Skip to content
Mynd i’r afael ag effaith tlodi a difreintedd

Mynd i’r afael ag effaith tlodi a difreintedd

Yn 2021-22, dangosodd ymchwil allanol a’n gwaith arolygu ac ymgysylltu bod plant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig wedi’u heffeithio’n anghymesur gan y pandemig. Mewn llawer o achosion, syrthiodd y dysgwyr hyn y tu ôl i raddau gwaeth na’u cymheiriaid mwy breintiedig ac aeth eu presenoldeb, a oedd eisoes yn wan, yn waeth. Mae ymchwil yn dangos hefyd bod tlodi plant yng Nghymru yn waeth nag yn holl wledydd eraill y DU, gyda chyfartaledd o 34% o blant Cymru yn byw mewn tlodi (Child Poverty Statistics – End Child Poverty).

 

Mae darparwyr sy’n arbennig o effeithiol o ran mynd i’r afael ag effaith tlodi a difreintedd ar eu dysgwyr yn canolbwyntio’n gryf ar safonau uchel a thegwch, yn ogystal â lleddfu effaith materol tlodi.

Nodweddion gwaith y darparwyr hyn:

  • Mae arweinwyr yn dangos ymrwymiad calonnog i gynhwysiant a safonau uchel ac yn cyfleu gweledigaeth glir sy’n cael ei rhannu gan bawb sy’n gysylltiedig â’r darparwr ac yn ymdreiddio i bob agwedd ar ei waith.
  • Mae ffocws diflino ar addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bawb.
  • Mae ymrwymiad moesol cryf a diwylliant o ddyheadau uchel i bob dysgwr, sydd nid yn unig yn ehangu gorwelion trwy brofiadau fel teithiau, sgyrsiau am brifysgolion, cystadlaethau ac ati, ond trwy brofiadau bob dydd fel lefel yr her mewn gwersi, disgwyliadau o ran ymddygiad ac ymgysylltiad ac ansawdd yr iaith a ddisgwylir mewn rhyngweithiadau o ddydd i ddydd.
  • Mae’r darparwyr yn cynnig darpariaeth gynhwysfawr ar gyfer lles sydd wedi’i theilwra i anghenion dysgwyr unigol ac sy’n helpu i gael gwared â rhwystrau rhag dysgu.
  • Mae gwaith amlasiantaeth effeithiol rhwng y darparwr ac ystod o wasanaethau allanol yn yr awdurdod lleol, elusennau a’r tu hwnt. Mae hyn yn golygu bod gan yr holl asiantaethau gyd-ddealltwriaeth a chyfrifoldeb cyfunol i fodloni anghenion unigolion, teuluoedd a’r gymuned a’u bod yn symud i’r un cyfeiriad i gynnig cymorth cydlynus.
  • Mae’r cwricwlwm yn hyblyg ac yn bodloni anghenion pob dysgwr o ddifrif, gan wneud i ddysgwyr deimlo’n rhan o gymuned y darparwr hefyd.
  • Mae’r darparwr yn rhan o’r gymuned leol ac mae’r gymuned leol yn rhan annatod o’r darparwr. Mae’r darparwr yn adnabod, yn deall ac yn cynorthwyo dysgwyr unigol, eu teuluoedd a’r gymuned yn dda iawn.
  • Mae darparwyr yn edrych tuag allan i ddarparwyr eraill ac ymchwil i ddod o hyd i atebion a gwella eu darpariaeth, ond maent bob amser yn sicrhau bod beth bynnag maent yn ei fabwysiadu yn addas ar gyfer eu cyd-destun, eu staff, eu dysgwyr a’u teuluoedd.
  • Mae datblygu medrau iaith cynnar i baratoi plant ifanc sy’n byw mewn tlodi i bontio’n llwyddiannus i’r ysgol yn elfen allweddol o ddarpariaeth mewn lleoliadau nas cynhelir. Lle mae hyn yn fwyaf llwyddiannus, mae lleoliadau yn gweithio’n effeithiol ag ystod o bartneriaid, gan gynnwys iechyd, swyddogion yr awdurdod lleol ac ysgolion cynradd i nodi anghenion plant, cynllunio ymyriadau a sicrhau dulliau cyson i ddatblygu iaith plant.
  • Caiff pob un o’r dysgwyr eu cynorthwyo i ddatblygu’r medrau sylfaenol sydd eu hangen arnynt ac mae ffocws penodol ar fedrau llythrennedd (yn enwedig darllen a siarad) a medrau rhifedd sylfaenol.
  • Mae darparwyr yn galluogi pob un o’r dysgwyr i weld llwybr perthnasol ac ymarferol iddyn nhw’u hunain ar hyd eu taith addysgol.
  • Mae arweinwyr yn gwerthuso effaith eu gwaith ar fywydau a chyfleoedd bywyd y plant a’r bobl ifanc dan eu gofal yn gyson. Caiff yr holl bartneriaid eu cynnwys mewn cyfleoedd rheolaidd i werthuso’r dulliau i gefnogi dysgwyr a’u teuluoedd.