Ysgolion cynradd
Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.
What’s going well
- Mae ysgolion wedi cyflwyno strategaethau defnyddiol i gynorthwyo lles corfforol ac emosiynol disgyblion a mynd i’r afael â materion sy’n deillio o’r pandemig.
- Yn aml, mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth dda o’u hawliau fel plant, hawliau pobl eraill a materion pwysig yn ymwneud â thegwch a chydraddoldeb.
- Yn gynyddol, mae disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, fel gallu i ddyfalbarhau, cydweithio a dod o hyd i atebion amgen i broblemau.
- Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn paratoi’n dda ar gyfer diwygio anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
What needs to improve
- O bryd i’w gilydd, mae cyfleoedd i ddisgyblion ddylanwadu ar beth a sut maent yn dysgu yn gyfyngedig. Cliciwch yma i weld adnoddau y gall Cynghorau Ysgol neu grwpiau disgyblion eu defnyddio
- Mewn rhai ysgolion, wrth iddynt baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru, mae athrawon yn rhy aml yn gwneud cyfeiriadau arwynebol at y pedwar diben yn hytrach na meddwl yn ddigon gofalus am sut y gall gweithgareddau dysgu wedi’u cynllunio ganiatáu i ddisgyblion ddatblygu a dangos y gwerthoedd hyn yn eu gwaith a’u rhyngweithiadau cymdeithasol. Dolen i adnodd.
What’s going well
- Mae staff yn cydweithio’n dda â rhieni, disgyblion a’r gymuned i sefydlu cydweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm.
- Mae ysgolion yn canolbwyntio ar wella addysgeg ac, lle mae hyn yn fwyaf effeithiol, mae ansawdd yr addysgu a dysgu yn sgwrs barhaus a gonest ymhlith staff ac arweinwyr.
- Lle mae ysgolion wedi gwerthuso effeithiolrwydd addysgu, mae disgyblion yn cael profiadau dysgu mwy difyr.
- At ei gilydd, mae medrau digidol disgyblion yn gryf mewn llawer o ysgolion.
What needs to improve
- Yn dilyn y pandemig, mewn rhai ysgolion, mae disgyblion o bob gallu yn aml yn gwneud camgymeriadau sylfaenol o ran gramadeg, sillafu ac atalnodi ac yn cael trafferth ysgrifennu’n estynedig.
- Mae ychydig o ysgolion wedi rhoi blaenoriaeth i ddylunio’r cwricwlwm heb ddigon o bwyslais ar wella ansawdd yr addysgu.
What’s going well
- Mae arweinwyr wedi ceisio cryfhau partneriaethau ag ysgolion eraill, rhieni ac asiantaethau allanol.
- O ganlyniad i heriau’r ddwy flynedd diwethaf a’r ymateb gan arweinwyr a staff, mae ethos cryfach o dîm mewn llawer o ysgolion.
- Mae arweinwyr wedi addasu eu dull ar gyfer dysgu proffesiynol ac, erbyn hyn, mae ysgolion yn ymgysylltu’n well ag ymchwil i gefnogi gwelliannau mewn addysgu a dysgu.
- Mae llawer o ysgolion yn parhau â’u ffocws pwysig ar wella addysgu fel sbardun allweddol i wella safonau disgyblion a chyflwyno’r cwricwlwm.
What needs to improve
- Mewn ychydig o ysgolion, nid yw arweinwyr wedi ailsefydlu eu trefniadau hunanwerthuso hyd yn hyn. Mae hyn yn golygu nad yw rhai meysydd pwysig o’u gwaith, fel dysgu effeithiol yn y cyfnod sylfaen, mor llwyddiannus ag y gallent fod.
- Dim ond megis dechrau meddwl am eu gweledigaeth ar gyfer addysgu a’u cwricwlwm y mae rhai ysgolion, i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.