Darparwr: Cylch Meithrin Llannerch-y-medd
Level of follow-up: Monitro gan Estyn
Removed: Rhagfyr 2021
Mae arweinwyr Cylch Meithrin Llannerch-y-medd wedi sefydlu gweledigaeth glir ar gyfer y lleoliad yn seiliedig ar ddarparu ystod eang a chyfoethog o brofiadau i’r plant. Maent wedi sefydlu prosesau hunanwerthuso, sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid, ac yn darparu blaenoriaethau hylaw ar gyfer gwella i’r lleoliad. Wrth iddynt ddatblygu eu dull o gyflwyno’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir, maent wedi codi disgwyliadau ymarferwyr ac wedi cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol. Maent yn gweithio’n agos gydag athrawon ymgynghorol yr awdurdod lleol, a gyda sefydliadau ambarél, fel y Mudiad Ysgolion Meithrin, i gyflwyno elfennau o gynllunio ymatebol, ac i ddatblygu hyder ymarferwyr. Erbyn hyn, maent yn gwneud defnydd mwy effeithiol o lawer o’r meysydd dysgu gwahanol, gan greu amgylchedd ysgogol i’r plant chwarae. Maent wedi rhannu’u gwaith gyda lleoliadau eraill ar draws yr awdurdod.