Datblygu disgyblion yn unigolion cwrtais a chydwybodol yn Ysgol Santes Ffraid – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Skip to content

Datblygu disgyblion yn unigolion cwrtais a chydwybodol yn Ysgol Santes Ffraid

Nodwedd ragorol o Ysgol Santes Ffraid oedd yr ymdeimlad cryf o foesoldeb a charedigrwydd, a oedd yn treiddio trwy ei gwaith. Roedd yr ysgol yn annog disgyblion i ystyried eu cymuned trwy ei gwaith elusennol, fel rhoi yn ystod ‘Adfent am yn ôl’ a rhannu gwisg ysgol ail-law. Yn ogystal, cymerodd yr ysgol ran yn nigwyddiadau’r eglwys leol, er enghraifft trwy wneud 40 o weithredoedd caredig yn ystod y Grawys. Roedd gwerthoedd cryf yr ysgol yn ennyn ymdeimlad o berthyn ymhlith disgyblion.