staff yn ffocws cryf o hyd. Dangosodd disgyblion falchder yn eu hysgol ac roedd ganddynt ymdeimlad cryf o berthyn, a oedd yn cyfrannu’n effeithiol at eu lles.

Roedd bron bob disgybl yn mwynhau perthynas waith adeiladol ac ymddiriedus â’u hathrawon. Roedd disgyblion yn hyderus wrth siarad â staff ac yn gwybod yr eir yr afael ag unrhyw bryderon yn gyflym. Roedd bron bob disgybl yn gweithio’n ddiwyd yn y dosbarth ac yn mwynhau eu gwersi. Roeddent yn cydweithio â’i gilydd yn aeddfed mewn parau a grwpiau bach. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn trin cyfraniadau disgyblion eraill â pharch ac yn cynnig cymorth i’w cyfoedion. Roeddent yn ddysgwyr brwdfrydig a oedd yn awyddus i gyfranogi ac ateb cwestiynau athrawon. Fodd bynnag, mewn ychydig iawn o achosion yn ystod trafodaethau dosbarth, nid oedd disgyblion yn aros eu tro i gyfrannu bob amser nac yn rhoi digon o amser i ddisgyblion eraill rannu eu syniadau.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Yn yr holl ysgolion a arolygwyd, roedd y cwricwlwm yn eang a chytbwys ac yn bodloni gofynion Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003. Yn ogystal, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4, roedd yr ysgolion pob oed yn aml yn cynnig cwricwlwm tra phwrpasol a oedd yn gweddu’n dda i ddiddordebau a doniau’r disgyblion. Roedd y cyfleoedd cydgwricwlaidd helaeth y mae ysgolion annibynnol yn eu cynnig wedi’u cwtogi oherwydd cyfyngiadau pandemig COVID-19. Fodd bynnag, ailgyflwynodd tri chwarter yr ysgolion ymweliadau addysgol a theithiau cynlluniedig ymhellach i ffwrdd yn gyflym. Roedd y profiadau hyn yn cefnogi lles disgyblion yn gryf.

Fodd bynnag, mewn hanner yr ysgolion a arolygwyd, roedd un o’u hargymhellion yn ymwneud â darpariaeth ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol. Yn yr achosion hyn, nid oedd y dull o gyflwyno’r maes pwysig hwn o’r cwricwlwm wedi’i gydlynu neu nid oedd yr arfer yn cyfateb i’r polisi. Roedd disgyblion yn colli allan ar agweddau pwysig ar y pwnc hwn. Roedd hyn hefyd yn wir yn yr ysgolion yr ymwelom â nhw fel rhan o’n gwaith ar gyfer ein hadroddiad ‘Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon’ ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Yn yr ysgolion hyn, yn aml, nid oedd digon o amser yn y cwricwlwm ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol i ddisgyblion hŷn ac nid oedd disgyblion yn cael digon o gyfleoedd i siarad yn agored am eu profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

Ar draws yr ysgolion, roedd gan bron yr holl staff berthynas waith gadarnhaol a chefnogol â disgyblion ac roeddent yn eu hadnabod yn arbennig o dda. Roedd gan athrawon ddisgwyliadau uchel o’u hunain a’u disgyblion.

Lle’r oedd addysgu yn fwyaf llwyddiannus, roedd gweithgareddau’n aml yn benagored ac wedi’u haddasu’n effeithiol i gynnig lefel briodol o her i ddisgyblion. Yn yr achosion hyn, roedd athrawon yn cynnig adborth o ansawdd uchel i ddisgyblion, a oedd yn nodi’n glir feysydd lle y gellid gwella eu gwaith.

Lle’r oedd addysgu’n llai llwyddiannus, roedd athrawon yn cynllunio gweithgareddau a oedd â ffocws mwy cul neu wedi’u harwain gormod gan athrawon i ddisgyblion allu cyfarwyddo eu dysgu eu hunain ac felly elwa ar gyfleoedd i ddatblygu medrau ehangach ac annibyniaeth. Hefyd, yn yr achosion hon, ni roddwyd cyfle i ddisgyblion gael adborth defnyddiol ar eu gwaith ac nid oedd disgwyl iddynt ymateb iddo.

Gofal, cymorth ac arweiniad

Rhoddodd arweinwyr a staff flaenoriaeth uchel i les pob disgybl.

Lle’r oedd yn briodol, cysylltodd ysgolion yn adeiladol ag asiantaethau allanol, er enghraifft i gynnig cymorth arbenigol ar gyfer iechyd meddwl disgyblion. Hefyd, defnyddiodd un ysgol yn benodol y gymuned leol a’r gymuned ehangach yn hynod effeithiol i gefnogi datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion.

Ym mron pob un o’r ysgolion a arolygwyd, sicrhaodd y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) fod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael y cymorth roedd ei angen arnynt i lwyddo â’u dysgu. Mewn un ysgol, roedd hyn yn gryfder penodol.

Roedd gan bob un o’r ysgolion a arolygwyd ddiwylliant diogelu priodol ac roedd diwylliant cryf yn hanner yr ysgolion a arolygwyd. Roedd yr holl staff yn deall eu rôl o ran sicrhau bod disgyblion yn ddiogel ac yn cael gofal da. Fodd bynnag, mewn ysgolion eraill, nid oedd staff yn glir bob tro ynghylch pwy y dylent roi gwybod iddynt os oedd ganddynt bryderon am uwch aelodau staff neu nid oedd gwirio cofnodion yn gadarn bob tro. Lle nododd arolygwyr y materion hyn, aethpwyd i’r afael â nhw â’r ysgolion wedi hynny. Mae hyn yn adlewyrchu canfyddiadau ein hadroddiadau thematig ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, lle mae staff ym mron pob un o’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw yn gwybod beth i’w wneud os oes ganddynt bryderon am ddisgybl. Fodd bynnag, mewn llawer o ysgolion, nid yw athrawon ac, i raddau llai, uwch arweinwyr a staff cymorth, yn gwbl ymwybodol o gyffredinrwydd aflonyddu rhwng cyfoedion, gan nad yw disgyblion yn rhoi gwybod i staff ysgolion am eu pryderon yn systematig.

Arweinyddiaeth

Yn yr ysgolion a arolygwyd, roedd gan arweinwyr uchelgeisiau uchel ar gyfer eu disgyblion a disgwyliadau uchel o’u staff. Cefnogwyd y pennaeth yn dda gan yr uwch dîm a, gyda’i gilydd, roeddent yn pennu gweledigaeth glir, gytûn ac ethos yr oedd pawb yn ei gefnogi. Roedd y rhan fwyaf o arweinwyr yn monitro gwaith yr ysgol yn ofalus ac roedd ganddynt ddealltwriaeth gywir o’r cryfderau a’r diffygion ar draws yr ysgol. Lle’r oedd monitro arweinwyr yn nodi diffygion mewn arfer, aethpwyd i’r afael â’r rhain yn gyflym, er enghraifft trwy gymorth mentora ac anogaeth.

Lle’r oedd diffygion mewn arweinyddiaeth, nid oedd prosesau cynllunio gwelliant yn canolbwyntio’n ddigon da ar gynnydd disgyblion, y safonau roeddent yn eu cyflawni ac ansawdd yr addysgu bob tro. O ganlyniad, nid oedd trefniadau’r ysgol i werthuso cynnydd tuag at wneud gwelliannau yn y meysydd pwysig hyn yn ddigon effeithiol.

Mewn tri chwarter o’r ysgolion a arolygwyd, roedd cyfleoedd datblygiad proffesiynol, boed hynny’n rhannu arfer dda neu’n mynychu cyrsiau allanol, yn gryf o hyd. Fodd bynnag, mewn chwarter o’r ysgolion, dim ond lleiafrif o’r staff a oedd wedi ymgymryd â chyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol.

Mewn hanner o’r ysgolion a arolygwyd, nid oedd rôl y corff llywodraethol wedi’i datblygu’n ddigonol, yn enwedig ei rôl fel cyfaill beirniadol.

Mae’r adnodd hwn yn darparu sbardunau hunanfyfyrio i gynorthwyo i gryfhau arweinyddiaeth mewn ysgolion annibynnol.