Darparwr: Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Malpas
Level of follow-up: Mesurau arbennig
Removed: Tachwedd 2022
Arolygwyd Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Malpas ym mis Tachwedd 2019 a’i gosod mewn mesurau arbennig. Nododd arolygwyr fod perthnasoedd toredig rhwng staff ac arweinwyr, gan arwain at ddiffyg cyfeiriad clir a strategol. Nid oedd systemau olrhain yr ysgol yn cynorthwyo arweinwyr i nodi p’un a oedd pob un o’r disgyblion yn gwneud y cynnydd y dylent. Nid oedd monitro gan arweinwyr yn nodi nac yn mynd i’r afael ag arfer wan yn yr ystafell ddosbarth.
Yn ystod tymor y gwanwyn 2020, cyn y pandemig, bu pennaeth dros dro o ysgol gyfagos yn gweithio gyda’r dirprwy bennaeth am dymor i greu cynllun gweithredu ôl-arolygiad addas. Yn hydref 2020, penodwyd pennaeth gweithredol dros dro i arwain yr ysgol am flwyddyn, a chafodd pennaeth parhaol ei recriwtio gan y corff llywodraethol.
Dechreuodd y pennaeth newydd yn ei swydd ym mis Medi 2021. Galluogodd y sefydlogrwydd hwn mewn arweinyddiaeth yr ysgol i ailddiffinio rolau a chyfrifoldebau pawb, a sefydlu disgwyliadau gofynnol clir a chytunedig ar gyfer arfer ystafell ddosbarth. Yn ystod y flwyddyn, parhaodd cyflymdra’r gwelliant, a bu staff ac arweinwyr ar bob lefel yn cydweithio â’i gilydd. Sicrhaodd sianelau cyfathrebu cryf fod pawb yn wybodus ac yn dilyn hynt a helynt digwyddiadau. O ganlyniad, sefydlodd yr ysgol synnwyr clir o gymuned a hunaniaeth yn gyflym, gan ganolbwyntio ar wella’r ddarpariaeth a’r deilliannau ar gyfer disgyblion.
Yn ychwanegol, sefydlodd arweinwyr ddigwyddiadau proffesiynol rheolaidd, ochr yn ochr â chyfarfodydd wythnosol i staff ac arweinwyr. Dyfeision nhw gyfres o ganllawiau hanfodol a oedd yn esbonio’n fanwl y disgwyliadau cadarn a gytunwyd gan bob un o’r staff, yn cwmpasu agweddau penodol ar ddarpariaeth yr ysgol. O ganlyniad, dechreuodd ansawdd arfer ystafell ddosbarth wella. Cododd athrawon eu disgwyliadau o beth y gallai ac y dylai disgyblion ei gyflawni. Buont yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu gofod awyr agored eang yn amgylchedd dysgu pwrpasol, a ddefnyddir yn dda, a daeth ystafelloedd dosbarth yn lleoedd cynhyrchiol ac ysgogol i ddysgu. Bu’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yn monitro’r cymorth ychwanegol yr oedd oedolion yn ei ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gweddu i’w hanghenion unigol.
Erbyn hydref 2022, ar ôl monitro tymhorol, nododd arolygwyr fod arweinwyr a staff yn gweithio gyda’i gilydd yn adeiladol ac yn gynhyrchiol i greu synnwyr ar y cyd o ddiben a pherchnogaeth. Nodon nhw falchder datblygol yn ansawdd yr addysg y mae staff yn ei chyflwyno, yn dilyn gwelliannau i’r ddarpariaeth ystafell ddosbarth. O ganlyniad, tynnwyd yr ysgol o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2022.