Colegau arbenigol annibynnol
Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.
What’s going well
- At ei gilydd, mae colegau’n cynnig amgylcheddau tawel, cefnogol a meithringar.
- Ar hyd y pandemig, mae colegau wedi parhau i addasu eu dulliau mewn modd hyblyg i fodloni anghenion dysgwyr. O ganlyniad, mae gan ddysgwyr lefelau uchel o les ac maent wedi parhau i wneud cynnydd addas yn eu dysgu.
What needs to improve
- Mae cydlynu cymorth arbenigol i fodloni anghenion cymhleth dysgwyr yn rhy amrywiol. Nid yw staff yn deall ac yn cymhwyso strategaethau cyfathrebu’n gyson i gefnogi anghenion cyfathrebu dysgwyr.
What’s going well
- Mae tiwtoriaid a staff cymorth yn darparu cymorth sylwgar a gofalgar. Maent yn gyfarwydd iawn ag anghenion eu dysgwyr ac yn meithrin perthynas waith gref â nhw.
- Yn gyffredinol, mae tiwtoriaid yn cynllunio’n ofalus i ddarparu ystod berthnasol ac ystyrlon o brofiadau dysgu. Mae hyn yn cynorthwyo i ddatblygu gwydnwch, annibyniaeth a medrau bywyd dysgwyr.
- Mae tiwtoriaid yn rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithle yn ofalus ac mae dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gref o’r ystyriaethau iechyd a diogelwch perthnasol.
What needs to improve
- Nid yw addysgu’n bodloni anghenion cymhleth dysgwyr yn ddigon da bob tro.
- Mae gormod o amrywioldeb o ran ansawdd y cymorth sy’n cael ei gynnig gan staff cymorth.
What’s going well
- Mae arweinwyr colegau wedi cynnig arweinyddiaeth gref o ddydd i ddydd ar hyd y pandemig.
- Maent wedi addasu eu darpariaeth mewn modd hyblyg i barhau i ddarparu addysg a bodloni anghenion cyfnewidiol dysgwyr.
- Lle mae arweinyddiaeth yn arbennig o gryf, mae arweinwyr wedi ysgogi gwelliannau strategol hirdymor i ddarpariaeth, gan gynnwys datblygu cyfleusterau newydd ar gyfer dysgu.
What needs to improve
- Nid yw dysgu proffesiynol yn canolbwyntio’n ddigon da ar gefnogi dysgu mewn lleoliad arbenigol. Dolen i adnodd.
- Nid yw prosesau hunanwerthuso a sicrhau ansawdd yn canolbwyntio’n gyson ar effaith addysgu ar safonau a chynnydd dysgwyr.
- Mae recriwtio a chadw staff cymorth dysgu â phrofiad a chymwysterau priodol yn parhau i fod yn her.