Skip to content
Myfyrwyr yn y llyfrgell

Adroddiad Sector: Dysgu oedolion yn y gymuned 2021-2022

Partneriaethau

Cyflwynir darpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned gan 13 o bartneriaethau ledled Cymru a’r sefydliad addysg bellach, Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales.

Mae aelodaeth y partneriaethau yn wahanol o ardal i ardal, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys darpariaeth a gynigir gan yr awdurdod lleol, coleg addysg bellach a sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol.

Fel arfer, cynhelir darpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned mewn lleoliadau cymunedol, fel llyfrgelloedd, canolfannau dysgu cymunedol neu ysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru’n ariannu partneriaethau i gyflwyno cyrsiau mewn llythrennedd, rhifedd, medrau digidol, a Saesneg fel ail iaith a chyrsiau eraill sy’n helpu dysgwyr i gymhwyso a datblygu’r medrau hyn.


Dysgwyr mewn partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned

Yn 2020-2021, nifer gyffredinol y dysgwyr sy’n oedolion oedd 5,555. Mae hyn yn ostyngiad o 32% o’r flwyddyn flaenorol ac yn rhan o ostyngiad tymor hwy yn nifer y dysgwyr sy’n oedolion ar raglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Gallai’r cwymp mawr pellach yn 2020-2021 fod yn rhannol oherwydd y tarfu parhaus ar addysg a achoswyd gan y pandemig Coronafeirws.

Yn ystod y pandemig, cynhaliwyd bron yr holl ddarpariaeth ar-lein. Ers i’r cyfyngiadau COVID-19 gael eu codi, mae’r holl ddarparwyr wedi dychwelyd i gyflwyno wyneb yn wyneb yn bennaf, er bod bron yr holl bartneriaethau yn parhau i gyflwyno rhywfaint o’u darpariaeth ar-lein neu mewn ffordd gyfunol.


Gweithgarwch dilynol

Mae un bartneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned mewn categori gweithgarwch dilynol.


Arolygiadau craidd

  • Nifer yr arolygiadau 2

Oherwydd y pandemig COVID-19, dim ond o fis Mawrth 2022 yr ailddechreuwyd arolygiadau craidd.

Sir Benfro yn Dysgu
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru

Astudiaethau achos

  • Nifer yr astudiaethau achos: 3

Sir Benfro yn Dysgu x1

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Wrecsam a Sir y Fflint 1 2

Ymweliadau ymgysylltu

  • Nifer yr ymweliadau 12

Cynhaliwyd yr holl ymweliadau ymgysylltu rhwng Medi a Rhagfyr 2021.

Hydref 2021 – adroddiad cryno Dysgu Oedolion yn y Gymuned


Dysgu

Adroddodd bron yr holl bartneriaethau am gynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n cofrestru ar gyrsiau dysgu oedolion yn y gymuned o gymharu â’r cyfnod yn ystod y pandemig, er bod y nifer o ddysgwyr sy’n cofrestru wedi parhau islaw’r lefelau cyn y pandemig.

Ar eu cyrsiau, gwnaeth y rhan fwyf o ddysgwyr gynnydd cadarn wrth ddablygu eu medrau llythrennedd, rhifedd neu ddigidol, neu wella eu medrau Saesneg.

Yn y ddau ddarparwyr a arolygwyd gennym yn ystod gwanwyn a haf 2022, gwnaeth dysgwyr ar raglenni dysgu teuluol (er enghraifft Wrecsam a Sir y Fflint) gynnydd cryf wrth ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a’u medrau artistig, medrau cymdeithasol a gwybodaeth gyffredinol ar yr un pryd â datblygu eu dealltwriaeth o ddysgu eu plant.

Lles ac agweddau at ddysgu

Roedd bron yr holl ddysgwyr yn falch o gael bod yn ôl mewn dysgu yn dilyn y cyfnodau ynysu yn ystod y pandemig. Adroddodd llawer eu bod wedi colli hyder, ac fe wnaeth dychwelyd i ddysgu eu helpu i ailadeiladu hynny. Ar raglenni ymgysylltu yn arbennig, adroddodd dysgwyr bod eu hiechyd meddwl a’u lles wedi gwella o ganlyniad i’w dysgu.

Lle’r oedd dysgu yn digwydd ar-lein, roedd llawer o ddysgwyr yn gwerthfawrogi’r hyblygrwydd yr oedd dysgu ar-lein yn ei gynnig. Er enghraifft, mewn lleiafrif o achosion, mae’n well gan ddysgwyr barhau â dosbarthiadau ar-lein gan eu bod yn cydweddu’n well ag ymrwymiadau personol a ffordd o fyw. Roedd llawer yn ymgysylltu’n dda ac yn cyfranogi’n llawn mewn sesiynau. Mewn ychydig iawn o achosion, fodd bynnag, roedd cyfranogiad dysgwyr mewn dosbarthiadau ar-lein yn gyfyngedig, ac roedd y cynnydd roedden nhw’n ei wneud yn arafach nag mewn dosbarthiadau wyneb yn wyneb.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Yn yr arolygiadau a gynhaliom yn ystod gwanwyn a haf 2022, roedd ansawdd yr addysgu yn gadarn, yn gyffredinol. Roedd tiwtoriaid yn cynllunio ac yn cyflwyno’u sesiynau yn dda ac yn datblygu perthnasoedd proffesiynol cryf â’u dysgwyr. Mae llawer o diwtoriaid yn cynorthwyo dysgwyr yn dda i strwythuro’u cynlluniau dysgu unigol ac i osod targedau dysgu a thargedau personol.

Yn gyffredinol, roedd partneriaethau’n cynnig ystod o ddarpariaeth, a oedd yn alinio’n briodol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid oedd ychydig o bartneriaethau yn cynllunio’u darpariaeth â phartneriaid yn ddigon da i sicrhau bod llwybrau dilyniant clir gan ddysgwyr o fewn y ddarpariaeth, neu ymlaen at astudiaethau neu hyfforddiant pellach ar lefel uwch. Nid oedd ychydig o bartneriaethau yn darparu cyfleoedd digonol i ddysgwyr sy’n siarad Cymraeg gyfranogi mewn dysgu oedolion yn y gymuned mewn sesiynau dwyieithog neu Gymraeg.

Gofal, cymorth ac arweiniad

Roedd y rhan fwyaf o bartneriaethau’n darparu cyrsiau wedi’u teilwra i ddysgwyr ag ystod o anghenion dysgu neu’r rheiny sydd wedi cael profiadau o addysg ffurfiol yr ymyrrwyd neu yr amharwyd arnynt, neu brofiadau anhapus yn flaenorol. Wrth gynllunio darpariaeth, roedd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn ystyried yr angen i ailennyn diddordeb dysgwyr yn dilyn y pandemig ac y gallai’r dysgwyr hynny a’r rheiny sy’n ystyried cofrestru ar gyfer dosbarthiadau fod wedi colli hyder yn ystod y pandemig. Roedd y rhan fwyaf o diwtoriaid yn darparu cymorth dysgu unigol defnyddiol i fodloni anghenion eu dysgwyr.

Fe wnaethom ddarganfod fod gan ryw hanner o bartneriaethau wefannau defnyddiol wedi’u cynllunio’n dda, sy’n rhoi mynediad cyflym i ddarpar ddysgwyr at wybodaeth ddefnyddiol am gyrsiau. Yn yr achosion gorau, gall dysgwyr gofrestru ar-lein. Nid oes gwefannau datblygedig gan ychydig o bartneriaethau ac nid oedd yn hawdd dod o hyd i wybodaeth am gyrsiau. Roedd ychydig yn defnyddio safleoedd cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu eu darpariaeth. Mae hyn yn effeithiol ar gyfer darpar ddysgwyr sydd â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ond nid yw’n rhoi mynediad rhwydd i’r rheiny heb gyfrifon.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Roedd ychydig o bartneriaethau yn gwneud cynnydd cryf tuag at ddatblygu partneriaethau rhanbarthol mwy, er enghraifft Wrecsam a Sir y Fflint. Fodd bynnag, roedd y cynnydd hwn yn fylchog o hyd ledled Cymru, ac ni wnaeth ychydig o bartneriaethau fawr o gynnydd ffurfiol yn hyn o beth.

Roedd bron yr holl bartneriaethau yn addasu i amgylchiadau gwahanol yn dilyn y pandemig. Roedd y rhain yn cynnwys partneriaethau yn cynnal adolygiadau o’u darpariaeth, ailstrwythuro’u darpariaeth a’u dulliau cyflwyno, ac ymateb i newidiadau staff ac ymddeoliadau.

Mewn ychydig o bartneriaethau, nid oedd perthnasoedd rhwng partneriaid wedi’u ffurfioli’n ddigon da ac roeddent yn dibynnu gormod ar gysylltiadau personol. Nid oedd cynllunio ar y cyd â phartneriaethau ar gyfer dilyniant, i leihau dyblygu neu i ddarparu cyfleoedd ar gyfer darpariaeth ddwyieithog neu gyfrwng Cymraeg, yn ddigon effeithiol.

Mae’r adnodd hwn yn darparu sbardunau hunanfyfyrio i gynorthwyo partneriaethau dysgu oedolion i wella cydweithio.