Skip to content
Plant yn y gwasanaeth

Mynd i’r afael ag effaith tlodi a difreintedd

Mae effaith niweidiol tlodi a difreintedd ar fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi bod yn thema gyson yn Adroddiadau Blynyddol Estyn. Yn 2021-2022, dangosodd ymchwil allanol a’n gwaith arolygu ac ymgysylltu bod plant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig wedi’u heffeithio’n anghymesur gan y pandemig. Mewn llawer o achosion, dirywiodd cynnydd y dysgwyr hyn yn fwy na’u cymheiriaid mwy breintiedig ac aeth eu presenoldeb, a oedd eisoes yn wan, yn waeth. Dangosodd Ymchwil gan End Child Poverty hefyd fod tlodi plant yng Nghymru yn waeth nag yn holl wledydd eraill y DU, gyda chyfartaledd o 34% o blant Cymru yn byw mewn tlodi.

Mewn datganiadau a wnaed yn y misoedd Mawrth a Mehefin 2022, pwysleisiodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, bwysigrwydd canolbwyntio ar dlodi a difreintedd ym mhob agwedd ar ddarpariaeth addysgol:

Yn anad dim, cenhadaeth ein cenedl yw sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb drwy fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, gan greu system addysg wirioneddol deg yng Nghymru.(https://www.llyw.cymru/mae-angen-newid-mawr-i-greu-system-addysg-wirioneddol-deg-i-bawb)

Dangosodd ein gwaith arolygu ac ymgysylltu fod rhai darparwyr yn arbennig o effeithiol o ran mynd i’r afael ag effaith tlodi a difreintedd ar eu dysgwyr. Er bod y darparwyr hyn yn gweithio i leddfu effaith benodol tlodi trwy ddarpariaeth fel gwisg ysgol rhad ac am ddim neu fforddiadwy i bawb, banciau bwyd, gwisgoedd partïon prom fforddiadwy ac ati, roedd prif fyrdwn eu gwaith ar gynnig darpariaeth o ansawdd uchel i’w holl ddysgwyr, ni waeth am eu cefndiroedd, a chael gwared â rhwystrau rhag dysgu fel bod pob dysgwr yn cael profiadau a chyfleoedd teg. Golygai’r ymdrech ddygn hon i sicrhau darpariaeth gynhwysfawr a safonau uchel ym mhopeth yr oeddent yn ei wneud fel bod yr holl ddysgwyr wedi’u galluogi i ffynnu. Mae’r nodweddion sy’n sail i waith y darparwyr hyn yn cynnig egwyddorion gwerthfawr a fyddai o fudd i waith pob darparwr, beth bynnag yw eu cyd-destun, a chânt eu nodi isod:

  • Roedd arweinwyr yn dangos ymrwymiad calonnog i gynhwysiant a safonau uchel, ac yn cyfleu gweledigaeth glir a oedd yn cael ei rhannu gan bawb a oedd yn gysylltiedig â’r darparwr ac yn ymdreiddio i bob agwedd ar ei waith. Er enghraifft, yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd, mae gwaith yr ysgol yn cael ei sylfaenu ar genhadaeth yr ysgol, sef ‘Cyfleoedd i Bawb’, ac mae gan y pennaeth weledigaeth glir ar gyfer codi dyheadau, ehangu gorwelion a chyflawniad a lles yr holl ddisgyblion i’r eithaf. Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
  • Roedd ffocws diflino ar addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bawb. Er enghraifft, yn Ysgol Gynradd Pantysgallog ym Merthyr, mae diwylliant cryf o siarad am ddulliau addysgu yn datblygu yn yr ysgol. Mae athrawon yn gweithio mewn grwpiau i wella eu harferion ystafell ddosbarth mewn ffordd gefnogol, a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae arweinwyr yn annog staff i drafod a myfyrio ar eu dulliau addysgu ac yn gofyn am gyngor am ffyrdd i wella. Darllenwch yr adroddiad llawn yma. Mae’r addysgu yn Ysgol Gymunedol Porth yn herio disgyblion i ymgysylltu â thasgau uchelgeisiol sy’n eu hysgogi ac yn tanio’u brwdfrydedd i fynd i’r afael â chysyniadau anodd. Mae disgyblion yn ymateb yn awchus ac yn dangos faint y gallant ei gyflawni pan roddir yr hyder a’r gefnogaeth iddynt lwyddo. Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
  • Roedd ymrwymiad moesol cryf a diwylliant o ddyheadau uchel i bob dysgwr, a oedd nid yn unig yn ehangu gorwelion trwy brofiadau fel teithiau, sgyrsiau am brifysgolion, cystadlaethau ac ati, ond trwy brofiadau bob dydd fel lefel yr her mewn gwersi, disgwyliadau o ran ymddygiad ac ymgysylltiad, ac ansawdd yr iaith a ddisgwylir mewn rhyngweithiadau o ddydd i ddydd. Er enghraifft, mae Ysgol Uwchradd Whitmore yn Y Barri yn cynnig ystod eang o weithgareddau i’w disgyblion, ac mae clybiau allgyrsiol yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion o bob oed a gallu ffynnu, datblygu’n gymdeithasol a dysgu pethau newydd. Mae disgwyliadau uchel gan y rhan fwyaf o athrawon o’r hyn y gall disgyblion ei gyflawni, ac mae llawer ohonynt yn fodelau rôl da yn y ffordd y maent yn siarad ac yn defnyddio iaith ddysgedig i gyfathrebu â disgyblion. Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
  • Roedd y darparwyr yn cynnig darpariaeth gynhwysfawr ar gyfer lles a oedd wedi’i theilwra i anghenion dysgwyr unigol ac yn helpu i gael gwared â rhwystrau rhag dysgu. Er enghraifft, mae partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned Wrecsam a Sir y Fflint yn cynnig cydbwysedd da ac amrywiaeth ddefnyddiol o gyrsiau ar gyfer oedolion sydd eisiau ymgysylltu o’r newydd ag addysg, i wella eu rhagolygon swydd, uwchraddio eu medrau Saesneg (Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill – SSIE), datblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd neu ddigidol neu wella’u hiechyd a lles. Darperir cyrsiau mewn amrywiaeth o leoliadau priodol, gan gynnwys canolfannau mewn lleoliadau cymunedol mewn ardaloedd gwledig a threfol ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol. Mae’r bartneriaeth yn defnyddio cyrsiau byr heb eu hachredu yn dda i ddenu dysgwyr sy’n anodd eu cyrraedd sy’n llai hyderus ynglŷn â dechrau neu ailddechrau mewn addysg a hyfforddiant. Hefyd, ceir darpariaeth sy’n fach ond yn tyfu ar gyfer dysgu teuluol, lle mae rhieni a’u plant yn chwarae a dysgu gyda’i gilydd, er enghraifft trwy ddysgu medrau treftadaeth ffeltio gwlân, yn ysgolion y plant. Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
  • Roedd gwaith amlasiantaeth effeithiol rhwng y darparwr ac ystod o wasanaethau allanol yn yr awdurdod lleol, elusennau a’r tu hwnt. Golygai hyn bod gan yr holl asiantaethau gyd-ddealltwriaeth o anghenion unigolion, teuluoedd a’r gymuned, a’u bod yn symud i’r un cyfeiriad i gynnig cymorth cydlynus. Er enghraifft, mae awdurdod lleol Merthyr Tudful yn gwerthfawrogi ei bartneriaethau â sefydliadau’r trydydd sector ac yn cydnabod eu rôl bwysig mewn cefnogi’r flaenoriaeth i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar lwyddiant addysgol plant a phobl ifanc. Mae’r awdurdod lleol wedi sefydlu rhwydwaith o wasanaethau sy’n gweithio gyda darparwyr addysg, gan gynnwys gwasanaethau statudol a ddarperir gan yr awdurdod lleol, a gwasanaethau a ddarperir gan ystod o sefydliadau’r trydydd sector. Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
  • Roedd y cwricwlwm yn hyblyg ac yn bodloni anghenion pob dysgwr o ddifrif, gan wneud i ddysgwyr deimlo’n rhan o gymuned y darparwr hefyd.
  • Roedd y darparwr yn rhan o’r gymuned leol, ac roedd y gymuned leol yn rhan annatod o’r darparwr. Roedd y darparwr yn adnabod, yn deall ac yn cynorthwyo dysgwyr unigol, eu teuluoedd a’r gymuned yn dda iawn. Er enghraifft, yn Ysgol Gynradd Clwyd yn Abertawe, mae gwaith yr ysgol mewn partneriaeth â rhieni ac asiantaethau cymorth yn rhagorol. Mae ymddiriedaeth sylweddol a chred gytûn bod yr ysgol yn gwneud y peth iawn i ddisgyblion ac yn gweithredu er eu lles pennaf bob amser. Caiff rhieni gyfleoedd i fynychu gweithdai sy’n canolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd a dysgu fel teulu. Maent hefyd yn mynychu sesiynau gan siaradwyr gwadd ar ystod o bynciau, gan gynnwys iechyd meddwl a gorbryder. Mae asiantaethau arbenigol yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd i gynnig cymorth a chyngor uniongyrchol i rieni. Mae’r caffi sy’n cael ei redeg gan y disgyblion yn galluogi rhieni i gyfarfod â’i gilydd a meithrin perthnasoedd; mae hyn yn arbennig o fuddiol i’r rheiny â disgyblion yn y cyfleuster addysgu arbenigol, sy’n aml yn byw y tu allan i ddalgylch traddodiadol yr ysgol. Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
  • Roedd darparwyr yn edrych tuag allan, at ddarparwyr eraill ac ymchwil, i ddod o hyd i atebion a gwella eu darpariaeth, ond roeddent bob amser yn sicrhau bod beth bynnag yr oeddent yn ei fabwysiadu yn addas ar gyfer eu cyd-destun, eu staff a’u dysgwyr.
  • Mae datblygu medrau iaith cynnar i baratoi plant ifanc sy’n byw mewn tlodi i bontio’n llwyddiannus i’r ysgol yn elfen allweddol o ddarpariaeth mewn lleoliadau nas cynhelir. Lle’r oedd hyn yn fwyaf llwyddiannus, roedd lleoliadau yn gweithio’n effeithiol ag ystod o bartneriaid, gan gynnwys iechyd, swyddogion yr awdurdod lleol ac ysgolion cynradd i nodi anghenion plant, cynllunio ymyriadau a sicrhau dulliau cyson i ddatblygu iaith plant. Er enghraifft, yn awdurdod lleol Merthyr Tudful, mae partneriaethau i gefnogi darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn hynod gryf. Mae’r rhain yn cynnwys partneriaethau ag ymwelwyr iechyd i annog rhianta cyn-ysgol da, a gydag ysgolion cynradd i gefnogi cyfnod pontio hynod effeithiol o Dechrau’n Deg a lleoliadau nas cynhelir. Mae ymagwedd amlasiantaethol yn sicrhau bod cynlluniau priodol ar waith i gynorthwyo plant sydd angen cymorth ychwanegol pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol gynradd. Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
  • Cafodd pob un o’r dysgwyr eu cynorthwyo i ddatblygu’r medrau sylfaenol yr oedd eu hangen arnynt, gyda ffocws penodol ar fedrau llythrennedd (yn enwedig darllen a siarad), a medrau rhifedd sylfaenol. Er enghraifft, yn Ysgol Gynradd Waun Wen yn Abertawe, mae’r ffocws ar ddatblygu geirfa disgyblion yn yr holl wersi yn cyfrannu’n gryf at y cynnydd a wna disgyblion ar draws y cwricwlwm, ac mae’n gryfder yn yr ysgol. Ceir ymagwedd ysgol gyfan effeithiol at ddatblygu cariad at ddarllen a llenyddiaeth. Rhoddir blaenoriaeth i ddatblygu medrau darllen disgyblion ar draws yr ysgol, a cheir ymagwedd systematig at ddatblygu eu medrau. Gwneir defnydd da o offer ymarferol i hyrwyddo dealltwriaeth disgyblion o fedrau mathemategol ym mhob dosbarth, ac mae hyn yn cyfrannu’n sylweddol at y cynnydd cryf a wna disgyblion o ran datblygu eu medrau rhifedd ac at eu gallu i esbonio eu meddwl mathemategol â sicrwydd. Darllenwch yr adroddiad llawn yma.
  • Roedd darparwyr yn galluogi pob un o’r dysgwyr i weld llwybr perthnasol ac ymarferol iddyn nhw eu hunain ar hyd eu taith addysgol. Er enghraifft, mae gwaith Gwasanaeth Ieuenctid Ynys Môn yn agwedd nodedig o’r gefnogaeth i ddysgwyr. Mae swyddog ieuenctid ym mhob ysgol uwchradd ar yr ynys. Maent yn cynnig gwasanaeth galw heibio i ddysgwyr, yn cefnogi darpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol yr ysgol, ac yn rhedeg clybiau ieuenctid a gweithgareddau fin nos yn y gymuned. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio ennill cymwysterau a phrofiadau, fel cyrsiau paratoi at gyflogaeth a Gwobr Dug Caeredin. Darllenwch yr adroddiad llawn yma. 
  • Roedd arweinwyr yn gwerthuso effaith eu gwaith ar fywydau a chyfleoedd bywyd y plant a’r bobl ifanc dan eu gofal yn gyson. Caiff yr holl bartneriaid eu cynnwys mewn cyfleoedd rheolaidd i werthuso’r dulliau i gefnogi dysgwyr a’u teuluoedd.