Skip to content

Darparwr: Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir Powys

Level of follow-up: Pryder sylweddol

Removed: Hydref 2021

Yn dilyn ein hymweliad monitro yn nhymor yr hydref, barnom fod gwasanaethau addysg Powys wedi gwneud cynnydd digonol i gael eu tynnu oddi ar ein rhestr o awdurdodau lleol sy’n peri pryder sylweddol. Roedd swyddogion ac aelodau etholedig wedi ymateb yn dda i ganfyddiadau’r arolygiad craidd, wedi cydnabod yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu, ac wedi gweithio’n gyflym i ddechrau mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaethom.

Penododd y prif weithredwr gyfarwyddwr addysg newydd a gryfhaodd y berthynas rhwng y gwasanaeth addysg ac ysgolion. Er bod y gwaith gwella ar gyfnod cynnar ar ddechrau’r pandemig COVID-19, un nodwedd gadarnhaol oedd bod swyddogion ac aelodau etholedig wedi cynnal ffocws cadarn ar weithredu’r strategaethau gwella ar yr un pryd â mynd i’r afael ag anghenion brys ysgolion a achoswyd gan y pandemig.

Fe wnaethom ganfod fod yr awdurdod lleol wedi gwneud cynnydd cryf mewn agweddau o’i waith a achosodd bryder yn ystod yr arolygiad craidd. Er enghraifft, mae cymorth ar gyfer ysgolion, gan gynnwys y rheiny a oedd yn cyfranogi yn null amlasiantaeth peilot Llywodraeth Cymru, wedi arwain at ysgolion uwchradd yn dangos cynnydd digonol i gael ei thynnu o gategori gweithgarwch dilynol statudol. Hefyd, fe wnaeth swyddogion wella cynllunio a chydlynu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a’r rheiny sydd angen cymorth ychwanegol.

Rhoddodd yr awdurdod lleol raglen uchelgeisiol ar waith o gynigion trefniadaeth ysgolion wedi’i seilio ar y Strategaeth Trawsnewid Addysg. Mae’r cynigion hyn wedi cynnwys agor ysgol pob oed newydd, uno nifer o ysgolion cynradd a chau ysgolion bach gwledig, yn ogystal â newidiadau i gategori iaith ysgolion. Bu swyddogion ac aelodau perthnasol o’r Cyngor yn ymgysylltu’n dda â rhieni, disgyblion, staff a llywodraethwyr i drafod y cynigion a lleddfu pryderon.