Ysgolion uwchradd
Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.
What’s going well
- Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn cynnig cymorth cryf i ddisgyblion ag anghenion emosiynol, iechyd a chymdeithasol penodol ac yn gwneud defnydd da o asiantaethau allanol.
- Mae llawer o ddigyblion yn datblygu’n dda fel dinasyddion moesegol, gofalgar sy’n parchu gwahaniaeth ac amrywiaeth. Cliciwch yma i weld adnoddau y gall Cynghorau Ysgol neu grwpiau disgyblion eu defnyddio i ystyried os ydynt yn dysgu digon am hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl Ddu, Aisiadd a Lleiafrifoedd Ethnig.
- Mae gan lawer o ysgolion bolisi ymddygiad effeithiol a gweithdrefnau tra ystyriol ar gyfer ymdrin ag achosion o fwlio ac aflonyddu.
- Mae llawer o ysgolion yn datblygu eu darpariaeth i atal a mynd i’r afael ag achosion o aflonyddu rhywiol.
- Mae darpariaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gryfder ym mwyafrif yr ysgolion.
What needs to improve
- Mewn ychydig o achosion, nid oes gan ysgolion systemau digon cadarn a sicr i gofnodi pryderon diogelu, gan gynnwys rhai yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu.
- Er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o staff, mae achosion o ddisgyblion yn cael profiad o fwlio ac aflonyddu oherwydd eu rhywioldeb, nodweddion hiliol neu eu rhywedd ym mhob ysgol.
- Mae rhai disgyblion ym mhob ysgol yn cael profiad o rywfaint o aflonyddwch rhywiol.
- Mae data heb ei ddilysu yn awgrymu bod presenoldeb llawer yn is nag oedd cyn y pandemig, yn enwedig presenoldeb disgyblion sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
- Mae ychydig o ddisgyblion wedi cael trafferth ailaddasu i fywyd ar ôl y pandemig ac yn methu rheoli eu hymddygiad yn ddigon da.
What’s going well
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae athrawon yn meithrin perthynas waith gadarnhaol â disgyblion ac yn rheoli eu hystafelloedd dosbarth yn effeithiol.
- Yn yr enghreifftiau gorau, mae athrawon yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn cynllunio’n ofalus i fodloni eu hanghenion. Mae athrawon yn modelu dulliau’n llwyddiannus ac yn defnyddio gwybodaeth o asesiadau yn fedrus i addasu eu haddysgu.
- Mewn ychydig o ysgolion, mae dylunio’r cwricwlwm wedi’i seilio ar ymchwil, yn berthnasol i gyd-destun yr ysgol ac yn gysylltiedig â datblygu addysgu. Mae meysydd dysgu’n creu cwricwlwm i sicrhau dilyniant o’r cyfnod cynradd i’r cyfnod uwchradd.
What needs to improve
- Yn gyffredinol, mae medrau llefaredd, ysgrifennu a rhifedd disgyblion wedi llithro’n ôl yn ystod y cyfnodau clo.
- Yn ystod y cyfnodau clo, ni chafodd disgyblion ddigon o gyfleoedd i ddatblygu eu medrau Cymraeg. Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar ruglder disgyblion a’u tuedd i siarad Cymraeg ym mhob math o ysgol.
- At ei gilydd, nid yw dulliau newydd ysgolion ar gyfer eu cwricwlwm wedi rhoi digon o bwyslais ar wella ansawdd yr addysgu na sicrhau dilyniant o’r cyfnod cynradd. Dolen i adnodd.
What’s going well
- Ers dychwelyd i fywyd ysgol a phrosesau mwy arferol, mae uwch arweinwyr yn ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng dwyn staff i gyfrif a diogelu eu lles.
- Mewn llawer o achosion, mae uwch arweinwyr yn ymateb yn dda i flaenoriaethau cenedlaethol a lleol, fel diwygio anghenion dysgu ychwanegol a datblygu eu cwricwlwm.
- Mewn llawer o ysgolion, mae dysgu proffesiynol wedi’i gynllunio’n dda ac yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu.
What needs to improve
- O ganlyniad i atal prosesau hunanwerthuso arferol ysgolion, nid oes gan arweinwyr ddealltwriaeth gynhwysfawr o gryfderau a meysydd i’w gwella eu hysgolion bob tro.
- Diffyg cyffredin ymhlith arweinwyr ar bob lefel yw eu diffyg dealltwriaeth o sut i werthuso addysgu yn sgil ei effaith ar ddysgu. Dolen i adnodd.
- Nid yw arweinwyr yn blaenoriaethu’r angen i sicrhau cynnydd disgyblion mewn Cymraeg a TGCh bob tro.
- Mewn ychydig o achosion, nid yw dysgu proffesiynol yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar wella addysgu.